Hide Articles List

5 articles on this Page

IHEDDLYri BLAENAU FFESTINIOG.

-LLYS MANDDYLEDION BLAENAU…

News
Cite
Share

LLYS MANDDYLEDION BLAENAU FFESTlflEOG. Dydd Iau, yn Adeiladau Sirol, Blaenau Ffestinicg, o flaen ei Anrhyiedd y Barnwr William Evans. Wedi gwrandaw amryw 0 acbosion o dan Vvvsim Carcharor, awd at yr achosion a ganlyn, Costau Ymddiriedolwyr. Mr R. 0. Davies a wnaeth gais yn achos ymddiriedaeth eiddo o dan ewyllys y diweddar Thomas Edwards, Bron Eifion, Manod Road, Blaenau Ffestiniog, Yr oedd yr arian wedi ei talu i'r Llys' a'i gais ef oedd, am i gostau yr Ymddiriedolwyr gaal eu trethu a'u talu iddynt. -Mr J, Jones Morris a'r ran y rhai dderbynient o dan yr ewyllys (legatees) a wrthwyaebodd. Deuai yr hoil fater o flaen y Llys eto. Nid oedd rhwystr i gyfarwyddo i'r costau gael eu trethu, ond daliai y legatees nad oedd gan yr Ymddiriedolwyr hawl i gostau. Nid oedd ef yn gwrthwynebu gwneyd yr archeb yn amodol, sef, fod yr arian i'w talu yn ol os elai yr achos yn erbyn yr Ymddiriedolwyr.—Mr R, O. Davies a ddywedodd y gallai yr Ymddiriedolwyr dynu yn ol o'r aefcos yn gyfangwbl wedi i'w costau gael eu,trethu.—Gwnaed archeb yn unol a'r cais yn ddarostyngedig i'r amod uchod. I Cyngaws am Gyflog. I Mr Evan Roberts, Wynn Road, a hawliodd £ i9 Is 6c gan Mri R. 0. Jones a Davies, cyfiog am wasanaeth a roddold iddyrt -Ymdidnngos. odd Mr Cuthbert Smith (yn cae! ei gyfarwyddo gsn Mr Breese, Forthmadoc) drcs yr Hawlydd a Mr J. Jones-Morris dros y Diffynyddion- Ni ddadleiuvyd yr achos, ond Mr Smith a ofyn- odd am i ddedfryd gael ei rhoddi, trwy gyd- syciad, am £ 21 10s.—Mr Morris a ddywedodd nad oedd am wrthwyneba hyny, ond ei gwneyd yn ddarostyngedig i druthiant. Yr oeddynt o bobta yn cydsynio a hyny,-Archob am £27 10s yn ddarostyngedig i drethiant, a fee y Bargyfreithwyr i'w dalu gan y Diffynyddion. J Tynu yn cl. Hysbysodd Mr R. O. Davies fod aches John Davies yn erbyn Dr. W. Vaughan Roberts, Albert S. Roberts yn erbyn John Davies, ac achos R. 0. Davies yn erbyn John Davies yn cael eu tynu yn ol, gan fod y pleidiau wedi dod i ddealitwriaeth boddhaol yn eu cylch. I Ci yn Lladd Dofednod. I Dr. R. D. Evans, Llys Meddyg, Blaenau, a hawliodd £ 3 5s Oc gan Mr. Thomas Fouikes Morris, Cigydd, Park Square, tal am naw o ddofednod laddwyd gan ei gi.Ymddangosadd Mr. J. Jones-Morris dros yr Hawlydd, a Mr. R. O. Davies dros y Diffynydd,—Mr. Morris a ddywedodd fod yr achos hwn yn un bynod symi. Tua saith o'r gloch nos Iau, Ebrill 7, clywyd cyfarthiadau ci yn muarth Dr. Evans gan lanc oedd yn gwasanaethu gyda Mr/ Bradley. Aeth y Bange i'r yard a gwelodd dair iar wedi ei lladd yno, a chi yn myned i mewn 1 gwt yr ieir, Cauodd ddrws y buarth ac aeth i hysbysu Dr. Evans am y peth. ac aethsnt eb dau i'r lie. Anfonwyd y llangc i gyrcbu heddgeidwad. Aeth y Swyddog i'r cwt a deliodd y ci. Yr oedd chwech o ieir wedi eu lladd yno hefyd. Yr oedd enw y Diffynydd ar goler y ci. Avjd i'w gyrchu yntau i'r lie i weled y dofednod laddwyd a'r ci ar y lie. Dr. R. D. Evans, a dystiodd iddo gael ei alw i'r buarth i webd ieir oedd yno wedi eu lladd. Yr oedd mur uefcel o gwmpas y buarth a drws cauedig arno. Yr oedd clo ar y cwt ieir. Gwelodd dair o'r ieir ar y buarth (yard) wedi eu lladd, a chi yn rhedeg i mewn trwy y twll i'r cwt. Pan ddaeth yr heddgeidwad YDO, dadgiodd y cwt a daliwyd y ci i mewn, a chwech o ieir yno wedi eu lladd. Aeth at y Diffynydd i'w hysbysu, a dywedodd Morris ei fod wedi coHi y.ci er dau o'r glcch y prydnawn Prvnodd y cbwech Iar Plymouth Rock Ebrill y flwyddyn ddiweddaf am 7/6 yr un a'r Ceiliog am 10/- a thaloddS/- am y cludiad. Rhoddodd 3/6 yr un am yr Indian Game a'r Orpington. Cadwodd bwy am flwyddyn heb gat 1 wyau ganddynt, a lladdwyd hwy pan ar ddod i dalu. Costiodd eu cadw dros 17/- gan iddo gael dau fagiad o fwyd iddynt o Lerpwl. Yr oedd drws y buarth yn gloedig. Prynwyd yr ieir o Cae'r geiliop, M63, ac yr oeddynt vn rh, gwerthfawr iawn gan eu bod o blith rhywogaeth srferoi enill gwobrWyanmewn Arddangosfevdd Ni welodd waed ar yrieir, end yr oedd p'y yn wssgaredig' ar hyd y He-Mr, P. Herbert Jamts, a ddywedodd ei fod yn plyo ieir yn cghefn mastfadhdy Mr. Bradley, a chlywodd gyfarthiadau ci yn muarth Dr. Evans. Actb yno, a chacfu yr ieir wedi eu lladd, ac wedi ymofyn Heddgeidwad yno, aeth hwnw i'r cwt ieir a daliodd y ci, Yr oedd naw oiesr wedi eu lladd. Dywedodd y Diffynydd nad oedd arwydd ar y ci ei fod wedi lladd yr ieir gan ei fed yn Jan.—Yr Heddgeidwad A. H. Williams a dystiodd iddo gael ei alw i'r buarth lle'r oedd yr ieir wedi eu lladd, ac iddo ddal y ci YD" V cwt a chplsr am ei wddf gyda eaw'r Diffynydd ami. Pan ddaeth y Diffynydd yno dywedodd mai ei gi ef ydoedd, a'i fod wedi ei golii yn y prydnawn. Galwodd Morris ei sylw I nad oedd msrciau ar y ci i ddacgos ei fod wedi Hadd yr ieir. Nid oedd waed ar y fowls. Daeargi Cymreig oedd y ci. Y Diffynydd a ddywedodd ei fed cofio i Dr. Evans ddod ato yn wyllt iawn ychydig wedi saith o'r gloch y noson dan sylw. Aeth i'r buarth a gwelodd ei gi 0 dan fraich yr Heddgeidwad, a galwodd ei sylw nad oedd ol gwaed na ply ar ei ddanedd, ac nid oedd wedi baeddu ei hun o gwbl. Bu'r ci gydag ef yn Cwmbowydd trwy'r prydnawn a clianlynodd ef i'w shop ac am y lladd-dy, ac ni choilodd olwg srno o gwbl hyd chwaiter wedi chwech. Daeargi Cymreig pum' mlwydd a haner oed ydoedd ac wedi ei fagu yn rghanol ieir, ac ci welodd ef yn gwneyd dim i ieir cynt nac wedi hyny. Ni ddywedodd wrth Dr. Evans ei fod wedi ei golli yn gynar yn y .,ri-i gynar n y prydnawn. Chwaiter wedi chwech y collodd ef.—Mr. William Jones, Painter, a dystiodd fod y Diffynydd yn Cwmbowydd y prydnawn dan sylw, a chlywodd ef ya galw ar rhyw gi. Ni sylwodd ar y ci, ac nis gaUai ddywedvd a'i yr un ydyw a'r hwn ddaliwyd yn muarth Dr. Evans —Mri. William Williams, Cigydd, a Hugh Lloyd Roberts, a dystiasant iddynt weled y ci yn ymyl y Lladd-dy ychydig wedi chwech o'r gloch y noson uchod. Mr R. O. Davies a ddywedodd nad oedd dadl am yr ieir wedi eu lladd, ond yr oedd llawer iawn 0 gwyn yn y dref, ac yr oedd yn drwm iawn i wneyd i'r Diffynydd dalu am yr ieir hyn am ei fod wedi digwydd cael ei ddal yno.-Barnwr, Nag ydyw 0 gwbl. Gwn am achosion lie byddai tua haner cant 0 ddefaid wedi eu lladd a chi yn cael ei ddal yno, a'r perchenog hwnw yn gorfod talu am yr all. Naw 0 ieir sydd genych chwi yn yr achos hwn." --Mr Davies Ni welwyd tuedd 0 gwbl yn y ci hwn at ladd, a dywedir os bydd ci yn dechreu l!add defaid na wna beidio. Ni chafodd y Ci hwn ond ryw haner awr i ladd, ac y mae yn anhebyg iddo allu gwnsvd hvnv mewn can lleied o amser.Barnwr, Daeargi ydoedd, ac ni fuasai reaiawr amser yn lladd cymaint arall. Nid oes amheuaeth genyf o gwbl nad y ci hwn laddodd yr ieir: cafodd ei ddal yn y lie a hwnw yn gloedig. Archeb am dair gini, a fees y Llys, i'w talu yn ol 15/- yr wythnos. Achos o lawn i Weithiwr. I Cwmni y Diphwys Casson, Blaenau, a ddaeth ag achos lawn delir i Mr Edward Hughes, Lord Street, Blaenau, o flaen y Llys i'w adystyried.—Ymddargcsodd Mr Cutboert Smith (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr D. White Phillips) dros y Cwmni, a Mr T. E. Morris (yo cael ei gyfarwyddo gan Mr J. Jones Morris) dros Mr E. Hughes. Mr Smith a adgofiodd i'w Anrhydedd i'r aches fod o flaen y Llys ar Awst 5, pryd yr oedd y 13/- deHd yn fiaenorol fel haner cyflog Hughes wedi cael ei atal am y credid y gallai weithio, ond nad oedd yn gwneyd ymgais hyny. Bu i'w Anrhydedd wneyd archeb y pryd, hwnw i'r lawn o 13/- gaal ei dalu i fyny i ddyddiad y Llys, a'i ostwng i 9/- ar ol y Llys. Deuir a'r achos yn mlaen yn awr i atal neu ostwng y swm delir, am nad oadd Hughes wedi gwneyd defnydd o'r hyn argymellid fel moddion i'w wella, a'i fod yn hvtrach na hyny yn dal at y fflochen (splint) oedd ar ei goes.- Mr Morris a wrthwynebodd y cais gan nad oedd gyfnewidiad yn yr amgylchiadau i gyfreithloni i ostwng y swm delid, a byddsi iddo wneyd cais am i'r swm gael ei godi i 13/- gan nad oedd y dyn yn abl i enill dim at ei gynhaliaethMr Smith a ddywedodd fod barn y meddvgon yn gwneyd gwahaniaeth yn yr amgylchiatlau.Dr. Pierce Morris, Colwyn, a ddywedodd iddo wneyd archwiliad manwl ar becgiin a cboes Hughes, ac yr oedd yn awr, fel y tro diweddaf, o'r farn mai yr unig obaith oedd ganddo i welia ydoedd gwneyd i ffwrdd a'r fflochen a'i ffon, ac ymarfer ei goes fal ag i roddi cyfle iddi gryfhau trwy hyny, Cymerai tua naw mis i'r aelod wella, a rhaid oedd rhoddi y fflochen heibio neu ni wellhai byth. Digwyddodd y ddamwain Ebrill 29. 1908, a gwyddai i Dr. Robert Jones, ,Lerpwl, gyfar- wyddo defnyddio fflochen ar' y dechreu, ond nid oedd reswm dros barbau i'w defnyddio Yr oedd ei goes yn deneusch na'r Hall trwy ddiffyg ymarferiad, ac yr oedd yn, hmlwg nas gi llai Mr. Hughes wneyd gwaith creigiwr yn bresenol. Synai glywed iddo orfod myned i'w welv ar ol bod yn cerdded fyny ac i lawr slit. Nid oedd dim o'i le ar gymal y penglin mor bell ag yr oedd yr esgyrn yn myned.-Dr, Harrold Nuttal, Colwyn Bay, a dystiodd iddo wneyd archwiliad ar Edward Hughes., Mehean 18, ac iddo gymeryd palydr-ddarluniau penglin, (I (radiographs) o'r penglin, a dangoswyd hwy i r Llys. Nid oedd dim allan o'i le ar esgyrn y penglin.- Yr oedd y goes yn deneuach na'r goes iach. Achosid y boen yn yr aelod gan dyor n y fnochen; nis gallai wrthio amlen llythyr thwng ei phen a'r penyglin. Bu iddo ei archwilio crachefn Mehefin 30. Yr oedd y troed gwastad a'r fflochen n cyfrif am yr holl boen yn yr aelod. Credai pe rhoddid ymaith y fflochen y byddai yr aelod yn iawn yn mhen o chwe' i raw mis. Ni chodai y been Nuth y ddamwain, ond o ddiiiyg c!efityt. vr aeloci, I Mr. Men's a alwcdcl sylw nad oedd dim nexvy-ld a yr amgylchiadau er y gwraudawiad diweddaf. Cafwyd prawf nad oedd y dyn yn abl i cidilyn ei ahvedigaeth, ac felly dylai ei iawn gae! ei gtodi yn ol i 13/- yr wythnos, Mr Edward Hughes a djstiodd ei fcd yn de'nyddio y fflochr n o hyd. Bu yn cassio cerdded Iawr i Cwmbowydd deirgwaith er cael gwelad beth allai wneyd gyda myned i fyny a lawr allt, a chafodd boen dirfawr ar ol bob tro. Ni byddai byth yn tynu y fflochen gan nad allai symud hebddi. Bu yn y Cyfarfod Diolch am y Cyfthauaf ddwywaith, vr hyn oedd tua mUlti. trwy yr oil, a bu yn y ty ar ol hyny hyd y Pasg. Bu D.r Richard Jones yn gweini arno ar hyd yr amser. Aeth i Colwyn i weled Dr Morrif, a cherddodd ar hyd glan y mor i'w dy, a bu jn ei wely.di-anopth -rod'yn gan boen yn ei goes. Poetbai ei heDgEn ar ol cerdded. Ni bu allan o gwbl heb y fflochen, gaa nad allai symud o gv/bi hebddi. Dr Richard Jones, Blaenau, a dystiodd fod ganddo brofiad 0 30 mlynedd. Yr oedd gwa- haniaeth o drichwarter modfedd yn nhrvvch y ddau benlin. Ni bu son o'r dechreu am &s- gwro vied; tori, ac felly nid oedd y darluniau yn dda i ddim yn yr achos hwn. Nid yw X-rays yn dangos y rhwymynau (ligaments). Pegwelssi Dr Morris a Dr Nuttal yr aelod ar ol y ddamwain buasent o farn hollol wahanol yn ei gylch, Yr oedd y penlin wedi ei blygu yn hollol o chwith, a'r rhwymynau wedi eu tori, ac nis galiai y dyn gerdded am nad oedd dim i'w gadw cymal y penglin yn ei Ie. Yr oedd yn gwestiwn o goes naphlvgai, neu ddodi fflochen i'w chynal er cvnorthwyo i allu plygu y penlin. Yr oadd fflochen fel danedd gosod yn dod yn ddiboen wrth eu harfer, ac nid y fflochen a r chosai y boen. Credai fed yr aelod yn well nag ydoedd, ond yr oedd yn gwbl amlwg fod y niweidiau yn rhai arhosol. Gwnaed pobpeth ellid gyda'r aelod o'r dechreu ac achosid y treed gwastad oedd gan y dye trwy y modd y cerddid i geisio arbed yr aelod. Credai nad allai byth wneyd gwaith chwarelwr, a cherdded i fyny ac i lawr allt fel yr atfer: i cyn y ddamwain.—Mewn atebiad i Dr Wil- liams dywedodd ei fod yn adnabod E. Hughes er's 30 mlynedd, a'i fod yn ddyn iach ac ym- drechgar yn un o ychydig 01 weithwyr yr ardal oedd yn ymdrechu talu ei ffordd a chadw o ddyled er fod ganddo deu!u mawr i'w cadw. Gwnelai y sylw yna am ei fod wedi ei awgrymu y gallai nad cedd y dyn yn ymdrechgar, a'i fod yn hoff o ddiogi.—Mr Smith, Ni wnes i aw- grm o'r fath o gwbl, gan y gwyddwn ei fod yn ddyn ymdrechgar." Dr. R. D. Evans, Blaenau, a dystiodd iddo wneyd archwiliad ar Edward Hughes, ddydd Llun, a chafodd fod y goes oedd wedi ei hanafu tua modfedd yn deneuach na'r llall, ac yr oedd swn yn y cymal wrth ei blygu fel pe buasai cryd-cymalau arno. Gallai fod y cryd-cymylau wedi ei gyflymu fel effaith y ddamwain, Yr oedd yn hollol sicr nad allai y dyn gerdded i fyny i chwarel y Diphwys oedd tua ddeuddr g can' troedfedd uwchlaw y pentref Dyoddefai mam Hughes oddiwrth gryd- cymalau trwm yn niwed ei hoes.—Mewn atebiad i'r Barnwr dywedodd ei fod yn cydsynio a Dr. Morris a Dr. Nuttal y byddai yn fuddiol i Hughes wneyd ymdrech i wneyd heb y fflochen os yn bosibl. AWgrymwyd i Dr. Walter Williams, yr hwn a eisteddai gyda'r Barnwr fel cyfarwyddwr Meddygol, i wneyd archwilliad ar Hughes cyn i'r achos gael ei benderfynu, ac aeth y ddau allan o'r Llys i wneyd hyny. Pan ddaethant ;n ol dywedodd y Barnwr ei fod am awgrymu i'r p!eidiau, ar sail yr hyn oedd Dr. Williams wedi ei ddywedyd wrtho, y byddai yn well gadael i'r achos sefyll drosodd hyd y Llys nesaf, er mwyn gwneyd arbrawf ar yr hyn a awgrymid gan y Cwmni.-Cydsyniodd y ddwy Blaid i Dr. Williams gymeryd gofal yr achos am dymor,-Barnivr, "Yr wyf yn cael nad yw yr amgylchiadau wedi newid, ond yr wyf yn gobitio yr achos hyd y Llys nesaf, Medi 8, er rhoddi cyfle i Hughes wneyd arbrofion heb y fflochen, a'r Cyfarwyddwyr Meddygol i'w weled yn achlysurol yn y cyfamser i wneyd adroddiad ar y modd y bydd yn dod yn mlaen,"

BWRDD GWAF5CHE5BWA5D LLANRWST.

GROESOR.

wvwvvvvvwvvvv'w v v v WvWW…