Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
CYFLWR MOESOL CYMRU. _____I
CYFLWR MOESOL CYMRU. I Y mae ffeithiau a ffigyrau fyerthygl o'r blaen yn agos o hyd yn anwrthwynebol. Bum ochel- gar i gyhoeddi cyfran yn unig o'r prawfion di- droi-yn-ol a gasglaswn yn nghyd ond ni fyneg- wyd mo'r haner a haws, bed ewyllysiwn, fu- asai gosod i lawr yma yr haner arall. Hyd yn oed yn yr amser byr oddiar adeg cyhoeddiad yr erthygl dan sylw y 'mae amgylchiadau wedi dygwydd ddylasent godi gwrid i wyneb pob un ag y mae lie cynes i'w wlad yn ei galon. Gadawer i ni gyfyngu ein hunain i un mis, sef Gorphenaf diweddaf. Nos Lun, Gorphenaf 12fed, yr oedd neuadd eisteddfod Mountain Ash wedi ei gorlanw â 10,000 o bobl,-deng mil o bobl, coffer. Tyrfa anferth. Yr oedd y gynulleidfa enfawr yna wedi dyfod ynghyd i edrych ar ddau ddyn ieuangc yn ymladd a'r menyg ysgafnaf a ganiateir-4 owns. Amser penodedig yr ymladdfa oedd haner awr wedi naw o'r gloch; ond mor gynar a haner awr wedi pump yr oedd y clwydi wedi ei gwarchae. Erbyn y pumed tro yr oedd un o'r ymladdwyr a thap o faintioli wy uwchben ei aeliau; ond glynasant wrthi i foddlonrwydd mawr y dyrfa hyd yr unfed tro ar ddeg, pan y dygwyd yr ymladdfa i ben am fod un o honynt wedi taro yn rhy isel. Temtir ni i ofyn a fu- asai yr arddangosfa anifeilaidd yna yn ngwydd deng mil o edrychwyr, oeddent gan mwyaf wedi myned trwy ein hysgolion Sul, yn bosibl heb wrthdystiad cenedlaethol pe buasai'r Dr. Price, Aberdar, a Henry Richard yn fyw heddyw? Etto, ar ddydd Sul, y 18fed o'r un mis, cymerodd digwyddiad newydd le yn Aber- afon. Y prydnawn Sabbath hwnw cynaliodd yr ymgeisydd Llifur ei gyfarfod politicaidd cyntaf, yw hwn oedd yn gychwyniad ei ymgais am gael ddychwelyd fel aelod seneddol dros ranbarth Abertawe. A fuasai hyn yn ddych- mygadwy ddeng mlynedd yn ol ? Darfu i'r Parch, James Evans, gweinidog yr Anibynwyr yn Aberafon, wrthdystio yn erbyn yr halogiad yma ar ddydd yr Arglwydd a dylasid cryfhau ei ddwylaw, neu ynte y mae y Sabbath yn y rhanau gweithfaol o Gymru wedi ei dynghedu am byth! Yn ystod y pythefnes olaf o Orphenaf y mae yna lu o gwestiynau wedi eu gofyn ynglyn a ffyniant anniweirdeb yn Merthyr, a'r meddw- dod arswydol sydd yn gwaradwyddo Cwm y Rhondda. Y mae yna dystiolaeth ddiweddar wedi dyfod i'r golwg am gynydd bastardiaeth yn y rhanbarthau amaethyddol. Mewn cyf- arfod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, gynhaliwyd yn Hwlffordd ar yr 2lain o Orphenaf diweddaf, mynegwyd fod yno yn y Tlotty dair dynes ieu- angc.yn feichiog ac fod merched yn y cyflwr hwnw yn cael eu derbyn i mewn yn gyson i'r sefydliad. Mynegodd un o'r gwarcheidwaid fod y ffeithiau yma yn dadlenu anfoesoldeb dirfawr yn yr ardal. Ar Orphenaf yr 22ain diweddaf, cynaliwyd Brawdlys Morganwg yn Abertawe. Daeth i'r goleu rai o'r gweithredoedd mwyaf ysgeler gyflawnwyd yn hanes y byd; a chofier nad yw y mor yn taflu i fyny ei holl feirw. Mewn un achos dywedodd y cyfreitbiwr fod dyn a dynes wedi bod yn cydfyw am ddwy flynedd. Gaf- aelodd y dyn yn y ddynes, a diosgodd bob darn o'i dillad. Yr oedd olew wedi ei daflu ar ranau gwahanol o'i chorff, a gosodwyd matchen oleuedig wrth y rhanau yna; Mewn achos arall gwelwyd fod Cymro wedi gwerthu ei wraig, o'r hon y cawsai chwech o blant, a'i gwerthu i gymydog am ddeg punt! Mwy na hyn, llawnododd weithred reolaidd i'r perwyJ yna. Yr oedd yna achosion eraill o ymosodiad- au ar ferched ieuaingc ac ar blant o ardaloedd Llanfabon, Maesteg, Penybont ar Ogwy, a Merthyr dau o'r Gelligaer, a dau o Cadoxton ac achosion o anweddeidd-dra o Abertawe a Cockett. Mewn achos o'r Caerau gweiwyd fod dyn o'r enw John Emlyn Jones yn euog o ymddwyn yn anweddus a merch feehan-ei wyres ei hun! a chollfarnwyd ef i bum' mlynedd o benyd wasanaeth. Yr oedd yno achos ysgeler o Benybont, pan y gwysiwyd haulier am wneyd yn gyffelyb ag un o'i ferched a chynyg at hyny gyda'r llall. Condemniwyd yr anifail yna—ac y mae, eraill o'i fath ein gwladi saith mlynedd o garchariad. Yr achosion o Abertawe oeddynt ymosodiadau ar feehgyn-math o bechod sydd yn fwy gyffredin nag a feddylir: ac yn y ddau gyhuddiad condemniwyd y troseddwyr gan y barnwr. Felly yr a pethau yn mlaen, o fis i fis, yn y sir sydd yn prysur enill iddi ei hun yr enw o Gormorah Cymru."—Y Parch. Gwilym Davies, M.A., yn Y Geninen am Hydref.
LLYS MANDDYLEDION BLAENAU…
LLYS MANDDYLEDION BLAENAU FFESTINIOG. Dydd Gwener, o flaen ei Anrhydedd y Barnwr I William Evans. Gwysian Carcharol. I Daeth Casglwr Dyledion oedd wedi prynu llyfr nn o Fasnachwyr yr ardal, a llu o bersonau o flaen y Barnwr, i ofyn am iddo eu carcharu oni dalent yr hyn oedd ddyledus arnynt. Nid oedd Clerc y Clasglwr yn abl i hysbysu ei Anrhydedd beth oedd enillion y Diffynwyr, a chafodd gerydd fwy nag unwaith am ddod ag achosion felly o'i flaen, ac yn y diwedd gwrthododd ganiatau ei gostau. Gofynwyd am archeb garcharol yn erbyn Richard Roberts, Pengwern Farm, gan nad oedd yn talu yn ol archiad y Llys am geffyl o Talwaenydd oedd wedi ei brynu, ond heb dalu am dano.-Barnvr, "Beth yw y Diffjnydd ?" —Mr. R. G. Davies, "Y mae yn anhawdd dweyd. Y mae yn byw gyda'i chwaer mewn fferm, a'r chwaer yw y tenant. Yr ydych yn ei adwaen yn dda, abuo flaen eich Anrhydedd fwy nag unwaith. Dyn mawr ymladdgar ydyw, ac y mae yn gymeriad adnabyddus iawn i ni yn y Ile.Barnwr. Yr wyf yn ei gofio yn awr. Tri diwrnod tri swllt y mis."—Mr. R. O. Davies, Nid wyf yn y modd lleiaf am ymyraeth, ond yr wyf yn teimlo y dylai rhyw- beth sylweddol gael ei wneyd yn yr achos hwn. Y mae yn herio y Llys, ac ni bydd tri diwrnod o unrhyw ddylanwad o dan yr amgylchiadau. Fe ddywedodd wrth eich Anrhydedd pan wnaethoch yr Archeb yn ei erbyn na thalai byth.Y Barnwr, "Rhaid iddo dalu fel rhyw ddyn arall Deng niwrnod o garchar oni thalu dri swllt y mis." Achos Teuluaidd. I Mr D. White Phillips a grybwyllodd achos Robert William Owen yn erbyn Margaret Owen, Gwynfryn (Ty Coch gynt). Achos gofidus iawn ydoedd, meddai, a buasai yn dda iawn ganddo er mwyn y pleidiau ei gael wedi ei settlo heb orfod ei ddadlu yn gyhoeddus. Achos oedd rhwng Mab a'i Fam, am gael ei ran o eiddo ei ddiweddar dad, William Owen. Yr oedd yr eiddo wedi ei brisio yn werth £ 480, ac wedi talu pob gofynion yr oedd £ 290 yn weddill, Gofynai yr Hawlydd. am i'r eiddo gael eu rhanu o dan Acheb y Llys gan fod pob eais arall wedi profi yn aflwyddianus.—Mr R. O. Davies a ddywedodd mai newydd gael ei gyfarwyddo yr oedd gan y Ddiffynyddes, a theimlai yntau yn gryf yn erbyn trin y mater yn gyhoeddus a gwario arian heb achos. Hyd y gwelai ef nid oedd y swm yn cyfreithloni y Cyngaws, gan fod y Ddiffvnyddes yn weddw a chanddi bedwar o blant. Oni ellir crybwyll y peth o flaen Cofrestrydd y Llys, er mwyn dod i gyd-ddealltwriaeth ?-Mr Phillips a ddywed- odd ei fod ef yn gwbl foddlawn, ond dymunai adgofio y Llys fod yr Hawlydd wedi ei anallu- ogi yn gorphorol i enill ei fywoliaeth.—Y Barnwr a gydsyniodd i'r Pleidiau gael myned o flaen y Cofrestrydd i egluro yr amgylchiadau a cheisio dod i ddealltwriaeth gyfeillgar fel teulu. Yr oedd yn ei ystyried yn achos anhyf- ryd iawn i'w drafod o flaen y cyhoedd. Achos o Iawnder. Mr R. O. Davies a grybwyllodd Achos o lawnder (equity) rhwng Richard Owen, Llys Ifor, Llandudno Junction a John Lloyd Rob- erts, Bronaber, Trawsfynydd. Yr oedd y diffynydd yn anallnog i fod yn bresenol oher- wydd gwaeledd, acyr oedd ef a Mr W. George yn cydweled i ofyn am ohiriad hyd y Llys nesaf. Cyngaws ydoedd i benderfynu perch- enogaeth tir yn Bron Aber ar y fynedfa i'r Wersyllfa Filwrol. Ile'r oedd adeilad gan fab- yn-nghyfraith Mr R. Owen i fasnachu. Achoslon o lawn. Mr R. O. Davies a grybwyllodd achos David J. Jones, 7, Brynbowydd yn erbyn Cwmni Chwarel Maenofferen. Yr oedd dros Jones a Mr J, Jones Morris dros y Cwmni, ac yr oedd- ynt wedi settlo yr achos trwy i'r Hawlydd gytuno i dderbyn swm penodol i ddarfod a'r mater yn derfynol. Ebrill 14, 1908 bu i Jones gyfarfod a damwain yn y Chwarel trwy gael ei daraw a handle y crane yn ei ben. Enillai" 1 4s 6c yr wythnos, a thalwyd iddo haner ei gyflog i fyny hyd Ebrill 10, i909.—Cytqnwyd i dderbyn £ 130 yn un cyfanswm, a £ 5 15s at y costau yn cynwys y costau cyfreithiol, &c. Gofynid yn awr am i'r cytundeb gael ei chof- restru, a gwnaed hyny. Mr R. O. Davies a grybwyllodd Achos John Williams, Nantwrach, Maentwrog, yn erbyn Edward Roberts, Grapes Hotel, Maentwrog. Bu i Robert P. Williams, mab yr Hawlydd gael ei ladd gyda cheffyl a throl y Diffynydd Mai 21, 1909. Yr oedd Mr W. George drns y Diffynydd, a chytunwyd i settlo am £ 25 a'r costau Yr oedd £ 13 wedi eu talu i'r Llys. Archodd ei Anrhydedd fod arian oedd yn y Llys i gael eu talu allan i'r Hawlydd fel rhan o'r £25 oedd i'w talu iddo, a chofrestrwyd y cytundeb. Mr R. O. Davies a ofynodd am archeb gan ei Anrhydedd yn achos y diweddar Henry Jones, 7, Old Talyweunydd. Mehefin 9, 1908, tra yn gweithio yn Chwareli Oakeley coliodd ei gynhaliaeth ar y graig, a tharawyd ef a'r trosol a daeth ei gefn yn erbyn y graig. Talwyd 12/2 yr wythnos yn yr achos i fyny hyd Medi 4, 1909. Yr oeddid wedi dod i gytundeb ar swm yr lawn, a'r J143 15s lc hyny wedi eatalu i'r Llys. Gofynai am gael £ 10 allan o'r swm i'r weddw, a £ 2 5s y mis iddi hi a'i phedwar plentyn at fyw.—Cydsyniodd y Barnwr a'r I cais a gwnaeth archeb unol a hyny. Tal am Oen. Mrs. Anne Thomas, Cross Keys a Chwm- bowydd, a hawliodd 25/- gan Job Ellis, Salem Place, Rhiwbryfdir, tal am oen oedd ef wedi ei gadw yn ei feddiant.—Ymddanghosodd Mr. R. 0. Davies dros yr Hawlyddes, Mr. J. Jones- Morris dros y Diffynydd. Yr oedd yr achos wedi ei grybwyll yn y Llys amryw droion yn Raenoral.-Ati. Davies a ddywedodd mai Cyngaws oedd hwn am werth oen perthynol i'r Hawlyddes oedd wedi ei gau gan y Diffynydd, ac na ddychwelodd mo hono i'r perchenog.— Mrs Thcmas a dystiodd i'r Diffynydd ddod ati i ddywedyd fod ganddo oen perthynol iddi yn gauedig yn ei ardd, a gofynai am haner coron am ei le. Dywedodd hithau wrtho am ollwng am na ddylasai ei gadw o gwbl. Dywedodd ef nad oedd yr oen wedi tresmasu dim, ac yr oedd amryw yn ei glywed yn dywedyd hyny. Clywodd yn mhen amryw ddyddiau fod hysbysiad am yr oen yn y RHEDEGYDD, a thranoeth fod yr oen wedi ei ladrata.—Wil- liam Williams, Tycoch, Dolwyddelen a ddywedodd iddo ef fyned i edrych am yr oen dros ei dad rhag mai ef oedd ei berchenog, ond dywedwyd wrtbo fod rhywun wedi ei ddwyn y noson cynt.—Tystiwyd yn mhellach gan Robert Jones, bugail Mrs. Thomas.—Y Barn- wr, "Beth am y dressmas ?"-Mr. R. O. Davies, Dywedodd y Diffynydd na bu tressmas o gwbl." Mr. Morris, mewn amddiffyniad, a ddywed- odd i'r oen gael ei ddal yn yr ardd. Hysbys- wyd Mrs. Thcmas am dano, ond ni ddaeth i'w ymofyn, Yna rhoddwyd hysbysiad yn y papyr, a'r noson hono dodwyd strap am wddf yr oen a chortyn i'w rwymo yn y cwt, dodwyd llechfeini trymion ar enau y cwt. Yr oedd yno yn ddiogel un-a'r-ddeg nos Iau, ond nid oedd yno bump o'r gloch tranoeth, Yr oedd y He yn agored, a'r strap a'r cortyn ar lawr. Gwelwyd gwr priod a'r oen mewn sach ar ei gefn a dau langc yn ei ganlyn. Gwyddai ef (Mr. Morris) yn bersonol pwy oedd y dyn a'i lladrataodd, ond nid oedd tystion wrth law ganddo ar y pryd i brofi hyny. Gwyddai Mrs. Thomas hefyd pwy ladrataodd yr oen. Nid oedd y Diffynydd yn gyfrifol am dano gan iddo arfer pob gofal i'w ddiogela.-Tystiodd y Diffynydd fod gwlfrau am ben wal ei ardd, a daliodd yr oen oddifewn iddo. Lladratawyd ef o'r cwt yn ystod y nos. Mr. Morris a ddadleuodd na bu esgeulusdod o gwbl yn yr achos ond daliai Mr. Davies na ddylasai y dyn gadw yr oen fel y gwnaeth ag yntau yn gwybod pwy oedd ei berchenog.— Barnwr, Yr wyf yn rhoddi dedfryd i'r Diffyn- ydd. Gwir fod yr oen o dan ei ofal, cadwodd ef oddiyno. Nid oes brawf iddo fod yn esgeulus. ac i'w esgeulusdod beri i'r oen golli. Y costau i ganlyn y Ddedfryd. Cyngaws yn nghylch Coed. I John Humphreys, Coedwigwr, gynt o Maen- twrog, a hawliodd £ 9 17s gan Mri Morgan a Richardson, Cyfreithwyr, Aberteifi, gweddill am dori a chludo coed ar diroedd Hendremur a Choedcaedu i gyraedd ffordd" at eu gwerthu a'u llwytho.—Ymddangosodd Mr R. O. Davies dros yr Hawlydd a Mr D. White Phillips dros y Diffynyddwyr. Gwnaed y cyt- undeb trwy Mr John Morris Jones, Cyn-Arol- ygydd Meirion, a thystiodd Mr Jones i bob peth gael ei wneyd i'w foddlonrwydd.—Mewn Amddiffyniad dywedodd Mr Phillips fod y swm oil yn f 104 17s a thalwyd £ 95 gan gadw y gweddill am nad oedd y coed wedi eu dwyn i gyraedd ffordd. Addefodd Mr J. M. Jones nad oedd wedi sylwi fod son am gludo y coed i ymyl y ffordd" yn y cytundeb hyd boreu y Llys er mai trwyddo ef y gwnaed ef, ac iddo ei ddarllen yn fanwl cyn ei argymell i'w dderbyn gan Mri Morgan a Richardson. Credai y costiai tua phymtheg punt i gael y gweddill o'r coed i gyrhaeddf y ffordd. Ni wyddai yr Hawlydd y swm gafwyd am y coed werthwyd.—Tystiodd yi Arwerthwr (Mr. John Davies) fod y coed a werthodd ef mewn lie cyfleus at y pwrpas.—Y Barnwr, Dylasai yr Agent sylwi ar gynwys y Cytundeb cyn hedd- yw. Dedfryd i'r Hawlydd am y swm yn llawn gyda'r costau, am ei fod wedi cario allan bobpeth yn ol cyfarwyddyd yr Agent yn mhob ystyr. Y DiUadydd a'r Arwerthwr. 0. V. Jones, Dilladydd, Church Street, Blaenau, a hawliodd 4s 5c gan John Davies, Arwerthwr, Blaenau, tal am het gaed er's gryn amser yn ol.-Ymddangosodd Mr R. O. Davies dros y Diffynydd yr hwn a ddywedai fod yr Hawlydd yn ei ddyled er Chwefror 28, 1906 o 5s am gynal arwerthiant iddo. Addefid fod y 4s 6c yn ddyledus, ond gwedid fod y 5s yn ddyledus am i Is gael ei dalu noson y Sale yr hon ni sylweddolodd ond 9s 3c, ac yr oedd 6s 6c o gostau heb gyfrif yr hyn dalwyd i'r Arwerthwr.—Y Diffynydd a ddywedodd na thalwyd dim iddo, ac mai 5s a ofynodd am werthu y noson hono.—Barnwr, Dedfryd i'r Hawlydd am 4s 6c, ac i'r Diffynydd am 5s. Dim archeb am gostau."
TANYGRISIAU.
TANYGRISIAU. FFAITH.-Nid oes unrhyw Optician yn y Deyrnas yn meddu ar Dystysgrifau uwch ar ol pasio Arholladau mewn Profi y Golwg, Sc., na Mr. Hugh Jones, Med- ical Hall. Blaenau Festiniog. I'R COLEG.—Yr wytbnos ddiweddaf aeth Mr. John S. Jones i Goleg Bangor er cym- hwyso ei hun ar gyfer y dyfodol. Dymunwn iddo bob llwyddiant ar ei yrfa. LLAWFEDDYGAETH.—Da genym ddeall fod Robert James, mab Mr. James Roberts, Glan- ystradau, yn dod yn mlaen yn dda ar ol bod o dan-driniaeth feddygol yn Manceinion,
HARLECH.. ---.-..'1
HARLECH.. '1 Y DIFFYG TREULTAD.-Mynwch gael Potel ar unwaith o DR. WOOD'S REMEDY at y Diffyg Treuliad. Nid oes dim gwell i'w gael at yr afiechyd hwn. I'w gael gan Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog. BAZAAR.—Yn ystod dyddiau olaf Medi, cynhaliwyd Bazaar yn Ysgoldy y Cyogor er sicrhau arian tuagat glirio dyled y Ddarllenfa Newydd. Derbyniwyd £ 255 6s 7c, ac allan o'r swm hwn bydd tua flo i'w dalu tuagat y. treuliau. A ganlyn ydyw many lion am y derbyniadau-Bronwen Stall, £71 5s 10c; Artro, £ 70 2s 0c-; Tanwy, £ 35 Is 3c; Refresh- ments, £22 Os 8c Harlech, £ l7 6s6c Fancy, £ 8 3s0c Doors & Entertainments £ 24 16s 10c Derbyniwyd oddiwrth Noddwyr £ 6 10s 6c. Haedda y Pwyllgor ganmoliaeth am y modd deheuig y cariwyd pob peth ymlaen. t:
TORONTO, CANADA. I
TORONTO, CANADA. Ychydig o hanes yr achos Gymraeg fu y gornel hon o'r ddaear. Rhyw drai a llanw ydyw y Genhadaeth yna, lawer o'r ysbryd symud ond er yr oil mae y bywyd yn aros, yn y lie o hyd. Nos Sul, Medi 18, yr oedd y Neuawdd yn bur lawn. Yr oedd Mr. John Owen, Montreal, brodoro Felinheli, Arfon, yn ein hanerch mewn ysbryd rhagorol, llawn tan cymreig. Cymerodd yn destyn, "tyred a gwel geiriau Andreas wrth ei frawd Pedr. Yr oedd- ynt yn teimlo fod y gwres yn llanw yr adeilad. Mae Mr. Owen wedi bod yn ein mysg, rai Sabbothau'yn awr, a bydd yn chwith'genym ei weled yn myned yn ol i Montreal. Anogodd yn daer arnom sefydlu Eglwys yn y lie, yn hytrach na'n bod fel defaid ar wasgar heb fugail. Yr oedd pawb, ag eithrio un, wedi codi ar eu traed i ddangos y penodrwydd o sefydlu Eglwys Gymraeg yn Toronto. Byddwn yn awr yn ceisio gweithredu i gael pethau o gwmpas. Buasem fel Cymry ar wasgar yn teimlo yn ddiolchgarps buasai rhai o Weinidog- ion Cymru fydd yn talu ymweliad a'r Unol Dalaethau, yn cymeryd eu tojith trwy Canada a chofio am eu cvd-genad yn Toronto. Buasai cael Pregeth gan unrhyw weinidog, gan nad o enwad y bo, yn dra derbyniol genym fel Cym- ry yna. Yr ydym yn dyheu am glywed Pregethwr Cymreig; ac yn wir dyna gyfte i weled faint mae ein Gweinidogion yn barod i aberthu i draddodi'r Efengyl i'w cyd-genad. Mae ganddynt yn yr Unol Dalaethau lawer o Weinidogion Cymraeg. Ond mae yna eneid- ■ iau lawer yri sychedu am glywed Efengyl yn Toronto, Canada. Mi fyddwn yn cael ami i wlithyn nefolaidd arnom fel diadell fechan yno. Diolch am yr hen adnod fendigedig hono, Lie byddo ond dau neu dri wedi ymgynull.11 Yr ydym wedi dechreu tymhor gauaf yn St. David Society bob yn ail Nos Fercher. Byddwn yn cydgyfarfod yno i weled a siarad a'n gilydd. Mr. Williams, Deer Park, brodor o Gaergybi, ydyw Llywydd y Gyndeithas y tymor presenol. Mi gredaf ei fod yn frawd cymhwys iawn i'r gwaith. Mae ganddo allu a llawer o wybod- aeth cyffredinol. Mi fyddwn weithiau yn dod ar draws Cymro yn rhyfedd odiaeth. Un nos Sabboth nn brawd heb fod erioed o Toronto. yn wir mi synais ei glywed yn gallu siarad Cymraeg mor dda pan y cofiwn ei fod wedi ei eni ai fagu yma. Un nos Sabboth brawd mewn oedran teg yn cymeryd rhan gyhoeddus mewn Cymraeg trwyadl. Un nos Sabbath yr oeddem fel parti wyth o Gymry yn canu mewn pabell o dan nawdd un o'r Cenhadon lleol. Yr oeddynt wedi hysbysu fod y Welsh Octette y gwasanaeth, ac wedi dod allan dyna wraig atom a dechreuodd siarad Cymraeg a ni. Nid oedd wedi gwybod fod fath beth yn bod ag ysgol Sul Cymraeg yn y Ddinas. Yr oedd wedi dod o Pennant yn Eifionydd, Arfon, ac wedi bod yn aros flwyddyn yn ol tua Hafod Rhygl, Nant Grafnant, Beddgelert. Mae y cyfaill Mr. Rhydwen, Blaenau Ffestiniog yn weithgar dros ben gyda'r British Canadian League, efe yw yr Is-ysgrifenydd. AP GELERT. /wvwvwvwwvwwwwvwwv
BWRDD ADDYSG DOSBARTH I FFESTINIOG.
BWRDD ADDYSG DOSBARTH I FFESTINIOG. Cynhaliwyd cyfarfod y Bwrdd uchod pryd- nawn ddydd Iau yn Adeiladau Sirol Blaenau Ffestiniog, pryd yr oedd yn bresenol y Parch, J. Rhydwen Parry (Cadeirydd), Parch. John Owen, M.A. (Is-gadeirydd), Parch. John Hughes, Parch. J. D. Richards, Miss Jones, Parch, Hugh Ellis, Mri. Andreas Roberts, Dr. R. Jones, Dr. R. Roberts, R. T. Jones, G. Parry Jones, William Roberts, Richard Roberts (Llandecwyn), Edmund R. Evans, Richard Roberts (Llan), W. P. Evans, J. Lloyd Jones (leu.), John Cad- waladr, Thomas Morgan, Hugh Jones, R. O. Davies (Clerc), Edward Jones (Clerc cynorthwyol), William Evans a William Jones (Swyddogion Elusenol). Cymeradwywyd penodiad Miss Jennie Jones i fod yn Athrawes Gynorthwyol yn Bron Aber. Penodwyd Mr. E. T. Pritchard, Penrhyn, i fod yn Athraw (Article 50) yn Ysgol y Bechgyn Maenofferen. Argymellwyd i gael Dosbarth Goginio Arbenig yn yr Ysgol Uwchraddol. Gwnaed penodiadau i Lizzie Parry a Lizzie Bebb Jones fel Athrawesau Cynorthwyol. Daeth cwyn yn nghylch lie chwareu y Plant wrth Ysgol Talsarnau, a phasiwyd i gael ei wneyd i fyny gan Reolwyr Lleol yr Ysgol oni byddai y gost dros £ 3. Derbyniwyd ymddiswyddiad Margaret Jones, yr hon oedd yn glanhau Ysgol y Penrhyn, a gadawyd ar y Rheolwyr Lleol i wneyd argym- elliad i'r Pwyllgor Sirol ynnglyn a phenodi un yn ei lie. Codwyd punt yn nghyflog Mary Evans sydd yn glauhau Ysgol y Babanod ac Ysgol y Genethod, Maenofferen; a swm cyftelyb yn nghyflog Ellin Williams, sydd yn glanhau Ysgol y Bechgyn Maenofferen. Bydd y naill yn cael £19 10s Oc, a'r Hall £ 13 10s Oc y flwyddyn am wneyd y gwaith o hyn allan. Caniatawyd benthyg Ysgol y Babanod, Penrhyn, i'r Wesleyaid i gynal Nodachfa ar Tachwedd 11, 12, 13, ar yr amod fod pobpeth i'w clirio at boreu ddydd Llun er mwyn cynal yr Ysgol yno heb unrhyw rwystr. Mr. William Evans a ddarllenodd ei adrodd- iad am y Presenoldeb yn yr Ysgolion yn y Dosbarth Dinesig yn ystod y mis. Ar y llyfrau 2015, cyfartaledd presenoldeb 1771. Llai ar y Ilyfrau na'r un amser y Ilynedd o 93, llai yn nghyfartaledd y presenoldeb 0 160 Yr oedd naw Ysgol yn y Dosbarth Anrhydeddus o ran presenoldeb, un yn y Dosbarth cyntaf, ac un yn yr ail. Ymwelodd a 311 0 rieni plant absenolent eu hunain o'r Ysgol, a chafodd fod 214 o honynt yn seilion. Yn y Dosbarth Gwledig adroddodd Mr. William Jones fod 1022 ar lyfrau yr Ysgolion Rhyddion a chyfartaledd y presenoldeb yn 877: llai o 26 ar y llyfrau, ac 0 33 yn nghyfar- taledd y presenoldeb. Yr oedd 250 ar lyfrau yr Ysgolion Eglwys, a chyfartaledd y presen- oldeb yn 204 llai ar y llyfrau 0 2. Yr oedd 5 ysgol yn y Dosbarth Anrhydeddus, 4 yn y Dosbarth cyntaf, a 3 yn yr ail ddosbarth. Ymwelodd a 143 0 rieni plant yn ystod y mis, a chafodd fod 86 o'r plant yn seilion. Y Cadeirydd a ddywedodd y dylid gwneyd yn hysbys, er cywiro y camgymeriad oedd yn y dosbarth, nad oedd y cyfnewidiadau oedd wedi meddwl am eu gwneyd ar adeiladau yr Ysgol- ion Uwchraddol i gael eu cario allan ar hyn o bryd, gan nad oedd pethau wedi troi allan fel y disgwylid gyda'r trefniant newydd ar waith y ddwy ysgol. Yr oedd rhai o dan yr argraff fod y cyfnewidiadau ar y Adeiladau wedi neu yn cael eu gwneyd, ac yr oedd hyny yn anghywir. Y mae y cynygion am wneyd y gwaith heb eu hagor, a'r holl achos wedi ei droi yn ol i'w ystyried o'i ddechreu. Yr oedd yr Is-bwyllgor i eistedd eto i ystyried y manylion.—Dr Jones a ofynodd 0 dan awdurdod a chyfarwyddyd pwy y gwnaed y cyfnewidiad yn ngwaith y ddwy ysgol Uwchraddol ? Nid oedd neb yn ymddangos yn gwybod.—Y Cadeirydd a ofyn- odd pa bwys oedd gwybod pwy gyfarwyddodd i'r gwaith gael ei wneyd ? Yr oedd y cynllun wedi ei dynu allan er's talm, a Phwyllgor Add- ysg y Sir wedi penderfynu ei fod i'w gario allan ar ol gwyliau yr ysgolion. Pa bwys pwy ddywedodd am i hynygael ei ddechreu ?—Mr. J. Cadwaladr, Mae llythyr Mr Haydn Jones sydd yn Haw Dr Jones yn ateb y cwestiwn."— Mr Hugh Jones, Y mae rhywun wedi gwneyd cam mawr yn yr achos Ni ddylasai y peth gael ei wneyd fel ei gwnaed, a hyny heb roddi hysbysrwydd i rieni y plant allu penderfynu i ba ysgol i anfon eu plant."—Y Cadeirydd atebodd na wnaed cam o gwbl yn y mater; Tynwyd y cynllun allan, ac yr oedd wedi e* egluro yn ei fanylion amryw weithiau I j Rheolwyr. Os oedd dyryswch yn bod gwnaed ef yn fwy dyrys mewn rhyw gyfarfod gynhar iwyd yn Ysgol Glanypwll i amcanion gwleid- yddyl, ond a ddefnyddiwyd gan rai o'r RbO wyr oedd ynddo i ddadleu a'u gilydd yn y 01,,1 am beth y dylasant fod yn hollol gyfarwydd ag ef fel Aelodau o'r Bwrdd. Fodd byoafr gwyddai y Prif-atbrawon fod y gwaith 1" wneyd, a gwnaethant ef fel rhai oeddynt y fyw i'w dyledswyddau, ac yr oedd 3 n gredyd iddynt eu bod fwy yn y goleu na'r RheolwJ1 oeddynt ar ol mewn pethau felly. ø Yr oedd 23 o Ymgeiswyr am y swydd Athraw Trwyddedig Cynorthwyol yn ysgol Tanygrisiau, am y cyflog o £ 80. Wedi rnyne trwy y rhestr, a phleidleisio ar bump o hon dewiswyd Mr William Davies, B.A., MtoSofo" i'r swydd.—Y Cadeirydd a dywedodd 03 allai lai na galw sylw difrifol rhieni, trwy y cyfarfod, at y ffaith fod 23 yn ymgeisio am trIt hwn oedd yn werth dim ond £80 y 1lwyd r a'r rhai hyny wedi cyraedd safle uchel 111e;d,. addysg. Dylai rhieni feddwl am rhyw gylc arall i'w plant.. Yr oedd amryw wedi anfon eu cynyg"? mewn i gyflenwi yr Ysgolion a Glo dros dy? y gauaf, a chymeradwywyd y rhai cai,lynot Trawsfynydd a Bronaber, John Hughes Feibion; Llan a Gellilydan, L. Eva"?-. Blaenau, William Daniel Jones PenrbYc 3 cylch, J. E. Williams.
-TRAWSFYNYDD.:
TRAWSFYNYDD. MARWOLAETH.—Y mae genym heddy? gofnodi marwolaeth un o hen berei.ioo ? ardal, sef, Mr. Richard Jones, Ddoigs?? 88 mlwydd oed, yr hyn a gymerodd Ie ddlao Mercher, ac a gladdwyd y dydd SdO diiynol yn y Fynwent Blwyfol. GwasaDsevf wyd gan y Parch. D. Davies, Rheithor. j oedd yn hen gymeriad dyddan i fod yO  gwmpeini. CYDYMDEIMLAD.—Y mae ein cydyi dyfnaf a Mr. John Hughes, Penrallt, ar ddet' byniad y newydd galarus ac annisgwy»,a am farwolaeth sydyn ei anwyl dad.. lØØ Y TYWYDD GWLYB,-Tipyo yQ dd't!??} ydyw gyda'r tywydd gwlyb presenol S?j? y rhan fwyaf o'r cnydau heb eu cael i j. tJ't rwydd. Gobeithio y try pethau yn weM a'< ofnau.
- -BLAENAU FFESTINIOG. j
BLAENAU FFESTINIOG. j You've tried the rest, Now try the BEST. ot If you want a piece of the best Plain Bacon, Gorgonzola, Cheddar, oralge-tl-co Cheese, and all kinds of Provisions, try PARRY'S New Shop. SEION (B).-Cynhaliwyd Cyfarfod  o't leuol dyddorol iawn nos Iau. Wele ,,t, 0 f buddugwyr :-Adroddiadau, 0 dan 8 JjgSi Johnny Loyd Smith, 2 Evan Llywelyn H'???? pS' 3 Nellie Blodwen Jones. Eto 0 dan 12 oid. 1 Cathrine Jones. Cyfartal ail Johnny ]Pierce 0 Mary Jones. Eto, 16 oed, 1 CathrineMO'??? Jones, 2, Willie Hughes. 3, Kate Lizzie c:b' lands, Eto, 20, oed 1, Miss Lizzie Pa5,T,nig^ mond Terrace. Am unrhyw;Adroddiad?j? ol (agored i'r byd). Wedi cystadleuaeib ø, dyfarnwyd Mr. Charles Jones,  a Miss Laura Jenkins, Mills Row, yo gyfof. I oreu a Mr. Malconi Jones, Benar Vievv 10 & Gerddoriaeth:—Am y chwarettad g?' ? '? unrhyw offeryn, Robert Smith. FtO, t 0f Berdoneg, Lois Davies Detholiad go5r0aeo .tb, alawon cymreig ar y flnte, 1, R« JoDsS Pedwarawd, Parti Mr. Evans, R. Jones, 0 Street. Detholiad goreu o donnau cYO olle -lidis. 01 ar y Mouth Organ, 1 R. Smitb. piel^S' Robe? ptefC? wyth ar y don Malachi,-Parti Robe' .¡I. Challenge Selo, Gweled y DelyO ?d Morris Williams, Jones Street. Yr 01 e?d I cystadleuthau yn fywiog a Iluosag, 09 of Ivor cystadleuthau yn fywiog a Huosog, ? ? ?. | a diwylliant ar yr boll cystadtea???; e,? gwobrwyon yn amrywiaeth, clockiau?'?? medals aur ac arian, a chaed cyfarf0a po? o dan lywyddiaeth Mr. S. S. Jones/* Gwasanaethwyd fel beirniaid yr s°'?t? Mr. John D. Davies, Swyddfa'r R? Aegr. 0 a'r gerddoriaeth gan Mr M. E. PhiliiP pX Higher Grade School, a chyfeiliwyd. ft 0 ^1" gj Arthur, a gwnaeth yr oU eu gwaith 'foad 100' rwydd pawb. Melus Moes Mwy, S bloy'10 fuan.-YSG. 1 EGLWYS ST. DEWI.-Gwasanaetb cytl3foeg ?tt? am 10 y boreu a 6 yr hwyr. J, | Saesneg am 11-15 y boreu. C itØpøtl' Anthem Make a joyful noise <'gtt?. c b < Traddodir pregethau gan y Pate. yC? Lloyd, BA.. Pentrefoeas. G? Yddy64 hauaf. Cynhelir gw?sanaetball 0 Llun nesaf am 10 o'r gloch y b( 'reo, haner awr wedi dau y prydiawll. ac00, chwech yn yr bwyr. Traddodi? P ,?? gan y Parchn. D. A. Lloyd, P? g?o? ac R. T. Jones, M.A., G???tbeC?ct gwasanaeth hwyrol cenir yr A]2 them Frawf a gwel" (Goss).-NOS lau. dily;0,1 am 7 o'r gloch yn yr hwyr. cynilellr.gc o 9 anaeth arbenig yn S,?iesneg. etbl go y Parch. A. A. Dallman, LPIYfeOgJileiA5 1 0 chenir yr Anthem Thou sil.ii 1,-eeP t?e Feast of Harvest" (Simper) a e De'g o waith Jackson, Gwneir, ca? 59lis ddiwedd y gwasanaethau tuag ?t dre.0?o yr Eglwys, ac ar ran y Gym el Oe hadol Gartrefol, b S FOOTBALL.—The following team  selected to play Bettwsycoed next ? tu''?'? J the Newborough Park:-Goal.J.i4t' backs, T. Hughes, W. M. Jones ? iP. Jones Penny, M. E. Morris. W.. J illia.00, forwards, J. Jones, J. Hughes, W- ■■ J. C. Jones, W. R. Owen. Rese E$T A, J. C. Jones, W. R. Owen Smith, M. Roberts, O. 9 ?a Powell, Lewis Jones. Admission, gd Kick-off, 2 p.m. prompt.