Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

SYNIADE JOHN JONES. I

News
Cite
Share

SYNIADE JOHN JONES. I BWLCHYGWYNT. Syr,—Mi 'roedd pawb wedi meddwl fod y 'storm wedi chwythu drosodd ac na byddai dim mwy o son am Gynrychiolaeth Meirion, hvd nes y byddai Haydn yn eistedd yn ei le yn St. Stephan. Mae'n debyg mai'r rheswm am hyny oedd bod pawb yn meddwl nad oedd gan neb alia i wneyd stwr yn y Sir ond y Rhydd- frydwyr a'r Labour Party, ac wrth bod Haydn wedi llyncu nhw i gyd iddo ei hun yr oedd pawb wrth reswm yn meddwl fod y cwbl dros- odd. Mi rvdw i'n cvfaddef. Svr. mod inau wedi meddwl y buasai Toris yn bar swat ar ol gweled mor unol oedd pawb ohonom yn y 'Bermo. Mi roeddwn wedi paratoi 'meddwl am gwffance pe tase yna siawns am fatl tair congl, ond ddychmygodd y nghalon i rioed J buasent yn ddigon b)f i ddwyn dyn allan yn erbyn nerth unol Rhyddfrydiaeth a Llafur yn y Sir. Ond mae'r anisgwyliadwy wedi dig- wydd. 0 ran hyny mi glywes fod o'n boint gan y Toris i destio'r Sir rhyw unwaith yn y pedwar amser er mwyn cael gweled yn He maent ami, ac mae'n debyg bod hi'n adeg i wneyd hyny yrwan. Wei, os mai cael gweled lie maent arni yw yr amcan, mi gant y pleser o wario cryn swrn o bres i ddim ond gA O!ed nad ydynt yn unlle. Ond gadewch iddynt, mae ganddyn nhw ddigon o bres-mwy lawer nag sydd ganddynt o ac os nad wyf yn twyllo fy hnn, mwy lawer nag sydd ganddynt o ganlyawyr yn Sir Feirionydd. WN i ddim yn iawn beth ddylwn wneyd ai canmol eu gwroldeb, ai diarhebu at eu twb- ineb." (Dyna i chwi air da, wedi dwad o'r twb fel y gwelwch chwi; er fod yna ryw- beth mewn "baril" sy'n dygymod yn well hefo'r Toris yma). Maent yn w/ol dros ben i anturio yn erbyn cymaint o odds, os mai gobaith Uwyddo sydd wedi eu galw allan ond y maent yn dwb ofnadwy os gwyddant mai myned i chware losing game y maent; ac os na wyddant hyny maent yn dwb yr un fath yn union. Ar yr un pryd gallant ei gwneyd yn, > atgas iawn i Mr. Haydn Jones, ac mi rydw i yn un yn gofidio ei fod yn cael ei daflu i gostau diachos ynglyn a'r mater, ond raid i mi beidio dangos hyny rhag ofn mai dyna'r sport fwyaf gan y cnafon Toris yma. Oad nid drwg i gyd ydyw etholiad. Gall fod yn foddion i ddeffroi a bywiogi meddyliau gwerin, a'u dwyn i gym- eryd dyddordeb gwirioneddol yn mhynciau y dydd. Ac nid oes dadl nad yw yr etholaeth hon mewn angen ddisgyblaeth boliticaidd. Mae canoedd o etholwyr y Sir na wyddant prin beth yw enw y Prif-weinidog heb son am ddeall ei raglen wleidyddol. Nid yw yn gredyd i Ryddfrydiaeth i gael pleidlais ddall y cyfryw etholwyr, ac ds nad oes dim daioni arall yn perthyn i etholiad dylid cydnabod y bydd yn foddion i oleuo deall ac enyn dyddordeb gwleidyddol mewn llawer, fuasai ar wahan i hyny, yn ddall ac yn farw i bynciau'r dydd. AM yr ymgeisydd Toriaidd yr wyf yn ei adnabod. Amaethwr bodlon, braf, yw Mr. R. Jones-Morris—mor radlon dyn a'i frawd Mr. J. Jones-Morris a enwyd fel Rhyddfrydwr tebygol. Dyna lwe na fuasai'r ddau wedi cael eu galw i gwffio yn erbyn eu gilydd, mi fuasai raid i rywon fyned rhyngddynt run fath a rhwng y ddau ddyn hyny yn yr Aifft er's talwm. Wel, mae Mr. R. Jones-Morris yn gynefin ag aredig, ond pita y bu erioed yn bwrw ei swch i ddarn o ddaear mor galed ag y mae wedi anturio arno yn awr. Mi gaiff weled nad ydyw aredig tywod Morfa Harlech yn ddim ond recreation, wrth ymyl troi rhai manau creigiog sydd ym Meirion. Nid wyf yn bwrw na chaiff wrandawiad parchus a boneddigaidd yn mhob man. Mi gaiff hyny pe tasai ond er mwyn y teulu yr hanodd o 'hono. Ond mae ym Meirion greigiau cedyrn o argyhoeddiad, a'r.rhai hyny wedi eu calcdu gan genhedlaeth ar ol cenhedlaeth o draddodiadau y Rhydd- frydiaeth buraf, ac nid gwaith hawdd fydd aredig arnynt. Mae Sir Feirionydd wedi profi ei bod yn un o'r rhai enwocaf i roddi Deddf y Mandyddynod mewn gweithrediad ynddi, ond bydd yn anhawddach fyth i enill erwau newydd i Doriaeth, a gobaith gwan fydd ganddynt os na eniilant lawer iawn o dir newydd. SUT mae'n bod gyda golwg ar political machinery y blaid yn y Si yma yrwan, tybed ? Go stiff y mae wedi arfer bod yn ddiweddar, a gwaith gorchestol oedd rhoi tro bach ar yr olwyn gan gymaint o rwd oedd ami. Ond ,gydag etholiad yn y golwg 'does bosib na bydd pethau yd well. Byddai yn g'wilydd g4warth" (chwedl (faydn weithiau) i Ryddfrydiaeth fod mor gysglyd ag atfer. Rhaid gofalli beth bynag fod iojan fawr y Sir mewn working order, a dylai pob olwyn fach fad yn ei He ac yn barod i droi Ar utrhvw foment; achos does neb wyr na ddaw'r etholiad fel huddyg i botes. Mae'n debyg y bydd y gost o iedeg etholiad yn rhywle o adeuddeg i bymtheg cant o bunoedd i'r Toris. Ond dylai y Rhyddfryd- wyr allu ei gweithio ar haner y gost, beth bynag am lai, yn enwedig os ceir parodrwydd rhesymol i wneyd er ei fwyn rai o swyddau taledig etholiad yn ddidal. Rhaid cyd-aberthu ac nid wyf yn amheu na cheir llawer o Volun' teers pan fydd galw am danynt. Ni byddai yn iawn i ua milwr ddwyn traul brwydr y Sir, ac nid Meirion yw y sir i ddisgwyl hyny. Peth arall, gan bod hi'n myn'd yn etholiad, dylai Rhyddfrydwyr Meirion benderfyna o'r dech- ren i daro dyrnod i bwrpas, a gyru'r ergyd hyd adref. Feallai mai ein perygl mwyaf fydd cyf- rif gormod ar ein crylder a myned i ddiofalu, a chydio yn ein gwaith gyda bys a bawd. One good blow is worth twenty scits," meddai un hen greadur wrth landior gath nerth braich ac ysgwydd, ac mae eisiau i ninau ddyspn'r wers, Os boddlonwn ni ar ddim ond dweyd sciats mi fydd yr ben gath yn estyn ei thrwjn eto cyn gynted ag y bydd hogla cig o gwmpas, ond os rhown ni good blow siawns na chawn ni lonydd am dipyn. JOHN JONES. I

EISTEDDFOD QENEDLAETHCL I…

BALA.

COR MEIBION Y MOELWYN I IYN…

1-Llyfrgell Lianrwst: Beirniadu…

- - - - - - - - - Priodas…

IMarw Dr. Roger Hughes, Bala.…

GARN DOLBENMAEN.

TANYGRISIAU.

VV V W V V WW V - VWV V V…

BEDDGELERT. I

-PENRHYNDEUDRAETH.

[ BLAENAU FFESTINIOG* ii