Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLYS MANDDYLEDION BLAENAU…

ILlys Manddyledion Porthmadoc.

Cyngor Q wast raff us Meirion.-1

LLANBEDR, MEIRIONYDD.I

I O'R PEDWAR CWR. i

PENTREFOELAS. -1

News
Cite
Share

PENTREFOELAS. -1 Wythnos brysur ydoedd ar y ffordd fawr rhwng yma a'r Bettws ar hyd yr wythnos ddi- weddaf. Aeth canoedd o Foduriau trwodd ol a blaen, a dywedir fod rhif yr ymwelwyr eleni yn lluosocach na y gwelwyd hwy er's llawer iawn o flynyddoedd. Cafodd yr Anibynwyr gyfarfod pregethu nodedig o ddymunol eleni eto. Ni welwyd yr oedfaon mor boblogaidd erioed. Gwasan- aethwyd gan y Parchn. R. Gwylfa Roberts, Llanelli: Peter Price, M.A., Dowlais a John Thomas, Merthyr, a chawsant amser dedwydd iawn, a theimlid grym a dylanwad yn eu cen- adwri. Llongyfarchwn Mr. John William Davies, ar ei lwyddirnt eithriadol y dyddiau diweddaf gyda datganu. Gwelwn iddo enill ginii yn Eisteddfod Henllan oddiar llu o ymgeiswyr. Dinmael, gini a thlws arian, a phymtheg swllt yn y Cyngerdd yma. Boed iddo lwydd pellacb yw ein gwir ddymuniad.

,'W'vVvCashier mewn Helbul.vI