Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
I- WWW- -- W- -I .'"yPENRHYNDEUDRAETH.'"'"WI
I- WWW- W- -I y PENRHYNDEUDRAETH. W Yn Arboliad Higher Honours y Central Welsh Board enillodd Hannab Davies, Y Goedwig, a disgybl yn Ysgel Ganolraddol y Bermo, y lie uchaf mewn Ffrancaeg yn yroll o Gymru, allan o tua 250 0 ymgeiswyr. Daeth allan y 18fed trwy Gymru, yn gyntaf ym Meir- ionydd, ac hefyd yn gyntaf yn nhair Sir Meirion, Maldwyn ac Aberdyfi. Trwy hyn enilla Ysgoloriaetb gwerth ^40 y flwyddyn am dair blynedd yn Ngholeg y Brifysgol Aberys- twytb.
.Cffeithiau yr Araeth.I
Cffeithiau yr Araeth. I Onid ydym yn camgymeryd try allan yn feollol ddieffaith. Ymhen ychydig ddyddiau bydd wedi ei hanghofio. Nid yw wedi hoddfoni y Toriaid—o'r hyn lleiaf y rhai Qiwyaf ymladdgar o honynt. Ac yr oedd ei darllen yn ddigon i beri i Ryddfrydwyr deimlo yn hollol dawel, am nad oes ynddi ddim a fydd yn foddion i gyffroi y wlad yn erbyn, y gyllideb. Yr oedd meddwl am ddylanwad mawr rhaiareithiau a draddod- Wyd gan Arglwydd Rosebery gynt yn peri i rai yn ein plith ofniy gallai y waith hon roddi ergyd farwol i'r gyllideb ac i'r LlywodJaeth hefyd. Ond nis gallodd. Mewn gairy mae y cawr wedi gwanhau mae nerth y cadarn Wedi cilio oddiwrtho. Rhaid cyfrif dylanwad fiaawr Arglwydd Rosebery ymhlith y pethau a fu,Inid ymhtith y pethau sydd. Bu yn wladweinydd i ni. yw erbyn hyn yn ddim ond gwleidyddwr.
.Uyfr Melyn. ---- -- I
Uyfr Melyn. I Mae Bwrdd Amaethyddiaeth newydd gyhoeddi Llyfr Melyn yn yr hwn y ceir gwybodaeth ddyddorol am y modd y gwein- yddir Cyfraith Tyddynod gan Gynghorau Sirol y wlad, Derbyniwyd cynifer a 23,285 o geisiadau, am 373,601 erw o dir. Mae'r Cynghorau eisoes wedi sicrhau tir i 1500Vr ymgeiswyr, ac yn ol y Llyfr Melyn bydd yn bosibl sicrhau tir i'r holl ymgeiswyr yn nghorff y ddwy flynedd neu y tair blynedd flesaf. Mae'n sicr,fod hyny yn bosibl, ond .c. 111 .ae'r un mor sicr fod i'r holl Gynghorau jf Sirol ddangos mwy o sel nag y mae y rhan fcvyaf o honynt wedi ddangos iwneyd yr hyn sydd yn bosibl yn ffaith. Dywedir fod y "irprwywyr yn cyfrif gwaith y flwyddyn gyntaf yn foddhaol. Yr oil a ddywedwn Ydyw eu bod yn haws i'w boddloni nag ydym ni. Dylem ddywedyd mai nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn Meirion ydyw 40 am 649 erw, a bod 29 o honynt (am 576 erw) wedi cael eu cymeradwyo. Yn Maldwyn derbyn- Iwyd 233 o geisiadau am 3618 erw; cymer- adwywyd 170 o honynt (am 3500 erw) ac y tflae 440 erw eisoes wedi eu sicrhau i 37 o'r ymgeiswyr. Mae Maldwyn wedi gwneyd yn well o ddegau na Meirion.
SYNIADE ..JOHN JONES.
SYNIADE JOHN JONES. BWLCHYGWYNT. Syr.—Peth braf iawn yw cael rhyw bum' tnunyd o dawelwch yn nghanol y 'storm, i ddyn gael ei anadl ato, a chael mymryn o hamdden i feddwl. Dyna fel roeddwn i'n teimlo yr wythnos yma ar ol bod yn nghanol Y cyclone hono yn Nhanygrisiau noson y pol. Son am Dwr Babel, 'doedd y gowdal hono'n ddim byd wrth gyfarfod Tanygrisiau. Chlywes i 'rioed hen hylabalw debyg yn fy tlydd-pawb yn gwaeddi am y gore, a phob Un yn well na phawb arall, na chlywsoch chi'r fath beth a'ch clustie erioed. Mi fentra ddweyd fod yno lawer un heblaw Humphrey Roberts wedi colli'i bwff a'i bwyll, ond hwyrach na chafodd pawb ddim cyfle i "dangos hyny mor blaen a'r hen wron. (0 Wrth gofio, rhaid i mi wneyd apology i wr y "enedl am y gair plaen," ac am bob gair a thipyn o hogla Saesneg arno ddigwyddo ddyfod i'm llith. 'Dydi o ddim yn leicio slaradplaen, ac amhogla Saesneg mi glwy hwnw o'r pellderoedd. Wel, pe tase bosibl edifarhawn yrwan am y pechod wnes i 0 r blaen a'r pechode 'rydw i'n mynd i'w Rwneyd eto, I mi wnawn hyny ar unwaith, gael i migë;lel grphen;heførhusnes hwnw Unwaith am byth). Ond am y cyfarfod. aeIn ddr'ugaredd fod George Hughes wedi cyrb.Aedcyn iddi fyn'd yn rhy hwyr. Mi pdaeth just mewn pryd to save the situa- tton fbI byddaln iihwn dweyd. Pan oedd y storth yn ei man gwaetha, a'r cadben yn adaely Jhsr. dilywodraeth, dyma'r ocsiwniar 1 r bw rdd (nid bwrdd llong chwaith) ac yn Swaeddi yn uwch na nhw i gyd hefo'u gil- ?4d,- ac oni bae am hyny wn i ddim i ble "Uasae pethau wedi myn'd. Fuom i 'rioed o'r blaen cyn falched o grefft yr ocsiwniar, ac mi 'roedd yna amryw heblaw fi yn synio mai !wc o'r mwya oedd iddo ddod yno cyn i benglog neu ddau gael eu cracio. Ond am beth bu'r holl' helypt yma? Wel, ar 01 gweled result y pol"am ddim.- Hy, am ddim! Deudwch chi'r hyn fynoch, ond lot ryfedd ydi lot Tanygrisiau yna wedi'r cwbl. Wei, fuase neb yn meddwl heddyw ei bod wedi bod yn gymaint o storm. Mae'n daw- el iawn yr wythnos yma a fuasai waeth i ddyn dieithr drio mynd rhwng gwr agwraig na rhwng plant Tanygrisiau ar ol i'r ffrae fyn'd drosodd. Ond mae pethau'n mynd yn mlaen serch hyny. Mae'r maes bellach wedi ei adael i ddau, os nad ydi'r dyn hwnw sy ag enw proffwyd arno yn scoutio o gwm- pas y gororau. Ond mae'n amlwg y bydd y fatl rhwng dau, ac y bydd tynu caled rhyng- ddynt hefyd. Dyma'r safle ar hyn o bryd- Haydn Jones 48, Howell J. Williams 51. Mae 16 o ranbarthau eto heb bleidleisio; a golyga hyny bedwar ugain o bleidleisiau, yn gwneyd cyfanswm pleidlais y cynrychiolwyr yn 179. Dyna waith difyr yw dyfalu pa fodd y rhenjr y pedwar ugain pleidlais sydd eto i'w henill. Pe bawn i yn arfer beti, mi fetiwn mai H- aiff a hi, ac mi fuaswn yn bownd o ennill hefyd. Ffaith i sylwi arni yw fod gweithwyr Ffestiniog a Chorris wedi rhoddi pleidlais solid i un ymgeisydd,ond bod y bleidlais yn gyfyngedig i r lleoedd hyny. Nid fy lie i yw rhoddi cyfrif am y ffaith, na thynu casgliad oddiwrthi; ond y mae yn un arwyddocaol dros ben, a bydd yn haws ei hesbonio rywbryd eto. Mi glywais mai trin dipyn yn Isaucy yr oedd rhai o aelodau'r Cyngor Dinesig a'r Cadeirydd hefyd yn eu cyfarfod diwedd- af ar lythyr Pwyllgor yr Eglwysi Rhyddion, yn nghylch y rhai diwaith; ac mi fum i'n meddwl pam tybed ? Pam nad oes gan yr Eglwysi Rhyddion gystal hawl i ddangos eu cydymdeimlad a'r rhai diwaith ag sydd gan rywrai eraill-y Sosialwyr, dyweder. Pe tase'r I.L.P yn anfon llythyr tebyg fuasai hwnw fawr o gael ei drin yn y ffordd yna, o ran mae'r cynghorwyr i gyd yn gwybod fod gan y Sosialwyr ddanedd brathog a ewinedd heb fod yn y blew bob amser, ac mai gwae iddynt pe buasent yn cynyg eu sauce iddyn nhw. Maecynygiad yr Eglwysi Rhyddion o leiaf mor ddiniwed a'r rhai besir wrth y dwsin (a thri-ar-ddeg yn y dwsin yn amI) yn nghyfarfodydd yr I.L.P., ac a yrir ar draws gwlad i bobman; ac mae'n debyg iddo gael ei wneyd oddiar gymellion llawn mor ddiffuant, a m syniad i yw y dylai gael o leiaf ei ystyried yn barchus a'i ateb yn foneddigaidd. Mi gredaf bod y Cyngor wedi gwneyd eu goreu ym mater y rhai di- waith, ond ni waeth iddynt gyfaddef nad yw y goreu hwnw yn ddim. Ac nid digio ddy- lent wrtb bobl sydd yn methu gweFd gwaith ar eu hoi, ond dweyd yn glir mai nid busnes i gyngor yw y pethau hyn. Mae'r holl dra- fodaeth yn dangos mor ddiymadferth yw awduidodau lleol i drin y cwestiwn mawr a dyrus hwn, a'i fod fel y dadleua Lleiafrif Dirprwyaeth Deddf y Tlodion yn gwestiwn cenedlaethol ac yn unamhosibl i'w drin ond ar linellau eang. Clywais bod pwyntiau dy- ddorol wedi eu codi yn y Cyngor diwedda, ond mae'n rhaid i mi stopio yn rhywle bob tro, ac yma yr wyf am stopio'r tro hwn. JOHN JONES. 1
. HARLEOH. I
HARLEOH. Dymunwn o galon gynes groesawu y Parch. Daniel Williams, gweinidog newydd y Wesley- aid. Efe yw y gwr priod cyntaf i sefydlu yn ein plith fel Gweinidog Cylchdaith. Dydd Gwener bu y Van Geidwadol ar ym- weliad a ni. Gwnaed ymgais at anerch ond gan mor waned oedd y sylwadau, a'r siaradwr yn methu profi ei haeriadau bu raid iddo roddi ei gardiau i gadw, a diweddwyd y cyfarfod gyda Cheers i Lloyd George. Dydd Mawrtb, bydd Mr Haydn Jones yma yn anerch yr etholwyr. Dydd Sadwrn, bu i ymwelydd ieuangc a Chriccieth, gyfarfod a damwain trwy fyned i wrthdarawiad a modur ar ffordd Llechwedd Du. Deuai y Modur o gyfeiriad Talsarnau. Anafwyd ei benlin yn drwm a malwyd ei ol- wynfarch. Gweinyddwyd arno gan Dr. Thomas, a gallodd fyned adref gyda'r tren gyda'r nos. Gallasai y ddamwain brofi yn un ddifrifol iawn.
Family Notices
Priodasau. Dairies Stephen. Medi- 15, yn nghapel Bethel, Ffestiniog, gan y Parch. R. Talfor Phillipe a'r Cofrestrydd, Mr. John William Davies, 22, High Street, Blaenau Ffestiniog, a Miss Maggie Stephen, Llys Gwilym, Ffes- tlniog. GenedifiraetHau. WILLIAMs.-Medi, 12. priod Mr William Wil- liams, Llwynderw Trawsfynydd, ar fab,
CYNRYCHIOLAETH MEIRION. j
CYNRYCHIOLAETH MEIRION. j At Olygydd y RHEDEGYDD." Syr.—Wrth ddarllen hanes rhaantus cyfar- fod Mr Haydn Jones yn Nhanygrisian yn eich rhifyn diweddaf, gwelaf fod rhyw wr o Assyria a'i enw Mona, wedi tynn ei fwa ar amcan a Iladd Abab. Bobol anwyl r Ysdywedyrhen ddiareb, mae rhyw wers o fedydd i fedd. Yr oeddwn i yn arfer meddwl fod Abab wedi ei ladd er's canoedd o flynyddoedd, ond mae yn debyg y rhaid i mi gymeryd gair y Prophwyd Mona ar hyn yn dertynol. Yn wir mae gwr- hydri fel hyn, yn ddilys yn haeddu sylw'r brenin: Mona yn lladd Ahab! Rhyfedd oedd gwneyd hyny a bwa wedi ei dynu ar amcan. Beth a wnai y Mona hwn pe caffai 'Rifle Gun,' a chael hwyl a hamdden i anelu o. Os nad yw wedi ymuuo a'r Territorials, buaswn yn ei gymell i wneyd hyny ar frys, canys caffai y wlad amddiffynydd effeithiol ynddo; ac hwyr- ach, pwy wyr, y gwnai y tro yn lie y Territor- ials, ae arbed felly ganoedd o bunau i'r Sir. Gan nad beth am hyny, y mae wedi profi ei hunan yn saethwr dan gamp. Ond 'rwyf fi yn ofni ei fod wedi methu ei dderyn, canys y mae llythyr n Mab y Mynyyd wedi cael ei fod filldiroadd o Dowyn Meirionydd. Ond a chaniatau fod Mona yn awdurdod ar saethu, 'rwyf fi yn fwy o awdurdod nag ef ar y mater ymt sef lie y lluni wyd y llythyr. Ond yn awr er mwyn dad!, nid o b'le mae'r Ilythyrau wedi dod yw y cwestiwn, ac nid pwy a'u hys- grifenodd sydd i'w ystyried yn fater o bwys, ond eu cynwys, a pharod wyf i sefyll wrth bob gair a sill, a theg yw i werin Sir Feirionydd gael gwybod na wyddai Mr Haydn Jones ond yr un faint yn union a Mr Howell Williams am lythyr U Mab y Mynydd" cyn iddo ymddangos yn y wasg: llawer llai y gwnaeth Mr Haydn Jones, ei ymlid a'i gario o Swyddfa i Swyddfa, er mwyn ei gyhoeddi, ond pe buasai yn gwneyd hyny buasai yn gwneyd gwell gwaith lawe na'i wrthwynebwyr, canys difriaeth bersonol o Mr. Haydn Jones oedd y llythyr geisient hwy ei gyhoeddi, pryd nad oes llinell na sill o ddifri- aeth yn llythyr "Mab y Mynydd;" ac fel y dywedais o'r blaen ni wyddai Mr Haydn Jones ddim am dano, a dyna sydd arnaf eisiau argraphu ar feddyliau eich darllenwyr, ac yn hyn y mae g.ym fy amddiffyniad i Mr Haydn Jones. Ac osnadoes gan Mona Roberts well gwaith na physgota pwy yw gohebwyr sydd yil ysgrifenu i gefnogi egwyddorion, ac nid difri- aeth noeth, gwell iddo restru ei han yn mhlith yr un otioployed.-Hynyna y tro hwn. Yr eiddoch, &c.. MAB Y MYNYDD. J
- -, ---I I.-,-TRAWSFYNYDD…
I TRAWSFYNYDD GADAEI: ALLAN.—Mewn amryfusedd, gad- awyd allan o'n hadroddiad am y Cyngerdd fod y Party Meibion buddugol yn Eisteddfod Corwen, wedi bodyn gwasanaethu yn y Cyng- herdd dan arweiniad Ap Eos Prysor. I'R YSGOL.-Deailwn fod y cyfaill ieuanc Mr John Pugh, Isallt, wedi myned i Ysgol Baratoawlar gyfer Arhcliad Caerfyrddin. Y mae ein cyfaill ieuanc a'i wyneb ar y weinidog- aeth gyda'r Bedyddwyr. Llwyddiant iddo. CYFARFOD PREGETHU. — Cynhaliodd yr Annibynwyr yn Penystryd eu Cyfarfod Preg- ethn nos Sadwrn a'r Sul diweddaf. Gwasan- aethwyd gan Mr Mostyn, Llanelltyd, a'r Parch ,John Hughes, Jerusalem, Blaenau Ffestiniog. Deallwn iddynt gael cyfarfodydd da. GALWAD.—Deallwn fod y Parch John Phillips (B.), wedi derbyn yr alwad a gafodd gan eglwysi Bedyddiedig Llanaelhaiaro. a Trevor. Bydd Mr Phillips yn myned i'w faes newydd tua dechreu Tachwedd. Chwith geoym feddwl ei fod yn symud mor fuan. Pob llwyddiant iddo yn ei le newydd. LLWYDDO.—Da genym welea fod y cyfaill Mr John Griffith Jones, Eirianfa, wedi llwyddo i enill y wobr gyntaf yn Arddangosfa Meirion, yn y Bala ddydd Gwener diweddaf, ac hefyd Mrs Jarrett, Werngron, yn ail ar yr Heifer. EISTEDDFODOL.-Deallwn fod rhagolygon disglaer at y Cyfarfod Llenyddol ddydd Sad- wrn nesaf. Mae hwn yn hen sefydliad erbyn hyn yn ein plith. 1. ETHOLIAD MEIRION.-Nos Iau bu Mr. Haydn Jones, Towyn, yn anerch Cyfarfod o etholwyr Trawsfynydd vn ysgol y Cyngor, yr oedd y cynulliad yn lluosog iawn. Cymerwyd y gadair gan Mr E. D. Jones, M.A., Abermaw, ac wedi ychydig eiriau gan y Llywydd galwodd ar Mr. Jones i anerch, a chafwyd ganddo anerchiad rhagorol, Gwnaeth Mr. Jones am- ddiffyniad o berthynas i'r cbwêcUaa sydd wedi eu taenu ar hyd a lied y wlad o berthynas iddo ef fel Clerk Cyngor Addysg y Sir, a phrofodd tu hwnt i amheuaeth fod y chwedlau hyny yn hollol ddisail gan iddo ofyn yn gyhoeddus os oedd gan rhywun neu rhywrai ryw- beth i'w ddywedyd, ond tawelwch a fu. Wedi hyny aeth yn mlaen i egluro y Gyllideb sydd yn awr o flaen y Senedd, ac yr oedd yn | amlwg ei fod yn gefnogydd selog iddi, a dat- ganodd ei farn ar y gwahanol byogciau sydd gerbron, sef Pwngc y Tir, Mesur Addysg, Mesur Dirwestol, Dadgysylltiad a Thy'r Ar- glwyddi, ar yr hwn yr oedd yn llawdrwm. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi cario y cyfarfod gydag ef gyda'r mater hwn gan faint y gymer- adwyaeth a'r derbyniad brwdfrydig oedd yn ei gael ar hyd ei anerchiad. Yr oedd yn gefnog- ydd aiddgar i Jesury lleiafrif. gyda golwg ar gyfraith y tlodion. Gofynwyd amryw o gwes- tiynau iddo, un ydoedd a oedd yn credu mewn Plaid Gymraeg; beth oedd cynllun Mr Lloyd George i brisio Tir yn ol y GyUideb. Mae yn sicr fod llawer- iawn o oleum wedi ei gael ar y gael ar y gwahanol faterion. Pasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch i Mr Jones am ei anerchiad, ac wedi diolch i'r Cadeirydd, terfynwyd y cyfarfod.
[No title]
Pob math o ddefnyddiag Ysgrifenu i'w cael I yn Shop y Rhedegydd," I-
I FFESTINIOG. I
I FFESTINIOG. I Deallwn fod Cynghor yr Eglwysi Rhyddion wedi sicrhau y Parch. Evan Jones, Caernarfon, i ddod i anerch Cyfarfod i'r Bobl Ieuainc, nos Wener nesaf. yn nghapel Engedi. Dechreuir y cyfarfod am 7.15 p.m. Y mae enw Mr. Jones yn adnabyddus trwy holl Gymru a Lloegr a hyderwn y ceir cynulliad cryf i'w wrando eherwydd nid os amheuaeth na cheir gwledd o'r natur uwchaf gan y gwron hyglod. MARWOLAETH MR. JOHN MORRIS, TY COCH.-Boren ddydd Gwener y lOfed cyf,, aeth yr ymadawedig i'r cae yn ei lawn nerth ac iechyd fel arfer, ac oddeutu naw *o'r gloch yn y boreu cafwyd ef ar y cau, a chludwyn ef i'r ty a cheisiwyd y meddyg, Dr R. D. Evans mor fuan ag oedd yn bosibl. a dywedodd ef fod wedi ei daraw ar hyn a elwir yn gyffredin yn stroke yn y modd gwaethaf yn yr ochr aswy. Ni ddywedodd air wrth neb. a bu farw oddeutu banner awr wedi wyth o'r gloch y nos yn 67 mlwydd oed. Hanai yr ymadawedig o hen deulu yr Hafodfawr yn Mhlwyf Maentwrog. Yr oedd yn gymeriad dyddan ac adnabyddus i laweroedd. Yr oedd wedi cyfarfod a damwain rhyw 33 mlynedd yn ol yn y chwarel a thrwy hyny golli un o'i aelodau. Yr oedd yn Briod a Thad tirion a charedig yn ei deulu, ac un a lafuriodd yn galed er mwyn ei deulu a hyny o dan anfantais neillduoloherwydd ei fod mor analluog. Fe allem ddyweyd am dano, fel ac y dywedwyd am un o'i flaen, Hyn allodd hwn, ef a'i gwnaeth. Colled anmhris- iadwy i'r teulu oedd colli priod a thad fel ef. Hyderaf yr ymddiriedant yn yr Hwn sydd wedi addaw bod yn dad i'r amddifad, ac yn farn ydd y weddw. Gadawodd weddw a dau fab a dwy ferch, un o ba rai sydd yn byw yn Utica, America i alaru ar ei ol. Hebryngwyd ei weddillion marwol prydnawn ddydd LIun 13ed cyf., i Gladdfa Gyboeddus Ffestiniog, anhy- goedd (Private) oedd. Gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parch. J. E. Hughes, B.A.B.D, Engedi, M.C. Cynorthwyed Duw hwynt i ymostwng i'r drefn ac i ddweud, Dy Ewyllys Di a Wneler." Disgwyl pethau gwych i ddyfod Croes i hyny maent yn dod, Meddwl foru bydd gorfoledd Foru'r tristwch mwya 'rioed. Taer ddymunir ar ohebyddion papurau Amer- icanaidd gymeryd sylw o'r ysgrif hors, gan fod amryw o berthynasau a chydnabod Ir ymad- awedig yn Wlad y Gorllewin pell.-D.C.
Advertising
Cyfarfod ym Mhlaid Y Gyllideb. Drwg iawn genym fod yn rhaid gohirio y cyfarfod uchod, oherwydd anallu y Siaradwyr i fod yn bres- enol. Y mae Syr Osmond Williams a'r Pwyllgor yn wir ofidus oher- wydd hyn. JOHN CADW ALA-DR.
LLANRWST.- - - - -I
LLANRWST. I ADDYSG Y DOSBARTH.-Cyfarfu Rheol- wyr Addysg y Dosbarth ddydd LInn, pryd yr oedd yn bresenol Mri. W. J. Williams (cadeirydd); W. Hughes, E. Mills, W. G. Owen, W. Jones, T. R. Jones, David Roberts (Capel Garmon), W. Roberts (Clerc Cynorthwyol), a Thomas Williams (Swydd- og Presenoldeb). Bu sylw ar waith bachgen Mrs Davies, Back Watling Street, yn absenoli ei hun o'r Ysgol. Dywedodd ei fam ei fod yn 13 oed, ac yn enill cyflog da wrth werthu Post Cards wrth Raiadr y Wenol. Dywedodd y Swyddog mai rhwng 11 a 12 mlwydd oedd ei oed ar y llyfrau. Pas- iwyd i gael tystysgrif ei oed, ac i rybuddio Hugh Lloyd, ei feistr, o'r perygl o'i gadw yn ei wasanaeth. Penodwyd Mrs. Davies i lanhau Ysgol Nant y Rhiw. a Mary Thomas i lanhau ysgol Llanddoged. Galwodd awdurdodau Addysg y Sir sylw y Rheolwyr at y ffaitb mai 15 oedd cyfartaledd y presenoldeb yn Ysgol Nebo. Wedi peth siaradar y mater, gohiriwyd hyd nes cael rhagcr o fanylion. WWVAAAAAAAAAAAAAAAAAAA/WW
TREFRIW.
TREFRIW. Dywedir ar sail dda y bydd i waith Dolgarog ail gychwyn mhen chwech wythnos. Cafodd Mr. Warren, Arolygydd Llinell y L & N Western a Mr. Adamson, y Ffynon ym- ddiddan pwysig a'u gilydd ddydd Mawrth yn nghylch hysbysebu y Gymydogaeth. Y mae plant yr Ysgol ddyddiol yn cael gwyl prydnawn heddyw dydd Iau ar yr achlysur o osod cerig sylfaeni capel newydd y Methodist- iaid. Pregethodd Canon Eastwood, Bangor, yn Gymraeg boreu Sul yn yr Eglwys ac yn Seisneg y nos. YnyprydnawnpregethoddynNghapel? Gwydyr. Ganwyd merch i Mrs. Dr. W. M. Wi!Hams, Plas Coch. Llwyddodd Mr. Samuel Williams, Cae Coch, i enill Senior Certificate yn Arholiad y Bwrdd Canolog. Penodwyd Mr. Thomas H. Williams, Penralitucha, yn Athraw Dysgyblaidd yn yr Ysgol Elfenol.
----PWLLHELI.!
PWLLHELI.! Cafodd Mr. John Davies, arwerthwr poblog- aidd o Blaenau Ffestiniog, hwyl anghyffj edici ddyddiau lau a Gwener diweddaf, ar weithu hen Ddodrefn a hen Lestri yn Minydon. Cyrchai pobl o bob parth o'r wlad yno i gynyg ar y gwahanol nwyddau oedd yn cael eu gosod i fyny gerbron, a sylweddolwyd prisiau da.
[No title]
Bacon's new Tourist Cycling Maps, on sale at Rhedegydd Office.
I Prawfion Own Defaitf.
I Prawfion Own Defaitf. u PENMAENUCHA. uyaa mercner ar rorfa Penmaenucha. cyn- haliwyd Ymrysonfa Cwn Defaid. Yr enillwyr oeddyi Class A (agored): 1 a 3, Mr. William Jones. Plasnant, Corwen; 2, Mr. Robert Jones, Ty- cerrig, Llanuwchllyn. Class B (agored i blwyfi Dolgelley, Llanaber, Llanddwywe, Llanelltyd, Llanfachreth, Traws- fynydd); 1.1 Mr. R. Williams. Wernfachi Trawsfynydd .2, Mr. W. EdwarcsJ Tycerig. Ganllwyd; 3, Mr. D. Roberts, CoedcaedUi Trawsfynydd. Class C (agored i gwn heb ennill o'r blaen): 1, Mr. R. Williams, Wernbach, Trawsfynydd; 2. Evan Jones, Deferdrog, Trawsfynydd; 3, Mr. W. Edwards, Tycerrig, Ganllwyd. Special class (am gorlanu 6 o ddefaid gyda dau gi): 1, Mr. John Williams, Tymawr, Towyn; 2, Mr. W. Edwards, Tycerrig, Ganllwyd. Cneifio Defaid. 1 Mr John Ellis, Wern- graig, Dolgelley; 2 Mr Evan Jones, Defer- drog, Trawsfynydd; 3, Mr John Williams, Tymawr. Eto i rai dan 20 oed. 1, Mr John Jones, Pantllau, Arthog; 2, Mr. Evan Jones. Pantglas, Trawsfynydd; 3, Mr. R. Griffith, Tyddyndu, Llanfachraeth. DYFFRYN MADOG. Dydd Sadwrn yn y Traeth, Porthmadog,' cynhaliwyd treialon cwn defaid llewyrchus a phoblogaidd iawn. Gwnaeth Mr. O. J. Roberts, Yr Ysgrifenydd, ei waith yn hynod o foddhaol. Yr enillwyr oeddynt;— Dosbarth I .-Her-gwpan a phedair gwobr. 1, J Moses, Croesoswallt; 2, Wm Jones, Ty Nant, Corwen; 3, Richard Williams, Wern Bach. Trawsfynydd 4, Wm Pritchard, Pyllty. Talybont. Dos. II.—Cyfyngedig i gwn yn Nghymra nad enillasant ddwy brif wobr o'r blaen, tair gwobr. 1, David Roberts, Cae Glas, Maen- twrog; 2, T. Roberts, Cymmo, Llantysilio; 3 W Pritchard, Talybont. Dos. III.-Agored i gwn yn Nghymru nad enillasant un brif wobr o'r blaen, pedair gwobr. 1, D 1 Williams, Rhiwiau, Llansan- nan; 2. Hugh H. Jones, Garth Derwen, Pen- ygroesj 3. R. M. Owen, Cae'r Eithin Tew, Garn; 4, H. Rowlands, Glan Prysor, Traws- fynydd. Dos. 4.—Cyfyngedig i gwn o fewn cylch awdurdod Cynghorau Ynyscynhaiarn a Glas- lyn, chwe' gwobr. 1, D. Lloyd Jones, Buarthau, Beddgelert; 2, R. Humphreys, Cilfach, Garn, Dos. Arbenig. — Agored i bawb. Am weithio dau gi yn y ffordd oreu ar unwaith, dwy wobr. 1, J. Morris. Croesoswallt; 2, T. Roberts. Cymmo, Llantysilio. Am gneifio oen gwryw ac oen banyw oreu mewn wyth munyd. 1 David Jones, Caeryn- wch, Dolgellau ac Evan Jones, Dofeidiog, Trawsfynydd, cyfartal.
BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. You've tried the rest Now try the BEST. If you want a piece of the best Smoked or ?lain Bacon; Gorgonzola, Cheddar, or Amer- ican Cheese, and all kinds of Provisions, try PARRY'S New Shop. YR YSGOL SIROL.—Y mae genym i Idn- mae genym i Ion gyfarch -Mr. Dodd a'i Staff ar Iwyddiant y rhai canlynol yn y Bwrdd Canolog Cymreig gyn- haliwyd yn Gorphenaf. Sylwer fod yr enwau yn ol trefn y wyddor, ac nid yn ol y marciau a enillasant :-HONOUR CERTIFICATE.—Enid Davies: John Parry Evans; Ellis Hughes; William Owen Jones; Owen Morgan: ac E'izabath Ellen Roberts.—SENIOR CER- TIFICATE.—Robert Caradoc Dvaies; Griffith Edwards: Sarah Lilian Evans Hugh William Hughes; William John Hughes; Elizabeth Bebb Jones; Evan Llywelyn Lewis; Gladys Owen Elizabeth Parry Annie Laura Pritch- ard; ac Idwal Williams—JUNIOR CERTI- FICATE,-Annie Davies; Blodwen Edwards; William John Ellis; Ieuan Vaughan Hoskins; Jennie Hughes; Elizabeth Jones; Henry Pritchard Jones,; Llywelyn Griffiith Jones; Sarah Ellen Jones; William Emrys Jones; Eleri Morris Jennie Owen Blodwen Roberts; Peter Ambrey Roberts; Morris Parry Williams; Richard David Williams; a William Ellis Williams. DAMWEINIAU.-Dydd Llun. wrth ddilyn ei oichwyl yn Chwarel y Diphwys cyfarfyddodd Mr Evan Williams, 8, Isfryn, Bethania, a damwain drom trwy i blyg o'r graig fyned i lawr o dan ei draed. Disgynodd i ganol y marien yn y gwaelod, a thorodd amryw o'i asenau a chafodd ysgydwad trwm i'w holl gorph,-Yn Chwarel Maenoffefen, ddydd Llun, cafodd Mr. Robert Owen, Uncorn Terrace, ei daraw a handl y Crane. Anafwyd ei wyneb a'i ben yn dost.-Dydd Mawrth. yn Chwarel Maenofferen, fel yr oedd Mr. Evan Lloyd Jones, Frondeg, High Street yn gweithio ar y graig gyda chadwen am ei goes, disgynodd beth o'r graig ar y rhan o'r gadwen a hangiai o tano. Yn ffodus, torodd y gadwen tu uchaf iddo, fel y gpllyngwyd ef i lawr y graig, neu yn ddiau buasai ei aelod wedi ei falurio os nad ei dori ymaith trwy pleth oedd am dano. Diang- odd heb dderbyn niweidiau difrifol. Gwein- yddwyd ar y tri gan Dr R. D. Evans. TROI YN OL.—Dydd Llun. dychwelodd M ames Roberts, mab ieuengaf Mr. Griffith Roberts, 19, Manod Road, Bethania, yn ol am yr America. Dymunwn iddo o galon bob llwyddiant ar ei yrfa. FOOTBALL MATCH.—The following team has been selected to play against Pwllheli next Saturday, at, the Newborough Park:—Goal, R. Smith; backs, Tom. Hughes & D. Evans; balves, R. Powell. W. Jones, Arthur Williams; forwards, T. Hughes, Jack Jo oes, A. N. Other. W. R. Owen, W. Ellis. Reserves, J. Hughes. 0. C. Owen, W H. Williams, Howell Evans, Referee, Mr R. Bersee, Kick-off. 3-45 p.m.
Blys ac-Ofn.-.- egllJj'
jjnogaeth i Dy'r Arglwyddi i'w daflu allan. Ond er fod ganddo flys, yr oedd amo hefyd ofn gwneyd hyny. Fel math o esgusawd dros beidio dysgu TVfc Arglwyddi, dyvolo edoddlei fod ar hyd y deugain mlynedd sydd wedi-myn,ld heibio, er's panmaewedi cym- Cryd ei sedd ynddo, wedi bod mewn lleiafrif. Vna dywedodd eiriau sydd yn dywyll ar y naiii law ac yn awgrymiadol iawn ar y lIaw arall. Sicrhaodd ei wrandawyr ei fod yn bollot argyhoeddedig fod ar y Llywodraeth eisieu i Dy'r Arglwyddi daflu r mesur allan, a bod y ffaith fod bron bob un o'i haelodau yn herio'r arglwyddi i wneyd hyny yn dangos eu bod yn dymuno y peth. Y ffordd i demtio Prydeiniwr i wneyd rhywbeth (medd ef) ydyw dywedyd wrtho na feiddia ei wneyd. Er mwyn dangos nad ofna, efe a'i gwna. Mae hyn yn hollol wir, ac y mae'n hen wyb- yddus i ni. Nid Arglwydd Rosebery a'i darganfu. Ond dyma'r meddwl sydd yn yrnddangos i ni fel yn gorwedd dan y geiriau Mae y Llywodraeth yn awyddus i Dy'r Arglwyddi daflu'r mesur allan. Ni fuasai yn dymuno hyny oni bae ei bod yn credu y Pair fantais iddi hi ac anfantais i Dy'r Arglwyddi. Felly byddai yr Arglwyddi trwy vineyd felly yn chwareu i ddwylaw y Llyw- odraeth er niwed iddynt eu hunam." Dyma'r awgrym a gyfleir i ni gan y geiriau a ddywedodd H yr oracl," ond fel y dywed- asom eisoes maent yn eiriau tywyl! drosjjben.