Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
DEIGRYN HIRAETH
DEIGRYN HIRAETH Am fy niwedcjiu: gyfaill Mr Johnie Owen, Manod View, Blaenan Ffestiniog. Anhawdd heddyw yn fy nagrau- Tra mae hiraeth dan fy mron, Ydyw canu cof linellao Am fy anwyl gyfaill John; Bachgen tawel, gwylaidd ydoedd, Wyddai werth cymeriad da, Prydferth ydoedd ei weithredoedd Fel y gwlith at flodeu'r ha'. Gwelais ef a' j serchog deulu Yn fEarwelio ger y ddor. Pan yr ydoedd yn gwyneba Toa'r fordaith ar y mor; A'i gyfeillion wnaent ffarwelio Gydag ef gan gyfarch gwell," Gan ddymuno arno frysio Adre'n 01 o'i fordaith bell. Ond daeth newydd dros y tonau (Ar foreuddydd Sabbath Duw), Yn mynegi na ddoi adre' I'w gartrefle eto'n fyw O'r fath Sabbath daeth a hiraeth. Er i'r blodau wenu'n iach, Pan y clywais am farwolaeth Yr addfwynaf Johnnie bach. Pan yr oedd ei nerth yn cilio Gyda dagrau'n lliwio'i rudd, Carai adrodd 'radeg hono Hen emynau beirdd y ffydd; Er na chafodd gwmni'i deula Yn ei oriau olaf trist, Melus yn yr oriau hyny Ydoedd cwmni lesu Grist. 1, # J. w. JONES. J
COF LINELLAUIi
COF LINELLAU Cyflwynedig i Mr a Mrs David E. Jones, 7, New Market Square, Blaenau Ffestiniog ar farwolaeth eu hanwyl fab George. Awyr las ddigwmwl ydoedd Boreu oes eicb bywyd gwyn, Ami oeddynt eich gobeithion Nes daeth cysgod oer y glyn; Ond yn sydyn wele gwmwl Profedigaeth yn nesau; Ac fe'ch daliwyd gan y 'storm- Dafnau'r gawod sy'n trymhan, p Cawsoch oes oedd lawn gondiau, \< 0 bryderon ba yn Hawn,  Gwelsoch fynych agor beddau ?— lanwyHaidtyneriawn. Priddo George yn hoender bywyd, Pan nad oedd ond deunaw oed, Dyma'r brofeligaeth lemaf- Dyma'r ddyrnod fwya' erioed; Haul ei fywyd a fachludodd Gyda rhyw sydynrwydd dwys, Anhawdd ydyw sjrlweddcli Ei fod hsddyw din y gwys. Tynodd sylw ei gydnabod Pan oedd ef yn iemngc iawn, Meddai ysbryd boneddifaidd, Meddai ar ddyddorol ddawn; Trwy ei siriol gyfarchiadau Tynu sylw'n fynych wnaeth, Yr oedd rhyw ddieithrwch rhyfedd Yn ei ymadroddionlEfraeth. Bachgen tyner iawn ei ysbryd Ydoedd, meddailr fron ddifrad,  Pan yn nghwmni ei gyfoedion | | Fe'u cynghorai megis hd; Gallai gadw cwmni'n ddifyr A'i syniadau pert a byw, A ddisgynent megys perlau i Yr athronydd ar eu clyw. Gwelsom ddeigryn yn ei lygad Pan yn cwrdd a'r t'lotyn llwm, Rhoddai gymorth i'r methedig Pan y teimlai'i faich yn drwm; Yn ei wen ddeniadol serchog A'i gyfarchiad gwresog iawn, Teimlwn rhyw addfedrwydd rhyfedd I Yn ei ddoeth frawddegau llawn. Diddan ydoedd ar yr aelwyd— Dwfn yn serch ei fam a'i dad, Anhawdd peidio ocheneidio Gan yr hiraeth a'r tristhad Oedd ganolbwynt serch y tenia. ) Hoffai pawb ei gwmni cun, ) Addfwyn oedd a'i air caredig I Ro'i sirioldeb i bob UD. Tra chwareuai a'i gyfoedion Ar y maes fel ewig lion, ] Daeth i gwrdd a damwain boenus Ddygodd friw i lawer bron Byr fn'i oes a byr fu'i gystudd, Ond nid byr fydd ei fwynhad, Chwery mewn tragwyddol hoender Ar lechweddau'r Ganaan wlad. BARLWYDON. 1
.j tP, SERCHOG GOFFADWRIAETHI
j tP, SERCHOG GOFFADWRIAETH I Sarah Ellen Jones, anwyl briod William |Ooes, Bryn-y-Neuadd Cottage. Llanfair- Ochan, yr hon a fu farw Ionawr 26, 1909. Wylo 'rydym wedi colli Un oedd anwyl genym ni, Angau ddaeth fel rhyw yspeifiwr, Yn y nos i'w cbeisio hi; Ond mor felus ydyw cofio R^ai cenad oedd i'r lesu gwiw, Er ei dwyn e'r byd helbulus Ato Ef i fythol fyw. ( Wedi dioddef hir gystuddiau A thrallodion fwy na mwy, Heddyw mae uwchlaw gofidiau- Wedi cefnu ar bob clwy'; Hi ddtbepodd, do, ei gyrfa Pan yn nghanol blodau'i hoes, F-to'i gyd hi brofadd donau jGarw fyd a'i chwerw loes. Yn mis Ionawr yr ehedodd Am ei chsrtref yn y nef, Heddyw mae yn tanu'r anthem, Fry yn Salem Iddo Ef <. Ninau, mwyach ni raid wylo Am ei bod mewn bro mor bur, O dan aden dyner Iesu, Yno ni chaiff brofi cor. Er daw hiraeth i'n gorchfygu Nawr ac eilwaith, lawer pryd, Am ein chwaer sydd wedi cefnu Am y ddedwydd Ganaan Ilyd, Ond ymostwng raid yn dawel I Ben Llywvddmawr y byd, Fe sy'n ffrwyno'r don a'r awel— Rhown eingofal Iddo'i gyd. I H. JONES (HUWCO MAWRTH), Llanfairfechan.
Advertising
CYLCHWYL Lenyddol a Cherddorol Nazareth, Penrhyndendraeth, yr hon a gynhelir RHAGFYR 24ain a'r 25ain, 1909. Beirniad Cerddorol: I Dr. J. LLOYD WILLIAMS, University College of North Wales, Bangor. Beimiad yr Adroddiadau: LLEW TEGID. RHESTR O'R TESTYNAU. BARDDONIAETH. Chwe' Phenill wyth llioell coffadwriaethol am y diweddar Joseph L. Williams, Bryn- ffynon. Gwobr, 15/ Englyn, Yr Awyrlong (Airship). Gwobr, 2/6. CERDDORIAETH. I'r Cor heb fod dan 25ain mewn nifer, a gano yn oreu Bryn Catfaria" (J. H. Roberts). Gwobr, £ 5 5s. a 15/- i'r Arweinydd. Parti Meibion, 12 mewn nifer, a gano yn oreu Toriad y Dydd" a Codiad yr Ehed- ydd (trefniad Dr. Rogers). Gwobr, £ l 10s. a Baton i'r Arweinydd. Parti o 16eg mewn nifer, a gano yn oreu y Don Wilton Square," rhif 197 yn Llyfr Tonau M.C., ar yr Emyn 448; a'r Don Latchford," rhif 446, ar yr Emyn 5 (dau benill). Gwobr, £ l 10s. a Pair of Silver Mounted Salt Cellars i'r Arweinydd, I'r Cor Plant heb fod dan 16eg na thros 25ain mewn nifer, dan 16eg oed, a gano yn oren Clychau'n Cano" (J. Evans, Cynog- fab.") Gwobr, £ l 5s. a Silver Mounted Walk- ing Stick i'r Arweinydd. Pedwarawd, Y Rhosynau (E. D. Lloyd). Gwobr, 12/ Deuawd, "Y Ddau Arwr" (W. Davies). Gwobr, 10/ Unawd Soprano neu Contralto, "Mab Afrad- ton" (Osborne Roberts). Gwobr, 10/6. Unawd Tenor, "Bpreu'r Trydydd Dydd" (E. D. Lloyd). Gwobr, 10/6. Unawd Baritone, Bedd Glyndwr (W. O. Jones). Gwobr, 10/6. ADRODDIADAU. I rai uwchlaw 20ain oed, Rhan o Ddinistr Jerusalem" (Eben Fardd). (Gwel Rhestr y Testynau). Gwobr, 10/6. I rai rhwng 15ep ac 20ain oed, Rhagorfraint y Gweithiwr." Gwobr, 6/ Rhestr gyfiawn o'r Testynau i'w cael ond anfon stamped addressed envelope i un o'r Ysgrifenyddion:— Mr. J. M. JONES, Mount Hazel. Mr. R. G. GLYNNE, Green Hill. YN AWR YN BAROD. CANRIF 0 HANES: SEF HANES YR ACHOS METHODIST- AIDD IN NHANYGRISIAU, GAN DAVlD OWEN HUGHES DOLAFON, TANYGRlSIAU. Pris. mewn llian, Is. 6c.; amlen, Is. Drwy y XJythyrdy 2g. yn ychwanegol. I'W CAEL GAN YR AWDWR. PRIS SWLLT. GOREU DAFAD DAFAD WEDI DIPID. GOREU DIP-DIPS Ceorjfe Ri Jones, CHEMIST, The Square, Llanrwst. CEDWIR POD CYFLAWNDER 0 COOPER, MC'DOUGALL, HIGHLAND, BATTLES, &c. Pob math o ddefnyddian Ysgrifenn i'w cael yn Shop y 1 Rhedegydd." CYFARFOD LLENYDDOL HYFRYDFA (A.), BL. FFESTINIOG, a gynhelir Nosweithlau GWENER a SADWRN, Ionawr 28 a'r 29ain, 1910. BEIRNIAD Y GERDDORIAETH Mr. J. J. THOMAS, Talsamau. BEIRNIAD Y FARDDONIAETH A'R ADRODDIADAU: DEWI MAI 0 FEIRION, Blaenau Ffestiniog. CYFEILYDD F. P. DODD, Ysw., M.A., Yr YBgol Sir. TESTYNAU AGORED I'R BYD. Barddoniaeth. 1 Cywydd, heb fod dros 40ain llinell, Hyfrydweh yr Hydref." Gwobr 7s 6c. 2 Eaglyn, Cawell y Pysgodwr.' Gwobr Is 6c. 3 Emyn (dau benill ar unrhyw fesur.). Gwobr Is ec. 4 Chwe* phenill, 01 Perllan." Gwobr 3s. Traethodau. 5 Prif draethawd, Ymddygladac agwedd iad Ymherodraeth Rhufain tuag at yr Iddewon a'r Cristionogion hyd ddinistr Jerusalem." Gwobr 7s 6c. 6 Traethawd i ferched Cliweeh o Arwresau Cymru." Gwobr 4s. Beirniad Y 'Parch. Thomas Griffith, Benar View, Blaenau Ffestiniog. Adroddiadau. 7 Prif Adroddiad, Y Diwedd" (J. T. Job.). Gwobr 7s 6e. 8 Adroddiad i rai dan ddeunaw bed Bardd a Blodeuyn" (Eifion Wyn.). Gwobr 3s 6c. Cerddoriaeth. 9 I'r Parti Cymysg heb fod dan 16 na thros 25ain mewn nifer a ddatgano yn oreu, Ar lan'r Iorddonen ddofn" (Gabriel). Gwobr £ 1 fis Oc. 10 Cor Plant o un gynulleidfa, 16 mewn nifer, heb fod dros 16eg oed, Daw meddyliau am y Nefoedd (E. D. Lloyd). Gwobr 8s. 11 Unawd i rai heb enill 7s 6e yn flaenorol, Telynau'r Saint" (W. O. Jones.). Gwobr 7s 6c. 12 Pedwarawd Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd (Gwilym Gwent.). Gwobr 6s. 13 Unawd i Unrhyw Jais, "Can y Preseb" (Osborne Roberts). Gwobr 15s. 14 Unrhyw Ddeuawd. Gwobr 6s. 15 Deuawd i .blant dan 16eg oed" Cymanfa'r Plant" (allan o raglen Cymanfa Plant yr Annibynwyr 1907). Gwobr 3s. 16 Wythawd i feibion The Lord is a man of war (Handel.). Gwobr 12s. 17 Chwareu air yr Harmonium i rai dan 14eg oed, Mendelssohn's Christmas Pieces not." Gwobr 3s. 18 Canu ton i rai dros 55ain oedd Bryniau Cassia" ar y geiriau U Trugaredd drefnodd Geidwad." Gwobr 2s 6c. Amrywiaeth. 19 Lady's night dress (calico hand made trimming). Gwobr 7s 6c. 20 Cambric Overall i blentyn (30 modfedd o hyd.). Gwobr 3s. Beirnisid Mrs. W. W. Williams, Caegwyn Stores a Mrs. E. Gabriel Jones, Crochet, Manod Road. 21 Tea Cosy (quiet colours moderate size.). Gwobr 3s 6e. 2B Table Centre. Gwobr 5s. Beisniaid: Miss Jones, Manod Infants' School, a Mrs. Evan James Jones, Tyddyngwyn Terrace. 23 Am y par o hosanati duon plaen i ddynes. Gwobr is 6e. Beirniad: Mrs. Ann Ellis, Glan Eiddion, Manod Road. 24 Par o fenyg gweuedig i ddyn. Gwobr 3s. Beirniad Mrs. Jones, Tyddyngwyn Vicerage. 25 Am y ffon gollen trith oreu, bagl plaen. Gwobr 4s. Beirniad Mr. Edward Rowlands, Hendreddu. 26 Baby's Crochet Peticoat. Gwobr 3s 6c.. Beirniad Miss Hughes, Dressmakers Supply Stores, Manod Road. Bydd goreuon rhif 19—26 yn eiddo rhoddwyr y gwobrwyon. Y cyfansoddjadau i fod yn llaw eu priodol feirniaid ar neu cyn Ionawr 15fed, ac enwau yr ymgeiswyr ar y Gerddoriaeth a'r Adroddiadau i fodyn Haw yr Ysgrifenydd erbyn Ionawr 25ain1910. Gellir cael rhestr gyflawn o'r Testynau yn cynwys copi o'r Adroddiadau, Amodau, &c., oddiwrth yr Ysgrifenydd ar daliad y cludiad. Tanybwlch, Manod. J. W. THOMAS. "CYFRAITH Y TY," sef CYFROL 0 BREGETHAU gan Y Diweddar William Roberts, Maentwrog, j ynghyda Darlun o'r Awdwr. PBHS SWLLT NEU WYTH SWLLT Y DWSIN. Anloner yr Arcbebion i'r- Parch. T. GWILYM ROBERTS, Eglwysbach Villa, Talycafn, R.S.O. LLYGAID DOLURUS. ELI AMFFAELEDia BLAENAU FFESTINIOG. Yr wyf yn diolch yn fawr am yr hyn a wnaeth eich ELI i mi. Y mae yn werth i ddweyd yn dda am dano." Mr. ———— Pris ac. drwy y post. Canoedd o dystiol- aethau o Gymra a Lloegr. JOHN NUGHE8, Chemist, Castle House, Holyhead. Safed pob un ar ei Wadnau ei hun. Yr HEN POST OFFICE, Square, Llanrwst, Dymuna W. H. ROBERTS, Gynt o 1, Willow Street, Hysbysu y Cyhoedd ei fod WEDI AGOR y Masnachdy uchod, He mae ganddo STOC 0 ESGIDIAU RHAGOROL. Dyma, heb os nac onibai, y He GOREU a RHATAF yn Nghymru. Sicrheir y gwaith a'r defnyddiau goreu am y prisiau gostyngol isod, ganun sydd wedi cael 13 mlynedd o brofiad mewn trwsio a gwneuthur Esgidiau. Caiff pob cwsmer ein sylw personol. Gwadnu a Sodlu Esgidiau i Ddynion, 2s Be. Eto eto i Fechøn, 2s. Eto *to i p?rch?d, -,l.8c..<" Eto -? eto Plant, 1s, i fyny. Gwarentir y gwaith a'r defnyddiau. D.S.-Trwsir Esgidiau a Clogs tra byddwch yn y dref, neu danironir hwy. Mae genym Stoc helaeth o CLOGS newydd, ac hefyd rhai ail low i'w cynyg am brisiau rhesymol. Cofiwch y Cyfeiriad:— Yr Hen Post Office, Market Squars, Llanrwst. The CVCLIMC SEASON. NOTE THIS H. R. GRIFFITH. PRACTICAL PLUMBER & (USFITTER High Street, Blaenau Ffestiniog, SUPPLIES ALL THE BEST MAKES BICYCLES. Sole Agent for the unrivalled. RAGLAN & NEW HUDSON BICYCLES. ( All Cycle Accessories kept In Stock. PLUMBING and GASFITTING of every description executed in the best way, and at most moderate charges. H. R. GRIFFITH, Plumber & (lasfittertfligh Street, Bl. Ffestiniog. EVANS & CO., Plumbers and Cycle Engineers, 13, Station Road, Llanrwst. We keep all the best Cycles and Acces- R sories at the very lowest possible prices CYCLES on the Easy Payment System from 2s. per week ALSO. We do all kinds of Plumbing Work, Moti Water and Sanitary Engineering, all kinds of repairs to Lamps, Cans and all similar articles. ALL DONE BY EXPERIENCED MEN ON THE PREMISES. NOTE THE ADDRESS:- Evans & Co., 13, Station Road, Llanrwst. Girdiau Coffa Detholiad o'r Cardiau mwyat destlus o ran patrymau, a mwyaf rhesymol o ran pris i'w cael yn Swyddfa'r Rhedegydd. JOHN EDWARDS, 2, PORKINGTON PLACE, (Next Door to Post Office), HARLECH. Dealer in on Lamps, Hardware, Tinwarel Brooms, Brushes, Galvanized Goods, Door Mats, Matting, Mangles, Bedsteads & Bedding. Agents for Jones' Sewing Machine. Also Shell Motor Spirits and Lubricating Oils. Cycle Agent to the Leading Firms. I b