Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

"yyn erbyn yr Ysgolion. I

m■l ^ Vwy

[No title]

NODION o,'R  NODION O'R CYLCH.…

CYMANFA GYFFREDINOL Y M.C.…

MAENTWROG.

[No title]

LLYS METHDALIADOL j FFESTINIOG.

News
Cite
Share

LLYS METHDALIADOL j FFESTINIOG. ACHGSION PWYSIG. j Prydnawn ddydd Mawrth o flaen y Cofrestr- ydd Mr. Thomas Jones. Yr oedd cynifer a naw o achosion i ddod gerbron. Holwyd yn yr oil ddaeth yn mlaen gan Mr. J. Tobias (Dirprwy-Dderbynydd Swyddogol), Achos W. S. Roberts, Fronoleu, Tany- I grislau. Mr. Tobias a hysbysodd y Llys fod W. S. Roberts wedi myned i'r America ar ol y Llys diweddaf ond gan ei fod wedi rhoddi pob gwybodaeth oedd yn ofynol am ei amgylchiad- au i'r Derbyoydd Swyddogol cyn myned i ffwrdd, yr oedd ef (Mr. Tobias) yn gofyn am i'r arholiad gael ei gau,—Cauwyd^yr Arholiad. Achos Peter Roberts, Cwm, Penmachno. I Yr oedd yr achos hwn wedi ei ohirio y Llys diweddaf, a chan fod tystysgrif feddygol yn datgan nad allai fod yn bresenol, gohiriwyd yr Arholiad. Achos Robert Jones, Gwerthwr Olwyn- feirch, Blaenau Ffestiniog Daeth R. Jones i fyny am ei arholiad, a gwylid ei achos gan Mr. D. White Phillips, Yn ol ei adroddiad i'r Derbynydd Swyddogol. Yr oedd yr holl ofynion yn ei erbyn yn £ 173 6s 6c. Eiddo gwerth £ 47 9s 3c. Dyledion £ 159 9s 6c, yn cynwys 26 o wahanol ofynwyr am y swm o £ 129 4s 6c, un am £ 11 5s 3c arian benthyg, un am werth £7 16s Oc o ddodrefn, a £ 11 4s Oc am rent a goleuni. Collodd £20 9s 3c ar y fasnach o Mai 12, 1907, a'i draul byw ef a'i wraig yn £ 143. Mewn atebion pellach i'r Dirprwy-Dderbynydd Swyddogol dywedodd iddo wneyd Gweithred Drosglwyddiadol o'i holl eiddo ryw 8 neu 9 mlynedd yn ol, ond ni wyddai faint oedd swm ei ddyledion y pryd hwnw, nag a dalwyd rhywfaint o honynt. Bu yn gweithio o fan i fan ar ol hyny. Ionawr 1, 1907 daeth i'r Blaenau yn Agent i Connah's Cycle Company, ac ar Mai 12,1907, cymerodd y business drosodd ei hunan. Gadawodd Connah's bethau yn y He, ac yr oeddynt yno eto. Yr oedd i dalu 10/- yr wythnos am y lie, ond 7/6 oedd y rhent presenol. Nid oedd gan- ddo arian i gychwyn business, ond cafodd fen- thyg gan ei wraig. Yr oedd mewn dyled yn cychwyn y business, a chafodd fenthyg arian ddechreu y Jlwyddyn hon gan foneddwr o'r lie, o'r rhai ni thalodd ddim. Ni welodd y cytundeb a arwyddodd i Mr. J. N. Edwards yn nghylch y dodrefn byth ar ol iddo ei arwyddo. Nid oedd yn gwybod sut yr oedd rhai o'r biliau yn galw ei wraig yn Mrs. Jones cyn y dyddiad iddynt briodi. Wrth gael ei holi yn mhellach, a'i atebion yn anfoddhaol, sylwodd Mr. Tobias ei fod yn dywedyd iddo golli dros ugain punt ar ei fus- nes, Onid yw yn ffaith nad oeddych byth i'ch cael gyda'ch business, a'ch bod yn ei esgeul- uso yn barhaus trwy fod gyda diod ?-Y Meth- dalwr, "Nag ydyw."—Mr. Tobias, "Y mae! yn ffaith eich bod yn barhaus gyda diod ?— Methdalwr, Nag ydyw ?"-¥r. Tobias (wrth y Cofrestrydd), Nid yw o un dyben myned yn mlaen gyda'r arholiad gan nad yw y dyn hwn mewn cyflwr priodol i fod mewn lie fel hwn nid yw yn sylweddoli difrifoldeb ei sef- yllfa." Wrth y Methdalwr, Yr ydych wedi cael gormod o ddiod."—Y Cofrestrydd, Y mae y Derbynydd Swyddogol yn dywedyd eich bod wedi cael tropyn gormod, a rhaid i chwi ddod i le fel hyn yn sobor. Mae'r gyfraith yn hawlio hyny, Gwell i chwi fyned adre am de a pheidio rhoi dim byd ynddo ond siwgr a llefrith, a dod yma yn mhen yr awr."—Ar hyny cododd y Llys. Ar ddiwedd y Llys galwyd Robert Jones yn mlaen a gofynodd Mr. Tobias iddo yn bender- fynol, 164 A ydych yn awr, ar ol cael amser i ystyried pethau, yn dywedyd ar eich llw nad oeddych yn esgeuluso eich business trwy fyned i feddwi ?"-Methdalwr, "Ydwyf, ni esgeulus- ais fy musiness o gwbl."—Mr. Tobias, Nid wyf yn gweled,ein bod yn nemawr gwell eto." Wedi ychydig gwestiwnau pellach cauwyd yr arholiad. Achos Lewis John Davies, Masnachydd Olwynfeirch. Llanrwst. Daeth y Methdalwr hwn i fyny am arholiad cyhoeddus. Y mae yn awr yn byw yn Ystrad Street, Rhondda, a bu yn cario yn mlaen fas- nach mawn olwynfeiich yn Paris House, Llanrwst, ac yna yn Station Road, Llanrwst. Aethi Rhondda Ebrill 21, 1909. Yn ol ad- roddiad y Derbynydd Swyddogol yr oedd boll ofynion yn dod i £ 318 12s Oé, a'r diffyg yn £ 304 3s Oe, gyda dyledion ar lyfrhau y busnes o;6117 16s llc. Dechreuodd y Methdalwr fel Agent i Connah's yn Paris House, yn Ion. 1908 pryaodd y busnes ganddynt am £ 175. Cafodd fenthyg £ 100 gan ei rieni a'i frodyr, a'r gweddill o £ 75 o'r derbyniadau, at dalu am y busines. Yr oedd mewn dyled o'r adeg y dechreuodd. Chwefror 2, gwnaeth Weithred Drosglwyddiadol am ddyled o £ 386 gydag eiddo o £ 159, a chynygiai dalu 7/6 y bunt. Bu Mr Watling yn Ymddiriedolwr o dan y Weith- red hyd nes gwerthwyd yr eiddo am £ 17 5s 10c Yr oedd ei ddyledion yn cael eu gwneyd i fyay o,-2 a ofynwyr am fenthycion, £ 146; 37 o ofynwyr am nwyddau at ei fasnach, £ 246 19s Ie 5 am ddillad iddo, £ 9 Os 3c cyfanswm o £ 40119s 4c. Yr oedd yn addef iddo fod yn byw o'r dechreu ar ei ofynwyr. Y rent uchel a dalai, y busines ddim yn troi yn elw iddo, ac yntau yn talu yn ol beth o'rbenthyciadau, oedd y rheswm iddo fethu cario yn mlaen. Yr oedd wedi rhoddi cyfrif Hawn o bobpeth, ac wedi rhoddi i fyny ei hbll eiddo i'r Derbynydd Swyddogol.—Cauwyd yr Arholiad. Achos Llewelyn Roberts, Rhosfawr, Llan- rwst. Daeth y Methdalwr hwn yn mlaen am ei arholiad cyhoeddus. Gwnaed ef yn Fethdalwr ar ei gais ei hun Mai 4. Ymddangosodd Mr. Twigge Ellis, dros y Methdalwr, a Mr. R. O. Davies dros y prif ofynwr.—Gosodid y gofyn- ion i lawr yn J785 18s. 8c, a'r eiddo yn £ 404 Is. 9c. Tybid y sylweddolid £ 667 9s. 8c, a byddai y diffygion yn £ 31 17 11e. Yr oedd ef yn 27 oed, ac aeth i'r Rhosfawr yn Chwefror 1906 gyda chyfalaf 0 tl70 gyda.-y £ 99 gafodd fel ei ran o eiddo ei fam. Gwerthwyd y stock yn Tachwedd 1908 am £ 290 13s. Oe. Gwneid ei ddyledion i fyny fel y eanlyn :-un gofynwr am £ 286 4s. 6c dau fil i'r Ariandy am £ 140 dau am stock, £ 141; un am gostau cyfreithiol £ 40 un am gyflog £ ll; deuddeg am nwydd- au, £49 5s. 2c.; cyfanswm £ 667 9s, 8c. Mewn atebiad i'r Derbynydd Swyddogol, dywedodd i'w fam farw yn ddiewyllus, a rhanwyd yr eiddo oedd ar ei hol. Yn y Rhos yr oedd ei frawd yn byw, ac yr oedd ei enw i lawr fel cyd- denant, ac felly yr oedd yn gyd-gyfrifol am y rhent. Daeth ei gefnder William Williams yno i weithio, ac yr oedd i gael banner arian yr ymenyn, a chael cadw hyny ddewisiai oanifeil- iaid ar y lie. Yr oedd yr holl amgylchiadau wedi bod o flaen Llys Manddyledion Llanrwst., a'r Barnwr wedi dedfrydu fod W. Williams ag yntau yn bartneriaid, a bod Williams wedi taitt arian i mewn. Bu ail sale yn y lIe ar ol iddo wneyd ei hun yn Fethdalwr, ac yr oedd yr holl. stock wedi ei chlirio oddiyno, a'r rhent wedi ei dalu o'r arian gafwyd am y pethau. Yn ngwyneb yr hyn a fu yn Llys Llanrwst yr oedd- yn dal i ddywedyd ar ei lw na ddaeth W. Williams a dim arian i mewn. Ni roddodd ei gefnder ddim arian at fyned i mewn i'r Rhos, a dywedai hyny heddyw fel y dywedodd o flaen y Barnwr. Archodd y Barnwr ei fod i dalu- J290 i'w gefnder, a bod yr Arwerthwyr i roddi yr arian yn y Llys i'r perwyl hwnw. Yr oedd yn ddyledus i Mr. Rogers Jones am £ 74, ac i Mri. Blackwall, Hayes & Co. am £ 67, am stock gafodd i'r Rhos ar ol y sale gyntaf fu ar yr eiddo. Buasai yn gallu cario yn mlaen yn iawn yn y Rhos onibai fod ei gefnder yn pwyso arno am arian. Yr oedd wedi gwneyd datgudd- iad llawn o bobpeth oedd ganddo.—Y Derbyn- ydd Swyddogol a ddywedodd nad oedd o un. pwrpas holi y Methdalwr yn mhellach yn bres- enol. Yr oedd yn gohirio cau yr arholiad er mwyn cael cyfle i edrych i mewn i amryw betbau perthynol i'r eiddo.—Gohiriwyd yr arholiad. Achos Naomi Jones, Manod Road, Blaenau. Ffestiniog. Daeth y Methdalydd hon i fyny am ei arhol- iad cyhoeddus, a gwylid yr achos gan Mr Twigge Ellis ar ran Mr Owen Jones, Tanlan Farm, Llanrwst, yr hwn oedd y prif ofynydd. Yn ol adroddiad y r erbynydd Swyddogol yr oedd Mrs Jones wedi ei gwneyd yn Fethdalydd ar ei chais ei hun ar Ebrill 19, a swm ei dyled- ion yn £ 56 Is Ic. yr eiddo yn werth £ 9, yn gadael diffyg o £ 47 Is Ie. Yr oejd yn 66 oed. ac yn weddw. Rhoddodd fenthyg £ 180 i'w nhith, gwraig William Robert Griffith, cigydd, ac yr oedd wedi trosglwyddo ei thy i'w nhith. Gwneid ei dyledion i fyny fel y canlyn un am ddedfryd gafwyd yn y Llys yn ei herbyn am £ 47 6s 8c, ac wyth am nwyddau, £8 14s 8c. Mewn attebiad pellach i'r Derbynydd S A/yddogol dywedodd fod ei hatebion blaenorol, yn gywir. Lladdwyd ei gwr yn y chwarel a chafodd 1227 o iawn ar ei ol. Yr oedd ganddi. dy hefyd. Rhoddodd £ 160 yn yr Ariandy ya 1905. Rhoddodd fenthyg can' punt ar Gapel Gwylfa, acyroedd yr eiddo hwnw oil yn ei mheddiant yr adeg y gwnaeth ei hun yn Feth- dalydd. Bu i Mary Ellin Morris, ei nhith, briodi Wm. R. Griffith tua thair blynedd yn ol Ni wyddai a oedd gan Griffith arian pan briod- odd, ond yr oedd gan ei nhith hi ychydig o bres. Rhoddodd arian i'w nhith er mwyn y busnes cig oedd ei gwr wedi ei gychwyn bron. ar ei gychwyniad. Aeth yr arian o'r Ariandy iddynt yn rhodd. Aeth yn fethdalydd trwy y brofedigaeth gyda thala i Mr Owen Jones arm ddefaid gafodd Griffith. Yr oedd yn addefg iddi roddi croes wrth y Bill i Mr. O. Jones ami £ 24 18s Oc. Nid oedd ei holl ddyledion ondl 25p yn Hydref, ac yr oeddynt wedicodi trwy yf costau cyfraith i 56p. Yr oedd ty ganddi y pryd hwnw, lOOp ar y capel, a'r holl ddodrefn ganddi. Arwyddodd y Bill yn Awst, a chaf- odd writ yn Hydref. Ar Rhagfyr 2, tros- glwyddodd y ty i'w nhith, a chododd hono lOOp ar y lie. Talwyd dyled gwr y nitb yn y Eank Ebrill 15 tri diwrnod cyn iddi fyned yn Fethdalydd.—Pwyswyd yn drwm arni paham na buasai yn talu y 25p dyledus i Mr. O. Jones, a chanddi arian i wneyd hyny yn hytrach na chwalu ei holl eiddo fel y gwnaeth i dalu dyledion Griffith; ond nid oedd model cael atebiad clir ganddi. Ni wyddai hi ddim am y Lladd-dy oedd gan Griffith, ac ni wyddai lie yr oedd y Gweithredoedd. Ei harian hi. dalodd am y Lladd-dy. Ni wyddai paham yr oedd y Gweithredoedd yn yr Ariandy yn ei henw. Cafodd hwy o'r Ariandy pan da!ojd yr £80, a rhoddodd hwy yn rhodd i'w nhith. Yr oedd ei henw ar Filiau Ariandy am y swm, o £107, a rhoddodd Weithredoedd y Ty i'w nhith yr hon a gododd gan' punt arnynt i glirio yr Ariandy. Rhoddi y ewbl yn rhodd a- wnaeth. ac nid yn fenthyg. Talodd iso, a £ 100 ar ol hyny i glirio yr Ariandy er mwyn y nith a'i gwr.—Mr. Tobias, "Griffith dylasat fod yma yn Fethdalwr ac nid y ehwi ?"- "Nage." Pethau perthynol i'w thad oedd ya America oedd y rhai hawliai ei nhith o'r dodrefn. Gan Mr. Twigge Ellis, Bu yr achos yn er herbyn yn nghlyn a'r Bill am 25p o Baen y Llys yn Llanrwst, ond methodd hi a bod yno oherwydd afiechyd Boddlonodd i fodyh gyf- rifol dros Griffith yn yr Ariandy, ond ttetha ddeall sut yr oedd yn gofyn yn nghylch bod yo., gyfrifol drosto i Mr. Jones am y defaid.—Mr. Tobias (yn llym), Yr ydych yn deall yn iawn,, ogd eich bod yn cymeryd arnoch!"—Mr. Ellis. Yr oedd arian genych.^paham na fuas- ech yn talu i Mr. Owen Jones ? Onid eich. amcan yn symud yr eiddo o'ch enw eich hun. oedd gwneyd y dyn yma allan o'r arian oedd yn ddyledus iddo?"Nage.Mr. FIlis, "Fe fynwn eglurhad mwy boddhaol cyn y gadawn i'r peth sefyll.Mr. Tobias, Mae y (Parhad yn Tudalen$),