Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLYS MANDDYLEDION BLAENAU…

News
Cite
Share

LLYS MANDDYLEDION BLAENAU FFESTINIOG. Dydd Iau, o flaen ei Amhydedd y Barnwr William Evans. Archebion Gweinyddiadol. Mr. D. White Phillips a wnaeth gais am ar- cheb weinyddiadol yn aches George Hughes, 14 Back Lord Street, BIaenau Ffestiniog, dy- ledion yr hwn a gynygid eu talu yn llawn mewn taliadau misol—Mr.R. O. Davies, a wrthwyn- ebodd, am fod dyledion heb eu rhoddi i mewn yn y rhestr gyda'r rhai o flaen y Llys, fel yr oedd eu cyfanswm yn myned drcs [50.-Can- iatawyd i'r achos sefyll drosodd hyd y Llys nesaf er gweled beth ellid ei wneyd i glirio rhai o'r gofynwyr, a dwyn y cyfanswm o dan £ 50, Mr. R. O. Davies a grybwyllcdd achos W. R. Jones, 2 Cwmbowydd Road, dros yr hwn hwn yr oedd wedi gofyn am archeb weinydd- iadol yn y Llys diweddaf. Yr oedd yn ddrwg ganddo nas gallai fyned ymlaen gyda'r cais am ei fod yn cael fod y dyledion dros [50; ac felly tynai y cais yn ol.—Mr. D.White Phillips a ddywedodd iddo wrthwynebu y cais yn y Llys diweddaf, am fod gwarant atafaelol wedi; ei rhoddi allan yn erbyn yr dJdp, Bu i'w anrhydedd orchymyn i'r WE rant gael ei hatal er mwyn gweled beth a ddeuai o'r cais am ar- cheb weinyddiadol. Yr oedd ef (Mr. Phillips) yn gofyn yn awram i'r warant gael cymeryd ei chwrs.—Archodd y Barnwr yn unol a chais Mr. Phillfps. Mr D. White Phillips a wnaeth gais ar ran Moses Davies, New Street, Blaenau Ffestiniog, am Archeb Weinyddiadol i dalu ei ddyledion yn Hawn yn ol 7/- y mis. Clfarswmei ddyled- ion oeddynt [23 16s lc,-Nid oedd gwrthwyn- ebiad i'r cais, a chaniatawyd ef. Mr R. 0. Davies a wnaeth gais yn achos Robert Owen, East Street, Blaenclydach, De- heudir Cymru, am Archeb Weinyddiadol i dalu ei ddyledion yn llawn yn ol 10/- y mis. Swm ei ddyledion oeddynt [37 5s 9c. Gwrthwyn- ebwyd gan Fasnachwyd o Maentwrog am y credent v dylai y taliadau misol fod yn bunt o Ieiaf.—Caniatawyd Archeb i dalu yn ol 10s y mis. Niweidio Cerbyd Modur. Hawliodd Mr H. Humphries, Brynmarian, Bl. Ffestiniog £ 12 gan R. Evans, Cefnperfedd, Penmorfa, am niweidiau achoswyd i'w Fodur wrth Gapel Brynbowydd, Blaenau, trwy i was y Diffynydd fyned a'r cerbyd llefrith yn erbyn y Modur.—Ymddangosodd Mr. D. White Phillips dros yr Hawlydd, a Mr J Jones Morris dros y Diffynydd.—Caniatawyd i'r achos ssfyll drosodd hyd y Llys nesaf am fod y pleidiau yn debygol o ddod i gytundeb ar y mater. Achosion o lawn i Weddwon. Mr. R. O. Davies a gyfeiriodd at achos Elizabeth Jones, Tynymaes gynt, yr hwn fu o flaen y Llys diweddaf, Ei gais cedd am i'r costau yn nglyn ar mater y Llys diweddaf ddod allan o'r swm oedd yn y Llys, ac nid o'r taliadau misol (28/-).—Y Barnwr, Yr wyf wedi codi y swm o bunt i 28/- y mis, a dylai dalu y costau allan o'r rhai hyny neu aiff hyny sydd yn y Llys yn ddim yn fuan iawn, Yr wyf yn gwneyd Archeb fod y costau i ddod o'r tal- iadau misol." Mr. D. White Phillips a ofynodd am gyfar- wyddyd ei Anrhydedd i'r Llys pa fodd yr oedd yr arian lawn i weddw Mr. Edwin Roberts, Vron View, Wynn Road, Blaenau, gael eu talu. Cyfarfyddodd Roberts a'i ddiwedd trwy ddamwain yn Chwareli Oakeley, Ebrill 19, 1909, ac yr oedd y Cwrnni wedi talu i'r Llys yr lawn dyledus, sef £ 151 4s Ie. Ei gais ef (Mr. Phillips) oedd am i'w Anrhydedd wneyd Archeb fod f30 yn cael eu t3.111 yn awr o'r Llys i'r weddw er clirio y Mortgage oedd ar y ty, a _f 1 10s Oc y rnis at ei chynhaliaeth gyda 5/- yr un i'r tri plentyn, yn gwneyd cyfanswm misol o £ 2 5s Oc.-Y Barnwr, "Yr wyf yn gweled eich cais yn un rhesymol iawn. Archeb i £ 32 5s Oc gael eu talu allan yn awr, a £2 5s Oc yn nsol o hyn allan." Helynt Chwarel Cwt-y-Bugail. Yr oedd Mr. William George wedi rhoddi Rhybudd y gwnelai gais ar ran rhai o ofynwyr Cwmni y Chwarel uchod am i'r Cwmni gael en dirwyn i fyny yn Orfodol o dan archeb y Llys, a bod Derbynvdd yn cael ei beaodi i'r amcan.—Yr oedd Mr. R. 0. Davies yn ym- ddangos ar ran y Cwmni i wrthwynebu y cais. —Mr. G. C. Rees (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. George) a ddywedcdd eu bod ya tynu yn ol y cais ar delerau cytunedig arnynt gan gyfreithwyr y pleiiiau,-Caniatacdd y Barnwr y cais i gael tynu yr achos yn ol o'r Llys. Cyngaws am lawn i Weddw: Achos Pwysig i Weithwyr. Mrs. Mary Williams, Tai'nyfoeJ, Glanypwll, Blaenau Ffestiniog, a hawliodd lawn gan Mri. Greaves, perchenogion Chwarel y Llechwedd, yn nglyn a marwolaeth ei gwr, Griffith Wil- liams, yr hwn a fu farw Ebrill 23, o enyniad llym y Lwlenod (Actttc Bright's Disease), gyflymwyd mewn caulyniad i effaith damwain yn y chwarel.—Ymddangosodd Mr. G. C. Rees gyda Mr. B. Brandreth (yn cael eu cyfarwyddo gan Mri, Lloyd Ceorge a George) dros yr Hawlyddes, a Mr. Cuthbert Smith (yn cael ei gyfarwyddo gan Mri. Carter, Vincent & Co.), dros y Cwmni. Mr. Rees wrth osod yr Achos i lawr a ddy- wedodd fod yr Hawlyddes yn weddw a chan- ddi ddau o blant. Gweithiai ei gwr fel labrwr yn Chwarel y Llechwedd, ac ar Chwefror yr 2il daeth adref o'r gwaith a dangosodd gledr ei law i'w wraig, yr hon a sylwodd fod twll bychan ynddi. Gweithiodd y ddau ddiwrnod wedyn, yn ystod y rhai bu iddo ddywedyd wrth ddyn weithiai yn ei ymyl fod careg yn ei law, a bu hwnw yn ceisio ei thynu a'i gyllell. Gweithiodd am dri diwrnod yr wythnos ddi- lynol, ac aeth ei law mor ddrwg fel yr oedd dan orfod aras adref. Tynwyd tair o gerrig o'i law (dangoswyd y cerryg yn y Llys), a gwan- ychodd fel y bn farw Ebrill 23 o Enyniad llym y Lwlenod. Bu dau Feddyg yn gweini arno yn ystod yr amser, a chafwyd eu tystiolaeth ar y Trengholiad pryd y dygwyd rheithfarn o Farwolaeth o Enyniad llym y Lwlenod." Deallai ef (Mr. Rees) mai yr amddiffj niad oedd na rhoddwyd rhybudd o'r Ddamwain na bu damwain i'r trangcedig yn y chwarel; yn y chwarel; ac nad oedd y farwolaeth trwy nac yn ganlyn- iad o'r ddamwain, Dadieuodd Mr. Rees ar y ddau bwynt' cyntaf trwy godl nifer fawr a Achosion benderfynwyd yn yr Uchel-Lys, a bu dadlu maith yn eu cylch rhwng y ddau Far- gyfreithiwr. Mary Williams, Tai'nyfoel a dystiodd ei bod yn weddw. Aeth ei gwr, Griffith Williams, i'w waith ddydd Iau, Chwefror 3, fel arferol, a phan ddaeth adref dangosodd ei law chwith iddi, a dywedodd fod careg wedi myned iddo yr oedd twll bychan at faint toll nodwydd hosanau i'w weled yn nghredr ei law, end nid allai hi weled dim mwy na rhywbeth du o dan y creea caled, Gweithiodd fanoefb, ond 1 cwynodd gan båen yn ei law y Sul. Daeth Dr. Richard Jones i'r Ty pan oedd yn pigo ei law a dywedodd ei gwr wrtho fod. careg wedi myned i'w law. Dodai bowitris ar ei law bob nos, a ba y Weinyddes yn gofalu am dano. Yr oedd y Meddvg yn gweini ami hi er cyn y Nadolig, a phan ar ei ymweliadau gwelai ei gwr, Dechreuodd weini arno yn mhen bythef- ar ol y ddamwain. Ni wnaeth ddim i'w law panwelodd hi gyntaf y Sul ar 61 y ddamwain, ond agorodd hi yn mhen y bythefnos, ac edrycbai ei law gyda'r Weinyddes, Daeth Dr. Thomas i weini ar ei gwr ddiwrnod y cwrt diweddaf. Tynodd ddwy gareg allan o'i law, ac yr oedd ei law wedi chwyddo a daeth lawer o grawn allan o'r briw ar ol ei agor. Gwelodd Mr. Robert Humphreys (Clerc yn y swyddfa) a rhoddodd dystysgrif feddygol iddo ar 01 i'r gareg gyntaf ddod allan, Ebrill 8. Enillai ei gwr 23/1 yr wytbnos, yr oedd yn llwyrym- wrthodwr ac yn mwynhau iechyd da ar hyd ei oes. Yr oeddynt yn briod er's 37 mlynedd. Mr. Rees a eglurodd mai wrth Doctor Jones y golygai yr Hawlyddes, Dr, Richard Jones ac wrth Doctor Thomas," y golygai Dr. Owen Thomas Jones, gan mai felly yr adwaenid ef i'w wahaniaeth oddiwrth Dr. R. Jones. Yr oeddynt fel pleidiau yn yr achos yn cytuno ar yr enillion ac mai £ 172 5s Oc fyddai swm yr iawn, os barnai y Llys iawn yn yr achos. Croesholwyd yr Hawlyddes gan Mr. Smith, Rhoddodd y Dystysgrif i Mr. Robert Humphreys y diwrnod y cafodd hi,—Estynwyd y Dystysgrif iddi. Ni wyddai a oedd yn iawn gan na fedrai ddarllen nac ysgrifenu. Ni wyddai mai Ebrill 12fed y bu Dr. Thomas yn gweini ar ei gwr gyntaf, ac mai ar Ebrill 14 y rhoddodd ei Dystysgrif i Mr. R. Humphreys, ond gwyddai iddo weled ei gwr Jawer gwaith cyn hyny. Gofynodd i Dr. Jones am dystysgrif yngbylch Haw ei gwr.ond ni ddywedodd ddim am afiech- yd arall oedd arno, a dywedodd Dr. Jones yr anfonai un wedi gweled y Clerc. Cafodd dyst- ysgrif gan Dr. Jones, ond ni wyddai beth oedd ynddi gan na fedrai ddarllen. Ni anfonwyd y dystysgrif bono i'r Swyddfa. Ni anfonodd hi ei mhab a'i mherch at Dr. Jones i ofyn am gael iawn, ond addawodd Dr. Jones wneyd un felly wedi iddo weled y Clerc. Gwelodd Dr. Jones ei gwr hyd o fewn pythefnos, mwy neu lai, i adeg ei farwolaeth, Ebrill 23. Yr oedd ei gwr yn cwyno gan ddiffvg treuliad, ac ni welodd hi ddim arall arno, ac ni sylwodd fod ei anadl yn fyr a'i goesau yn chwyddo yn mis Ionawr. Yr oedd yn hollol sicr na ofynodd hi i Dr. Jones ei weled cyn y ddamwain. Gwelodd rywbeth du yn y twll oedd yn ei law. Gweithiodd ddydd Llun a dydd Mawrth, bu adref dydd Mercher a dydd Iau, gweitbiodd dydd Gwener ond dim dydd Sadwrn. Derbyniodd glaf-dal am bum wythnos am na wyddent mai y garreg oedd yn rhwystr iddo weithio Daeth careg o'i law Mawrth 31, ac ni chafodd ddim claf- dalarolhyny, Ni dywedodd Dr. Jones ei fod yn gymwys i weitbio ran ei law, onj rhoddodd faneg iddo i'w rhoi am dani. Ni sylwcdd hi ar chwydd yn ei aelodau cyn y ddamwain, ac ni ddywedodd yn Ionawr y gallai ei gwr ddod adref yn farw os elai i'r chwarel, ond dywed- hyny ar ol y ddamwain. Yr oedd Dr. Jones yn gweini arni hi er cyn y Nadolig. William Griffith Williams, a ddywedodd ei fod yn fab i'r Hawlyddes. ac yn byw gartref. Dangosodd ei dad ei law iddo, ac yr oedd twll ynddi. Morris Jarret Morris, 1, Parry's Terrace a dystiodd ei fod yn gweithio vn y Llechwedd yn ymyl Griffith Williams, Dangosodd ei law iddo ar ol bod gartref yn metha gweithio, a cheisiodd yntau dynu yga>eg allan o honi. Labrwr oedd G. Williams, a byddai yn rhai o'i waith i wtblo y gwageni llwythog o llech- feini ar hyd y cledr-ffyrdd. Ni wyddai sut yr aeth y cerig i'w law, ac ni wyddai a allent fyned o'r meini y pwysai arnynt wrth wthio y wageni. Croesholwyd, Ni wyddai pa bryd y cafodd ddamwain, ond dangosodd ei law iddo. Ni ddywedodd ddim am ddamwain, ond bod careg yn ei law. Yr oedd yn ddyn eithaf cryf ei iechyd, ond ei fod yn myned yn hen. Dr. Owen Thomas Jones, a dystiodd iddo fod yn Gynorthwywr i Dr. Richard Jones i fvny hyd Ionawr 7, a'i fod yn awr yn cario busnes yn mlaen o'i eiddo ei bun. Gwelodd Griffith Williams gyntaf fel meddyg pan y gal wodd yn meddygdy Dr. R. Jones iidiwedd y fiwyddyn pan y cwynai gan ddiffyg treuliad. Gwelodd ef yn ei dy ei hun pan y gweinyddai ar ei wraig y 6ed neu'r 7ed o Ebrill. Gal- wodd ei wraig arno i ddod i'w olwg Ebrill 8, ac archwiliodd ef ond ni weinyddodd arno yn broffeswrol hyd Ebrill 12. Rhoddodd Dyst- ysgrif feddygol am dano Ebrill 12, wedi ei ddyddio Ebrill 8. Ar Ebrill 12, agorodd ei law ag arfau, a tbynodd ddwy gareg allan, ac yr oedd casgliad (Suppuration) mawr yn mhen pellaf yr archoll. Nid oedd dadl nad oedd Griffith Williams yn dyoddef oddiwrtb Enyniad Wirarhosoly Lwlenod. Effeithiodd yr archoll ar ei glefyd nes ei wneyd yn un llym. Gweinyddodd arno hyd ei farwolaeth. Adroddodd am yr achos o flaen y Trenghol- ydd heb fod ganddo deimlad at neb yn y mater, ac atebodd yn syml y cwestiynau roddid iddo. Achoswyd ei farwolaeth gan Enyniad llym y Lwlenod yn cael ei gyflymu gan effaith yr archoll ar ei law. Croesholwyd gan Mr Smith, Ni welodd G. Williams yn broffeswrol cyn Ebrill 12, a dy- wedodd ei dystysgrif ar yr 9fed am iddo wneyd archwiliad arno y pryd hwnw, ond dywedodd na. weinyddai arno heb iddynt hysbysu Dr. R. Jones o hyny gan nad ystyriai ei fod yn foesgar- wch meddygol iddo wneyd. Ni wyddai fod Dr R. Jones wedi gwrthcd rhcddi Tysysgrif am yr archoll ar y law fel achos gwaeledd G. Wil- liams. Gwelodd Williams ar yr 8fed a'r 12fed o Ebrill ac yr oedd cyflwr ei iechyd yn hollol yr un fath fel yr ymddangosai iddo ef, Yr oedd ef neu Dr R. J ones yn camgymeryd am gyflwr y Haw Ebrill 7 a'r 8 Gwahaniaethai yn hollol oddiwrth Dr R. Jones os dywedai fod Haw Ÿ jn wedi gwella ar EbriH 7, gan nad oedd felly. Gad Mr Rc?eg, ?r? oedd yn rhaid cael achos cynhyrSo! i droi Enyniad hirarhosol y Lwlenod (C?ro?n'c) yn Enyniad I!ym ?AcM? GwD?eth ei dystysgrif am gyflwr y dyn artihrili 8, er iddo ei hysgrifenn ar Ebrill 12, ac nis gailai fod yn wahacol heb fod yn gamaiweiniol ac ang- bywir. Byddai pob un o feddygon yr ardal yn dyddio y Tystysgrifau o'r adeg y gwyddent fod y dyn wedi ei anailuogi i ddilyn ei orchwyl er yn ei hysgrjfenu yn mhen amryw ddyddiau yn ddiweddaracb, Gallai dyn fod wedi cael damwain ddechreu yr wythnos, ond ni ddeuid hwyrach am y dystysgrif hyd ddiwedd yr wyth- nos, a byddai dyddiad y ddamwain arni, ac nid dyddiad arall i gamarwain. Dr. Parry, Caernarfon.adystiodd iddo glyw- ed darllaniad tystysgrifau Dr. 0. T. Jones a Dr R. Jones fod Griffith Williams wedi marw o acuta Bright's Disease. Os oedd y clefyd yn chronic o flaen y ddamwain gallai y cerig oedd yn iiaw y dyn ei ladd. Ei farn bendant ef oedd mai achos y farwolaeth oedd yr hyn a ddywedai y ddau feddyg, a bod hyny wedi di- gwydd trwy y gwenwyniad o'r archoll. Dr. Walter E. Williams, Porthmadog,a ddy- wedodd nad oedd amheuaeth yn ol y tystiol- aethau fod G. Williams yn dyoddef oddiwrth chronic Bright,s Disease, a bod y casgliad yn yr archoll ar ei law wedi gwenwyno y cyf- ansoddiad a phrysuro y farwolaeth. Mewn amddiffyniad dadleuodd Mr. Smith nad oedd rhybudd ysgrifenedig wedi ei roddi yn ol fel y gofynai y gyfraith nid oedd prawf i ddamwain gymeryd lie o gwbl gan i'r dyn dderbyn Claf-dal fel un yn dioddef dan afiech- yd ac nid canlyniad yr archoll ar y llaw oedd y farwolaeth, ond canlyniad ei afiechyd hir- barhaol. Mr. Rees: Nid oedd y dyn yn edrych ar y peth yn ddigon difrifol i anfon rhybudd ysgrif- enedig. Y Barnwr Nid oes prawf o fy mlaen sut yr aeth y cerrig i ddwylaw y dyn, Dylesid cael dyddiad am y peth ni chwynodd am yn agos i ddeufis. Mr. Rees Anfonodd Dystysgrif y Meddyg. Nid oedd wedi meddwl fod eisiau rhoddi rhybudd am y credai y deuai yn well. Edrych ar y peth yn rhy syml ar y dechreu. i feddwl am rhybudd ffurfiol. Y Barnwr a ddywedodd ei fod wedi rhoddi ystyriaeth fanwl i'r achos,4 ac mid oedd yn meddwl fod angen am ei ddadlu yn mhellach. Yr oedd yn amlwg fod Griffith Williams yn gweithio yn chwarel y Diffynyddion, ac iddo ddangos fod carreg yn ei law, ond nid oedd rhith o brawf sut yr aeth iddi. Nid oedd tyst- iolaeth Morris yn werth dim ni wyddai pa un ai yn y gwaith ai allan o'r gwaith yr aeth i law y dyn. Nid yw ef felly i'w gyfiawnhau i farnu i'r peth ddigwydd yn y gwaith. Am y rhybudd dylai y gweithiwr ofalu am ei roddi pa mor ddibwys bynag y byddo yn ymddangos ar y dechreu, gan y rhoddai hyny fantais lawn i'r ddwy ochr i wneyd ymchwilad a bod yn barod od byddai galwad am hyny. Drwg ganddo ei fod yn gorfod dyfarnu yn erbyn y weddw ar y pwynt hwnw hefyd nid oedd y peth yn glir o amheuaeth yn meddwl y dyn ei hun ar y pryd gan na wnaeth gwyn na gofyn iawn o gwbi, er iddo fod adref o Chwefror 4 hyd Ebrill 23 ac eithrio pum niwrnod. Ar y trydydd pwynt, nid oedd yn sicr a oedd yr Hawlyddes yn cael ei chau allan o hawl i iawn; ond yr oedd y pwyntiaueraill yn derfynol. Dedfiyd i'r Diffynyddion.—Mr, Smith, "Nid ydym yn gofyn am gostau yn erbyn y weddw." —Y Barnwr, Nid oeddwn yn meddol roddi costau i chwi. Dedfryd i'r Diffynyddion, dim costau."

ILlys Manddyledion Porthmadoc.

Cyngor Q wast raff us Meirion.-1

LLANBEDR, MEIRIONYDD.I

I O'R PEDWAR CWR. i

PENTREFOELAS. -1

,'W'vVvCashier mewn Helbul.vI