Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

IAT Eiri GOHEBWYR. I

INODIADAU WYTHNOSOL _--I

News
Cite
Share

I NODIADAU WYTHNOSOL I DAOGUDDIO CYFRIMCH. Ychydig wythnosau yn ol gwybuwyd fod peth anffodus i'r eithaf wedi cymeryd lie ynglyn ag arholiadau Prif Ysgol Cymru. Cafwyd allan fod rhai o'r myfyrwyr oedd ar gael eu harholi mewn gwybodaeth o'r Ffrancaeg wedi cael eu hysbysu gan rywun ymlaen Haw pa gwestiynau a roddid iddynt. Prin y mae yn rhaid dywedyd fod hyny yn rhoddi mantais anheg i'r rhai a gawsant y wybodaetb, ao wedi gwneyd yr arhol- iad yn y pwnc neillduol hwnw yn hollol ddiwerth. Gwelodd awdurdodasu y Brif Ysgol hyn, ac heb oedi dim cyhoeddasant eu bod wedi dirymw yr arholiad ac yn trefnu i gynal arholiad yn ei le, ac y mae hyny wedi ei wneyd erbyn byn. Dyma'r cwbl sydd yn wybyddus i'r cyhoedd, ac yr ydym yn dal fod gan y cyhoedd hawl i wybod mwy. Mae'r Brif Ysgol yn sefydliad cyhoeddus; mwy na hyny, mae yn sefydliad cenedlaethol, ac nis gall peth fel hYTnlai na pheri i anair gael ei roddi I iddi fcrwy'r holl deyrnas a gwneyd gwerth ei graddau yn llai nag oedd. Pe digwyddas?i peth fel hyn ynglyn a Phrif Ysgol Ehydychain neu Gaergrawnt, buasai yn anffawd fawr, ond ni wnaetbai gymaint niwed i hen brif ysgol ag a wna i brif ysgol ieuanc fel Prif Ysgol Cymru. Cyn fod ei graddau wedi dyfod i gael eu cyfrif agos yn gyfwerth a graddau y naill na'r llall o'r hen brif ysgolion nac yn gyfwerth a graddau Prif Ysgol Llun- dain, mae hyn wedi gwneyd eu gwer-th yn llai nag erioed. Mae hon yn ffaith bwysig a difrifol ag y mae yn rhaid i'r llywodraethwyr ei gwynebu, a dywedwn yn groyw ac yn glir mai eu dyledswydd ydyw gweinyddu cosb drom ar y person neu y personau euog, a hysbysu y cyhoedd pwy ydynt a' pha gosb maent wedi ei derbyn. Nid oes genym ewyllys i ddial ar unrhyw ddyn, ond gosodir angenrhaid arnom i gyfrif enw da a buddianau Prif Ysgol Cymru yn llawer iawn pwysicach na buddianau unrhyw berson unigoL Dylai yr awdurdodau gymeryd yr olwg yma ar y mater a rhoddi i'r cyhoedd hyspysrwydd a ddengys hyny. Mae lie i ofni nad eleni y gwnaethpwyd yr anhegwch a'r anghyfiawnder yma am y tro cyntaf oblegid mae haeriadau yn cael eu gwneyd er's dwy flynecld neu dair yn mhlith y myfyrwyr fo'd "rhywbeth o'i le." Mewn gobaith y bydd i'r rhai ag y mae yn 1iperthyn iddynt gymeryd camrau a ddangosant eu bod yn sylweddoli pwysigrwydd y peth ac am ei wneyd yn anmhosibl i'r fath beth ddigwydd eto, gadawn y mater yn y fan hon heddyw.

GABLU GANGHELL0R Y TRYSORLYS.

BANK CYNIIO Y ILYtHYRDY.

CYTUNDEB DOOETH.

CWERYL RHWNG CYFEILLION.

iARCHMAD LLAFUR. I