Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
[No title]
?entaidd yn wlad ddyddorol i ni (lyn3,1?Y ar Sy?? mai ynddi hi mae'r Wiadfa ?y?eig. Heblaw hyny y mae Yll'wla6 bwysio, iawn 1 n i gan mai ohoni ya ,ac* ?ysig iawn i ni gan mai ohoni Y daw ?n ??? ? haner y gwenith tramor 'gludir ?? gwlad. Ychydig amser yn otc????y? nad °?? cysgod o obaith ?V b'"?\ cnwd gwenith Archentia agos ? doreithio- eleni ag oedd y llynedd, a ch J?n hyny ryw gymaint i'w wneyd ? bch '?P?sgwemth a blawd- Erbyn Y" g?,erheir ni fod yr ofn hwnw (os ofn Gedd) Yn ddisail, a bod amaethwyr y d ?wytjbl??Q hono yn edrych ym- }? ?ysta.1 cnydau eleni ag a gafwyd y ?R"???yn ddiweddaf. Pan yr ydym Jftd'h nU cymaint ar gynyrch gwledydd e'aill arn dde&ydd bara, 'does bosibl y bvrta bobl yn ddigon ynfyd i oddef i g? Y?wyr osod arno doll, canlyniad sier anocheladwy yr hon fyddai codi ei h ?' Nid ydym yn credu y goddef a.nt i'r fath ifolineb creulon gael ei
NODION O'RCYLCH.I
NODION O'RCYLCH. I MAP- ein meit?on dewr wedi bod mewn Ma? ???"?st bo?h, ac wedi Hwyddo i ddy- 114n 0 ?? un ohonynt yn ddigraitb, a'r rha f ^!Tl'a^ ^u:^ugoliaethus. Vr wythnos g sa. bYd ein merched glan, am y waith Rvnt t enoed, yn mvned i gystadleuaeth, a hon °  bwys;?caf o'i nhatur a fedd y gen- ed] wedi mentro vn eofn, a hyder- \110' ?? wedi mentro yn eofn, a hyder- ??n ? ?vdd eu U?'yddiant yn ateb i'w glew- <Jer ????'??'dis?wyt gormod wrthynt ?d? ?. ?'??'y! iddynt gipio'r ?'obr y tro Cynt ^Wn oddiar y corau profiadol sydd i'w ?? y? Cant fin canmoIiaeth uchaf os Cart ein catimo l iafth uc l ia f os h\1 .dant ? roddi cyfrif go dda ohonynt eu hun 3 vr uchd-wy!. Ofnwn mai trych- pe vddai iddynt enill y tro cyntaf hwn.  '?ycdat h?nv, byddai ilanciau'r fro- hen ac ?anc—wedi gwirioni arnynt yn fwy Ha eri. 0ed ac ni byddai pen ar ganu "mor- w £ .°n glan Meirionydd." Fodd bynag, eH?id )?? cor erioed i'r ymdrech gyda gwell ea,Oll nag a wna Merched y Moelwyn, a ??? "?wn 011 iddynt ddyfod yn ol gyda '? chwifiog. 1\ qc ??WN alw sylw holl w eithwyr y cylch ?c p?? oddiallan iddo at yr achos wran- d VawYd yn Llys Manddyledion Blaenau ?eJ'?' 'og ddydd lau, yn arbenig felly achos v weddnv ° Tai'nyfoel, a geisiai lawn yn n8lv ? marwotaeth ei gwr. Sylwer fel y Ptoy V ^arnwr ar y ffaith nad oedd gair 0Scm ??dibodam "ddamwain" i law y thry? ????: ni soniodd ef ei hun air am '/tel \Vrth neb yn mhellach na bod careg ?ed ? ?ynedi'w !aw. Ni ddy\yedod sut ?n??"?ha le yr aeth iddi. Hefyd, ni an- *o vY-od rhybudd o gwbl i'r Swyddfa dim \OM  rbybudd o gwb! i'r Swyddfa dim H VstVsgrif y meddyg, a hyny EbriU 14, .Yntau yn marw Ebrill 2& Dywed- ludd I y Barnv r y dylid anfon Rhybudd ar kill waitil er mwyn i'r Meistri edrych i peth a ?a? ?!an a oedd yn gywir a'i peidio, ac er ? '? diogelwch y dyn ei hun pe digwyddai y Y cani Yniadau fod yn ddifrifol wrth gael a^s ddadb!ygu. Gwyddir yn dda fod y  ? Gwilyn Evans yn awdurdod ar b?p?.?wn i Weithwyr, ac na newidiwyd yr y ? ddyfarniadau o tani o'r cychwyn, ?c „ ??c yr hyn a ddywed yn deilwng o syl", anylaf y gweithwyr a'r meistr yn Sy}? £01 anylaf y gweithwyr a'r meistr yn Ystal. ? '? t4 ???VN na bydd y drafodaeth gymer- ?d Odd le ar bwnc y ManddaIiadau, yn NN ghyf?lf,d Cynghor Sirol Meirion, ddydd ercher yn ofer. Bu siarad tipyn yn frwd, Ja.edYd y iiciaf am dano, a rhedai y teim- lazi tl Yn ucllf 1. Nid oeddym yn synu dim Yri IZY- Clywsom wr parchedig o'n plith ?t??sdyd mewn cyfartod cyhoeddus nad fe] dysgwy, i'r Ddeddf gael ei gweinyddu hfel Y ylasai am fod Mr R. Nathaniel Jones Sy???t i'r Marchog o'r Pale,-yr hwn r-berchenog, a'i fod yn cael gwerthu l?d all a gwrtaith i'r perchenogion tirol yn y Sir Ymosododd drachefn arno ef a'r pwY11go, mewn modd !!ym ac hollol anheg, ??-?? '? ?roddiad Mr R. N. Jones yn gywir, 41?Wty' w Ysgrifau yn y newyddiadur sydd dan *'» of^j • ?aturiot ydoedd i Mr Jones am- ^diff ?' hun a't Pwyllgor hyd yr oedd yn   ?"?sth yn lew ag ystyried mor ?y?adwy ydynt. Paham y gwas- (re^r 01' punt ° arian y trethdalwyr gyda ??i?????yddog Tirol, a gwneyd dim yn y ?'s'ad ? ?ysgwylia y 49 anfonasant eu 'Ce'siad  mewn am ryw atebiad amgen nag ;L,gaf WYd ?V? yn hvn, a dylent ei gael heb *\Ver ??' y" mheUach. Nid ydym yn y ?? 'rh?o '?fynedi'rddadt ar y naiH ochr ?aIr "all er y carasem draethu ein meddwl ?ddi ?''?pas ar y mater.  GWET R oddiwrth ein hadroddiad mewn ?fn ?od Rhyddfrydwyr Conglywal ar oj 'r h?Ppian wedi rhwbio eu llygaid di? O't d' 'Wedd, ac wedi !?d-?deffro at eu gwaith h4w y? enwi ymgeiswyr yno nos Lun. ??iWti yQ?p ??"ym fai i'w weled ar y rhai a en,, y,l rlac ar y modd y gwnaed y gwaith. -Ydd -Yn dda gan lawer gael clywed y bon- Ndi 910h byn. Ond y mae ? cyfiawn i j?%V h6 at ddifrawder etholwyr y rhanbarth hIA, n fel pob un o'r Heill. Nid oedd mwy na -Sain? o etholwyr yn bresenol yn y cyfarfod Hawdd yw crechwenu abeio wedi i benodiad anmhoblogaidd gael ei wneyd gan ychydig sydd yn dwyn sel dros y gwaith a dangos gwaed drwg wedi i'r Sir roddi dyn yn y sedd heb fod wrth ein bodd. Ond beth arall ellir ddisgwyl ? Onid cosb haeddianol ein di- frawdar ydyw hyny ? Paham na ddeffrown i wneyd ein llais yn glywadwy a'n dylanwad yn deimladwy? Dylai Blaenau Ffestiniog fod yn arwain y Sir yn y mater hwn, yn lie hyny boddlona i ddilyn yn llesg, ac yn y diwedd genfigenu wrth rai sydd trwy fod yn fwy pybyr yn llwyddo i gael yr hyn sydd arnynt eisiau. ,¡< NID yw Mr Haydn Jones eto wedi atteb i wahoddiad etholwyr Ward y Rhiw a Bowydd trwy bennu noswaith i'w hanerch, a dichon mai tebyg ydyw gyda'r Wardiau eraill. Ond y mae wedi rhoddi lie i obeithio y cyd- synia i ddod yma i draddodi anerchiad i'r etholwyr. Y mae disgwyliad hefyd am gael clywed y cyfeillion eraill sydd wedi eu henwi yn traethu eu syniadau fel y gwypo yr etholwyr beth ydynt, ac fel y caffont ham- dden i wneyd eu meddyliau i fyny pwy i'w ddewis o blith y rhai sydd ger bron. Gall fod y dull difraw y cerir yn mlaen gyda'r cyfarfodydd enwi yn y gwahanol Ranbarth- au yn un rheswm dros yr oediadau mewn ateb y gwahoddiadau i draddodi anerchiadau Y mae un peth yn eglur ddigon, fod teimlad distaw yn prysur weithio i lefeinio yr Ethol- aeth am gael cynrychiolydd hollol werinol a chwbl rydd oddiwrth ddylanwad unrhyw glymblaid yn ei ddewisiad rhaid i'r dewis- iad fod uwchaw pob lie i neb amheu dim yn nghylch ei degwch. r. LLAWEN genym weled enwau amryw o'r rylch wedi llwyddo i basio Arholiad Cyfun- debol v Methodistiaid. Yn y rhestr gy- hoeddadig gwehvn fod v rhai canlynol i mewn :—David Wynne, Pandy Tudur, 181, yr oedd ef yn un o'r tri enillodd Dlws, a chafodd un Bronze Ilongyfarchiad arbenig iddo R. Wynne Thomas, Portmadoc, 168 R. R. Williams, Penrhyn, 167; E. J. Ed- wards, Porthmadoc, 158; Ellen Roberts, Llanfrothen, 157; R. Owen, 153; G. Jones, Llanfrothen, 141; J. Williams, Trawsfynydd 135; a Mary E. Owen, Blaenau Ffestiniog, 132.
CYFARFOD PREGETHU BLYN-j YDDOL.
CYFARFOD PREGETHU BLYN- j YDDOL. Cynhaliodd yr Eglwysi (m.c.), Rhiw, Bowydd, a Maenofferen, eu Cyfarfod Preg- ethu Blynyddol nos Wener hyd nos Sabboth diweddaf. Y pregethwyr eleni ydoedd y Parchn. H. Barrow Williams, Llandudno; William Thomas, Llanrwst; T. F. Jones, Llundain; J. E. Davies, Treffynon a John Roberts, M.A., Lerpwl. Yr oedd y Parch. E. Mordaf Pierce, Llanidloes, wedi ei wahodd hefyd i bregethu, ond methodd a dyfod oherwydd gwaeledd yn ol a glywsom. Gan mai un o bregethwyr Bowydd ydoedd Mr. Pierce, gwnaeth y Parch. John Owen, M.A., y bwlch i fvny; a chydrhyngddo ef a'r Parch. J. E. Davies, cafwyd dwy bregeth nad anghofir yn fuan. Yr oedd yr oil o'r cenhadon eraill yn traethu yr Hen, Hen Hanes," gyda nerth, ac amIwg ydoedd fod eu sylwadau yn cael eu derbyn gyda bias gan y cynulliadau lluosog oedd yn gwrando arnynt.—Am ddau o'r gloch prydnawn Sadwrn, yn Nghapel y Bowydd, o dan lywyddiaeth y Parch. Thos. Hughes, B.A., Rhiw, ymdriniwyd ar y mater gosodedig, sef Gwasanaeth Ffydd yn amgylchiadau cyffredin bywyd," seiliedig ar loan xiv., a'r adnod gyntaf—" Na thralloder eich calon yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finau hefyd." Treuliwyd cyfarfod hapus dros ben. Diau y bydd i'r cenadwriaethau draethwyd o ddechreu y cyfarfod hyd ei ddiwedd ym mhob un o'r Eglwysi, yn cael eu cadw a'u byw gan yr oil o'r gwrandawyr a thrwy hyny atebai y Gymanfa ei dyben. —Gyda Haw, y mae un peth y gofynir i mi wneyd sylw ohono, 'sef gwaith y bobl ieuanc -yn feibion a merched—aradeg ogyfarfod- ydd pregethu, yn cymeryd mantais i fyned mewn ac allan tra y bydd y gwasanaeth yn myned yn mlaen hefyd y dull anfoesgar sydd ganddynt i fyned allan cyn i'r gwasan- aeth lawn orphen, a hyny yn herwydd aros ychydig o fycudau. Er engraipht, pan y rhoddodd un o'r pregethwyr oedd yn preg- ethu olaf nos Sabbath diweddaf, yn un o'r eglwysi uchod, emyn allan iganu i ddiweddu yr oedfeuon, ac yna i'r gynulleidfa godi ar eu traed gan ddechreu ei ganu, clywyd trwst traed llawer yn myned allan cyn gyflymed ag y gallant o un cwr i'r oriel. Yr oedd eu gwaith hyf yn taflu y gwaradwydd mwyaf ar y pregethau grymus a draddodwyd. Ni ellir cyfiawnhau eu gwaith ond yn hytrach godi un llais yn gryf yn ei erbyn. Y perygl ydyw fod y dull yma sydd gan yr ieuanc i ddangos eu difaterwch a'u hyfrdra yn nhy Dduw ar adegau neillduol fel hyn yn prysur fyned yn arferiad, a thrwy hyny osgoi y syn- iad eu bod yn pechu yn ofnadwy yn erbyn Duw-yr Hwn sydd yn eiddigeddus iawn dros ei Enw a'i Dy. Gobeithio y bydd i swyddogion y gwahanol eglwysi gymeryd sylw o'r peth, a thrwy hyny hwyrach y daw yr ieuanc i deimlo eu bod yn gwneyd yr hyn na ddylasant ei wneyd ar gyfrif yn y byd.- E.R.
Advertising
Picture Postcards, (Tuck's) a fine collection I Id. each. Rhedegydd Office, Blaenau Ffestiniog.
BEIRNIADAETH ENGLYN "Y I GLUST."
BEIRNIADAETH ENGLYN "Y I GLUST." Cynhygiodd dau ar hugain. Crynhoaf fy nodiadau ainynt i fyr eiriau. Gellir eu rhannu yn dri dosbarth. Dosbarth y man wallau: Dewi Eifion, Shon Calvin, Arfonwr a Mab Eryri. Dosbarth y rhai heb fod na gwych na gwael: Bismark, Elphin Wynne (dau), Godre'r Wyddfa, Y Llvgad, Handel, Mudan, Un Di-farf, Salis, Englynydd, Vm- geisydd ac Advena. Dosbarth y rhai o fewn ychydig: Tudur Llwyd, Un a dwy, X. V. Z., A. Arfon, Gwachul a Hwyrdrwrn. Wedi darllen y goreuon fwy nag unwaith, tueddir fi i roddi y wobr i "Hwvrdrwm." Ond rhaid i mi ddweyd nad yw ei Englyn yntau cystal ag y buaswn yn dymuno iddo fod. EIFION WYN, Dyma'r englyn Oracl aur synnwyr y clyw,-i'r cantor, Cynnedd seiniau amryw Mygedol ermig- jdyw, A darn o dwr enaid yw.
HIR A TBODDAID—" Y CWMWL."…
HIR A TBODDAID—" Y CWMWL." I Fe ddaeth wyth Toddaid i law, ac nid rhyw gymaint o wahaniaeth sydd rhyng- ddynt. Boddloned y beirdd ar sylw byr EMLYN, Cynwys amryw eiriau amhriodol, a'i linell olaf yn lleihau ei werth. DEFNYN, Cychwyn yn dda, yna'n gwan- hau wrth ymgais am gynghanedd gref. COCH Y BONDDU, Gallasai fod yn well, yr ymadrodd mwyaf beius yw hwnw sy'n di- weddu'r bedwaredd linell. GWLITHYX, Desgrifiadol, ac ar y cyfan yn bur dda. PLENTYN ADFYD, Yn cynwys dwy gyng- hanedd lusg, ac un linell ry fer. Hefyd un neu ddau o eiriau syn'n brifo'r Uygad. CLEDR LLAW, Cynnyg gwych, ond prin yr wyf yn hoffi "aig-gymaru." Nid yw'r syniad diweddol chwaith wedi ei fynegi'n hapus. DAN Y DAIL, Cynhwysfawr, a thra des- grifiadol. Hwyrach y gallasai ei gynghan- edd fod yn well. CAMLAN, Cryf a naturiol, er nad yn gwbl wrth fy modd. Wedi ail ddarllen yr wyth Toddaid nid wyf yn meddwl y gellir gwneud dim yn decach na rhannu'r wobr yn gyfattal rhwng Dan y Dail a Camlan." EIFION WYN. 1
Tafarnati Sir Ddinbych.
Tafarnati Sir Ddinbych. Dydd Mawrth, yn Colwyn Bay, eistedd- odd Pwyllgor Trwyddedol Sir Ddinbvch o dan lywyddiaeth Mr L. W. Jelf Petit, Llan- rwst. Yr oedd y saith Tafarndy canlynol wedi cael eu gwrthod o drwyddedau gan yr ynadon Ileol yn y gwahanol ddosbeirth o'r Sir, ac ystyrid hwy gan y Pwyllgor yn mhellach ;-Hand Inn, Llansilin Hand Inn Llanarmon, Dyffryn Ceiriog; Bridge End Inn, Penycae; Crown Inn, Abergele; Eagles Inn, Dinbych; Bodnant Arms, Eglwysbach a Crecent Inn, Glanconwy. Gwrthodwyd adnewyddu trwyddedau chwech ohonynt, ond adnewyddwyd trwydded Hand Inn, Llanarmon. Yn achos Bodnant Arms, Eglwysbach, awgrymodd Mr Trefor Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mri Porter ac Amphlett) ei fod wedi ei gyfarwyddo gan Lady McLaren, Bodnant i gydsynio a chau y ty, ac y gownaí hi gydsynio a bod y tenant yn cael un rhan o bedair yr iawn ddyfernid yn yr achos. Rhoddodd Mr Artemus Jones (yri cael ei gyfarwyddo gan Mr C. T. Allard), y tyst- iolaethau ffurfiol gerbron, ar ran ynadon y Dosbarth, nad oedd angen am y ty. Arrcan- gvfrifai Mr. G. Perkins, Abergele swm yr iawn yn £ 439. Yn achos Crescent Inn, Glanconwy, caed mai y Perchenog Cofrestredig yw Isaac Jones, Blaen Nant, Eglwysbach, v Trwydd- edwr yw Charles Hitchin a'r Prydleswyr, Mri Ind Coope, & Co. Gwrthwynebai y Tenant a'r Prydleswyr yn gryf i'r ty gael ei gau. Yr achos paham y gwrthododd yr ynadon y Drwydded oed, fod pedwar o dai yn y Pentref, ac mai y Crescent Inn oedd y lleiaf a'r anghymwysaf o honynt o ran trefn- iadau iechydol. Caniateir iawn yn y chwech achos uchod, ond rhaid i'r Pwyllgor lawnyddu gyfarfod eto i benderfynu y symiau.
Ysgol i ,.Fethdalwyr.'F'F""rV"I
Ysgol i Fethdalwyr. 'F'F""r V" I Gwnaeth ei Anrhyddd y Barnwr William Evans awgrym anamseroJ'yn Llys'Manddyled- ion Trenewydd wrthddrafod cais Roger Gittins, Amwythig, oedd eisiau rhyddhad fel methdal- wr. Eglurwyd i Gittins fyned yn Fethdalwr bum' mlynedd yn ol am y swm o £ 1,570 ac iddo dalu 2/4 y bunt o'i eiddo oedd ganddo ar y pryd. Pan yn Alberbury bu, iddo dori ym- ddiriedaeth pan yn gweithredu fel Ymddiried- olwr Etifeddiaeth ei dad-yn-nghyfraith trwy hud-ddenu ei fam-yn-nghyfraith i roddi ei budd am ei hoes yn yr Etifeddiaeth,- Barnwr, 'Beth pe bawn yn gohirio y rhyddhad am dair blyn- edd ?"—Methdalwr, Oni ellwch ei wneyd ychydig yn llai, Syr ? Yr wyf wedi cael pum' mlynedd."—Barnwr, Yr ydych wedi dysgu yn y cyfamser sut i fasnachu yn llwyddianus. Dylai fod ysgol methdalwyr sydd yn aros eu rhyddhad i'w dysgu. sut i fasnachu yn llwyddianus.Gohiriwyd y rhyddhad am ddwy flynedd a haner.
LLAN RVST. I
LLAN RVST. I TREFN Y MODDION SABBOTHOL. I Yr Eglxeys Sefydledig. ST. CRWST—10-30 a 6, Gwasanaeth Cymreig. ST, MARY.—11 a 6, Gwasanaeth Seisnig. Y Methadistiaid. SEIGN .-Parch. E. J. Williams, Acrfair. HEOL SCOTLAND. Parch, R, Mathews, Amlwch. Yr Annibynteyr, TABERNACL,—'Parch. W. Cynwyd Williams. EBENEZER.—- Y Wesleyaid. HOREB.—Parch. T. C. Roberts. ST. JAMES (English Chapel),—Rev, H. W. Jones. Bedyddzvyr. PENUEL.-Parch. W. Williams, Towyn. Dydd Mercher unwyd mewn gb.n brîodas, yn St Margaret's, Westminster. Lady Myll Carrington, merch Iaiil Canington, a Viscou-jt Bury mab hynaf Iarll Abermarle. Ymwelwyd a'r dref ddydd Iau gan tua ds,u gant o ieuengctid perthynol i Ysgolion Diwyd- ianau Manceinion, a cherddasant i'r Bettws, gan ddychwelyd adref gyda'r tren. Anrbegodd Tad Trebaol y Llyfrgell a nifer o lyfrau gwerthfawr. Y mae Dr. J. Lloyd Williams, Coleg Bangor, i ddarllen papur yn un o gyfarfodydd Adranol Eisteddfod Llundain ddydd Mercher nesaf ar Alawon Cymreig." Y mae y Doctor athrylithgar yn frawd i Mrs. Williams, Ty'r Orsaf. Llawen genym ddeall fod Mr, T. Rogers Jones, yn gwella oddiwrth effeithiau ei salwcfa diweddar. Boed iddo adferiad llwyr yw ein dymuniad cywiraf. Y mae Mr. Twigge Ellis wedi panderfynii dod i fyw i Llanrwst, ac y mae wedi rhentu Tanyfron. Drwg genym ddeall fod Mr. Williams, Carrington Terrace, wedi ei ail-gymeryd yn wael. Bu Dr. Rd. Jones, Blaenau, ar ymwei- iad arbenig ag ef nos Lun. a boreu Mawitb, i ymgynghori a Dr. Huw Williams uwchben yr achos. Y mae boneddwr o'r dref wedi penderfynu i codi deuddeg o Dai Gweithwyr ar etifeddiaeth PendyfTryti. Llywyddai Mr. R. E. Thomas, Trefriw, yn Nghyfarfod Ysgol Carmel y Sabboth diweddaf. Y mae Ymddiriedolwyr Capel Seion wedi trefnu gyda Mr. E. Jones, Printing Office, i brynu darn o dir yn nghefn Stryt Watling am £ 35 feIlle i godi Ysgol Cenhadol. Profqdd Dafydd Lonydd y gall fod yn aflonydd pe dewisai. Mewn Llys Arbenig ddydd Mawrth, o flaen Mri. O. lsgoed Jones a L 0. R. Ashley, cyhuddwyd David Jones (Dafydd Lonydd) o fod yn feddw ac afreo!us yn Denbigh Street y noson cynt. Tystiodd v Swyddog fod y cyhuddedig yn Denbigh Street yn bur feddw, ac yn aSonyddu boneddigesiu dyeithr. Dywedwyd wrthc am fyned adref, ond aeth yn uwch i fyny yr beol yn lie hyny a tha,rawoddddyn yno. Wedi hyny heriodd y Swyddog i'w gloi i fyny, a gwnaeth yntau Tystiodd yr Uwch-Arolygydd Wise i'r Diffyn- ydd gael ei ddirwyo yn Mai 1908 i goron a'r costau, ac yr oedd 7/6 yn sefyll yn ddyledus arno i'r Llys.—Dirwywyd ef i 7/6 a'r costau neu 14 niwrnod o garchar, a saith niwrnod pellach am yr ol-ddyled oedd yn sefyll arno. Gan nad oedd ganddo arian i dalu aeth i garchar am dair wythnos, Parodd Gwyddeles gryn hwyl yn y dref nos Wener trwy ganlyn ar ol ei gwr, a thraethu ar ei safle mewn cymdeithas. Gorphenodd ei phraogciau trwy redesr ar ol boneddwr tawel o'r dref, a bwrw potel lawn o gwrw at ei ben. Dyeithriaid oedd hi a'i gwr yn y dref, ADDYSG.—Cyfarfu y Rheolwyr Addysg a gsnivn yn y Neuadd prydnawn Llun, Mri W. J. Williams, W Hughes, T. R. Jones, John Davies, Albert Hughes, David Roberts (Capel Garmon), Parch W. Cynwyd Williams, J. E. Humphreys (Clerc), a W, Roberts (Clerc Cyn- orthwyol),—Ail etholwyd Mr W J Wil'iams yn Gadeirydd, a Mr W. Hughes yn Is-gadeirydd am y flwyddyn -Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghor Sirol wedi penderfynu i ychwanegu dau at rif y Pwyllgor i'w wneyd yn 14, a bod y Milwriad Sandbach, a'r Parch W. Cynwyd Williams wedi eu penodi fel Aelodau Ychwan- ego].-Dangosai adroddiad y Swyddog Fresen- oldeb (Mr Thomas Williams) fod Ysgol Nant- yrhiw ar ben y rhestr gyda cbyfartaledd o 96 5 o bresenoldeb, ac Eglwysbach ar waelod y rhestr gyda chyfartaledd o, 59 y cant o bresen- oldeb. YR ARDDANGOSFA.—Llywyddodd Mr O. Isgoed Jones, U.H.. ar Bwyllgor Cyffredinol yr Arddangosfa prydnawn ddydd Mawrth. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu y diweddar Mr Lenthol yr hwn oedd Llywydd y' Gymdeithas am y fiwyddyn. Llefarwyd geir iau caredig iawn am dano gan y Cadeirydd, Mr Ashley, a'r Ysgrifenydd medrus, Mr Watiirg Yr oedd Mr Lenthol yn cynyg /15 mewn gwob- rwyon eieni.—Pasiwyd i beidio ethol Llywydd arall, a bod Mr 0. Isgoed Jones yn Is-lywydd i weithredu yn lie y diweddar Lywydd.—Enwyd amryw Feirniaid i'r gwahanol adranau, a phen- odwyd 25 o bersonau yn Bwyllgor Gweithial. CYSTADLEOL.-Cynbali,.vyd yr ail o'r cyfres cyfarfodydd cystadleuol fwriedir gario yn mlaen dros dymor yr haf yn Tafarnfedw. Llywyddwyd gan Mr O. R. Hughes, M.A, a chyfailiwyd gan Mr W. E. Davies. Dyfarn- wyd y gwobrwyon fel y canlyn :—Unawd, 11 Laura Ellis;, 2, Nellie Hughes, Pearl House, Deuawd, 1, Dora Ellis a'i chwaer; 2, Enid Wynne ac Annie Hughes. Prawf ar y Modul- ator, 1, Mary Ellis; cydradd ail, Laura Ellis ac Annie Hughes, Silin Square. Prif Unawd, 1, Isaac Thomas, Trefriw; 2, Mrs J. Kerry, [Adrodd, cydradd, Gwladys Jones, Turnpike Dehaf, ac Enid Wynn, Mount Pleasant. Prif Adroddiad, Rt. Morris, Gwytherin, Gwnaeth Mr C. 0. Jones, Wellington House, ei waith yn ddeheuig fel Ysgrifenydd.
- T ...- .,..,..,. "".......…
T V' EETTWSYGOED. At drigolion yr &rdai a'r amgyichoe dd -Dy: muna William Williams. Pantypsir Shop, gyf- lwyno ei ddiolchgarwch diffaant am y gefnog- aeth a dderbyniodd yn y gorphenol gyda dy- muniadau am barhad o'r unrhyw yn y dyfodol. Y mae ganddo bob math o batrymau wedi dod i mewn at dymhor yr haf, Gwell clewis nag erioed. Gwneir Siwtiau i fesur i ddynion am 21/- ac-uchod, gwarentir fit a'r style ddiwedd* ard. Gellir ei gael ar fyr rybudd. Hefyd cedwir Siwtiau i ddynion a bechgyn a phob math o Cord Knicker i fechgyn am brisiau hynod o isel. Trowsusau i ddynion am 4/6 ac uchod. Brvnmawr-Parch, R. R. Morris, Biaenan Ffestiniog. Ta.bcrnad-Parch R. Williams, Llanberis. St, Mary-Parch R. M. Jones, M.A. Cufied pawb am Uchel-wyl Gutyn Arfon yn Rhiwddolion, Sadwrn, Mehefin 26. Dydd Sadwrn nesaf, bydd Mr Robert Wil- liams, Hecefail, Rhiwddclion, a'r teulu oil, yn hwylio am America. Bydd colled fawr ar eu hot yn y lie uchod gan en bod yn aelodau ffyddlon o'r Eglwys sydd yno, ac yn hynod weithgar gyda phob achos da. Gresyn fod Masnach mor isel yn yr ardal fel ag i orfodi cynifer o deuluoedd i adael eu hen gartrefi. Dymunwn iddynt fordaith hapus, a phoh liwyddiant wedi cyrhaedd drosodd.
-- - - ^ VVVVVVW CAPEL GARMON.
VVVVVVW CAPEL GARMON. Dydd Sadwrn ydoedd Uchelwyl Cymdeithas Gyfeiilgar y He hwn, a chafwyd tywydd o'r fath ddymunolaf. Yn y prydnawn yr oedd te campus wedi ei baratoi i'r aelodau gan Mrs. Roberts, Foelas House, yn cael ei chynorth- wyo gan Mrs, Jones a Mrs. Hughes, Foelas Terrace, a Mrs. Jones, Pentre Bach, yn ogystal a phrif Swyddogion y Gym ieithas. Yn yr hwyr cynhaliwyd Cyngerdd yn yr Ysgol- dy o dan lywyddiaeth y Rheithor caredig, y Parch. O. G. Pritchard, yr hwn a wnaeth syl- wadau pwrpasol i agor y cyfarfod ac arwein- iwyd gan Dewi Mai o Feirion yn ddoniol nod- edig. Cymerwyd rhan gaD y rhai canlynol Ehedydd Garmon, Ap Ehedydd Garmon' Robert Davies, Mountain View; Robert W. Jones, Carreg Llion; Evan Jones Robert W. Wiliiams, John Jones, BronfedwaigyfaiH, ac Isaac O. Roberts, Trefriw. Gwnaethant eu rhan yn nodedig gvmeradwy. Yr oedd Mr. John Owen, Mountain View. yo difyru y dorf gyda detholiadau ar y Phonograph. Adrodd- odd Miss Hannah Davies (Garmcnwen), Die Ifan y Ddol," yn ei duil niedrus ei hun, a chafwyd gair gan Mr. Evan Pug he, Llanrwst. Yr oefld y Telynor Dail. o Feirion yn swyno pawb gyda'i ddetholiadau ar y delvn. a Oewi Mai o Feirion yn ysgubo pobpeth o'i fiaen gyda chanu Penillion. imnunol gweled yr hen ddull hwn o ganu yn cael ei adfywio yn eic-t gwJad. Nis gellir rhoddi gair rhy ucbel i ddat- ganiadau y Cor Meibion o dan arweioiad y cerddor ieuangc medrus Mr, William, Audrew. Canasint ddwywaith nes gwef- reiddio y gynulleidfa. Llawen genym weled gol wg mor lewyrchus ar y Gymdeithas, a da y gwnei&i. ieueogtid yr ardal ymuno a hi. Y Llywydd yw Mr, Evan Hughes; Ysgrifenydd, Mr, Griffith Jones; Trysorydd. Mr R W. Roberts, ac nis gallesid cael dynion cymwysach; i'r gwaith nag ydynt hwy a'u cynorthwywyr.
PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. Y DIFFYG TRSULIAD.—Mynwch gael Pofel ar unwaith o DR. WOOD'S REMEDY at y DIffyg Treuliad. Nid oes dim gwell i'w gael at yr afiechyd hwn. I'w gael gan Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Pfestiniog. ADLONIAI)OL.-Nos Fawrth, yn y Tiodtyc cynbaliwyd Cyfarfod adloniadol, Mr. W„ Llewelyn Ellis, Pwllheli, yn y gadair Arweiniwyd gan Treboifab yn ei ddull doniola ffraeth. Seren y cyfarfod oedd Deiniol Fychan gan yr hwn y cafwyd "YmweJiad Nkio a Lerpwl," ynghyda amryw ddarnau difyrus eraill. Hefyd aeth trwy ychvdig ymarfer fel tafleisvdd, Yn ystod y cyfatfod canwyd gan Mri W. Buckingham (un o'r ty), R. D. Roberts, Nurse Morris a Mrs W. 0, Jones o'r America. Talwyd diolchia'au gan Mri D. Jones (y Meistr) a Griffith Williams, Minffordd.
T ANYGRISIAU.'
T ANYGRISIAU. DAMWAIN.-Pan yr oedd Mrs Thomas. Y Bont, yn y Foel ya godro. dychrynwvd y fuwch wrth weled dyn a baich o rug ar ei geftt yn pasio Taflwyd Mrs. Thomas i lawr a sathrwyd hi yn ei gwyneb gan y fuwch. AFLONYDDU.—Y mae rhywun neu rywrai yn ailonyddu ar heddweh bobl yn y no; yr wyth- nos hon, Tybid eu bod ar berwyl drwg nos Lun yn Cambrian Terrace, a nos Fawrth bu un arall yn aflonyddu mewn lie arall gefn nos, ond desllwn fod yr I-Ieddlu ar eu gwarthaf. YN GWELLA.Da genym ddeall fod ein cleifion yn graddol wella. Y mae Mr. Hugh Roberts, Cae'rffridd. wedi gwella digon i ail- ymaflyd yn ei ddyledswyddau, wedi bod yn cwynd am dymor maith, Y tnae eraill para i. wella, sef, Mri. Lewis Edwards, G. M. Tones, G. Jones, London Terrace, W. R. Williams. (Glyn), W. R. Williams, Tanlan, a David Charles, mab Mr Edward Davies, Bryn- ffynon. AM EI GWYLIAU.—Da genym weled Miq; I Ellen Jane Jones, 1, Glanrafon Terrace, Tanygrisiau, wedi dyfod gartref am ei gwyliaa, o Lerpwl.