Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
DEIGRYN PARCH
DEIGRYN PARCH •&r farwolaeth y brawd hoff a'r Cristion gloew, WILLIAM HUGHES, Seion, Ffestiniog, yr hwn fu yn ddiacon ffyddlon, ac yn arwain y gan, ac yn ysgrifenydd yr eglwys yn Seion am flynyddau, yr hwn a hunodd yn 52ain mlwydd oed dydd Sadwrn, Ionawr 22, 1910. Derbyniais y newydd prudd yn America, pan ar daith yma. Mor brudd-felus yjyw teithio Dros y cefnfor eang, maith, Ar adenydd fy myfyrdod Tua'th fedd. a llygaid llaith Er fod miloedd o filldiroedd Rhyngwyf a'th orphwysfa brudd, "Gallaf blanu arno dusw- Gyda deigryn ar fy ngrudd. 'Gwc mai myned o'th flinderon Wnaethost at dy goron wen- Wne'st dy hun, drwy bara'n ffyddlon I'r Hwn waedodd ar y pren; Gwn i'th fywyd fod yn ymdrech Ddyfal. ddiwyd, ar ei hyd; Gwn i'th farw dloi yn elw Mwy ei werth na'r ddae'r i gyd. Cefaist gyfle i gofleidio Crefydd, yn moreuddydd oes, Cefaist ras i ddal dy afael Yn mhwerau lawn y Groes; Ceiaist ddoniau anghyffredin A'u cysegru bob yr un; Cefaist flas ar ddilyn camrau Dwyfol-ddenol Mab y Dyn. Yn yr Eglwys—gwne'st dy gaitref, Yno byddai'th hoftus le, Yno byddai dy gerddediad Pe bai angel yn y dre'; Gwnest weddio yn anhebgor Wrth yr allor-Duw a wyr Faint o ddagrau pur a gollaist Ar ran eraill fore a hwyr. tFel cynghorwr mewn cyfeillach, Cywir oeddyt, fel y wawr Hoffed gerdded i gyfeiriad Canol dydd y gwynfyd mawr Byddai gair i'r bobl ieuainc Ar dy fin fel diliau mel, A bydd ftrwyth dy ddoeth gynghorion Eto'n byw y blwyddau ddel. Fel arweinydd y Swyddogaeth Am fiynyddau-gwnest dy waith Heb roi draenen mewn un ystlys Nac i deimlad roddi craith Yn yr Ysgol-gyda'r dosbarth, Byddet fel tywysog cryf, Yn agoryd yr Ysgrythyr Gyda dewrder dwyfol, hyf. Yn dy deulu-megis brenin, A'th gymdeithas yn fwynhad; Ni bu 'rioed gywirach priod Nac i blant hoffusach tad; Ac yn nghyfrin gylch y cyfaill Byddet fel Jonatnan fwyn, Gallet mewn ystorm ddioddef, Ac a gelyn gydymddwyn. Hoffaist gwmni can ag awen, Hoffaist gwmni gweision Duw, Hoffaist son am gyfrinachau Pethau mwyaf dynoiryw < Cefaist brofi, erbyn heddyw, Beth yw bod yn nghwmni saint- Wedi eu cannu a'u perffeithio I'r drågwyddol-ddwyfol fraint. Cwsg yn dawel. yn dy feddrod; Mola'r lor, ar ucbaf dants; Ti enillaist yr orseddfa Sydd yn ol i'r ffyddlon blant; Deuaf finau, pan gaf gyfle, Gyda deigryn, at dy fedd, 1 -I roi blod'yn parch—mewn hiraeth Am dy wylaidd siriol weddv R. JONES (Perorfryn). (O Bethlem, Pa,, Chwefror 12).
ETHOLIAD MAENOFFEREN.
ETHOLIAD MAENOFFEREN. "RAS" Y GWEINIDOC A'R TWRNAI. Huws a Philips hoff welir-ar y maes Grym eu heirf adwaenir Yn daniol hwy a dynir I ras iawn y Cyngor Sir. Am ei hynt dywed mintai:—" Y Gwyn sydd Fachgen siwr o'i siwrnai Un di-jost, gwron di fai At ornest yw y twrnai. Philips 3. chledd a phclen-a wyra Gyoghreirwyr aflawen; Llais per holl Faenofferen ,A geincia lwydd y Gwyn clau. Y Gweinidog a noda—o'i ystor Gymwysterau fedda; i Er hyn, y doeth dwrnai da, Ar deg hynt a red gynta. -I feddu cyfaddas-yw Philips, A ffaelir ei luddias iMwy, yn hardd caiff mewn usrddas tBen y pol ar ol y ras." Drwy ei awch y Gwyn drecha—yn gawr- Y goron enilla; [aidd A chaiff sedd a diwedd da O'r swynfawr ymrysonfa. Llewaidd dfwy'r "râs," ond llawen-ei olwg Ydyw Philips gymen Haeddu'r parch, cyraedd i'r pen Wnaiff arwr Maenofferen. Wedi y ddwys, lwys frwydr lem,—a i helynt Ar Philips ceir llondrem Ond onid trist, trist fydd trem Gwr seloe v Gaersalem ? ETHOLWR.
GWERTHFAWREDD CRISTI A'l ABERTH.
GWERTHFAWREDD CRIST A'l ABERTH. Yr Iesu 'r hwn sy'n nerthu Mewn dyrus anial fyd, 0 nertha f'enaid ina Fyn'd ttwyddynt oil i gyd; Ac wedi cyraedd adref Uwch croesau o bob rhyw, Mi rof yr holl ogoniant Byth i dy enw gwiw. Yt Iesu 'r hwn a garodd Bechadur ar y groes Yw testyn fy myfyrdod Yn ngwyneb pob rhyw laes; Cyflawna fy nymuniad Tra byddwyf yn y byd 0 efelychu'th fywyd Er mwyn yr aberth drud. Yr Iesu mawr a welaf Yn Farnwr ddydd a ddaw, Trwy ffydd yn hwn a'i aberth Caf sefyll heb ddim braw, Yn nghwmni'r beirdd angylion A seintiau'r nefoedd wen, Caf floeddio buddugoliaeth Ar bechod is y nen. Yr Iesu bellach welaf Yn destyn gwiw fy nghan Ar frynia anfarwoldeb, A'm gwisg yn wen a glgln Af trwodd mewn llawenydd I gor y nefoedd wen, Am waed y Groes mi ganaf Byth, byth, byth mwy, Amen. Griffin Terrace, riffin Terrace, SYDNEY WILLIAMS. Penrhyri.
I'R PARCH. J. T. PHILLIPS.…
I'R PARCH. J. T. PHILLIPS. B.A., Ar ei ymadawiad i Guradiaeth Penmon, Beau- maris, Sir Fon, Chwefror 25ain, 1910. Pob llwydd am Iu o fiwyddi-a byddwch Was buddiol Duw Ce!i, A byd iach iawn boed i chwi Hyd ogoniant di gyni. Penrhyndeudraeth. wwwwwww GWYNDUD. *AAAA/vW/WWW
Cyfarfod Ysgol Undeb Anibynwyr…
Cyfarfod Ysgol Undeb Anibynwyr Ffestiniog a Thrawsfynydd. Y Sabbath diweddaf cynhaliwyd cyfarfod yr Undeb uchod yn nghapel Jerusalem, a thystiol- aeth pawb oedd yn bresenol ydoedd ei fod y rhagoraf a gaed er's llawer o flynyddoedd. Yr oedd y cynllun fabwysiadwyd i dreulio y cyfarfodydd yn hollol wahanol i ddim fu yn y cylch o'r blaen, a phrofodd hyny yn fantais fawr i'r cynulleidfa. Bu y gynulleidfa yn eithriadol o ffyddlon, ac yr oedd ol llafur i'w weled yn amlwg ar bob adran o'r gwaith. Cyfarfod y boreu.—Llywyddwyd gan Mr Lewis Thomas, Arolygydd yr Ysgol, gan yr hwn y cafwyd anerchiad rhagorol. Dechrsuwyd trwy ddarllen a gweddio, gan Gynrychiolydd Brynbowydd (Mr W. I. Williams). Prif waith y cyfarfod oedd, trafodaeth ar "Yr Ysgol Sa,bbothol fel aDgsnrhaid i fywyd yr eglwys yn cael ei agor gyda phapur galluog gan Gynrychiolydd Bethel (Mr John Willliams;. Yr oedd ei ymdriniad yn glir a chryf dros ben. Yna siaradodd Mri Edward Roberts. Hyfrydfa: Evan Williams, Bethania; W. J. Williams, Brynbowydd; David J. Rowlands, Bethania (Ysgrifenydd y Dcsbarth); Henry Williams, John Hughes, Owen Pughe, T. P. Edwards, a'r Parch John Hughes, o Jerusalem. Terfyn- wyd gan Mr Evan Williams, Bethania. Cyfarfod y prydnawn.—Llywyddwyd gan Mr. John Jones, Fronheulog, Arolygydd Ysgol y Plant, yr hwn a draddadodd anerchiad ar le y plant yn yr Ysgol, a'r gofal ddylid ei gymeryd o honynt i'w cychwyn yn briodol. Datganodd y Plant yn swvnol, achafwyd adroddiad effeith- iol o i. Cor. 13 gan William Roberts, Devon Terrace, ac arweiniwyd mewn gweddi gan Mr D. J. Rowlands, Bethsnia. Wedi cael Unawd swynol gan Maggie Davies, holwyd v Plant gan Miss Liwis, Oxford Terrace, yn Hanes Iesu Grist i'r Plant Yr oedd yr holi a'r ateb yn fywiog ac effeithiol. Adroddodd William Roberts, Yr Iesu a dawodd," yn dda, a dilyn- vsyd ef gydag unawd, "Dagrau'r Iesu," gan Olwen Roberts yn doddedig neillduol. Holi yr ail ran o'r maes llafur gan Miss Lewis. Deuawd prycf rth gan Maggie ac Olwen Roberts, "Crist yn ben." Wedi i'r plant ddatganu, diweddwyd gan Mr. John Williams, Bethel. Cyfarfod y nos.—Llywyddwyd gan Mr. John Williams (Isfryn),. Oxford Street. Dechreu- wyd gan Mr. Edward Roberts, Hyfrydfa. Anerchiad grymus gan y Llywydd. Datganodd Miss Minnie Jones, Fronheulog, Beibl Mawr fy Mam," nes swyno'r holl gynulleidfa. Yr oedd hwn yn ddatganiad effeithiol nodedig. Cyd-ddarllenodd y gynulleidfa yr ail benod yn Mhrophwydoliaethau Amos, a holodd y Parch. John Hughes o'r 6 adnod hyd ddiwedd y benod. Cafwyd holi ftc ateb eithriadol, a chedwid dyddordeb byw o'r dechreu i'r diwedd. Wedi cael deuawd gan Maggie Davies ac Ellin Williams, a phedwarawd gan Miss Pierce a'i chyfeillion, diweddwyd gan Mr Hughes.
Advertising
PWYSIG I YMFUDWYR AC Ymwelwyr a'r America nen unrliyw ran o'r Byd. Y lie goreu i brynu Tocynau i Ymfudo i, neu ymweled ag unrhyw Wlad Dramor, yw gan- W. E. JONES, Tan Lan, Betiwsycced, Gan ei fod yn brofiadol o fywyd yn y Gwled- ydd Tramor, trwy iddo dreulio y rhan oreu o'i oes ynddynt. Y mae yn Orucbwyliwr i'r oil o'r Cwmniau a cheir pob manylion ganddo trwy ei weled yn bersonol, neu trwy ohebu ag ef. Safed pob un ar ei Wadnau ei hun. Yr HEN POST OFFICE, Square, Llanrwst, Dymuna W. H. ROBERTS, Gynt o 1, Willow Street, Hysbysu y Cyhoedd ei fod WEDI AGOR y Masnachdy uchod, JIle mae ganddo STOC 0 ESGIDIAU RHAGOROL. Dyma, heb os nac onibai, y lie GOREU a RHATAF yn Nghymru. Sicrheir,7 gwaith a'r defnyddiau goreu am y prisiau gostyngol isod, gan un sydd wedi cael 13 ft brofiad mewn trwsio a gwneuthur Esgidiau. Caiff pob cwsmer ein sylw personol. Gwadnu a Sodlu Esgidiau i Ddynion, 28 6e. Eto eto i Fechgyn, 2s. Eto eto i Ferched, is 6c. Eto eto Plant, is. i fyny. *Gwarentir y gwaith a'r defnyddiau. D.S.-Trwsir Esgidiau a Clogs tra byddwch yn y dref, neu dantonir hwy. Mae genym Stoc helaeth o CLOGS newydd, ac hefyd rhai all law i'w cynyg am brisiau rhesymol. Cofiwch y Cyfeiriad :— Yr Hen Post Office, Market Squars,Llanrwst. Assembly Rooms, Blaenau Ffestiniog. Cynhelir BUDD GiYNGHERDD yn y He uchod NOS IAU, MAWRTH 17eff, 1S10, pryd y gwasanaethir gan Misses Annie Williams, Maentwrog; Sarah A. Morris; Minnie Jones, Fronheulog; Llinos Dwyryd, Mr Evan R. Evans, Mr J. Tudor Owen, A.R.C.M., ynghyd a Chor Meiblon Bethania, dan arweiniad Mr R. M. Jones, Bronclydwr. Drysau yn agored am 6 30, dechreuir am 7. Yr elw er cynorthwyo y brawd ieuanc John Humphreys, Penygroes, Bethania, at gael coes gelfyddydol. Mynediad i mewn trwy docynau 2/ 1/ a 6ch. "Y Gwir yn erbyn y Byd." Eisteddfod Gadeiriol. Rhosllanerchrugogl Dydd Llun, Gorplienaf- 4, 1910. BARDDONIAETH. Beirniad, Pedrog. Pryddest.—" Morgan Llwyd o Wynedd." Gwobr, £5 a Chadair Dderw hardd. I-rif Draethawd.-Hanesyddol a Beirniadol y diweddar Syr George Osborne Morgan. Beirniad, Parch. T, Shankland, Bangor. PRIF DESTYNAU CERDDOROL. Beirniaid: Mr Dan Price, R.A.M., Llundain, a Mr David Evans, Mus. Bac., Caerdydd. Prif Gorawl.—" Haleliwia i'r Goruchaf" (Beethoven), (b) "How sweet the Moon- light Sleep (D. Emlyn Evans). Gwtbr laf, £ 35; 2il, {5. Corau Meibion.—" Martyrs of the Arena (De Rille). Gwobr laf, £ 20 211, 15. Ail Gorawl.—"Efe a ddaw" (T. Price). Gwobr, £10. Corau Plant.—" Casabianca." (T, P<ice). Gwobr laf, £ 5 5s a Bathodyn i'r Arweinydd; 2il, (2. Action Song. Caller Heriing." Gwobr laf, £ 3 a Bathodyn Arian i bob aelod 2il, £ l. Gwobr Arbenig y Llywydd, S5 5s. Sop-ano-(a) "With Verdure Clad," (Haydn), (b) Ar y Traeth (W. Davies). Contralto—(a) "But the Lord is Mindful" (Mendelssohn). (b) "Bore'r Trydydd Dydd." Tenor—(a) "My hope is in the everlasting" Stainer). (b) Bedd Llewelyn (D. Emlyn Evans) Baritone—(a) "The Lord worketh wonders" (Handel). (b) Yr Ornest (W. Davies). Rhagleni yn cynwys rhestr gyflawn o'r Tes- tynau a'r Amodau i'w cael trwy'r Post- pris, lic. JOSEPH DAVIES, Brook Street, Rhos, J. T. EDWARDS, Brynhyfryd, Ponkey, Ruabon. SALE f WR AR flwyddau Q?«ynf 0 BOB DESGRIFIAD. PRISIAU wed; eu tori fwy na'r haner er mwyn clirio, gars Mrs. Daniel Jones FRONDEG, BETTWSYCOEDO ,r your owit Kooci 0 LA [J I E S send Y°l.lf" OW¡¡ good  H LADIESFree Si..?glie of Sg 1 APIOL if- STEEL PILLS 'Ig pi 'P)lQpe enat! Booklet and Ttnl'. S Sold bi all Che"&"fs 1/1 ? pfr box, ? post free from  Martti, Ltd. 34 DI.l Stoll -1," Be, 0.1 IF YOU from TIC, SUFFER NEURALGIA, mimemim TOOTHACHE, < %?%?'F JTf?t ?fTB?? You may have INSTANT RELIEF by taking a dose of TIC and NEURALGIA MIXTURE. It is a powerful Nerve Tonic, and acts like Magic on Nerve Pains. A DOSE RELIEVES! A BOTTLE CURES! IN BOTTLES, F/- EAOH. Prepared by George R. Jones, DISPENSING CHEMIST & DRUGGIST, APOTHECARIES' HALL, The Square, Lianrwst. YN Y CYNFAL CO=OPERATIVE FFESTINIOG, Golr y Stock Orea o bob math o HwyeSdatu ar gyfer y Chwar- efwr a'r Ffarmwr, YN CYNWYS Hams, Hands, a Bacon Cartref; Blawdiau a Feedings o bob math; Glo, Esgidiau, Siwgr, TE GOREU am 1/4 y pwys. 1 lb. Tins Salmon, 6c. Tatws at eu bwytta, ac at eu planu, rhai cynar a diweddaf. Penderfyniad da at y .Flwyddyn Newydd. Mae arbed arian cystal a'u hettiil. Gallwch arbed 5s. y Bunt trwy brynu PIANO neu ORGAN gan J. BQLLOIEIf, I BANGOR. A Ghofiwfoh tsad yw J. BOLLOTEN,, yn gwerthu dim ond yr Offerynau goreu. Qymorir Hen OfTerynau yn gyf- newieS. Ysgrifsnwch am Gatalogue. Llythyrau a Phellebron— Boiioten, Bangor. "O'R SIABOD I GAERSALEM," sef HANES TAITH 0 DOLWYDDELEN I AC YN NGLWAD CANAAN. I'w gael gan yr AWDWR:— E. C. ROBERTS, V BRYN HYFRYD, DOLWYDDELEN. RTIAD, DYDDOROL, ADEILADOL, CYLCHWYL Lenyddol a Cherddorol EGLWYS ST. MARTHA, TYDDYNGWYN, BLAENAU FFESTINIOG, a gynhelir yn y NEUADD GYNNULL, DYDD SADWRN, EBRILL 9, 1910. Beirniad y Traethawd:-G. J. WILLIAMS, Ysw" Inspector of Mines, Coed Menai, Bangor. Beirniad y Farddoniaeth:-Rev G. LEWIS Llangurig Vicarage, Llanidloes. Beirniad y Gerddoriaeth :—Mr TUDOR OWEN, A.R.C.M., Baritone. Beirniad yr AdroddiadauDJJWI MAI o FJEIR- ION. LLENYDDIAETH. Traethawd, "Hen Deuluoedd Plwyf Ffestin- iog a'u Haneddau.' Gwobr £ 1 Os 0c. Chwe'per)ill wyth llinell colftidwriaethol i'r diweddar Richard Parry Roberts, mab Mr a Mrs John P. Roberts, Tyddyngwyn, yr hwn fu farw yn un mlwydd ar ddeg oed. Gwobr 8s. Pedair penill wyth llinell Y Dioddefaint.' GwobfSs. Adroddiad Araeth Llewelyn," allan o'r Adroddwr. Gwobr 7s 6c. CERDDORIAETH. I'r Cor, heb fod dan 25 mewn nifer, a ddat- gano yn oreu "0 Dduw, rho i'm dy hedd (G. James, A.C., Ferndale). Gwobr X2 Os 0c. 1'1' Cor Meibion heb fod dan 16 mewn nifer a ddatgano yn oreu "Eldorado" (Roland Rogers) Mus Doc, Oxon) Gwobr XI Os Oc, a Medal Ar an canol aur i'r Arweinydd, I'r Cor Plant heb fod dros 16 oed a ddadgano yn oreu "Daw nieddyli-iu am y nefoedd" (E D Lloyd). Gwobr 1:1 a Medal Arian i'r Arwein- ydd Pedwarawd S A T B, Blodeuyn Bach wyf fi mewn gardd (Gwilym Gwent) Gwobr 6s Deuawd Tenor a Bass" Lie treigla'r Caveri (R S Hughes) Gwobr 10s Her Unawd "Craig yr Oesoedd" (J. G. Thomas) neu "There is a green hill" (Gounod) Gwobr 1: 1 Os Oc Unawd Soprano 0 na byddai'n haf o hyd" (W. Davies) Gwobr 6s Unawd Tenor Nant y Mynydd" (W. Davies) Gwobr 6s Unawd Baritone Gwlad fy nghalon" (D. Thomas) Gwobr 6s Unawd i rai heb enill o'r blaen Bwthyn yr Amddifttd" (John Henry). Gwobr 4s Deuawd i rai dan 16 oed, "0 mor hardd yw Iesu Grist." Gwobr 3s. CELFYDDYDWAITH White Calico hand-made Night Dress (also hand made trimmings) Gwobr 8s. Pink Flannelette Night Dress, trimmed with Torchon Lace Gwobr 7s 6c Beirniaid M rs Vaughan Williams, Tanymanod Hall, a Mrs R 0 Davies, The Square White Silk Overall, 30 inches long Gwobr 8/6 Pinafore for a child 3 years old Gwobr 2s 60 Navy blue satin Tea Cosy in crewel work Gwob, 7s 60 Beirniaid Mrs Bow ton, Cartre, a Miss Price, Rectory, Maentwrog Pair of black ribbed Stockings for a girl of 14 Gwotr 3s. Ladies knitted Gloves (black) Gwobr 2s 6a Gents do do (grey) Gwobr 3s 6c Beirniaid Mrs a Miss Hughes, D:essmakers Supply Stores Pâr of Baby's Socks Gwobr Is Beirniad: Mrs Davies, Erwfair Pencil Sketch o unrhyw Rosyn, maint y papur 12 mod x 9 J Gwobr 3s Beirniad Mr Arthur Jones, Manod School Am y Ffon Gollen oreu Gwobr 4s Beirniad Mr John Roberts, Llwyncrai Fretwork Photo Frame, Cabinet size, satin walnut. Gwobr 3s 6c Pencil Sketch "Persondy Tyddyngwyn i blant dan 12 oed, cyfyngedig i Ysgol y Manod Gwobr laf, Is 6c 2il, Is; 3ydd, 6ch B'ilrnidd Mr Evan Griffith, Tanygrisiau Enwau yr Ymgeiswyr ar y Gerddoriaeth a'r Adroddiadau i fod yn ilaw yr Ysgrifenydd ar neu cyn Mawrth 29th, 1910. Yr oil o'r cyfan- soddiadau i fod yn Haw eu priodol Feirniaid ar iieucynmarwth If), 1910 Am bob man) lion pellaeh ynghyda Rhestr gyflawn o'r Testynau, ymofyner a'r Ysgfiierydd: 8, Glanywern. JOHN T. DAVIES, CYNHELIR Y Bedwaredd Gylchwyl Gerddorol a Llenyridol, M.C., Llanbedr, LLUN Y PASG, Mawrth 28, 1910. Llywydd :-J, MORRIS, ESQ., C. C. Lorpw Arweinydd:—R. JONES, Ysw. (Ap Tecwyii Beirniad Cerddorol x J. J. THOMAS, Ysw.. Talsirnau. Ainrvw o'r Testynau yn agored i'r byd. Un- rhyw Unawd £1 Is. Unrhyw Adrodiad a Barddoniaeth ao Englynion. Pob manylion i'w cael oddiwrth yr Ysgrifenydd GLYN VILLA. ELLIS JONES, 1 N?e?dh?!ia?ess?Be!ts yourself is q-,iite s;ynple if you use N B!SRCmO"  i Ri??t? id b(???d back the f¡íIf,;ta'I for.nox assorted to Bifurcated 'k un Tubu1ar Ri??t C. Ltd., 35U pper Thames  Price List on application.