Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

O'R PEDWAR OWR.

I -NODION -OERDDOROL.

[No title]

LLANRWST. I

BLAENAU FFESTINIOG. I

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. I SPECTOLS.—Os bydd rhywbeth allan o le ar eich Spectols, gellir ei gwneyd yn foddhaol gan Mr. Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog, yr nnig Optician yn Sir Feirionydd, sydd wedi pasta Arhol iadau yn y cyfeiriad hyn. You've tried the rest Now try the BEST. If you want a piece of the best Smoked or Plain Bacon Gorgonzola, Cheddar, or Amer- ican Cheese, and all kinds of Provisions, try PARRY'S New Shop. PHONOGRAPHS.—Dymuna G. R. Davies, Manod Studio, Bethania, wneyd yn hysbys ei fod wedi ei benodi yn Oruchwyliwr i'r National Phonograph Co., a bydd yn barod i dderbyn unrhyw archebion am Phonographs, &c. Mae ganddo gyflawnder o Records diweddaraf, a bydd yn bleser ganddo gyflenwi pwy bynag a anfono ato am list yn rhad.-ADV. Aeth Mr. R. O. Davies i :fyny i Lundain ddydd Gwener i fod yn bresenol ar ran yr Adran Leol o'r Tirwyr pan oedd y Brenin yn cyflwyno y "Colours" i'r Fyddin.—Llawen genym gael ar ddeall fod y rhai canlynol wedi pasio fel Swyddogion yn y Fyddin Dirlogaethol I —Mri J. G. Williams. The Square, W. J. Thomas, Cwmbowydd Road, a R. Ben Jones, Oakeley Square, yn Sergeants; a Mr. David John Griffiths, Tanygrisiau, yn Corporal. Llongyfarchwn eu Hyfforddydd y Rhingyll T. Jenkins a hwythau am y llwyddiant sydd yn deilliaw o'u hymarferiadau. Yn ystod y gwasanaeth nos Sabboth, yn Ngbapel Bethania, datganodd Miss K. A. Jones, Cefnbrith, "Angels ever bright and fair" (geiriau Cymreig gan Mr Bevan) yn swynol dros ben. Aeth y Dan Gatrawd o dan reolaeth eu Cadben John Jones i Landudno ddydd Sadwrn i'r Fire Brigade Drills gynhelid o dan Undeb Cenedlaethol y Tanddiffoddwyr. Enillodd Dolgellau y wobr gyntaf mewn pump o'r cys- tadleuaethau Llandudno, un wobr gyntaf a thair ail; a Bodelwydden, ddwy ail. Ni chystadleuodd Tangatrawd Ffestiniog. LLENYDDOL. Llawen genym longyfarch Mr. Ted Jones ar ei waith yn enill ar y ddau Unawd yn Nghylchwyl Pentrefoelas ddydd Iau diweddaf. Hefyd Mr. Meredith Davies ar ei lwydd ar y prif Draetbawd, a Miss Wil- liams, Glaslyn Temperance ar yr ail Draethawd. Nos Lun, daeth Mr. Griffith Roberts, 19, Manod Road, adref o Ysbytty Lerpwl. wedi bod yno am amser yn derbyn triniaethau arbenig. Eiddunwn adferiad llwyr a buan iddo o'i afiechyd blin. CYWIRIAD.—Bu ini oddeutu bythefnos yn ol, mewn nodiad yn y golofn hon, yn hysbysu fod y Parch. John Hughes, Jerusalem, yn gwella yn rhagorol, ddweyd fod y Parch. George Davies, B.A.. Brynbowydd, yn garedig iawn weji cymeryd ei le y nos Sabboth cynt. Dymunwn gywiro. mai enw y Parch. J. Williams Davies, ac Eglwys Hyfrydfa, ddy; lasem gyhoeddi. TEML BARLWYD.—Nos Wener diweddaf cynhaliwyd Cyfarfod Dirwestol dan nawdd yr uchod wrth Penygroes, Tanygrisiau. Arwein- iwyd gan John R. Jones, Glanrafon Terrace. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Owen Davies, Ty Capel, yna awd trwy'r rag- len ganlynolTon gyffredinol. Can gan David W. Thomas, Foundry House. Dadl gan Annie Jones, Glanrafon Terrace, a'i chyfeilles. Adroddiad gan Olwen Lloyd, New Terrace. Deuawd gan Annie Roberts, Bryntwrog, a'i chyfeilles. Anerchiad rhagor- ol gan Parch. Thomas Griffiths, Salem. Dat- ganiad Barti W. Morris Williams, Penybryn. Can gan Johnie Griffiths, Eirianfa. Cynyg- iodd Thomas Hughes, GIanrafon Terrace, a chefnogodd W. Morris Williams eu diolchgar- wch i'r gwasanaethyddion. Terfynwyd trwy weddi. ER COF.-Blin iawn ydyw cofnodi am far- wolaeth a chladdedigaeth y brawd caredig Samuel Jones, 43, New Street, Ferndale. Brodor ydoedd o Llwynygell, BlaenauFfestin- iog, pa le y cartrefai ei fam weddw a chwior- ydd iddo, ac yr oedd yn adnabyddus iawn yn yr ardal, a chafodd ei gydnabod eu siomi yn fawr i ddeall nad oedd ei weddillion marwol yn cael eu gludo i ardal Ffestiniog i'w claddu. Ni chafodd ond ychydig ddyddiau o gystudd, ond hwnw yn gystudd caled a thrwm iawn. Mawrth y Sulgwyn aeth gyda ysgol Sul Penel (M.C.), am wibdaith i'r Barry, i Ian y mor, ac aeth i ymolchi gan nad oedd yn teimlo yn rhyw iach iawn gan feddwl y byddai hyny yn llesol iddo ond yn hollol i'r gwrthwyneb y bu, cafodd ei daro ar cryd, a gorfu iddo fyned i'w wely, ac mewn diwrnod neu ddau hysbysodd y meddyg fod dan enyniad a Ilid yr ysgyfaint, ac o dan law y clefydau hyn y bu mewn poenau mawr er pob gofal ei fam a'r meddygon hyd ei farw boreu Mehefin lleg. Yr oedd yn frawd tawel, rhydd ei galon, haeifrydig a siriol, ac hawdd iawn gwyned cyfaill o hono. Er trym- ed ei gystudd, yr oedd yn gallu murmur yr Emyn hwnw, Arglwydd dyma fi, ar dy alwad di," a dyna'r emynaganwydarlan y bedd dydd ei gladdedigaeth. Dangosodd ei gyfeillion gogleddolyn y lIe a'r Cwm, yn nghyd a preswylwyr y lie, barch iddo hyd y diwedd. Casglwyd swm er cael BIodeudorch brydferth arffurf telyn ar ei arch; a rhoddodd Eglwys Penuel rhodd sylweddol hefyd er cynorthwyo a chysuro ei fam oedranus a duwiolfrydig yn ei dydd blin, ac y mae yn dymuno cyflwyno ei diolch gwresocaf i'r cyfeillion oil am eu parch, eu cydymdeimlad, a'u caredigrwydd cristion- ogol iddi. Ar y J Sed daeth torf luosog a pharchus ynghyd i gludo ei weddillion i'r gladdfa leol. A gwasanaethwyd yn hynod bwrpasol gan y Parch. B. Watkins, gweinidog yr ymadawedig, a gwnaeth sylwadau apeliadol a charedig at y bobl ieuainc, gan gyfeirio nad oedd Samuel Jones ond 22ain oed, ac fod hyny yn galw am ymbaratoi. Cydymdeimlir yma yn gyffredinol a'r fam, y chwiorydd, a'r brodyr yn ei galar. Bydded nodded y Tad Nefol drostynt oil. [Bydded y papurau Americanaidd mor garedig a cofnodi yr uchod am fod perthynasau agos i'r teula yn yr Unol Dalaethau ]—J.LL.J.

NANTYBENGLOG, -CAPEL CURIG.…

-BETTWSYCOED.--------I

BWRDD GWARCHEIDWAID LLANRWST.

TRAWSFYNYDD.