Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

YR YMGYSOORIAD,"--..1 - -…

NODION O'R CYLCH. I

IECHYD FFESTINIOG. j

News
Cite
Share

IECHYD FFESTINIOG. j ADRODDIAD Y SWYDDOG. I Cyflwynwyd Adroddiad Biynyddol Dr Rich- ard Jones, Swyddog Meddygol Cyngor Dinesig Ffestiniog, i bob aelod. Aeth Dr Jones trwy- ddo yn fanwl a gwelir yn hanes gweithrediadau y Cyngor y drafodaeth fu arno. A gaalyn sydd grynhodeb o'r Adroddiad Ar safle ddaearyddol y Blaenau sylwir ei fod wedi ei adeiladu ar waelod y bryniau gyda'u creigiau maluredig, clai, mawn agro. Gan fod gogwydd meini'r lie yn groes i rediad naturiol y tir y mae dwfr yn croni cilfachau. Y mae pen y Moelwyn yn ddau gant a haner o droed- feddi uwchlaw y mor, a rhaid i'r cymylau godi o leiaf ddau gant ar bymtheg o droedfeddi uwch- lawiarwynebedd y mor i ailu pasio y bryniau hyn heb arliwys o'u cynwys, a dyna a gyfrifai am fod cymaint o wlaw yn digwydd yn y He. Yr oedd Ffestiniog dair milltir o'r Blaenau ac yn sefylI bum' cant a haner o droedfeddi uwchlaw y mor. Yr oedd y tir yn sych, a rhediad nat- uriol i'r dwfr o'r lie, ac nid yw yu ddarostyng- edig i gyfnewidiadau y tywydd fel y mae y Blaenau. Disgynai 70 modfedd o wlaw yn y Blaenau yo flynyddol, a 55 yn y LI an. Yr oedd y boblogaeth yn 1831 yn 11,234 yn 1891 yn 11,073; ac yn 1901 yn 11434. Yr oedd canoedd o weithwyr a'u teuluoedd wedi gadael yr ardal oherwydd y dirwasgiad. Gellid casglu y nifer oddiwrth y ffaith fod 230 o dai gweigion yn y lie, ac ond dodi pump ar gyfar- taledd yn mhob ty ceid fod nifer y trigolion yn liai o 1.150 nag oeddynt bedair blynedd yn ol; felly ni fyddid yn mbell o le wrth roddi y rhif y boblogaeth yn 10,650. Rhanai y gweithwyr i ddau ddau ddosbarth rhai weithient dan y ddaear ac yn dod o'r ardaloedd amaethyddol gan ddecbreu o ddeunaw i ugain oed, ac yn adarostyngedig i enyniad yr ysgyfaint fel eu hafiechyd y lleill a weithient allan yn y melin- au gyda gwneyd a thrin y llechi a dechreuant tua phedar ar ddeg oed, a'u hafiechyd hwy ydoedd diffyg ar y pibellau gwynt, neu ddar- fodedigaeth. Ganwyd 249 o blant,-118 o feibion, a 121 o ferched, yn y dosbarth yn ystod 1909, ac yr oedd 2.1 yn anghyfreitlilon. Bu 11 o drengholiadau yn ystod y flwyddyn, a bodd- haol iawn oedd meddwl na bu ond tair damwain angeuol yn y chwareli: un y fil o'r gweithwyr. Yr oedd 49 o'r 186 marwolaethau yn mhlith rhai cyraedd 65 ac uchod o flwvddi. Yr oedd 24 wedi o'r marwolaethau yn mysg plant o dan flwydd oed, ac yr oedd cyfartaledd marwolaethau babanod anghyfreithlon yn ddwbl beth ydoedd yn mysg y plant cyfreithlon. Bu y Twymyn Coch yn drwm yn yr ardal yn ystod y flwyddyn: 384 o achosion, a naw o honynt yn angeuol. Daetby clefyd yma yn gynar yn 1908 gyda theulu c Lancashire, ac ymledodd nes i 52 ei gael yn yr ardal: ac yn niwedd y flwyddym daeth achos yma o Dohvyddelen, a chafodd 47 y clefyd. Ymlededd y clefyd yn nechreu 1909 ac yr oedd 260 o'r 384 fu tano yn mynycbn yr ysgolion, a hyny, gyda myned i gyfarfodydd cyhoeddus, fu'r achos o'i ledaeniad. Bu 18 farw o'r Darfodedigaeth, yr hwn oedd yn afiechyd heintus gan y ceid ef y naill oddi- wrth y llall, Yr oedd hadau y clefyd yn y poeryn, allenwid yr ystafeUoedd a'r hadaxi hyn. Deuai yr ymborth a'r llaeth yn heintus oddi- wrthynt. Lledaenid ef hefyd trwy gig a llaeth g.wartheg oedd o tano, gan fod unrhywdeb yr afiechyd mewn gwartheg, a dynion wedi ei brcfi. Diffyg awyr yn yr ystafelloedd, diffyg glendid parsonol, &c, oeddynt ffynnonellau eraill o'r afiechyd. Bu farw 13 o'r csncer. Oddiwrth ddolur y galon yn gyffredinol, bu fmv 22 yn ystod y flwyddvn. Yr oedd yn credu yn gryf fod yr arferiad o ddefnyddio myglys yn ormodol, yn enwedig ei gnoi, yn cyfrif am yr afiechyd, gan ei fod yn codi curiad y galon, byrdra anadl, ebesau a thraed chwyddedig, a Hudded cyffredinol. Wrth archwUio yic oedd yn cael allan yn mron bob achos o anhwyldeb ar y galon fod y dyoddefydd yn arfer er's blynyddoedd a chnoi myglys. Gweithredai rhai ar ei gyngor i adael y myglys heibio, a gwellaent. Yr oedd gan yfed te yn ormodol ran hefyd gyda'r gwaeedd hwn. ond yr oedd arferidc y chwarelwyr yn gwella yn fawr ar hyn yn ystod y blwyddi diweddar. Yr oedd ef wedi pregethu Llaethenwyn am 25 mlynedd, ac i ryw bwrpas daioni, gobeithiai. yr oedd y cyflenwad dwfr bob amser yn foddhaol, a phe purid ef o'r mawn i gael ei liw yn well byddai yn fwy boddhaol. Yr oedd-deg yn cadw gwartheg, 21 yn gwerthu llefrith, a 4 yn gwerthu Uaeth enwyn. Nid oes Llety cyffredin wedi ei gofrestru yn y Dosbarth. Yr oedd angeu Lladd dai cy- hoeddus yn y Dosbartb, ond yr oedd y Lladd- dai ddefnyddid mewn cyflwr gweddol foddhaol. Yr oedd y Crasdai yn foddhaol, ac yn cael eu cadw yn Ian. Yr oedd y cyfrif am y'gwlaw yn un hynod,—Tanybwlch, 208 o ddyddiau gwlawog, 67'08 o wlaw; Llyn y Morwynion, 190 o ddyddiau gwlawog, a 67'24 o wlaw yn Chwar- eli Oakdey 189 o ddyddiau gwlawcff, a 98 54 o wlaw. Diolchai i Mri Owen ]ones, Oakeleys, John Roberts, The Gardens, ac E. Lewis Evans, o'r Cyngor, am y cyfrif o'r gwlaw. Yr oedd angen Ysbytty Unigoli ar gyfer afiechydon heintus, ac yr oecul awyriad y Neuadd yn. ddrwg a pheryglus1 i iechyd ar gyfarfodydd mawrion. Yn nglyn ar archwiliad fu ar >528 o blant yr ysgolion,-346 o fecbgyn, a 282 o enethod, yr oedd 21 heb fod mor ]an ag y buasid yn dyrauno. Yr oedd tab! manwl yn dangos y diffygion yn yr adroddiad. Yr oedd diffyg ar olwg niler fawr o'r plant, a iluaws obonynt yn gwbl 4dall o un llygaid. Gwaethygai y diffyg fel y cedid yn y sifonau yn yr ysgol. Dechreuai gyda'r bechgya pan elent i'r ysgol yn bump oed gyda 4 1 y cant, a diweddai gyda 26'4 pan fyddent yn gadael yr ysgol yn 12 neu 13 oed. Gyda'r genethod decbreuai gyda 5 2 a diweddai gyda 35 0. Y cyfartaledd gyda'r becbgyn ydoedd 11 2, a gyda'r genethod 19 0. Nodai ei resymau dros fod y diffyg yn mwynhau gyda gwaith yr ysgol. Wrth derfynu ei adroddiad rhoddodd air uchel iawn i'r modd y gwnelai Mr George Davies ei waith. <VWV\AVVWWWWWVVVVWVVA

,CREFYDD-BETH YDYW? I

- -I '"'L¡;';;;;¡;;I'"' I

--O'R PEDWAR CWR.

iARCHMAD LLAFUR. I