Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

YR YMGYSOORIAD,"--..1 - -…

NODION O'R CYLCH. I

News
Cite
Share

NODION O'R CYLCH. I Mae yn llawenydd i bawb o garedigion cerdd i ddeall fod Cylchwyl Castell Harlech wedi troi allan yn llwyddianus mewn ystyr arianol. Er nad oes gwybodaeth lawn eto o'r safle arianol, mae y pwyllgor mewn man- tais i gyhoeddi y bydd gweddill mewn llaw ar ol clirio yr holl gostau. Mae hyn yn dra boddhaol, oblegid os talodd eleni mae siawns dda iddi dalu o hyn allan, am fod y cynllun eleni yn cynwys costau cychwynol fel prynu stage, &c., na fydd raid eu gwynebu eto. Nid ei llwyddiant arianol yw yr un pwysicaf chwaith, oblegid credwn mai ail beth yw elw yn ngolwg y pwyllgor. Mae cymeradwy- aethau beirniaid o radd llywyddion y boreu a'r piydnawn yn dangos i'r Wyl fod yn Uwyddianus yn yr ystyr oreu ac uwchaf. Fel hyn yr ysgrifenai Madam Mary Davies at vr arweinydd ::—" Fy anwyl Mr Roberts, Y mae yn bleser genyf gael y cyfleusdra i ysgrifenu atoch i ddatgan y mwynhad mawr a gefais wrth wrando y datganiad ardderchog a gogoneddus ar y cydganau o'r Messiah," yn Harlech, Gorphenaf 6ed. Behold the Lamb of God" oedd y dernyn goreu o'r gwalth, yn fy meddwl. Fe'i canwyd hi gyda dwysder ac unoliaeth diamheuol o ran teimlad a mynegiant. Credaf fod y gydgan yr anhawddaf yn y gwaith, ac na chlywais y gydgan yn cael ei chanu yn well erioed. Y mae hyn yn syndod, gan na chawsoch rehearsal gyffredinol cyn y perfformiad. Dengys hyn y modd yr ydych wedi gweithio i arelygu y gwahanol gorau yn mlaen Haw. Yr oedd y Ffestifal yn foddhaol drwyddi xhaw. Yn nglyn a'r tonau cvnuHeidfaol, Moab a'm cyffyrddodd yn fwy na'r un arall. Yr oedd yn anhawdd atal dagrau. Dylech deimlo yn falch i feddwl i'r fath safle uchel yr ydych wedi codi cerd,doriaeth yn Ngogledd Cymru, yn enwedig yn Meirion- ydd. Dymunaf i chwi hir oes a llwyddiant yn y gelf ogoneddus." Mae llythyr Mr L. J. Roberts ato yr un mor ganmoliaethus :_U Anwyl Mr Roberts,—Prvsurdeb anioddefol sydd wedi fy nghadw rhag ysgrifenu i'ch Ilorxgyfarch yn ffurfiol ar y canu mwyaf bendigedig glywais yn fy mywvd. Ni ddywedaf air yn rhagor. Y mae Mr Owen Edwards wedi gofyn a wnaf fi ddim ysgrifenu tipyn o erth- ygl ar vr wyl i'r Cymru." Gwnaf y mis nesaf. Yr oedd y cwbl yn orchestol ac yn anrhydedd i Gymru." Yn sicr, mae gan Mr. O. O. Roberts, a'r pwyllgoif hefyd, le ,cyf *eithlon i fod yn falch o gymeradwyaeth mor uchel gan rai mor gymwys i farnu. Yn yr Heddlys diweddaf yn y Blaenau, daeth achosion ger bron, a dirwywyd yn ol barn y Faingc am ddifrifoldeb y troseddau rhaid mesur difrifoldeb troseddau yn ngolwg y gosb benodir gan y gyfraith am eu cyf- fawni, ac yr ydym ninau i farnu hyny mewn :gwahanol ardaloedd yn ol y gosb ddodirgan ynadon y cylch hwn. Nid yw meddwi a t>od yn afreolus yn y Blaenau yn ddim byd wrth wneyd hyny yn Bettwsycoed neu Llan- rwst. Ni raid ond cydmaru y dirwvon yn y tri lie na welir ein bod yn gywir. Eithr nid at hynv yr oeddym yn meddwl galw sylw yn awr. Yr wyrhnos o'r blaen yr oedd Awdur- dodau Ynaol y Sir yn nglyn a'r Frawdlys 'Chwarterol yn datgan eu hanghymeradwy- aeth pendant o'r dull y gwneir gyda'r dir- wyon yn Uysoedd y Sir, sef csniatau amser i dalu y cyfryw ynlle pwyso am danynt ar y pryd neu anfon y troseddwr i garchar. Yn y LI) s ddydd lau, caniatawvd pvthefnos o amser i un dalu, a'r Hall am fis, a hyny pan -oedd y Prif-Gwristabl yn bresenol, ac yntau wedi cwyno yn fawr am y peth yn y Frawd- lys Chwartero!. Nid oes lawer o gysondeb mewn ynadon yn cwyno am y peth yn Dol- ?eHau, ?ac yn gwneyd yn hoUo fe! arall yn y Œlaenau. Yn adroddiad Blynyddol Swyddog Medd- ygol Cyngor Dinesig Ffestiniog, gelwid sylw at fod arfer myglys ac yfed te yn cynyrchu diffyg ar y galon, yn arbenig felly gnoi myg- lys. Dywedodd y Meddyg ei fod yn pre- gethu Ilaethenwyn er's blynyddoedd," ac yn raddol Iwyddianus, gan fod liai o yfed te nag a fu yn yr ardal y blynyddoedd a basiodd. Wrth son am farw o ddiffyg ar y galon, a phwyso y berthynas oedd rhwng cnoi myglys ac ysmygu a'r peth, gofynwyd i Dr Jones sut yr oedd yn dal ar hyny gan nad oedd merched yn cnoi nac yn. smocio, ac yr oeddynt hwythau yn meirw o ddiffyg ar y galon fel y dynion. Rhaid mai ar y te mae'r bai yn achos y merched, serch na ddywed- odd y Meddyg hyny, ac mae'n debyg nad oes gan yr aelod ofynodd y cwestiwn fawr i ddweyd wrth de. Yn ystod eisteddiad y Cyngor, ond nid tra yr oeddid yn ystyried adroddiad y Swyddog, fel y camddywedir yn y newydd- iaduron Seisneg, yr oedd nifer fawr o'r Cyngorwyr yn ysmygu nes Ilenwi yr ystafell a rnwg, er anghysur i bawb ond hwy eu hunain. Prin y tybiwn fod y sawl wnaent hyny yn ystyried yr argraff ddrwg a gariai gweithred o'r fath: trin amgylchiadau y trethdalwyr dan ysmygu ac ymgomio a'u gilydd! Y mae tri neu bedwar o'r aelodau yn gamweddus o arferol a man-siarad a'u gilydd bron o ddechreu y Cyngor i'w ddi- wedd, a phan y siaradant yn gyhoeddus y maent yn bradychu eu hunain trwy ddangos nad ydynt wedi ceisio dilyn dim o'r gweith- rediadau. Nid yw y Cyngor newydd,. hyd yma beth bynag, wedi dangos rhyw lawer o jmroddiad i'w waith. Yn y Cyngor uchod yr oeddid yn dewis un i ofalu am Lyn-y-Morwynion gan fod Mr Jones, Brynllech, wedi rhoddi y He i fyny. Gofynwyd i'r ddau ymgeisydd a ddaeth gerbron a oeddynt yn ddirwestwyr,' ac atebodd un nad oedd, a'r llall ei fod. Penodwyd yr un atebodd yn nacaol, nid ar dir dirwestiaeth o gwbl; ond yn y newydd- iaduron Seisneg ceir adroddiad rhanol iawn a chwbl gamarweiniol o'r drafodaeth, a phenawd bras uwchben o Cyngor Ffestiniog a Dirwagt er camliwio y Cyngor trwy osod argraff ar y darllenwyr fod y dewisiad wedi ei wneyd ar dir y ddiod a llwyrymwrthodiad. Yn hollol fel arall y bu gyda'r penodiad. Gwir i wmbreth o siarad anmherthynol ddod i mewn, ac ni ddylesid ar un cyfrif siarad yn mWl-esenoldeb yr ymgeiswyr am drin cym- eriadau," a phethau o'r fath, pan nad oedd dim ond cwestiwn syml o "A ydych yn Ddirwestwr ?" wedi ei ofyn. A fuasai y rhai waeddent yn erbyn y cwestiwn yn hoffi talu iawn o'u llogell eu hunain pe buasai y gof- alwr am y Llyn wedi syrthio iddo yn ei ddiod? Nid ar dir dirwestiaeth y gwnaed y penodiad ond yn hollol ar ystyriaethau eraili mor bell ag yr oeddym yn deall wrth wrandaw y drafodaeth gwyddai y dyn am y gwaith, yr oedd ei holl amser ganddo wrth law i'w gyflawni, &c. Hyderwn y try y penodiad allan yn un priodol a doeth. Bwrdd ychydig yn finiog gafwyd yn LIan- rwst ddydd Mawrtk, ac yn naturiol yr ydys yn disgwyl fod Mr. Gower i mewn yn y trybestod, gan ei fod yn caru sael rhan yn mhob ystrempiad gymer le yno. Achos dwy wraig dlawd o Felinycoed, oedd dan sylw, ac ymhoHd paham na fuasent yn eu hoedran mawr w myned i fyw at eu gilydd a hwythau yn chwiorydd naturiol. E,glur- odd y swyddog fod gan y ddwy eu nhod- weddion arbeinig a hynod, a'r rhai hyny yn hollol wahanol y naill i'r llall. Dywedai mai creulondeb oedd aflonyddu arnynt yn eu hen- aint a'u llesgedd. Aeth yn dda"dl boeth thvfrng Mr Gower a Mr Rawson Williams; Mr Gower am eu cael at eu gilydd neu i'r Ty, a MrWilliams am adael iddynt mewn tawelwch yn eu hanedd fechan eu hunain. Pan god- odd Mr Hughes,—gwr nad yw bron un amser yn siarad yn y Bwrdd, a chyda Ilais crynedig a dwys i gynyg fod eu helusen yn parhau fej yr oedd, a'i lygaid yn llaith wrth wneyd hyny, nis gallasai Mr Gower ddal i ddadleu yn I hwy: un hawdd i gyffwrdd ei deimlad yw y boneddwr parchedig, a llawer o garedigrwydd. Tawelodd yr ystorm gyda dull tawel y Cadeirydd yn datgan barn y Bwrdd ar yr achos. Beth bynag am deim- ladau y Gwarcheidwaid at eu gilydd ar ol ymdderu fel hyn, peth eithafol anhyfryd yw siarad yn chwerw uwchben achos elusen y tlawd druan, a dylai pob Bwrdd mewn gwlad fel hon fod uwchlaw gwneyd hyny. Y mae dull penderfynol Mr Hughes, Meistr Tlodty Llanrwst, o ddelio a'r crwydriaid yn dwyn ffrwyth amlwg. Yn lie bod eu nifer fel y mis cynt yn 150 nid oeddynt ond 72. Y mae Mr Hughes yn eu cadw dros ddwy noson, ac yn rhoddi tasg lawn am y;diwrnod rhwng y nosweithiau hyny, ac felly ceir ganddynt wneyd mwy na thalu am y draul c'u cadw. Colled ddigymysg ydynt os goliyngir hwy allan ar ol bod i mewn dros y nos yn unig. Dichon y dywedir iddynt gostio 4s 4c yn y dref, gan nad oedd He i 17 o honynt yn y Ty. Yr oedd talu hyny yn atbediad mawr rhagor rhoddi Hety fei bwyd i 76 yn y Ty. Pe ILvyddid i gael gan bob Undeb i gadw y crwydriaid i mewn am ddwy noson fel hyn gwelid flrwyth da mewn lleihad yn nifer y crwydriaid, a hvny yn fuan iawn. Gwelwn fod Cynhadledd i'w chynal yn fuari o gyn- rychiolwyr y gwahanol Fyrddau i fyned i nlswn i gwestiwn y Tramps. Y drwg yw, nad oes dim yn cael ei gario allan ar ol ymgyngoriadau felly. Gwelsom lu o honynt o'r blaen, a'r oil yn diweddu mewn mwg. Gobeithiwn bethau gwell i'r Gynhadledd hon.

IECHYD FFESTINIOG. j

,CREFYDD-BETH YDYW? I

- -I '"'L¡;';;;;¡;;I'"' I

--O'R PEDWAR CWR.

iARCHMAD LLAFUR. I