Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

NODIADAU WYTHNOSOL

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL PENDERFYNIAD Y LLYWODRAETH. Erbyn diwedd yr wythnos yr oedd yn ddigon amlwg nad oedd adran gref iawn o'r Rhyddfrydwyr, na Phlaid Llafur, na'r Blaid W yddelig yn cael eu boddloni yn y cwrs a fwriadai y Llywodraeth ei gymeryd yn ol geiriau y Prifweinidog yn y ddadl ar araeth y Brenin. Dangosasant oil fod yn rhaid i'r Llywodraeth, fel y caffai eu cefnogaeth, wneyd dau beth. Mvnant iddi, yn gyntaf, gymeryd cwestiwn Ty'r Arglwyddi mewn llaw cyn ail-ymaflyd yn y Gyllideb; a myn- ant iddi, vn yr ail le, gymeryd camrau i fwystro Ty'r Arglwyddi rhag taflu allan fesurau wedi eu pasio gan Dy'r Cyffredin, cyn dwyn ym mlaen fesurau i newid cyfan- soddiad neu ddrwygro Ty'r Arglwyddi. Cofir mai yr unig gasgliad y gallesid ei dyuu oddiwrth Araeth y Brenin a sylwadau Mr Asquith ami, oedd fod gan y Llywod- raeth fwriad i gwtogi awdurdod ac i newid cyfansoddiad Ty'r Arglwyddi yr un pryd. Ddyddiau olaf yr wythnos, cyfarfu y Cyfrin- gylch drosodd a throsodd drachefn, ac ym- welodd y Prifweinidog a'r Brenin, ac aml- haodd haeriadau fod y Weinyddiaeth wedi ymranu yn ddwy garfan, a bod rhai o'i haelodau pwysicaf-Syr Edward Grey yn eu plith-ar, os nad wedi, ymddiswyddo. Edrychid ym mlaen fyn bryderus iawn at ddydd Llun, gan y disgwylid i'r Prifwein- idog hysbysu psnderfyniad y Llywodraeth. Gwnaeth hyny, a bu'r hyn a ddywedodd, ac yn enwedig vr hyn a chwanegwyd gan Ganghellor y Trysorlys, yi-r eff eithiol i glirio'r awyr i fesur helaeth iawn. Wedi i Mr Asquith gynyg penderfyniad fod holl amser y Ty, o hyny i'r 24ain cyfisol, i gael ei roddi i'r Llywodraeth er mwyn gwneyd trefniadau arianol ag y mae yn rhaid eu gwneyd erqyn y dydd hwnw, dywedodd y byddai iddo y dydd hwnw gynyg gohirio'r Ty (dros Wyl y Pasg) hyd ddydd Iau, y dydd olaf o'r mis preseno!. Hysbysodd y bydd i'r Llywod- raeth, gynted yr ad-gyferfydd y Ty, ddwyn ym mlatn ychydig o benderfyniadau byrion a chlir i ddeffinio hawliau Ty'r Arglwyddi. Gofynir yn y penderfyniadau hyny i Dy'r Cyffredin ddywedyd nad oes gan Dy'r Ar- glwyddi hawl i gyffwrdd a mesurau arianol, ac nad yw o hyn allani rwystro mesur wedi ei basio gan Dy'r Cyffredin rhag cael ei osod ar ddeddflyfr y wlad cyn dadgorphoriad y senedd hono. Dywedodd ym mhellach yr anfoniry penderfyniadau hyny yn ddiymdroi i Dy'r Arglwyddi. Os cymeradwyir hwy ganddo, da; onide, bydd i'r Llywodraeth arfer, hyd yn eithaf, bob gallu cyfansodd- sadci sydd ganddi i chwanegu at gyfreith- iau'r deyrnas gyfraith vn cynwys y pender- fyniadau a enwyd, a sefyll neu syrthio gyda'i hymdrech. Y flwyddyn nesaf, dygir ymlaen Sesur i sefydlu ail Dy Seiiedd,ol ddemocrat- aidd yn lie Ty'r Arglwyddi sydd yn etifeddol. Dyma swm a sylwedd araeth y Prifwein- idog ar yr hon y gwrandawodd Ty liawn iawn gydag astudrwydd nodedig.

ARAETH MR. REDMOND.

LLAWGAIR CANGHELLOR Y TRYS-…

ETHOLIADAU.

DAU ARGLWYDD NEWYDD..

BLAENAU FFESTINIOG.-

CYNGOR PLWYF PENRHI NDEU-DRAETH.

^VVVVWVVVVWVVVV WVV VVWV VV\…

PEMtkHYMDEUBRAETH.

BEDDGELERT.