Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

"yyn erbyn yr Ysgolion. I

m■l ^ Vwy

[No title]

NODION o,'R  NODION O'R CYLCH.…

News
Cite
Share

NODION o,'R  NODION O'R CYLCH. J YN y Glorian am yr wythnos ddiweddaf, ymosodir arnom mewn yspryd tra chwerw, a hyny heb un rithyn o reswm morbell ag y gallwn ni weled er ceisio ein goreu. Cymerir achlysur ar nodiad a gyhoeddasom bythefnos yn ol ar bwnc y Tyddynod yn Meirion i wneyd tri pheth-i gardotta cydymdeimlad a'r Parch. Silyn Roberts; i greu argrafffod y Rhedegydd yn ei erlid ar bwnc Tyddynod Meirion, ac yn ceisio ei niweidio mewn rhyw ffyrdd eraill; ac i adverteisio eu cylchrediad eu hunain; a gwneir y tri pheth hyn ar draul y Rhedegydd ac mewn dibrisdod hollol o'r. fieithiau. A rhag i neb dybied fod rhywbeth difrifol yn bod, a'n bod ninau yn fwy o haffgwn nag ydym mewn gwirionedd, ceisiwn ateb i beth y buasai yn Ilawen genym yn enw cymydogaeth dda pe na buasai angen am ei ateb o gwbl. DYMUNWN ddweyd yn un peth y priodolir i ni eiriau na pherthynant i ni o gwbl. Difyn- nodir y frawddeg ganlynol fel ein geiriau ni; "G^t parchedig o'n plith yn ymosod mewn modd Ilym ac anheg mewn ysgrifau yn y newyddiadur sydd dan ei olal;" pryd mai yr hyn a gyhoeddwyd yn y Rhedegydd oedd: —" gwr parchedig o'n plith yn ymosod yn llym ac annheg—os yw adroddiad Mr. R. N. Jones yn gyunr-mewn ysgrifau, &c." Paham y dileodd y Glorian y geiriau os yw adrodd- iad Mr. R. N. Jones yn gywir" o ganol y frawddeg !—gwyddent eu bod yn rhoddi gwedd arall ar y cwbl. Ac heblaw bwrw amheuaeth ar gywirdeb yr adroddiad fel hyn, daliem yn yr un brawddegau fod safle Mr. Jones a'i bwyll- gor yn an-amddiffynadwy." Ac eto defn- yddir y darn brawddeg a nodwyd fel prawf ein bod yn ceisio erlid a phardduo Mr. Silyn Roberts am gyhoeddi'r gwirionedd, ac am amddiffyn y werin, a myned yn erbyn rhai personau am na chyflawnant eu dyledswyddau. Gallwn sicrhau nad oes awydd yn neb i ferth- yru Mr. Roberts, er cymaint tuedd sydd mewn rhai i'w osod allan fel merthyr ar ei waethaf ei hun a phawb eraill. HEFYD, rhoddi anrhydedd na pherthyn iddo yw dweyd mai efe gododd y lien ar arafwch Pwyllgor y Tyddynod. Y mae yn wybyddus i bawb ond y Glorian fod penderfyniad wedi ei basio yn nghyfarfod y Cyngor Sir yn mhell cyn i Mr Roberts ysgrifenn gair ar y mater, yn anog y Pwyllgor i gymeryd mesurau gorfodol yn erbyn meistri tir a'u gwasgu i werthu Tydd- ynod ;—penderfyniad a achlysurodd i'r Cad- eirydd ar y pryd ddweyd fod y cynygydd obono yn dal pistol at ei ben ef a thir feddianwyr cyffelyb iddo; Red Indians fydd yn gwisgo plyf benthyg; ac mae Mr Roberts yn rhy eiddigus o'i wir anrhydedd i adael i neb ei riggio i fyny mewn pethau felly. Ond bore pawb yw pan godo," ac nid ydym yn beio ceil- iog Y Glorian am ganu gynted y cododd. AM yr awgrym a wneir ein bod ryw dro wedi ceisio niweidio Mr Roberts, a hyny yn unig am ei fod yn cyflenwi ein papur ag ysgrifau dyddorol a galluog." Gallwn eu sicrhau y byddai genym gydwybod dawel iawn pe mor rydd oddiwrth bob pechod ag ydym oddiwrth yr eiddigedd ffol a briodolir ini; a gadawn arnynt y gorchwyl anmhosibl o brofi eu cyhuddiad cas. OND y pechod anfaddeuol yw dweyd fod y Glorian o dan ofal" Mr Roberts. Mae hyny yn gam a'r gwr parchedig" a'r "un peth a dweyd fod y gwr parchedig o Bethania yn gofalu am y Rhedegydd." We], ni buasem yn cyfrif ei fod yn gam dybryd iawn a ni pe dywedid fod y gwr parchedig o Bethania yn gofalu am ein papur (er mai y gwir yw na b8, ac nad yw, ac nid yw yn debyg y bydd iddo byth wneyd hyny), ond ystyriem hyny yn gomfili. ment derbyniol iawn. Ac nis gallwn weled pa gam a'r Glorian a wnaethom wrth ddweyd ei bod dan ofal gwr ag y mae genym barch diffuant i'w allu. OND rhoddodd hyny gyfle iddynt hysbysebu cylchrediad y Glorian," a phwy wyr nad amcan y cwbl yw cael y fantais o'i hysbysebu trwy y Rhedegydd} Nid yw ond ychydig wythnosau er pan gawsom y gorchwyl o argraffu y Glorian a'r Arweinydd am wyth- nosau, bron yn olynol, oherwydd diffyg ar beirianau y swyddfa hono; a dygasom y ddau allan yn gydredol a'n papur ein hunain heb eu cadw awr ar ol eu hamser. Buasai o leiaf mor weddus arnynt gydnabod y gymwynas hono a dondio fel hyn ar fai tybiedig; ac yn sicr buasai hyny yn gywirach dangoseg o'r teimladau sydd yn ffynu rhwng y ddwy swyddfa. Ond yr ydym mewn safle i wybod fod gan y Rhedegydd gylcbrediad yn mhell dros ddwywaith eiddo'r Glorian a thros deirgwaith eiddo r Arweinydd, ac yr ydym yn gosod ein hachos yn gynil iawn felly. Da, genym allu dweyd fod cylchrediad y Rhedegydd yn cynyddu yn raddol ac yn sicr bob blwyddyn. Mae cynydd graddol yn y derbyniadau oddiwrth ei werthiant bob blwydd- yn er pan gychwynasom, fel ag yr oedd y der- byniadau am y flwyddyn yn diweddu Chwefror 28, 1909, yn fwy o ragor na £42 na'r flwyddyn gyntaf. Mae hyn pan ystyrir yr holl gannoedd sydd wedi gadael yr ardal yn foddhaol iawn, ac yn dangos fod y Rhedegydd yn dal i gael ei werthfawrogi fel papur teuluaidd y cylch, Gallwn nodi y ffaith hefyd fod gwerthiad y bechgyn am yr wythnos yr ymddangosodd y frawddeg dan sylw ynddo yn fwy nag un wyth- nos arall er paa cychwynasom ag eithrib wythnosau Cymanfeydd Cyffredinol y Method- istiaid a'r Anibynwyr. Cymerwn fantais ar yr achlysur yma i ddiolch i'n darUenwyr am eu cefnogaeth ffyddlon, a dymnnwn am barhad o hono cyhyd ag y gwnawn ymdrech i' wdeilyngu. Dymunwn ddweyd fod y papur yn cael ei werthfawrogi fwyfwy gan ein plant sydd ar wasgar. Yr ydym yn postio canoedd ohono bob wythnos i bob parth o'r byd, a diau mai hyn sydd yn cadw mantol y cylchrediad yn wastad yn ngwyneb ymadawiad y gannoedd sydd wedi myned o'r ardal. DYLEM ddiolch i'r Glorian am roi cyfle i xP gyhoeddi y ffeithiau uchod-ffeithiau ag yr ydym yn barod i foddio cywreinrwydd unrhyw un a garai chwilio i'w cywirdeb. Yr ydym yn cytuno a hwy i ddywedyd parhaed brawd- garwch," ond nis gallwn gytuno mai "yr unig ffordd iddo barhau yw i "awb feindio ei fusnes ei hun," (mae amgylchiadau yn digwydd i alw am helpu busnes pobl eraill weithiau), y mae ffordd arall ragorach yn ein tyb ni, sef trwy fod yn fwy parod i gydnabod cymwynas nag i aehwyn ar feiau dychmygol. Wrth edrych dros y nodiadau uchod nid ydym heb weled eu hynfydrwydd, ond nid ni yw y rhai cyntaf i gael achlysur i ddywedyd aethnm yn ffol, chwi am gyrasoch."

CYMANFA GYFFREDINOL Y M.C.…

MAENTWROG.

[No title]

LLYS METHDALIADOL j FFESTINIOG.