Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Rheolwyr Ysgol GanolraddolI…

News
Cite
Share

Rheolwyr Ysgol Ganolraddol I Ffestiniog. Cyfarfa y Rheolwyr canlynol prydnawn Llun yn yr Ysgol Ganolraddol, Parch. John Owen, M A. (Cadeirydd), Miss Jones. Mri. W. P. Evans, R. Thomas Jones (Penrhyn), J. Lloyd Jones (hynaf), F. Paul Dodd, M.A. (Prif Athraw), ac Edward Jones (Clerc Cynorthwyol). Mr. R. T. Jones a ofynodd a oedd modd dodi enw Deudraeth Williams ar restr y rhai oeddynt yn cael Ysgoloriaeth. Yr oedd ei dad yn wael ei iechyd, a'r bachgen yn un cyflym a gallaog,—Mr. Dodd a ddywedodd y gellid ei ddodi ar y rhestr cs byddai nifer yr Ysgolor- iaethau o dan y Cyngor Dinesig yn dod i fyny dysgwyliadau. —Mr. J. Lloyd Jones a ddywedodd fod pethau yn edrych yn fwy addawol nag yr ofnid gan i swm mwy o grant ddod i law nag oeddid yn ddysgwyl.-Mr. Edward Jones a ddywedodd y golygid ad- newyddn 23 Ysgoloriaeth, a rhoddi 70 newydd. —Mr. J. Lloyd Jones, golygir rhoddi 22 i'r cylcb, ac 8 oddiallan —Mr. Dodd a ddywedodd mai 12 Ysgoloriaeth ellid o dan y rheolau eu hadnewyddu ar wahan i'r Cyngor Dinesig.— Hysbyswyd fod y Pwyllgor Addysg perthynol J'r Cynglor yn cyfarfod y noson hcno, ac ystyrid ganddynt fater yr Ysgoloriaethau.- Pasiwyd i Mr. Dodd a'r Cadeirydd i fyned dros y rhestr ar ol y Pwyllgor hwnw er mwyn cael gorphen y gwaith, ac anfon hysbysrwydd i'r rhieni pwy fydd yn cael ysgoloriaethau. Pasiwyd i daln nifer o filiau oeddynt yn ddyledns. Am addysg gyda'r Gwaith Coed, fe adawyd ar Mr. Dodd i edrych i mewn i'r holl fater, a bod gair i'w anfon i Reolwyr Addysg Elfenol y Dosbarth at en cyfarfod ddydd Iau. Mr. Lewis Davies a anfonodd air yn nglyn a chwrs addysg ei fachgen oedd yn Ddysgybl- athraw ac yn derbyn £ 25 o gyflog. Dysgai am bedwar diwrnod, ac elai am un diwrnod i'r Ysgol Ganolraddol. Meddyliai ef ei fod yn cael yr addysg heb dalu y fee.-Mr. Dodd a j lrod fd fodtri P T yu am un cwrs o addysg, a bod y trefniant presenol gyda'r P.T's yn terfyna y flwyddyn hon. Yr oeddynt yn awr yn talu fel y plant eraill.- Mr. J. Lloyd Jones, Y maent yn cael eu talu gan Reolwyr y Dosbarth am gael dysgu y grefft o ddysgu am bum' niwrnod, a braint iddynt yw cael am un diwrnod o'r pump i'r ysgol hon am addysg.— Mr. R. T. Jones, Faint y maent yn dalu am y tymor ?—Mr. Dodd, £3 10s Oe. Y mae eu safle yn un pur gyfyng. Ni chant le fel athrawon heb fod wedi cael ymarferiad, ac nid yw y coleg yn agored iddynt heb sicrwydd eu bod yn myned yn m'aen i fod yn athrawon.—Mr. R. T. Jones, Dylai y rhai sydd yn cael eu talu fel P.T's yn yr Ysgoiion, ac sydd hefyd yn cael gadael ei gwaith am ddiwrnod bob wythnos dalu am eu haddysg fel y plant nad oes dim yn dod iddynt. —Pasiwyd fod y fee i'w thalu. Gwnaeth Mr. T. J. Evans gais am i Robert Oliver Evans gael ei lyfrau Ysgol am ddim. Methai y Rheolwyr a gweled eu ffordd yn glir i ganiatau hyny. Yr oedd yn cael lie rhad yn yr Ysgol a chynwysa hyny fod ei holl bapurau ysgrifenn yn rhad iddo. Yr oedd 21 o geisiadau am draul teithio i'r Ysgol (Bursaries) :—Tanybwlch, 5 Pen- rhyn, 5; Maentwrog Road, 5; a Thraws- fynydd, 6. Canialawyd yr oil.—Mr. R. T. Jones a ofynodd beth oedd y rheol gyda hyn; a oedd rhai wedi eu gwrthod ? Gwyddai am rai wedi eu gwrthod yn nglyn ag Ysgol yr Abermaw.—Mr. Dodd, Caniateir yr oil bob amser. Un a wrthodwyd yn ystod y 13 mlynedd diweddaf.—Mr. E. Jones a ddywed- odd y byddai cyfanswm y draul teithio yn £ 16 4s Oc ar gyfer £ 18 3s 9c y chwarter cynt, a /13 19s 7c yr un amser y llynedd. Yr oedd y Linell Gul yn awr yn codi 18/- yr un, tra mai 13/- a arferai a bod. Gwrthodwyd gostwng dim er i geisiadau taer gael eu gwneyd am hyny. Cafwyd adroddiad manwl gan yr Arolyg-vyr fa yn edrych i waith yr Ysgol, ac yr oedd yn galonogol a chanmoliaethus. Llongyfarchwyd y Prif-athraw a'i gynorthwyr ar yr adroddiad, ac am y gwaith da a gyflawnasant yn ystod y flwyddyn.

TANYGRISIAU.J

rHYRDDIO I ANGAU.I

IDYN IEUANGC 0 BLAENAU FFES-I…

HEDDL VS. BLAENAU FFESTINIOG.

^^WVWVWWWWWWWWWW "HEN WYL…

----GARN, DOLBENMAEN. J

-----Y Gyllideb aIr Mudiad…

- -I - - - --I ---MAENTWROG.---.---I

Cyfarfodydd yFeibl Gymdoloo…

PENMAOHNO- - I