Hide Articles List

9 articles on this Page

O'R PEDWAR OWR.

I -NODION -OERDDOROL.

[No title]

LLANRWST. I

BLAENAU FFESTINIOG. I

NANTYBENGLOG, -CAPEL CURIG.…

-BETTWSYCOED.--------I

BWRDD GWARCHEIDWAID LLANRWST.

News
Cite
Share

BWRDD GWARCHEIDWAID LLAN- RWST. Cynhaliwyd, cyfarfod misol y Bwrdd ddydd Mawrth, Mr D. G. Jones (Is-gadeirydd) yn y Gadair. Yr oedd hefyd yn bresenol Mri J. Hughes, John Berry, J. Lloyd Morris, Wil- liam Williams, Edward Edwards, Owen Evans, T. T. Roberts, David Owen, W. G. Jones, D. Jones, John Williams, John Davies (Gwytherin), John Davies (Bryniog), O. LL Jones, David Lewis, Robert Williams, Hugh Roberts, David Jones (Pennant), Isaac Hughes, Parchn John Gower, H. Rawson Williams, Henry Jones, a J. Llewellyn Richards, yn nghyda'r Mri R. R. Owen (Clerc), T. Hughes (Clerc Cynorthwyol), Edward Hughes (Meistr), O. Evans-Jones a T. C. Roberts (Swyddogion Elusenol). Yr Elusenau. Adroddodd y Clerc i £168 9s He gael eu talu mewn Elusenau yn ystod y mis rhwng 278 o dlodion, yr hyn oedd yn lleihad o 40 yn rhif y tlodion, a £ 17 3s Oc yn swm yr elusenau ar gyfer yr un mis y llynedd. j Y Ty. Y Meistr a adroddodd fod 23 o dlodion yn y Ty ar gyfer 19 yr un amser y llynedd, Gal- wodd 93 o grwydriaid yn ystod y mis lleihad o 7. Caniatawyd y gwyliau arferol i'r Feist- res. Y Tlawd a'i Chathod. Mr. O. Evans Jones a adroddodd ar un o'r acbosion, a gofynodd am i'r elusen gael ei hadnewyddu.—Mr. W. G. Jones, Sut y mae ei chathod yn awr ?"—Y Swyddog, 0 yn iawn. Mae yno dorllwyth o gathod bach yn awr."—Parch. J. Gower, "Y mae Undebau eraill yn gwrthwynebu i'r tlodion gadw cwn. Nid wyf fi yn gwrthwynebu cadw un gath, ond paham cadw haid o honynt ?" Swyddog, Am fod yno gynifer o lygod bach yn y ty (chwerthin).—Mr. Gower, "Felly mae'r cath- od yn ddiwerth, a dylid eu boddi (chwerthin) —Adnewyddwyd yr elusen. Allan o Waith. Mr. O. Evans-Jones a ddywedodd na welodd gynifer allan o waith erioed o'r blaen yn ei ddosbarth, ac yr oedd galwadau mynych arno i gynorthwyo amryw o bobl ieuaingc priod o herwydd diffyg gwaith. Achosion Elusenol. Y Parch. Henry Jones, yn unol a'r rhybudd a roddodd a gynygiodd fod y Bwrdd yn cael ei ranu yn ddau i ystyried yr elusenau, a bod Gwarcheidwaid pob Dosbarth i fod gyda Swyddog Elusenol y cyfryw.—Cefnogodd Mr. William Williams. Y Parch. J. 1.1. Richards a ddadleuai nad oedd, angen am wneyd fel y cynygid. Pe rhoddid yr elusen am 26 wythnos i'r tlodion parhaus, ac am 12 wythnos i'r gwragedd gweddwon, arbedid y drafferth o fyned dros yr un enwau bob mis gyda'r un canlyniadau.— Mr J; Davies (Bryniog) a wrthwynebai roddi elusen i weddwon am 12 wythnos gan y gallai eu hamgylchiadau newid yn ystod yr amser.—Mr. Richards, "Y mae y Swyddog yn agored i'w dwyn i sylw yr un fath yn union."—Mr. Gower a dybiai y cynllun a gynygid yn un rhagorol, ond dylidnewidy pwyllgor yn achlysurol er mwyn gweled nad oedd y naill ddosbarth yn cael ffafr mwy ar y tlodion na'r dosbarth arall.-Mr. John Wil- liams a gynygiodd welliant fod pethau yn cael eu gadael fel y maent, a chefnogodd Mr. David Lewis. Pasiwyd y gwelliant gyda mwyafrif mawr. Cyflog y Felstres. Gohiriwyd cais y Feistres am godiad yn ei chyflog, a rhoddodd y Parch. H. Rawson Williams rhybudd o gynygiad at y cyfarfod nesaf fod y cais yn cael ei ganiatau. Ty Berwedydd Newydd. Yr oedd y cynygion canlynol wed! eu derbyn am godi lie newydd i'r Berwedydd:—Mri. Jeremiah Jones, Llanrwst, £ 33 Hugh Hughes eto, £ 42; John Roberts, Trefriw, £ 33 18s 6c; W. Owen ac Edward Williams, eto, £ 32 15s Oc.-Pasiwyd i Mri. Owen a Williams gael y gwaith. Cyflog y Trethgasglydd. I Y Clerc a adroddodd i'r Pwyllgor penodedig i ystyried pwngc y cyflog delid i'r Trethgasg- lydd gan y gwahanol blwyfi, ac argymellent fod y swm i fod yn sylfaenedig ar werth treth- iadol bob plwyf, ac nid ar rif yr Assessments fel o'r blaen gan fod pob treuliau eraill perth- ynol i'r Undeb yn cael ei sylfaenu ar werth trethiadol pob plwyf. Canlyniad y cynllun newydd yw a ganlyn ;-Bettwsyeoed i dalu £ 11 lis 2c yn lie £ 6 19s Oc; Capel Curig, £3 Is 4c yn lie £2 14s 4c Dolwyddelen, £ 5 15s 2c yn lie f 8 6s 8c Eidda, £ l 12s 3c yn lie zli 3s 8c; Llanrhychwyu, £ 2s 3c yn lie £5 10s 10c; Maenan, £4 13s It yn lie £4 13s Oc Penmechfid, £8 135 Ic yn lie f 11 12s 6c 'Trefriw, £ 1 19s 2c yn He J9 ls 4c Gwern- howell, £ 0 9s 10c ynlle ZO 13s Oc; Gwytherin, £ 2 10s 3c yn lie £2 14s 4c; Llanddoged, £3 2s Oc yn lie £2 18s 4c; Llangernyw, f 6 17s 10c yn lie £ 6 16s Oc Llanrwst (Wledig), /13 Is Ie yn lie/12 8s Oe; Llanrwst (Dinesig), £ 20 19s 3c, yr un fath ag o'r blaen Pentre- foelas, £ 3 11s 3c yn lie ti 17s 6c Tir Ifan, /1 5s Oc yn lie £1 Os 8c a Trebrys, £ 0 16s Oc yn lie £ l 8s 4c.—Ar gynygiad y Parch. J. Ll. Richards a chefnogiad y Parch. H. Raw- son Williairs mabwysiadwyd yr argymelliad.

TRAWSFYNYDD.