Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.
HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG. Campiau ynfyd Hogia'r Llan. J)ydd Iau, o flaen Dr R. Roberts (Cadeirydd), William Owen, J, Vaughan Williams a D. Tegid Jones, Ysweiniaid. Dan Waeddwr o Bangor. J Yr Heddgeidwad Owen Jones a gyhuddodd lftft Hogan, a James, ei fab, dau Gylch- ™erthwr o Glanadda, Bangor, o droseddu "Cddfau y Sir trwy waeddi yn Ffestiniog Medi ties peri anghysur i'r trigolion. Gwaeddant jfyny ac i lawr y lie, Fala! Eirin Penwaig!" lies cynhyrfu yr holl bentref, o saith hyd naw r nps, a herient fod ganddynt hawl i wneyd •tyny.—Ni ymddangosodd yr un o'r ddau, ond Yr oedd Hogan yr hynaf, wedi anfon llythyr yn jjywedyd fod y gost yn rhy fawr i ddod yr bOll ffordd o Bangor i ateb y wys. Ni wnaeth ef a'i fab ddim ond' gwaeddi "Plums I" fel yr arferent mewn manau eraill, a synent eu bod 7n cael eu gwysio ond os dirwyid hwy gobeith- t na byddai y Faingc yn galed arnynt.—Mr Ornas Jones, Clochydd, a Mr Thomas Parry, Cyn-heddgeid wad. a dystiasant na chlywsant trioed y fath waeddi, a bod y ddau yn peei li^nyddwcb mawr i'r holl drigolion.-Y Clerc roll sydd eisiau o dan y Deddfau hyn yw, i rjwun o'r trigolion ddod yn mlaen i dystio :d y twrw a wneir yn peri anghysur iddynt. lXlae y clychau llefrith sydd ar hyd y lie yn gasbeth yr un fath."—Dirwy swllt yr un, a 1- yr un o gostau. Tadogi. Ir oodd Ann Ellis, Brongadair, Manod Rd., r&enau wedi gwysio Thomas CharlesWilliams. ?bert Street, Abercynon, i gael archeb yn ei byn i dalu at fagu i phlentyn anghyfreithlon,  gan nad ymddangosndd yr un o honynt yn 1 -?ys, croeswyd yr achos allan. Cadw Cwn heb Drwydded. Yr Heddgeidwad Robert E. Davies, Tan-y- ip siau, a gyhuddodd Hannah Jones, Yard, y anygrisiau o gadw dau o gwn heb drwydded. Swyddog a ddywedodd mai gwraig weddw 4dd y Ddiffynyddes, ac mai Daiargwn oedd y hen ast a chi tua blwydd oed. Mewn tfebiad i holiadau pellach dywedodd nad oedd o cwo yn cael eu cadw i herwhela o dan esgus £ Od yn fenthyg i ladd llygod neu rhywbeth y. En cadw i'w hanwesuyr oedd.-Cad- dd, Pa le mae y Ddiffynyddes ?"—Swydd- JJj*" Dydwi ddim yn meddwl ei bod hi byth Codi tan ar ol amser cinio (chwerthin)."— .?eirydd, A ydyw hi yn hen ?"—Swyddog, "?8 ydyw ddim mor hen a hyny."—Cadeir- '?' Teimlad y Faingc ydyw rhoddi gwarant pr1 ei bod heb ddod yma i ateb i'r wys. Clerc allech ddarfod a'r peth beddyw gan 11 Y ffeithiau yn ddigon amiwg?"—Cadeirydd. 04 r goreu. Haner coron a'r costau: 10/- ?y'r on." I Campiau GwaDgof Ho?iau'r Llan. ?f Heddgeidwad Jenkin Morgans, a gyhudd-  Humphrey Jones, Labrwr, Bodhyfryd, Jestiniog, a David JoneStChwareIwr. Station '?d, Ffestiniog, o ddau drosedd difrifol, sef, 4tal tramwyfa ar y brif-ffordd rhwng Congly- w4t a Ffestiniog trwy ddodi darn o bren a raeinl mawrion ar ganol y ffordd, ac o daflu d4rr' 0 wal y brif-ffordd wrth Bont y Pandy, 4'IOS Sadwrn, Medi 25. Yr oedd.y niwed ?drrwatyn3/6 » CYhUddwyd y ddau yn mheHach, gan Mr. ) ? Williams, Glynllifon Street. Blaenau, o 11l1idiart ei gae, gan achosi niwed gwerth ^e' swllt, ar yr un noson. rOfwyd yr achos gan yr Heddgeidwaid J. eargan, Owen Jones, ac Ernest Davies, Adwy QOch. wrth yr hwn y cyfaddefodd Humphreys lQ iddynt wneyd y campiau ffol y cyhuddid ?' 0 honynt, a Willia? Arenig Hughes a  iddo weled y coed a'r cerig ar ganol y Ordd y rhai a symudodd i'r ochr ond y cerrig jj^ynt yn rhy drymion iddo allu eu symud ei t'laan Tystiodd John Williams am werth y trjlled wnaed i'w Jidiart.-Addefodd y ddau th Yzgddynt y troseddau. Addefasant yn li "D wrth yr Heddgeidwad Jones, ac mewn r,Od yr oeddynt ar y pryd.—Y Faingc a ystyr- %tY trosedd yn un gwallgofus a difrifol, a WYwyd hwy 5/- yr un ar bob un o'r cyhudd- 15/- yr un o ddirwyon, gyda ?2 14s 6c ?staa. ?3 9s 6c trwy'r oUt neu ddau fis o & ckar. Talasant ddwy bunt yr un, a a.sant amser i dalu y gweddill. ?eldio y PeHebron: Hoglau'r Llan eto. ))??''y Goulboume, Llinellwr Pellebrol yn ))?sanaeth y Postfeistr Cyftredinol, a gy- 4dadd Prys Jones, Brynllech Farm, Ffestin- la'if John Davies, 12, Pantllwyd, Ffestiniog, ? niweidiau maleusus i offerynau pellebru Li ?odraeth ar ochr y brif-ffordd o'r Bala i ?sttniog???Qg Pontyrafon Gam a Pantllwyd ?Wst 23. Dau langc tua ugain oed oedd y ^yddion,—Tystiodd yr Erlynydd. a'i y c-sWYddog i bump o'r potiau ydynt ya dal 1 gwifrau peUe?ru gael en tori ar y dyddiad ? ?' Yr oedd y prif-wifrau rhwng Llundain ?..?erddon ar y pyst He torwyd y potiau, a (^j^ll ai canlyniadau difrifol iawn ddigwydd i ?ydau, heb son am fod y cenadwriaethau ?ki 'Olaid ar hyd y gwffrau yn agored i gael eu h,,A4t1. Costiodd y cwpanau a dorwyd at y ??° o'r ffordd,-cynifer a 59 mewn deu- 0,19 mis, y swm o ?1 4s. Oc. heb'son am y  ??? a'r amser i ddodi rhai yn eu lie. Yr %dd Y ddirwy am dori un o'r cwpanau hyn yn h4r4 Punt, ac felly gallai y Faingc ddirwyo y 44 Ddiffynydd i .?25 yr un. a'r costau.- ?<? ?'odd y ddau y trosedd, ac mai eu tori a 'l,thant trwy eu cymeryd yn gocyn 'nelu." C-D,deirydd, Yr ydych icb dau wedi dwyn ??ch ?Qain i !e difrifol trwy chwareu ffol fel oli? t "? wybod eu bod yn gwneyd drwg. Y ? ? elch trosedd yn un o'r rhai difrifoiaf, end  fuoch 0 ??s° y Faing-?lerioed o'r Maen Yd7r4 yn eich dirwyo i ddeg swllt yr un, a'r Cymerwch hyn yn wers at y dy?odol." !( Achos Ffieidd-dod. Qeorge Davies, Arolygydd Iechydol y Cju Mr Dinesig, a gyhuddodd Ellen Williams, morwyn Mr John Williams, 5, Glynllifon Street, a Mrs Ellen Williams, ei Meistres, o achosi ffieidd-dod er anghysur a pherygl i'r cyhoedd trwy daflu bwyd moch llygredig i afon Bowydd wrth ochr y Ffordd Newydd, Medi 29, a thrwy hyny drosedda Adran 47 o Ddeddf Iechyd, 1890.—Ymddangosodd Mr R. O. Jones i erlyn ar ran y Cyngor Dinesig. Yr oedd Mri W. J. Penny a R. J. Jones wedi anfon cwyn i'r Cyngor am y peth, a thystiodd Mr G, Davies fod yr arogl yn ffiaidd a pheryg- lus i iechyd y rhai oedd yn ymyl neu yn pasio heibio. Costiodd 5/- am lanhau y lie a'i ddi- heintio, a bu y dyn a wnaeth y gwaith yn cwyno ar ol hyny oddiwrth effeithiau drwg yr arogl. Addefodd Mrs Williams mai hi anfon- odd y forwyn i daflu y bwyd i'r afon am ei fod wedi suro. ac ni wyddai ei bod yn troseddu wrth wneyd hyny.—Y Clerc a ddywedodd eu bod yn peidio dirwyo yn yr achos am mai hwn oedd y tro cyntaf i gwrs o'r fath gael ei gym- eryd. (Wrth Mrs Williams), "Yr ydym yn peidio'ch ffeinio y tro yma, ac yn gorchymyn i chwi dalu 8/6 o gostau, ac yn gollwng y forwyn heb dalu.Mr R. O. Jones, "Y mae eich dedfryd yn afresymol. Dyma achos wedi ei brofi yn erbyn y ddwy o beryglu iechyd y cyhoedd, a chwithau yn gwrthod dirwyo, na gorchymyn i'r costau gael eu talu. Ai y trethdalwyr sydd i dalu am amddiffyn iechyd y cyhoedd ?"-Cadeirydd, "le."—'Mr R. O. Jones, Hynod iawn."
DAM WAIN HYNOD YN CHWAREL…
DAM WAIN HYNOD YN CHWAREL FOtY A BOWYpD. I YR ANGEN AM YSBYTTY YN I BLAENAU FFESTINIOG. Boreu ddydd Gwener, yn Ysgoldy Capel Brynbowydd, Blaenau Ffestiniog, o flaen Mr. R. O. Jones, a deuddeg o Reithwyr i'r rhai yr oedd Mr. J. R. Evans, Ironmonger, High Street, yn Flaenor, cynhaliwyd trengholiad ar gorph Griffith Griffiths, 8, Ynys Terrace, Blaenau, yr hwn a fu farw yn nhy ei fab yn Dorfil Street, chwarter i haner y nos Hydref 13. Cynrychiolid y Llywodraeth gan Mr. G. J. Williams, F.G.S Arolygydd y Llywod- raeth, Y Teulu gan Mr. D. White Phillips, a Chwmni Chwarel Foty a Bowydd gan y Prif Oruchwyliwr, Mr. J. Lloyd Jones (Hynaf.) Mr. William Lewis Griffith, 28, Dorfil Street, a dystiodd ei fod yn fab i'r trangcedig, yr hwn a ddychwelodd I w dy, wedi anafu ei ben yn Chwarel Foty a Bowydd, nos Iau, Hydref 7. Gwnaeth y meddygon lawfeddygiaeth arno, a buont yn ofalus iawn am dano hyd ei farwol- aeth nos Fercher ychydig cyn haner y nos. Yr oedd tua 62 mlwydd oed, ac yn gweithio yn Chwarel Foty a Bowydd fel irwr gwageni. Mr. Morris Jones, Diphwys Terrace a ddy- wedodd ei fod yn ymyl y trangcedig pan ddig- wyddodd damwain iddo. Yr oedd dwy wagen yn sefyll, a thair arall yn cael ea tynu yn araf atynt gan geffyl. Yr oedd cyswllt (coupling) hir yn bachu y gwageni wrth eu gilydd er mwyn iddynt allu dod trwy y trofeydd, ac am fod maen mawr ar un o honynt. Cyn i'r gwageni hollol sefyll bu i'r trangcedig fyned i dynu y cyswllt hir i ddodi un byr yn ei le er mwyn cael y gwageni yn gymwys i'w dodi ar yr incline, a thra yn y weithred gwasgwyd ei ben rhwng y ddwy wagen.—Mewn atebiad i Mr. Williams dywedodd y tysty buasai yn well, pe gadewsid i'r gwageni sefyll cyn ymyraeth a'r cyswllt, ond nid oeddynt yn gwneyd hyny bob amser yn enwedig os byddai brys arnynt. Yr oedd yn rhaid newid y cyswllt hir, ac yr oedd yn rhan o waith y trangcedig i'w gynorth- wyo ef pan na byddai eisiau iro y gwageni.— Mewn atebiad i Mr. Phillips dywedodd y tyst yr arferai y trangcedig gynorthwyo gyda gwaith arall yn y chwarel pan fyddai wedi gorphen ei waith ei hun o iro y gwageni. Dr. Richard Jones a ddywedodd ei fod yn adwaen y trangcedig yn dda. Deallodd iddo gerdded ar ol y ddamwain i lawr i'w è_y yn Ynys Terrace fel pe na buasai dim arno, ac wedi ymolchi a newid ei ddillad daeth i'r Feddygfa, wrth ei archwilio gwelodd fod archoll ar ochr chwith ei ben tua thair mod- fedd o hyd ac at yr asgwrn. Yn uwch i fyny yr oedd asgwrn y pen wedi cracio a'i falu. Cyfarwyddodd ef i fyned adref, ac aeth yntau yno, ond gwelodd-nad oedd y ty yn gymwys i wneyd 11awfeddygiaeth arno gan fod y lie mor fychan. Yr oedd ystafeU wag yn nhy y mab yn Dorfil Street, a dodwyd gwely yn hono, a bu iddo ef a'i bartner Dr. Williams a meddyg arall wneyd llawfeddygiaeth arno, a thynasant wyth neu naw darn o esgyrn o'i ymenydd. Yr oedd yr asgwrn wedi ei falu yn y lie cryfaf arno a rhaid fod grym mawr yn yr ergyd a gafodd i'w dori. Yr oedd yr achos hwn yn un oedd yn eglur ddangos unwaith eto yr angen oedd am Ysbytty i dderbyn rhai wedi anafu fel y byddai pobpeth yn hwylus wrth law i wneyd llawfeddygiaeth, Nid oedd dim anfantais wedi digwydd yn yr achos hwn felagi brysuro ei farwolaeth gan i bob gofal posibl gael ei gym- eryd gydag ef. Gwnaeth ef bedair neu bump llawfeddygiaeth yn ystod y mis diweddaf, a buasai cyfleusderau Ysbytty yn gaffaeliad mawr at y cytryw. x unwarelwyr eu hunain oeddynt i'w beio am na buasai un wedi ei chodi at alwadau Chwareli Graigddu, Diphwys, Foty a Bowydd, a Maenofferen. Yr oeddynt yn gwario ariap ar lawer o bethau nad ellid canmol Hawer arnynt, a boddlonent heb y peth oedd arnynt fwyaf o'i eisiau. Nid oedd- ynt erioed wedi gwneyd cais at y perchgnogion ya qgSyn a'r petn. Gwyddai ef am rai rodd- ent help oddiallan, a chredai na wrthodai y perchenogion eu dymAniadau. Mr. G. J. Williams, Y mae ystafell wedi ei gwneyd i fyny yn un o Chwareli Nantlle i'r pwrpas, a dau wely ynddi a darpariaetk i gael dwfr ppeth mewn ychydgg fynudau, ac ni chostiai un felly ddim llwver yn y chwareli yma.-Trengholydd, Nid oes a wnelom ddim yma heddyw a phwngc Ysbytty. ¡fn gwaith ni yw edrych i achos marwolaeth Griffith Griffiths, ac y mae yn sfcnlwg nad oedd a, wnelo Ysbytty, ddim ag ef, Cyfarfyddodd a'i # farwolaeth trwy ganillniadau y ddamwain a gafodd yn y chwarel let y mae y meddyg wedi ein hysbysu. Dylai mater yr Ysbytty ddod oddiwrth y bobl en hunain, a phan y daw bydd yn bleser genyf gyaorthwyo hyd eithaffy nghallu, ac y mae llawer yr un mor barod i wneyd hyny.—Mr. T. J. Evans a ddywedodd nad oedd ef yn credu ei fod yn ymarferol i'r gweithwyr apelio at y percbenogion gan fod myped atynt yn waith anbawdd iawp yn amI. Yr oedd y ddwy chwarel arall wedi codi Ysbytty o honynt eu hunain, ac yr oedd o fudd i'r Meistriaid ei chael fel yr oedd hefyd i'r Gweithwyr. Nid oes neb yn myned i'r chwarel gan ddysgwyl cael damwain, ond yn hollol fel arall. Credai ef mai y perchenogion ddylai symud yn y mater. Mr, J. Lloyd Jones a ddywedodd i Mr. Percival wneyd cais at yr Anrhydeddus Mrs, Oakeley am gael uno gyda'r Ysbytty, ond gwrthodwyd ef gan mai i'w gweithwyr ei hun yr oedd hi yn codi y lie. Yn ngwyneb hyny, sefydtodd Mr. Percival Drysorfa Gynorthwyol yn y Chwarel i gyfarfod yr amgylcbiadau. Dylchwelwyd rheithfarn o Farwolaeth Dc amweiniol," ac ar gynygiad Blaenor y Rheithwyr pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth, achydnabyddodd Mr. Phillips ar ran y teulu.
IPriodas Mr. Thomas LI. Roberts,I…
I Priodas Mr. Thomas LI. Roberts, Llundain. Dydd Iau diweddaf, y 14eg cyfisol, yng nghapel Charing Cross Road. Llundain, un- wyd mewn glan briodas Mr. Thomas Lloyd Roberts, mab y Cynghorydd T. J. Roberts, Aelybryn; a Miss Annie Blodwen Jones, Llanbedr. Meirion. Yr oedd yr addoldy wedi ei addurno yn brydferth, a gweinyddwyd y seremoni gan y Parch. Richard Roberts, Westbourne Grove. Y gwas ydoedd Mr. John Edwards, Fferyllydd, New Cross, a'r morwynion oeddynt, Miss Jennie Wynne Jones (chwaer y briodasferch), a Miss Dilys Rees Haycock (nith y priodfab). Cyflwynwyd y briodasferch gan ei hewyrth, y Capten Wynne Jones, Dyffryn, a chwareuwyd y Wed- ding March gan Mr. Watts, Somerset House. Paratowyd y wledd briodasol gan Mrs. Pipe yn 39, Witherington Road, Highbury, ac ymhlith y gwahoddedigion, yr oedd Mrs. Wynne Jones, Dyffryn Mrs. Rees Haycock, Willesden; a Master Selwyn Rees Haycock, Miss Collins, Major Josephs, Brondesbury, a Mr. John Morris, Kensington. Darllenwyd nifer o benillion neillduol o hapus o waith y bardd awengar Bryfdir gan Mr John Edwards, a cbafwyd anerchiadau pwrpasol yn Gymraeg gan y Capten Wynne Jones, ac yo Saesneg gan Mr. John Morris; i ba rai y diolchodd Mr. Lloyd Roberts mewn araeth fer. Yr oedd yr anrhegion lluosog a drudfawr yn arwyddion o barch a chymeradwyaeth cylch eang o gyfeill ion. Ymadawodd y par ieuanc am Ramsgate yn y prydnawn Eiddunwn i Mr. a Mrs. Lloyd Roberts oes faith o hapusrwydd a defnyddioldeb. CYFARCHIAD PRIODASOL I MR. A MRS. LLOYD ROBERTS. LLUNDAIN, AR DDYDD EU PRIODAS, HYDREP 14, 1909. Llawen 'rwyf tra'n llunio can I ddeuddyn glan eu rhodiad, Dau fu'n glaf dan glwyfau serch Wy'n annerch ar eu huniad; Ac am wenau'r nefoedd wiw Diameu yw'm dymuniad. Gwelais Tom yn brudd ei wedd A'i annedd yn aniddig, Dinas Llundain fawr a'i thro Fel anial fro fynyddig; Ond heddyw cym'rodd atto'i hun Anwylaf fun fonheddig. Gwen yw'r goron ia sy'ln can Am ben ein bryniau oesol, Glan yw heirdd liliod chweg Gwlad Meirion deg frenhinol; Ond waethheb son mwy llawn o swyn Yw Blodwen fwyn brydweddol. Yn Llanbed' draw ar fin y lli Mae dyri'r don yn denu, Yn nhref Cae'r Ludd mae swynion fyrdd Oddeutu'r ffyrdd yn gwenu; Ond Blodwen fwyn a'i gwyneb lion Drodd galon Tom i ganu, Min y mor a thref Caer Ludd Yn rhydd ymlawenycbant, Er mor bell yw Gwalia fad Dvlanwad ysbryd Rhamant Ddwg y ddau heb ddig ynghyd Tir gwynfyd etifeddant. Cyson megys llif y nant Boed llwyddiant a llawenydd, Gwnaed y ddae'r a'i chyfoeth drud Eu cartref clyd yn ddedwydd A gwenau'r nef fo'n gwynu eu byd Mewn hedda hawddfyd beunydd. Llundain. A I- I JOHN EDWARDS. I
^XVVVVVVVVVWVWVVVVVVVWVVV…
^XVVVVVVVVVWVWVVVVVVVWVVV RHYD, LLANFROTHEN. Yr wythnos d diweddaf, cyffrowyd ardal dawel y Rhyd, a'r newydd trist fod mochyn bychan 'Roedd yn B- M- fochyn bach, Bu fart o'r diffyg treuliad Os caf eich cenad, cewch yn fyr Pa fodd y bu'r amgylchiad Ni chaffai'r mochyn bychan fwyd, Bdfn H?vyd ei wedd yn dioddef Oiiie ddech?uoda yn ddioed I yta coed eigartref, Bu'n bwyta'r coed o ddydd i ddydd, A hwnw ddim yn treulio, Ac felly, marw o eisiau bwyd Fu'r mochfyn lIwyd, 'rwyn coelio x Mae'r bychan beddyw yn ei fedd, Mae pawb yn gwfbod hyny, Ond heb ddim arch, na gradd o barch, Mae yno a'i draed i fyny. PWY?
Marwolaeth Gutyn Ebrill.
Marwolaeth Gutyn Ebrill. Derbyniodd Mr. Hugh E. Jones, Manod House, Ffestiniog, y llythyr canlynol yn hysbysu am farwolaeth y Lienor adnabyddus uchod:— DOLAVON, CHUBUT, VIA BUENOS AYRES. Medi 9ed, 1909. Fy anwyl Gyfaill,-Drwg genyf eich hysbysu fod yr hen gymrawd doniol a galluog Gutyn Ebrill wedi cyrbaedd adref er boreu heddyw. Fel yr hysbysais chwi'n flaenorol, yr oedd yr hen gyfaill anwyl wedi ei gornelu er's misoedd drwy ddarfod iddo fynu cael helpu gyda'r dyrnu, ond yr oedd wedi hybu Hawer yn ystod y mis diweddaf yma, ac yn llawn sel gyda'r parotai at Eisteddfod Goronog Trelew, efe ydoedd y Beirniad penodedig ar y farddoniaeth yno, ac ar ei ysgwyddau ef y gorphwysai trefniadau'r Orsedd ar hyd y blynyddoedd, ond bellach ei le fydd yo wag yn y teulu, yn yr Eglwys, ac yn mhob cysylltiad gwladfaol a chenedlaethol yma a thu hwnt i for. Cleddir ei weddillion yn Mynwent y Gaiman-hunfa ei hoffusion Nesta a Gwladys, yfory. Deallaf mai ymosodiad o'r anwydwst a'i cipiodd ymaith mor sydyn. Y mae yma ddegau yn orweddog o dan yr un clefyd, ar hyd a lied y Dyffryn. WWWW^AAAAAAAAAAAAAAAAAAA/
Mamaethod -Pentrefol i Gymrus
Mamaethod Pentrefol i Gymrus lEI HUCHELDER BRENHINOL TYWYSOGES CYMRU A'R GYMDEITHAS FAMMAETHOL GOGLEDD CYMRU. I APEL AM GYNHORTHWY. Dengys y difyniadau canlynol allan o Lyfrau Gleision (Blue Books) y Llywodraeth y cyfiawnheir gwaith Cymdeithas Fammaethol Gogledd Cymru yn apelio am gynorthwy arianol i roddi hyfforddiant priodol i ferched Cymru i weithio fel Mamaethod a Bydwragedd yn mhentrefi y Dywysogaeth. Yn anffodus erys marwolaethau babanod yn ddalen ddu yn nghyfrol ystadegaeth fywydol." Er y ffaith fod marwolaethau cyffredinol wedi lleihau llawer yn ystod y 25ain mlynedd diweddaf nid oes lleihad sylweddol yn marwol- aethau babanod." Y mae Hawn un rhan o dair o farwolaethau babanod yn digwydd yn ystod pedair wythnos cyntaf eu bywyd." I ADRODDIAD AR DDIRYWIAD CORPHOROL. I Y mae llawer o farwolaethau babanod i'w priodoli, yn ddiammeu, i anwybodaeth neu I esgeulusdra ar ran mammau." i ADRODDIAD Y COFRESTRYDD CYFFREDINOL. Y mae'n amlwg, gan y bydd i ferched wedi en hyfforddi yn briodol dan y Midwives Act" gymeryd He bydwragedd anllythyrenog ac anghymwys, y ceir cyfleusdra rhagorol i roi i fammau yr hyfforddiant anghenrheidiol, ac y sicrheir i'r baban newydd-anedig chwareu teg yn nghychwyn bywyd." Y mae addysgiaeth merched ieuainc i gym- eryd gofal babanod, yn yr ystyr fanylaf, yn addysg arbenig (technical education)." ADRODDIAD AR GARIO ALLAN Y MIDWIVES ACT." Allan o bob mil o farwolaethau yn siroedd Gogledd Cymru, rhifa marwolaethau babanod fel y canlynMon, 94 Trefaldwyn, 97 Fflint, 104; Carnarvon, 108; Dinbych, 113: Meirionydd, 127. Y rhif isaf allan o bob mil yn Lloegr a Chymru yw 73 (Swydd Hunting- don). Y rhif uchaf allan o bob mil yn Lloegr a Chymru yg 146 (Swydd Nottingham), I ADRODDIAD Y COFRESTRYDD CYFFREDINOL. Mewn llawer ardal yn Ngogledd Cymru danghosir awydd mawr i sicrhau, a phob par- odrwydd i gyfranu tuagat gynhaliaeth Mam- maeth Bentrefol (Village Nurse). Y mae Hawer o ferched Cymreig yn disgwyl am gael eu darpar i fod yn Nurses Pentrefol, ac y mae Cynjdeithas Mammaethol Gogledd Cymru (mewn cysylltiad a'r Queen Victoria Jubilee Institute) wedi ei ffurfio i'r amcan o roddi hyfforddiant angenrheidiol. Yr oil ag sydd yn awr yn eisiau yw arian i gario'r gwaith ymlaen. Y mae eisieu ychydig dros [50 i roddi bob ymgeisydd yr hyfforddiant angecrheidiol.. Y mae Ei Huchelder Brenhinol Tywysoges Cymru yn rasusol iawn wedi addaw cydsynio i fod yn Llywydd y Gymdeithas. Mewn llawer o achosion y mae Cynghorau Sirol eisoes wedi addaw cefnogaeth haelionus. Oni wna boll garedigion Cymru a'i phobl gyn- orihwyo y Gymdeithas ymhellach drwy ddyfod yn danysgrifwyr at ei thrysorfa. Y mae Cyfansoddiad y Gymdeithas yn dar- paru y bydd i'w chynghor llywodraethol gael ei bennodi yn flynyddol gan y tanysgrifwyr. Derbynir, yn ddiolchgar, bob cyfraniad gan Miss Davies, Treborth, Bangor-Ysgrifenydd y Gymdeithas, neu gan David Williams, Ysw., N. P. Bank, Bangor, y Trysorydd.
I PENRHYNDEUDRAETH.
I PENRHYNDEUDRAETH. SPECTOLS.—Os bydd rhywbeth allan o le ar eich Spectols, gellir ei gwneyd yn foddhaol gan Mr. Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog, yr nnig Optician yn Sir Feirionydd, sydd wedi pasio Arhol iadau yn y cyfeiriad hyn. Diameu bydd yr holl ardalwyr yn falch o ddeall fod ein cyfaill talentog Mr. Griffith Jones, Brynllewelyn, wedi derbyn yr appwynt- iad o District Superintendant ar yr holl ddos- barth o'r Penrhyn i Pwllheli, a'i fod hefyd wedi dechreu eisioes ar ei waith, gyda y Dread- naught Assurance Company. Gwelsom un o'r wythnosau diweddaf eu prif adeilad yo Liver- pool, ac yn sicr deil i'w gydmaru ag unrhyw fan yn y dre. Llawenydd genym hefyd i'w deall fod mwyakif prif swyddogiony Cwmai yn Gymru o waed coch cyfa', ac felly nid rhyfedd yw fod y Cwmni hwn yn ddd a cyn- lluniau newyddion hollol ger bron y wlad ag. sydd yn apelio yn gryf at galon werinol Pryd- ain. Dymunwm ei lwyddiant eto yn y dyfodol. —PEDRO. J
- - - - - - I,PENMAOHNOb t
PENMAOHNOb t PRAWF CWN DEFAID. Cynhaliwyd yr uchod ddydd Sadwrn ar Park Hafodwyryd, a chymmeryd dyddordeb neillduol ynddi, a daeth cannoedd o edrychwyr yn nghyd i'r maes. Llywydd y Pwyllgor yw C. O. Roberts, Ysw., Maes Gwyn, Pentrevoelas; Is-lywydd, J. Griffiths Evans, Ysw., Penmachno Quarry; Timekeeper, Mr O. Morris, Dugoed; Starter, Henry Llewellyn, Penybont; Trysorydd, Mr G. J. Llewellyn, Penybont; Ysgrifenydd, Mr J. R. Williams, Plas Derwen. Y Beirniaid oeddynt T. McGill, Ysw., Dolwyddelen, a Mr John Roberts, Fron, Llanrwst, a rhoddasant foddlonrwydd cyffredinol. Y Buddugwyr oeddynt fel y canlyn :—Daeth cynifer a 78 o gwn yn m!aen. Dosbarth 1, agored i'r byd, Gwobr £ 5, 1, Mr T. Roberts, Cymmo, Llan- tysilio, Llangollen 2il wobr, £ 3, Mr William Jones, Plas Nant, Ty Nant, Corwen; Trydydd wobr, il 10s, Mr John Thomas, Ty Isaf. Hafod Elwy Bylchau, Denbigh cydradd ped- werydd, gwobr 10s a Table Lamp gwerth 7/6, rhoddedig gan Tudor Williams, Llanrwst, Mr David Roberts, Cae Glas, Maentwrog, a W. Roberts, Abermigneint, Ffestiniog. Dosbarth 2, agored i gylch deuddeg milldir i Penmachno. Gwobr gyntaf, £ l 10s a medal aur, rhoddedig gan Mr R. G. Owen, Llanrwst, Matthew Stobbart, Coed Mawr, DolwyddeleQ; Ail wobr, £ l a Table Lamp, rhodd Mr E. Lloyd Jones, Llanrwst, Mr John Thomas, Ty Isaf, Hafod Elwy, Denbigh Trydydd wobr, 12/6, Sylfanus Jones, Bryn Ysguboriau, Trawsfyn- ydd; Pedwerydd wobr, 7/6, Robert & Jones, Ty'nrhos, Glasfryn, Corwen. Dosbarth 3, agored i Penmachno, ac heb ennill gwobr yn flaenorol. Gwobr gyntaf, 10/- a set o Fire Brasses, rhodd Mri Jones & Thomas, China Warehouse, Llanrwst, William Jones, Fron Deg, Penmachno; ail wobr, 5/- a par o Harness, rhodd Hughes & Burrows, Llanrwst, R. H. Williams, Park, Penmachno; Trydydd wobr, 5/- a Collar Ci, gydag enw yr enillydd yn gerfedig arni, rhodd Mr T. R. Jones, Harp, LlanrwsF-Pedwerydd wobr, Gas Lamp Bic- ycle, Self Magnets, gwerth 7/6, rhodd Mr E. R. Davies, Cycle Agent, Penmachno, Mr William Roberts, Bryn Wydd, Penmachno. Yn ystod y dydd, rhedai Modur y G. W. Rail- way cydrbwng Corwen a Penmachno a'r Cwm, a deallwn i'r anturiaeth dalu yn rhagorol i'r Cwmni. DAMWAIN.—Prydnawn Sadwrn, tra y dych- welai Ellis Price, Cariwr, Cwm, gyda 11 wyth o lo o'r Bettws am y Cwm, rhywfodd neu gilydd syrthiodd o dan y drol, a derbyniodd niweidiau trymion. Gweinyddwyd arno gan Dr Williams. Dymunwn iddo adferiad buan. DIOLCHGARWCH .-Cynhaliwydcyfarfodydd Diolchgarwch yn holl addoldai yr ardal dydd Llun, a chafwyd cynnulliadau lluosog. CWMNI DRAMAYDDOL MACHNO.—BU y Cwmni hwn yn actio am yr ail dro Aelwyd Angharad" (Dr. Lloyd Williams a Llew Tegid), yn ardal eu genedigaeth ac nid gormod ydyw dweyd, nad ydynt yn ail i'r un cwmni fu ar ymweliad a'r lie erioed, yn y modd deheuig a naturiol yr awd drwy y gwaith ganddynt. Pe digwyddant fo4 yn ddyeithriaid,, ac o dafodiaeth plant ffengist y Carl Rosa Co., buasent ar Iwyfanau Saesnig ei cartref. Fel cyfanwaith chwaerhus o wybodaeth, hanesiol Cymru ar gan, a'r cymeriadau oil yn dangos ei ran heb ol ymdrech, ni fum yn gwrando ail iddo, a chlywais cyn hyn rai o bigion yr esgyn- lawr dros Glawdd Offa" yn gwneyd peth tebyg. Ni flinaf chwi a sylwadau ar yr oll o'r Cwmni, gallaswn wneyd hvny am fod haedd- iant, yn unig gwnaf ychydig sylwadan cyffred- inol. Yr olygfa gyntaf yw ymddiddan cyd- rhwng Sioned Prys, gelynes a phriod-ddull Cymreig o dreulio nosweithiau llawen, a'i chwaer yn y ffydd Mary Prydderch gyda yr hen Gymraes gref ei gwladgarwch, a miniog ei gwatwareg Gaenor Puw," agofiad True to nature," chwedl Wil Bryan, a naturiol fel hir- aeth ydyw "Angharad 11 yn nghanol aelwyd lawn o'r celfi Cymraeg oedd gynt, nid i bryd- ferthu aelwyd yn o gymaint, ond i wasanaethu yn ngwahanol angenion. Mae 'Dafydd Owen yn dod i fewn i'r aelwyd gyda stori frawychus, barodd i'r ddiadell ymgynull i wrando arno-daw i fewn yn naturiol, ac holl ysgogiadau nn rhoi ystyr wirioneddol i'w hanes, ac i'r cwmni hefyd yn hel arto i'w wrando, ac am "Pencerdd Prydain," mor debyg ydyw i Eos Prydain," Rhys Lewis," gyda'r cwydd fost fawr berthyn i gerddor o bob gradd." Llelo Llawchwith a Hywel y Bardd" ydynt y prif gymeriadau, ac iddynt hwy y disgyn y prif orchwyl. A phwy yn well os ydyw mynydd "Tarnasus" ac awelon yn fwy adfywiol na'r un bryn arall, a deall cyfrln- edd y ddawn o roddi anadl einioes yn y cymer- iadau digrifol heb groesi y llinell sydd yn wabarddedig. Caiff y pruddfglwyfus iachad i'w fron yn eu pertrwydd, a'r Cymro aiddgar stor o hiraeth am Eden dref yr aelwyd Gym- reig gynt. Yr unig wall, os gwall hefyd, oedd y datganiad gan rai o'r diharebion Cymreig," y geiriau ddim yn eglur, ac felly y diharebion heb eu deall. Da gwnant barhau i ddysga rai tebyg i ddydori ac addysgu er mwyn yr hen amser gynt, ac er codi'r hen wlad yn ei hol." LLwYDDIANT-Cafodd tri disgybl cerddorol i Mr Robert Thomas, Bryn Llywelyn, helaeth fynediad drwy borth yr Arholiad. Dan o honynt, sef Nellie Thomas a John Ellis Wil- liams, Commerce House, y Dystysgrif Gerdd- orol gyntaf, a'r llall ydyw Emlyn Davies, hwn ei ail dystvsgrif gydag anrhydedd. ANRHEG.—Bu Ysgol Sul Rhiwbach yn gar- edig a meddylgar iawn drwy roddi i Miss Mary Edwards, ar ei phriodas a Mr E. Lloyd Williams, Feibl hardd a drudfawr. Siaradodd amryw gyda graen, am werth gwasanaeth y chwaer i'r achos yn y rhanbarth yma o'r plwyf. Gwrthododd ei phriod siarad, ond cafodd yn Mr William Jones, Gof, un parod i'r gwaith, a chalon Gymraeg gywir lon'd ei fynv es. Llwydd i'r ddau yn eu cylch newydd. —ZENO.