Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

O'R PEDWAR OWR.

I -NODION -OERDDOROL.

[No title]

LLANRWST. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

LLANRWST. I TREFN Y MODDION SABBOTHOL. t Yr Eglwys Sefydledig. ST. CRWST-10-30 a 6. Gwasanaeth Cymreig. ST. MARY.-ll a 6, Gwasanaeth Seisnig. Y Methodistiaid. SEION.-Parch O. J. Owen, Rock Ferry. HEOL SCOTLAND. Parch. E. Stephen, Ruthyn. Yr Annibynwyr. TABERNACL.-10, Parch. Thomas Jones. 6, W. Williams, Colwyn Bay. EBENEZER.—10, Parch, W. Williams. 6, Parch Thomas Jones. Y Wesleyaid. HOREB.—Mr. R. Rowlands, Colwyn Bay. ST. JAMES (English Chapel).—Rev. H. Water- worth. Bedyddwyr. PENUEL.—Parch. Owen Davies, D.D., Caer- narfon. Y mae Eglwysi Anibynwyr y Tabernacl ac Ebenezer wedi penderfynu yn derfynol i uno a'u gilydd o'r Sul nesaf yn mlaen. Gwasanaethodd y Parchn. T. Jones, Rhos- tyllen; a John Roberts, Rhyl ddydd Iau a Gwener yn nghyfarfod blynyddol Capel Bethel. Borea Sabboth bu farw Henry Kershaw, Tyddyn Terrace. Er nad oedd yn Hawn ugain I oed, dyoddefgdd gystudd maith, Y mae Mr. Wynne, yr Arolygydd, wedi mesur llwybr sy'n arwain am y cae Cricket i'r amcan o baratoi amcangyfrif o'r draul o'i adgy weirio, Y mae Arglwydd Penrhyn wedi cydsynio i fod yn Llywydd Arddangosfa Nant Fachno. Dydd Mercher, daeth tua saith cant o aelodan Ysgolion Sabbothol Llandudno i'r dref, ac aeth tua phum' cant o honynt am Trefriw. Y mae y Parch. D. C. Davies yn ymadael yn fuan am Deganwy. Yr oedd ef yn boblog- aidd iawn yn ein plith. Dydd Mercher, tra yr oedd Mr. Thomas Hughes, Cefnmaenllwyd, yn tori yn Mwn- glawdd yr Hafna, neidiodd darn o bren blaen- fain i fyny, ac aeth i mewn i'w frest yn ymyl ei galon. Cafodd Dr. Hill ef mewn setyllfa beryglus oherwydd yr archoll a'r ysgydwad i'w holl gyfansoddiad. Gofidus genym gofnodi marwolaeth Mrs. Harriett Louisa Parry, Black Horse Inn. Rhoddodd enedigaeth i blentyn tua mis yn ol, ac ni wellhaadd ar ol hyny. Torwyd hi i lawr yn yr oedran cynar o 32. Yr oedd ei sirioldeb a chymwynasgarwch yn gyffredinol adnabydd- s yn ein plith ar hyd y blynyddoedd, a bu yn briod garedig a gofalns. Y mae ein cydym- deimlad dyfnaf a'i gwr yn ei brofedigaeth chwerw wedi ei adael gyda'i blentyn ychydig wythnosau oed. Claddwyd ei gweddillion ddydd Mercher yn eglwys St. Mary pryd y gweinyddwyd gan y Tad Trebaol. Tra yr oedd Mr. D. Jones, Brynhyfryd, yn arwain ceffyl bywiog, bu i gerbyd modur, wrth osgoi y ceffyl, recjeg i wal yr ardd gan achosi niweidiau i'r wal" a'r modur. Rhuthrodd y ceffyl ymaith gan lusgo Mr. Jones hyd y Tollborth, pan lwyddodd i gael Hywodraeth drachefn ar yr anifail. Cafaddniweidiauiw ben a'i ddwylaw wrth gael ei lusgo ar hyd y 'ffordd. Bu i Mr. Owen, Prif Arolygwr Ysgolion Canolraddol Cymru; Mr. Robinson Arolyg- ydd Gwyddonol; a Miss Thompson, Arolyg- yddes Ysgolion y Merched, wneyd eu hym- weliad tair-blynyddol a'r Ysgol Ganolraddol ddydd Iau, a datganasant eu boddhad ar bobpeth a welsant. Yn ddilynol i hyny cafodd yr Arolygwyr Gynhadledd gyda'r Rheolwyr. Cynhaliodd Mr Morris, Arolygydd Ysgolion, arholiad ar yr Ymgeiswyr am ysgoloriaetbau oeddynt o Sir Gaernarfon ac o Sir Ddinbych. Y mae Mr. J. D. Jones, Cyfreithiwr, wedi dychwelyd adref ar ol ei Seibiant a'i ymweliad a'r Eisteddfod Genedlaethol. Ymadawodd Miss Roberts, Llythyrdy, ar ei gwyliau i'r Iwerddon.—Mae Mr. John Henry Williams, yr hwn sydd drosodd yn y wlad hon o'r Unol Dalaethau, ac a fu'n aros gyda'i frawd Mr. Tudor Williams, Waterloo House, wedi myned i edrych am ei rieni i Plasynward, Rhuthyn.— Aeth amryw foneddigesau a boneddigion oddiyma i eisteddiad olaf y tymor yn Ngholeg Bangor i weled Syr Thomas Raleigh yn traddodi anerchiad ar Golegau India Brydeinig. Marchnad neillduol o fechan a fu yma ddydd Mawrth. Methodd y Parch. J. E. Hughes, Caernar- fon, a chadw ei wahoddiad yn Seion y Sabboth. Cymerwyd ei le gan y Parch. H. Rawson Williams, yr hwn a draddododd bregethau eitbriadol o rymus a dylanwadol. Ffaith hynod yn nglyn a chyfarfod blyny- ddol Bethel yr wythnos ddiweddaf ydoedd fod y ddau weinidcg a wasanaethai wedi cael eu hysbysu trwy y wasg fel wedi meirw er's cryn amser yn ol. Cafodd Mri. Robert a Rogers Jones sale lwyddianus iawn yn Talycafn ddydd Llun. Gwerthwyd ganddynt 1080 o Wyn tewion i fyny i 31/- yr un. 49 o Fyllt a Mamogiaid i fyny i 38/6. Cyplau Crossbreds, 24/6, Bust- ych, &c., tewion, f 18 2s 6c; Eto, cadw, J9 10s 0c. Buchod a Heffrod Magu /18 15s Dc. Lloi Tewion, £3 16s 0c; Tair Hwch ar fin bwrw eu mhoch, £ c 10s 0c. Cyfarfu y Rheolwyr Addysg perthynol i'r Ysgol Ganolraddol ddydd Iau, pryd yr oedd yn bresenol, Mrs. a Mr. 0.. Isgoed Jones, W. J. Williams, D. J. Williams, E. Jones-Owen. Hugh Owen, Parch. John Morgan, Parch. W. Thomas, a Thomas Griffith (Clerc).—Rhodd- odd y pwyllgor adroddiad ffafriol ar y lletyau gyda'r eithriad o an neu ddau,—Adroddwyd am yr ymgyngoriad a gafwyd a'r Prif Athraw, y Parch J. I. Farr, M.A., gyda gotwg ar uno a chymdeithas yr Ysgolion Canolraddol Gymreig, a phasiwyd i uno a'r cyfryw.—Gohiriwyd cym- eradwyo y Cynllun o'r cyfnewidiadau ar yr Ysgol hyd nes y bydd holl Reolwyr y Dosbarth wedi cael golwg arno. ■WWWNAA/VWWVVWWWWVVW

BLAENAU FFESTINIOG. I

NANTYBENGLOG, -CAPEL CURIG.…

-BETTWSYCOED.--------I

BWRDD GWARCHEIDWAID LLANRWST.

TRAWSFYNYDD.