Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

r CONGWEST YR AWYR.

News
Cite
Share

r CONGWEST YR AWYR. Dichon fod cone west yr awyr ym mhlith y pethau a fyddant nid yw ym mhlith y pethau sydd. Yn yr ymdrech i'w choncweru, aberthwyd llawer o fywydau eisoes, ac y mae'n ddiameu genym yr aberthir llawereto. Dydd Mawrth collodd yr Anrhydeddus G. S. Rolls ei fywyd yn Bournemouth. Tra yr oedd yn ehedeg trwy'r awyr yng ngwydd miloedd lawer o edrychwyr, aeth rhywbeth o'i le yn ei awyrlong a disgynodd fel careg i'r ddaear. Bu yr Awyrydd beiddgar farw yn ddisymwth. Mab ydoedd i Arglwydd Llangatwg, ac ac nid oedd ond 33 mlwydd oed. Nid yw'n debygol y bydd i. farwolaetb ddisymwth y boneddwr ieuanc hwn effeithio dim ar frwydfrydedd a beidd- garwch yr awyryddion. Gwyddent 6'r blaen mor beryglus ydyw'r gwaith a. wnant, ond ni wyddant beth ydyw ofn perygl, Ym mhob oes a gwlad o'r bron, cafwyd gwyr yn barod i aberthu eu bywyd yn achos "cynydd "mewn gwahanol gylchoedd, ac ni chafwyd erioed fwy yn barotach i wneyd hyny nag sydd yn awr. Ehaid aberthu llawer eto cyn y dygir yr awyr dan lywodraeth dyn i'r mesur i'r hwn mae'r mor wedi ei ddwyn.

Advertising

lNODIADAU WYTHNOSOL

I PENODiAO YNADON. j

I IETHOLIAD KIRKOALE.

CQNDEMNtOR GANGHELLOR.