Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

GYFARFOD MISOL GORLLEWINI…

News
Cite
Share

GYFARFOD MISOL GORLLEWIN MEIRIONYDD. Cynhaliwyd yr uchod yn Nghapel Bowydd, Blaenau Ffestiniog, ddydd Llun, o dan lyw- yddiaeth y Parch. R. R. Williams, M.A., Towyn, y Cadeirydd am y flwyddyn. Dech- reuwyd gan Mr. R. Edwards, Penrhyn. Wedi cadarnhau y cofnodion, gwrandawodd y Parch Hugh Roberts, Rhydymain, brofiad swyddog- ion Bowydd a'r Capel Seisneg. Mr. G. G. Davies, Rhiw, a holodd y Swyddogion am hanes yr achos yn y ddau le. Yr oedd pob- peth yn edrych yn lied galonog er yr holl ddirwasgiad masnachol sydd yn yr ardal a'r baich 0 [1,500 sydd yn aros ar yr Eglwys yn y He. Canmolid sel cyfeillion y Capel Seisneg yn fawr iawn. Hawdd canfod mai y ffyddlon- iaid sydd yn cynal yr achos, ac yn gofalu am fynychu y cyfarfodydd. Dywedodd y Parch. John Owen, M.A., y gweinidog, mai i baner yr aelodau yr oedd y cyfarfod gweddi ar Seiat yn perthyn, a'r haner arall yn ymgadw yn hollol glir oddiwrthynt, tra rhagorai y cyfeill- ion Seisneg yn eu ffyddlondeb. > Pasiwyd pleidlais o gvdymdeimlad a'r Parch David Jones, Aberdyfi (Garregddu gynt), yn ei waeledd; yr Ysgrifenydd (Parch. D. James) ar farwolaeth ei fam, ac a Mr, Edward Wil- liams, St. Ann's Square, Abermaw, ar farwol- aeth Mrs. Edwards. Hysbyswyd i Eglwys Bethesda fethu dewis Blaenoriaid pan fu y cenadon yno yn cymeryd ei llais; ond dewisiodd Eglwys Maenofferen bedwar, Pasiwyd i gyfranu punt at Gymdeithas Ddirwestol Gwynedd. Cadarnbawyd gwaith y Parch. D. Hoskins, M.A., yn rhoddi i fyny ofal Eglwys Bethesda ar ei gydsyniad i fyned i Gaernarfon. Gofidid colli Mr. Hoskins o'r cylch ac o'r Cyfarfod Misol. Pasiwyd i ofyn i'r Parch. O. Lloyd Owen gydweithredu a Mr. Hoskins gyda'r Achosion Seisneg hyd ddiwedd y flwyddyn. Cynhaliwy&cyfarfod y prydnawn am un o'r gloch. Dechreuwyd gan Mr. William Evans, Masnofferen. Ymddiddanwyd a'r Pregethwyr Ieuaingc sydd yn yr ysgolion a'r Athrofeydd, gan y Parch. D. Hoskins, yr hwn hefyd a draddododd Gyngor gwerthfawr iddynt. Daeth chwech yn mlaen, a phasiwyd i anfon at y tri oeddynt yn absenol am reswm dros eu habsenoldeb. Dywedodd y chwe' brawd ieu- aingc ddaeth yn mlaen eu profiadau gyda'r gwaith. Cynygiodd y Parch. Silyn Roberts eu bod yn datgan eu gofid nad oedd ond 24 o'r 64 o eglwysi oedd yn perthyn i'r Cyfarfod Misol yn cael eu cynrychioli yn y cyfarfod hwnw. Cefnogodd Mr. W. Jones, Talsarnau.—Y Parch. Hugh Roberts a'r Ysgrifenydd a syl- wasant fod mwy o lawer na 24 eglwys yn cael eu cynrychioli gan fod en gweinidogion yn bresenol ar eu rhan.-Collodd y cynygiad. Y Parch. John Owen, M.A., a arweiniodd yr ymddiddan ar tri pregethwr ieuaingc fuont yn llwyddianus yn arholiad Gorphenaf, sef John Parry Jones a William E. Williams. Nazareth, Penrhyn. Yr oedd Mr. Edward J. Lloyd, Bowyd wedi myned i sefyll yr arhol- iad yn y Bala y diwrnod hwnw, ac felly yn analluog i fod yn bresenol.—Yr ysgrifenydd a ddywedodd i'r tri basio yn anrhydeddus, a bu i Mr. Lloyd martriculatio gydag anrhydedd. Adroddodd y ddau eu profiadau yn glir, ac amlygasant eu hawydd am wasanaethu eu Harglwydd gyda ffyddlondeb.-Trefnodd y cyfarfod misol gylch eu blwyddyn brawf. Pasiwyd i'r cyfarfod nesaf fod yn Towyn, Medi 11 a 12. Y Parch. R. R. Morris i agor trafodaeth ar Farddoniaeth Llyfr y Salmau Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. R. J. Williams, Lerpwl, Ysgrifenydd y Gymdeithas Genhadol, a cbafwyd anerchiad cynes iawn gan y Parch. W. Jenkyn Jones, Cenhadwr yn Llydaw, yn rhoddi hanes y gwaith a wneiryno. Y mae Mr. Jones ar y maes hwnw er's 28 mlynedd, a dyddorol oedd ei glywed yn dywed- yd am y modd yr oedd rhagfarnau y wlad yn cael eu gwisgo ymaith, a'r gwaith da yn lefeinio y wlad. Gohiriwyd trafodaeth ar y Rheolau Sefydlog hyd nes y ceir barn y Cyfarfodydd Dosbarth yn eu cylch. Penodwyd brodyr Dosbarth y Ddwy Afon i dynu allan faterion yr awr gyntaf am y flwyddyn 1910, Galwodd y Parch, R. Silyn Roberts sylw at Gasgliad yr Ysbyttai. Yr oedd yr enwad yn casglu mwy na'r holl enwadau eraill gyda'u gilydd. Yr oedd ef yn awyddus i wybod sut y' gwerid yr arian. Yr oedd yn fater pwysig i ardal weitbfaol fel Blaenau Ffestiniog.—Mr, W. Evans a ddywedodd eu bod yn casgln yn agos i ddigon fel ag i arbed gofyn y 5/- oddiar y aawl elai i'r Ysbyttai. Wedi oael gair yo mbellach gan Mr. R. Richards, Pensarn, oed- wyd y mater hyd gyfarfod Towyn, a bod cais yn myned at Dr. Jones, Harlech, i bresenoli el bun yno i roddi cyfrif llawn ar y pwngc.— Cadeirydd Dylid anog yr Enwadaa eraill i wneyd eu rhan o blaid yr Ysbyttai, gan eu bod yn bygwth cau Gogledd Cymru allan, a hyny oherwydd prinder y casgliadau oddiwrthym at y sefydliadau daionus yma. Penodwyd y Parch. J. E, Hughes, B.A., B.D., Engedi, yn Ysgrifenydd yr Ysgol Sul am y tair blynedd nesaf. Daeth cais o Eglwys Bethel, Tanygrisiau; am i ddau gael eu penodi i fyned i dderbyn ea llais i ddewis rhagor o flaenoriaid, a phenod- wyd y Parch. Thomas Hughes, B.A., Rhiw, a Mr. G. G. Davies, Rhiw, i fyned yno. Daeth cais cyffelyb o Bowydd, a phenodwyd < y Parch. R. Silyn Roberts, M.A., a Mr. H. Ariander Hughes i fyned yno. Daeth cais cyffelyb o Bethesda, a phenod- wyd y Parch. R. R. Morris, a Mr. H. Ariander Hughes i fyned yno. Hefyd daeth cais o Eglwysi Bethesda a Gwylfa am i ddau gael eu penodi i dderbyn eu llais ar ddewis gweinidog yn olynydd i Mr. Hoskins. Penodwyd y Parch. J. R. Jones, B.A., Peniel, a Mr. T. R. Jones, Engedi, i fyned yno i'r amcan hwnw. Derbyniwyd £ 19 Is Oc at yr Achosion Seis- neg, a £ 3 15s 4c at Gapel y Fron, Penrhyn. Daeth llythyr o Gyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd yn galw sylw at y Dysteb oeddid yn ei gwneyd i'r Parch. Isaac Jones-Williams, Llandderfel, yn ei waeledd trwm.—Nodwyd y Parch. R. Roberts, Penrhyn, a Mr. William Jones, U.H., Talsarnau, i gymeryd gofal y casgliad yn nghylch y cyfarfod misol bwn.

OVNQOR DINESIQ FFESTINIOG.…

CWM PENMACHNO.

BEDDGELERT.