Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
ADOLYGIAD Y WASG. [
ADOLYGIAD Y WASG. [ IESU: Holwyddoreg ar Hanes esu Grist, sr gynllun newydd, gan y Parch. w. Ross Hughes, Borth-y-gest, Porthmad- 04- Richard Jones, Pwllheli. Pris 2g.  y? hwn a barotowyd ar gais Pwyllgor oymanfl- Gerddorol Lleyn ac Eifionydd. T el,r4lie Rlge, am dano yn y cylch hwnw, a  ?'° ?? yr awdwr yn barnu yn gywir wrth Bas fi f A ei angen hefyd mewn cylch eangach. M?af'M ?' Hughes yn de aU plant i'r dim ac Rd dyrna'r ? cyntaf iddo ddarparu ar eu J ,Yfer Cafodd ei lyfr Clychau'r Plant dder- by?D'. ?y?ss.achymeradwyaeth uchel. Mae Y LlYfr hwn eto yn sicr o brofi yr un mor dd?fnyddiol Haedda sylw a cbefnogaeth Arol. ?y ac Athrawon yr YsgoL Sul, a cbte?awn Y bydd galwad mawr am dano. I y "?ETHODYDD.—Mae y Traethodydd yn ^U^tV ?? dda fel cylcbgrawn gwirsylweddol ke A.- Jsgrif i!?,iado1- Agorir y rhifyn hwn gydag 'Vg"f ?'? Mynyddog gan y Parch. E. j ?a?j-h ? Humphreys. Traethir yn helaeth ? Yflddiar hun iiotir yr arwr, a diau fod YDYdd09 yn fwy cyfoethog o'r elfen hon na ?? g?? ??o fu o'i flaen nac ar ei ol. Bydd yr *sgtif^mr° dd,ddorol gan lu o'r rhai fuont yn "WY,aha, ? ffraethebion ar lwyfan yr Eistedd- !od v y blynyddoedd a fu. Ysgrif feirniadol o orWerth yw eiddo yr Athro Francis JOSI1 r, B A..B D., ar Y Pum' Llyfr a Llyfr low » Ysgrifena Mr. Eleazer Roberts yn amserol ?esymo!. ac nid heb gyffyrddiad cryf Otya lae^ ar "Y Panic." Olrheinia liaws cyffjo j b!aenoroi, yn cael eu codi gan ?eid? ? rbyfel, ac yn diweddu mewn mwg. ? 0 e.s ganddo end dirmyghaeddianol arnynt. oes ando end dirmyg haeddianol arnynt if e ? wir ddisgybl i Henry Richard ac uldy yn ymddangos yr ofnai pe symudai y ddtie ? aph tr?igHd y mynyddoedd i ganol y br ?.?  PaTcb. William Evans, Pem- br^n ?ck. yn parh?u i bregethu i b1egeth- Wyr ??tifru erai.'d ydynt "Dafydd ap ?'Sy?vadau ar yr Hebrae?." "Ch ? ? 'ickers F- Dariei C wen," Adgofion Z. n< ac er?i i ll, a cliv'n- ?"? !obn ESias ac erai! a cbyn- ?"cbir ygAn linel!F.u y Pa. eh Peter t ???? s (,Œths ar Fy Mrawd Bach Mae ? t?if?n gu e'tbfawr drwyddo. i???—D?et? rhifyn Mebena o'r Cymru vn dda a dyddorol-yn goleuo'r de?))? ?"Sino'ryspryJ. Difyrion o'r Dwy- r?,, v rai,, ^an ?' Bryan yw yr ysgrif gyntaf ynddo. dr°. d yr awdwr gwyn ei fod ar y cyfan yn A^igdt r ? Sormod ymhiith beddau ac adfeilion yr Aiat a fu ac ysgrifena y Difyrion hyn rhag i'?"'°?'d dybio ei fod yn byw fel y gwr h., IIW sonia Will Brynan am dano gyda phiat ?h ei nain ar ei frest,gellir casglu o<j? '?hynbeth sydd yn dilyn. Richard Mor« atJ yw offeiriad a dehonglydd natur i ?adr? !? ? offeiriad a dehocg!ydd natnr i ? ??'' Y Cy;?r?<. Mae ei lith y tro hwn Y"  dYddoroL Bardd a Phortbmon yw y bOr4ed benod o ysgrifau Elis o'r Nant ar Robelt Emwnt. Nid oes neb yn medru ar Gy^ e§ niwy swynol na'r awdwr hwn, ac e^ycK,yn miaen at gael yr ysgrifau hyn yn 14,h Yd mewn ffurf barhaol. Mae ysgrif werth- fi WrY Parch G. A, Edwards, B A., ar Y Newydd yn gymbares dda i'r un Saejjfr ar yr Hen Destament." Ceir yma heta» Ystory Trystau Ap Trallwch ac Ysylld kerch Brenin Duivn." a "Siartiaid Cas- ?t) r Beirdd Uwcbaled," a Mwnglodd- >4H C/e e4'8ion'" Buasai y p.enawd Yspryd T4, Ygrisiau 11 wedi peri i'n,gwal?t godi ar ein ?t? '???"wedi peri i'n gwalh godi ar ein Pejj Q 0 e vr ysgrifenydd yn sicrhau ar y ^chrfU rns' "Tanygrisiau, Ffestiniog, fet3dv"°nd y grisian sy'n arwain i rannau o? ??y." Gwelir fod hwn yn rhifyn Hawn 9 YWlaeth pleserus. ynY T -??SERN.—Cyhoeddiad yn cael ei gario YtA? "4 ? gyda llawer o ddeheurwydd, ac yn twneyd g?asanaeth gwerthfawr i'r Ysgolion 41 Vw hwn. Cynwysai rhifyn Mehefin y ?er? ?''??? wedi eu cyfaddasu ar gyfer y ?hi ? ddosbarthiadau gyda'r synwyr da ?'t? ???eth sydd yn angenrheidiol ar gyfer %t. Mae gwersi pwysig ac amserol yn C41 e'l d,.vyn i sylw yn yr ysgrif ar Addysg \VYd. Y? J?T DiRwESTOL.—?Mae y cyhoeddiad ? ? ??1 i gvSawni et neges oruchel gyda ?y Y Prif erthyglau yn rhifyn Mehefin yw ??? snach mewn Alcohol a'i Heffeithiau" 9krA b '7- Carter, gynt o Lerpwl; a Siarter y I'la,t. 1 gan Mr. Wm. George. HeMaw hyn qnwYsa dometh o ddefnyddiau buddiol at ?^U an cyfarfodydd dirwestol. Nid ydym d'do eled sut y gall neb sydd yn cymeryd ??o ? ? Sweit?redo! yn achos dirwest 4b gor ? cyhoeddiad rhagorol hwn. Dylai D4,wb dderb ???? yn gweithio gyda'r achos fod yn ?th "wYr cyson o hono. PHanES sef trfanes yr Achos Meth- OdisF.O HANES: sef danes yr Achos Meth- 0 '4taidd yn Nhanygrisiau o 1809 hyd 1909, gaQ ? O. Hughes, Dolafon, Tanygrisiau. leler, all Ffestiniog Davies & Co Argraff- ?yr* ?"yddfa'r Rhedegydd. Pris, mewn illl, 1/6; amien., I/- 14ae YfrQl ^^y^dorol hon newydd ddyfod ?at 0'r as Cynwysad60 o dudaleuau o k^s ah0s bethel, yr hwn sydd yn awr ar i 11 ei ga lwy d oed. Symbylwyd yr awdwr 1')11 ery y gorchwyl mewn Haw am ei fod Yii R%veled yr hen bobl yn cael eu cymeryd ?it? a thrwy hyny fod y cyfryngau i gario ?a S' ^aoe<l ? I0 ?yaed yn brin," a chadwodd rhag ^Qcni eno^ o hanes oedd ar fin diflanu. 146 vn ff -yt^ dar^en> boli a chwilio i mewn i ? ? J?S''??- Cynwysa lawer o fater na ,hOeddwyd mohono erioed o'r blaen. 01- th'. "Ir Ynddi hanes dechreuad a chynodd yr ?chos ??°? sylw manwl o'i symudiadau ^no ?Bo! '?wnol. Cynwysa hefyd fyrgofiant- ac ad»° fi0n am aelodau-rhai ohonynt yn bSId yr ?wrhon, eithr rhai a hunasant. ??e!?y-n? drwy^do wedi ei ysgrifenu mewn sydd yn gweddu yn dda i fywyd ? y *r°h? a goffeir ynddo. Gwnaeth Mr. Hughes waith y bydd eglwys Bethel a llawer y tu allan iddi yn falch ohono, Pe cymerai rhywrai cysylltiedig a phob achos orchwyl cyff- elyb mewn Haw gwneid cymwynas amhrisiad- wy a'r hanesydd dyfodol. Haedda yr antur- iaeth hon gefnogaeth, a diau y ca yr awdwr at- daliad am ei lafur mawr, er nad yw yn disgwyl mwy na'i ddigolledu, fel y dywedir yn Rhag- ymadrodd pwrpasol y Parch. R. Silyn Roberts gweinidog presenol y lie. Dylai yr holl ar- graffiad werthu allan yn fuan pa ond yn y cylch hwn yn unig. Mae yn gyfrol o wir ddy- ddordeb i Ffestiniog a'r cylch, a chaiff groesaw hefyd gan lu o blant yr ardal sydd wedi eu gwasgaru i'r pedwar cwr. Dymunwn iddi Iwyddiont cyfatebol i'r llafur sydd ami. 11111,11 J.D.D. I
Y Diweddar Mr. Evan Jones,…
Y Diweddar Mr. Evan Jones, Bethseida Terrace, Tanygrisiau. I Hir ddisgwyliais i rai o'r teulu ysgrifenu gair Coffa am y diweddar Evan Jones (3aer Maen) fel y byddwn yn cael ei adwaen, Hwyrach y rheswm dros y distawrwydd yw, nad oedd yn tori ffigwr amlwg mewn cysylltiad ag unrhyw enwad grefyddol. Nid oes neb yn gwerthfawrogi yspryd crefyddol mwy na mi, ond iddo gario ei ddylanwad i'n gorchwylion beunyddiol. Ganwyd Evan Jones fel ydym yn cael ar ddeall yn nghymydogaeth Llan- frothen yn y flwyddyn 1842, ac yno treuliodd ran foreuaf o'i oes fel Saer Maen. Daeth i weithio i Blaenau Ffestiniog yn agos i ddeu- gain mlynedd yn ol at John Pugh, Adeiladydd, i adeiladu ysgol yn Tanygrisiau, yr hon sydd yn ymyl y ffordd gerllaw preswylfod Mr. Cudwaladr Roberts, Penygroes, Is-Gadeirydd ein Cycgor Dinesig. Gyda John Pugh buodd yn gweithio am flynyddoedd, nes iddo ddyfod ataf fi tua. pymtheg mlynedd yn ol. Yn ngwyneb distawrwydd gan eraiil am dano, tcimlais fed yn ddyledus arnaf fel hen weith- iv-r i mi i ysgrifenu ychydig eiriau Coffa iddo. Nid ydyw bob aroser yn hawdd cyf- arfod a. gweithiwr fel y diweddar Evan Jones. Yr ced j yo ofalus iawn am un peth mae llawer yn diffygiol o hono, sef dod at ei waith mewn amser. A mwy na hyny, nid oedd angen ed rych ar ei ol pan yn dilyn ei alwedigaeth. Yr oedd yn fedrus, gofalus a diwyd. Ni welais ymgais ganddo un amser i niweidio ei gyd- weithiwr Mae hwn yn un o'r grasusau pryd- ferthaf yn mhlith gweithwyr. Nid oedd angen o gwbl edrych ar ei ol ond iddo ddeall y cyn- lluniau a'r gwaith y disgwylir iddo wneyd. Onid ydyw cymeriad fel bwn yn werth ei goff- hau a'i efelychu. Wrth ddweyd hyn, nid wyf yn awgrymu nad oedd heb ei wendidau mewn cyfeiriadau eraiil. Nid oedd ei iechyd yn dda er's misoedd cyn iddo orfod roddifynu gweith- io. Yr ydwyf yn IIwyr gredu wrth ei ymddi- ddanion wrthyf yn ami yn y boreuau cyn dechreu gweithio. Fel y dywedais yr oedd bob amser yn brydlon. Dywedodd wrthyf lawer boreu, Aros yn y ty y dylwn heddyw, meddai, ond Credaf ps buasai yn cael dech- reu byw o'r newydd, byddai cyfnewidiad er gwell mewn defnyddiad amser ac enillion. Onid oes yma wers i ddynion ieuanc i wneyd defnydd goreu o'u hamser a'u henillion pan bydd y corph yn gryf a'r iechyd yn dda. Os cawn fyw,rnae adeg gwahanol yn aros pob un o honom. Gorfod arno adael ei waith yn gynar yn y prydnawn dydd olaf o Awst, 1908. Di- j oddefodd gystudd trwm am ychydig ddyddiau. Bu farw Medi 15, yn 66 mlwydd oed, achladd- wyd y rhan farwol ohono y 18feJ dilynol yh mynwent y Bedyddwyr Ramoth HanfrotheA Gadawyd fy hen gyfaill i dreulio ei hir gwsg yn un o'r lleoedd mwyaf unig a rhamantus yn Nghymru, a mynyddoedd Meirion ac Arfon megis angeliol1 gwarcheidiol i wylied ei argel hyd ganiad yr udgorri, Mae yn dda genyf ddwyn tystiolaeth goffa am y diweddar Evan Jones. Ar ol pymtheg mlynedd o brawf, prawf beunyddiol, sydd yn dangos cymeriad. Nid gwyneb ac ymddang- osiad ar y Sul, a pharablu Shibboleth neilldu- ol. Terfynaf hyn o ysgrif gyda ail adrodd geiriau y Bardd Pope. Am ffurfiau cred ymladded Cul ragfarnllyd ddynion ffol; Os wyt am nef gwna'r hyn sydd iawn. Ni fyddi'n mheli ar ol. DAVID JONES, I Blaenau Ffestiniog. Adeiladydd. I
Chwareu a Signals y ReilfFordd.…
Chwareu a Signals y ReilfFordd. Dydd Llun, o flaen Ynadon Llangollen, I cyhuddwyd Robert Madeley Hughes, Waen, o ymyraeth ag offerynan trydanol Signal box ar Linell y Great Western rhwng Llangollen a'r Waen. Eglurwyd iddo ddadgysylltu un o'r prif wifrau weithient y Signal, yr hyn allasai arwain i alanastra a cholli bywydau gan fod y lie ar y brif-linell rhwng Llundain a'r Gogledd. Addefodd y trosedd, a dywedodd mai eisiau gweled a oedd yn gweithio yr un fath og offeryn tebyg yn y Lofa oedd ganddo. —Traddodwyd ef i sefyll ei brawf.
---I----- PENMAOHNO. T T T…
PENMAOHNO. T T T T Y GOLWG.—Mae yn fantais i bawb sydd arnynt angen Gwydrau cywir Fr golwg, ddeall mae yr unig Optician yn Sir Feir- ionydd sydd wedi pasio Arholiadau mewn PROFI Y GOLWG ydyw Mr. Hugh Jones, F.S.M.C., Medical Hall, Blaenau Festinicg, Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Wesleyaid yn y Cwm ac yma y Sulgwyn a'r Llun. Caf- wyd oedfaon grytnus a chynulliadau lluosog. Gwasanaethwyd gan y Parchn. R. W. Jones, Llangefni; J. Rogers Jones, Lerpwl; Owen Evans, Birkenhead a Hugh Hughes, Colwyn. Dydd Gwener leI yr oedd y Traction perth- ynol i Chwarel y Cwm yn dod a llwyth o lechi am Lanrwst, daeth un o olwynion y cerbydau i ffwrdd wrth Rhaiadr Conwy, a thaflwyd cyn- wys y cerbydau eraill ar y ffordd yn mhob cyfeiriad. Yn ffodus ni anafwyd neb, a llwyddwyd i glirio y ffordd i drafnidiaeth heb ond ychydig o oediad,
.PENRHYNDEUDRAETH. I
PENRHYNDEUDRAETH. I DAU LYFR GWERTHFAWR.—Y mae gan I Mrs Pritchard, Tegwyn View, Penrhyndeu- draeth, ddau lyfr gwerthfawr ar werth, sef Esboniad Dr. Phillips, Tylorstown, ar loan, a Homiliau Emrys ap Iwan (ail gyfrol). FFAITH.—Nid oes unrhyw Optician yn y Deyrnas yn meddu ar Dystysgrifau uwch ar ol pasto Arholiadau mewn Profi y Golwg, Sc., na Mr. Hugh Jones, Med- ical Hall, Blaenau Festiniog. Y mae yn bleser calon genym cael cyfle i longyfarch y cyfaill Mr. Robert Williams, Bryn Awel, Minffordd, ar ei ddyrchafiad i'r swydd o brif oruchwyliwr ar y Foundry yn Boston Lodge, fel olynydd i Mr, William Williams. Dymunwn o galon iddo bob Ilwyddiant i lanw y swydd. Ein llongyfarchiad caionog i Miss Ceridwen Roberts, Ty'nybryn, ar ei gwaith yn enill am olew-ddarlun yn Eisteddfod Gadeiriol Mon. Anfonwyd John Ward, crwydryn, i garchar am 14 niwrnod am gardota. Mr. W. Jones eisteddai ar y Faingc. Drwg iawn genym ddeall am waeledd Mr. Evan Roberts, Bodlondeb, Rhyd. Dymunwn iddo* adferiad buan. Enillodd Miss A. E. Davies, Castle Street, 30/- am yr Unawd Contralto yn Eisteddfod Gadeiriol Mon; a Mr. E. J. Pughe, Caegwyn, y tlws arian yn Eisteddfod Llanrwst am ysgrif- enu Llawfer Gymreig. LIongyfarchwn y ddau yn wresog. Hwyliodd Mri. John Roberts ac Edward Jones, Gwilvm Terrace; R. Roberts, Bryn Saethon John Williams, Penlan Isaf; Ellis Jones, Pantyffynon John Evans, Fronheulog; a G. Evans, Ty'nberllan, am British Colum- bia, ddydd Gwener. Llwydd a'u dilyno oil. Y mae Mrs. Logan wedi enill edmygedd mawr trwy ei gwaith yn cymeryd, trugaredd ar y Gipsies ddigwyddasant golli eu ceffyl gyferbyn a'i phalasdy. Wyli y trueiniaid yn hid!, gan fod baban bron newydd ei eni gan- ddynt, Cymerodd hwy i'r ty a phorthodd hwynt, gan ddangos cydymdeimlad mawr a hwy. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu y Methodistiaid ddydd Sadwrn diweddaf, Cyfarfod y pryd- nawn yn y Fron, ym mha un y cafwyd dat- ganiadau hynod o hapus o'r Tonau oedd wedi eu tynu allan yn arbenig i'r plant; a'r hwyr yn Gorphwysfa, cafwyd yma hefyd gynorthwy Cerddorfa Linynol Porthmadog. Da genym allu llongyfarch y cyfeillion hyn ar y gwaith ardderchog a wnaethant. Yr oedd yr ymdodd- iad hapus rhyngddynt a'r lleisiau, nid yn uftig yn profi yr offerynaa rhagorol oedd ganddynt, ond hefyd ei bod hwythau yn feistriaid ar y gwaith. Canwyd rhai o'r Tonau yn effeithiol iawn, yn enwedig King's College, Dolwar, Calfari, St. Aelred, a St. Saviour. Canwyd hefyd yr Anthem Dyma y Dydd" (John Price). Y teimlad yn gyffredinol ydyw fod y Gymanfa eleni wedi tra rhagori ar y rhai sydd wedi ei rhagflaenu, eto i gyd y mae digon o le i wella, sef cael yr holi gylch i ymuno (yn He rhan), a tbori tir newydd trwy gymeryd gafael mewn rhai o'r Prii Gydganau ac Anthemau. Cvfeiliwyd yn ystod y dydd gan Mrs. Llewelyn Williams, Miss Myfanwy Davies, Mri. D. a C. Williams, A.C., ac arweiniwyd y Caau gan Mr. D. Lloyd Evans, yr hwnfel arfer a wri aeth ei waith i foddlonrwydd cyffredinol. -BRAVURA.
TREFN OEDFAON Y SlItl
TREFN OEDFAON Y SlItl Y METHODISTIAID. ENGEDI.-Proff. D. Phillips, M.A,, Bala. PENIF-L.-Parch. J. Bennett Williams, B.A., Tremadog. GWYLFA.—10, Parch. W. M. Griffith, M.A,, Dinorwic. BETHESDA„6, Parch. W M Griffith, M.A., Dinorwic. TABERNACL.-10, Parch J E Hughes, Ffes- tiniog. 6, Parch. J. Daniel Evans, Gars- ton. MAENOFFEREN.—10, Parch J Daniel Will- iams. 6. Parch J E Hughes. GARREGDDU.—Parch Evan Davies, Trefriw. BOWYDD—Parch R. Morris, M.A., B.D. RHIW.—Parch W T Ellis, B.D., Portmadoc. BETHEL.—Parch Robert Jones, Rhos. CAPEL SEISNIG (English Chapel).Rev J. Owen. YR ANNIBYNWYR. BETHEL.—Parch J Maelor Hughes, (W.) HYFRYDFA.—Parch. J. Williams-Davies. BETHANIA.-IO. Parch T. Griffith, Rhiw. 6, Parch. J. Rhydwen Parry. JERUSALEM .-Cyfarfodydd Gweddio. BRYNBOWYDD.—Cyfarfodydd Gweddio. SALEM.-Parch, Thomas Griffiths. CARMEL.—Parch. David Charles Williams, Llangefni. Y WESLEYAID. EBENEZER.—Pregethwr Dyeithr. DISGWYLFA.—Cyfarfodydd Gweddio. SOAR, RHIW.—6, Parch P Jones Roberts. TANYGRISFAU.—10, Cyfarfod Gweddi. 6, Rd. Roberts. FFESTINIOG.-Parch, R. T. Phillips. Y BEDYDDWYR. SEION.— CALFARIA.-Parch. E. C. Jones. MORIAH.-2, Parch E. C. Jones, CtERSALF-M-Mir. J. D. Davies. PISGAH.-Mr. Phillip Lloyd.
- I FFESTINIOG.I
I FFESTINIOG. Mae un dos o EASINE yn fwy effeithiol na dim arall at Gur yn y Pen, Niwralgia, a'r Ddanodd. I'w gael gan Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog. Drwg iawn genym ddeall fod Joseph, ail fab y Prif-fardd Elfyn yn wael er's dros dair wythnos, ac wedi ei gyfyngu i'w wely. Y mae ef yn uchel yn ffafr ei boll gydnabyddion, a thrist iawn ganddynt ei weled wedi ei gornelu gan gystudd. Hyderwn y caiff adferiad buan i droi yn ein mysg megis cynt, ac i loni yr ael- wyd gartref a'i bresenoldeb- siriol er cysur i'w dad a'i fam.
i ; BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. SPECTOLS.-Os bydd rhywbeth allan o le ar eich Spectols, gellir ei gwneyd yn foddhaol gan Mr. Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog, yr nnlg Optician yn Sir Feirionydd, sydd wedi pasio Arhol adau yn y cyfeiriad hyn. You've tried the rest Now try the BEST. If you want a piece of the best Smoked or Plain Bacon Gorgonzols, Cheddar, or Amer- ican Cheese, and all kinds of Provisions, try PARRY'S New Shop. DATGANU.—Nos Sul, a flaen pregeth yr hwyr, yn nghapel Bethania, canwyd unawd Y Mab Afradlon," yn rhagorol gan Mr. John Cadwaladr Jones, Cadvau, yn awr o St. Helens. TEML BARLWYD.—Nos Wensr diweddaf cynhaliwyd yr uchod yn Vestry Bethel, Tan-I ygrisiau. Dechreuwyd yn y dull arferol, Cafwyd cystadleuaeth arwain dyn dyeithr i'r Orsaf, 1, Annie Roberts. Can gan William Morris Williams. Rhoddwyd Llyfr gwerth- fawr yn wobr i Mary Davies, gan Hichqrd Jones, Penycefn, am fod yn oreu gyda Ysgfif- enu Traethawd ar Flaenoriaid." Cystadleu- aeth canu ton ar yr olwg gyctaf, 1, Thomas Hughes. Adroddiad gan Richard Jones. Deuawd gan Annie Roberts a Sarah Jones. Terfynwyd yn y dull arferol. Llongyfarchwn ein cyfaill awengar Bryfdir ar ei waith yn enill gyda'i Bryddest ar "Jacob" yn Eisteddfod Cwmaman Yr oedd hon yn gystadleuaeth wych, a'r wobr yn ddwy gini a thlws aur. Dyfnallt oedd yn beirniadu, a chanmolai y Bryddest fuddugol yn fawr. Bydd yn dda gan ein darlienwyr ddeall fod y Parch. John Hughes yn gwella yn rhagorol er na bydd yn abl i fyned allan am beth amser, Cymerwyd ei le yn garedig iawn nos Sul gan y Parch. George Davies, B.A., a theimiai y gynulleidfa yn ddiolchgar iawn iddo ef ac Eglwys Brynbowydd am yr arwydd hon o frawdgarwch a chydymdeimlad. Mae y bardd Morris Rowlands (Morrico Offeren), wedi cyfarfod a damwain i'w fawd, a bu raid i'w feddyg dorri darn ohoni i ffwrdd, a dyma fel yr anerchodd ef ar ol y gwaith :— Doctor ——— Beth yw'r gost Am dorri bawd Morrico dlawd, Na fyddwch yn drwm Mae 'mhoced i'n ilwm A chodi mae'r blawd. Cafodd cyfeillion y Rhiw, Bowydd, a Maeji- offeren, gyfarfod hynod o ddymunol o nos Wener i nos Sul. Traddodid y genadwri gydag arddeliad amlwg, a chafwyd gwrandaw- iad astud yn y tri addoldy. Ymddangosai pawb wrth eu bodd yn clywed yr hen, hen hanes, ac hawdd canfod ar y cynulliadau nad yw pregethiad syml a dlfrifol o "boll gyngor Duw" ddim wedi colli ei effaith arnom fel cenedl. Hyderwn y bydd y cyfarfod o fudd arhosol i'r eglwysi a'r brodyr acwyl ydynt yn gweinidogaethu ynddynt. Yr oedd gair wedi dod oddiwrth Mr. Thos. Artemus Jones, Bargyfreitbiwr, ei fod yn bwr- iadu dod yma i draddodi anerchiad gwleidydd- ol fel un o'r personau gwahoddedig i wneyd hyny yn y rhagolwg ar ddod yn ymgeisydd am sedd y Sir. Wedi trefnu pobpeth ar gyfer cael cyfarfod yn y Neuadd, daeth gair oddi- wrth Mr. Jones yn tynu ei gyhoeddiad yn ol, oherwydd ei fod yn methu cael egwyl i adael Brawdlys Caer i ddod yma. Diau y cawn gyfle cyn hir i'w glywed yn traethu ei syniadau ar byngciau'r dydd. Cynhelir Rehearsal olaf y Cor Merched yn y Neuadd Gynull, nos Fawrth nesaf, am saith, a bydd yn agored i'r cyhoedd. Disgwylir i bawb roddi rhyw gydnabyddiaeth wrth fyned i mewn. Yr oedd Dewi Mai a'r Telynor Dall yn gwasanaethu mewn Cyngherdd yn Capel Garmon nos Sadwrn diweddaf. Mawr gan- molid y ddau ar eu dull medrus o "ganu gyda'r tannau." Nos Fawrth yr oedd Treborfab a Deiniol Fychan yn gwasanaethu yn Llys Ednyfed, er boddhad i bawb oedd yn gwrando arnynt. Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a Mr. a Mrs. Wm. Jones, Dowlais (gynt o Hendy, Tanygrisiau), yn eu profedigaeth dwys o golli eu mherch fach Lily, blwydd a haner oed, yr hon a fu farw nos hu diweddaf, a hyny yn hynod sydyn tra ar ei hymweliad a'r ardal hon gyda'i mham. Deallwn fod y Parch, D. Hoskins, M A., Bethesda, yn un o'r cewri wasanaethai yn Sassiwn Dinbych, yr hon a gynhelid yr wyth- nos hon. Da genym ydoedd clywed fod Mis. R. R. Morris, Tabernacl, yn gwella yn rhagorol, a'i bod wedi codi allan am ychydig ddechreu yr wythnos hon. Gobeithio y caiff adferiad llwyr o'r afiechyd trwm a'i goddiweddodd. Nos Lun, bu i Ryddfrydwyr Rhanbarth Conglywal ymgasglu ynghyd i Ysgol y Manod i'r amcan o enwi Ymgeisydd Seneddol. Cy- merwyd y gadair gan Mr. G. J. Bevan. Dewisiwyd y tri canlynol:—Mr. Howell J. Williams, Llundain; Mr. H. Haydn Jones, Towyn a Mr. R. O. Davies, Cyfreithiwr. Yn mhellach pasiwyd fod cais yn cael ei wneyd at y tri wyr hyn i ddyfod yno i'w harserch. Llawen iawn oedd genym glywed y newydd am lwyddiant Mr. William Humphreys, Gronant, gyda'r Cor Plant sydd o dan ei addysg a'i arweiniaid. Enillodd y wobr gyntaf y tri thro y bu yn cystadlu, a'r olaf o honynt yn Eisteddfod Prestatyn. Mab ydyw, ef i Mr. Morris Humphsreys, Gof, Manod Road, a chofir am ei sel fel Ysgrifenydd Cyf- arfod Llenyddol Hyfrydia. Da genym bob amser ddeall am lwydd ein pobl ieuaingc. HEARTS OF OAK.—Mae Mr. Llew Davies, gohebydd y Cambrian News 11 wedi ei enwi fel cynrychiolydd i'r Gymdeithas uchod, a chan fod ivir. Davies mor gydnabyddus a'r ardaloedd hyn, coned yr aelodau am eu pleid- leisiau iddo.
BecJdl Liewelyrs ein Llyw…
BecJdl Liewelyrs ein Llyw Olaf. Y mae darganfyddiad pwysig a dyddorol wedi ei wneyd yn Mhentrefoelas, Y mae yno gareg hir gydag argrsph arni sydd wedi dyrysu gwyr dysgedig er's dwy ganrif.ac ynddiweddar aeth Mr E. Williams B. Nicholson, o Lyfrgeil Bodleian, i'r dosparth am ciro, ac archwiliodd y maen, ac yn rhyfedd iawn, gallodd ddeall yr ysgrifen oedd arni ar unwaith. Y mae wedi ei dori mewn iaith ryfedd, ac o'i ys-grifenu yn ein dull presenol ni, dyma fei y buasai:— In Xristo x. Est pro hoc iapide in Bal Emr[ys] fortitudine brachii ce br Lewelmus pnnceps Northw [aiiiej. Dyma gyfieithiad o'r ysgrifen Yn Nghrist x. 0 flaen y gareg hon yn Moe< Emrys Am nerth ei fraich yn enwog, Llewilin, Tywysog Gogledd Cymtu. Mewn llythyr yn y Times" dywedodd Mr. Nichoison fod y gareg wedi et symud o'i safle gwreiddiol, ac nad ydoedd yr ysgrif yn gwyaebu Moe! Emrys. Mas Me Idwal Ll. Parry, mab Mr. R. Parry, Fferyllydd, Bettws- ycoed, wedi tynu dariuniau o'r gareg a'r ysgrif ami, a geiiir eu cael ganddo. Ychwanegodd Mr. Nicholson nad oedd ganddo amser i ohebu a neb, ond byddai yn dda ganddo gael dangos y darluniau oedd ef wedi eu tvrm i rhywun a wnai alw i'w weled Yl1 Llyfrgeil Bodleian, • Fel y gwyddis fe laddwyd Llyweiyn ein Llyw Olaf yn ymyl Builth. Credit* iddo gael ei gladdu yno ar y pryd, ac yna gael ei gluda i fynachlog Aberconwy. Ond yn fuan iawn daeth y mynachlog hwn i foddinnt Iorwerth I., ac y mae yn debyg;)l i'r corph gael ei gludo gan y mynachod i Pentiefoias rhag bod ei elyn yn cael gafael arno. Cred Mr. Nicholson mai i nodi allan y fan y ciaddwyd ef y mae y gareg hon wedi ei gosod i fyny.
Gweinidogion Cynrru a'r Fyddtn.
Gweinidogion Cynrru a'r Fyddtn. Yn nghwrs ei bregeth nos Sul yn Nghapel Mount Pleasant (B.), Rhos, cyfeiriodd y Parch J. W. Humphreys, Cadeirydd Undeb Seisneg y Bedyddwyr, at barodrwydd Gweinidogion Ymneillduol Cymru i gynyg eu gwasanaeth fel Caplainiaid i'r Fyddin Diriogaethol, a chon- demniodd hyny mewn modd Dymiawn. Mewn cyfeiriad at parade aaran y Rhos o'r Fyddin, yr hwn a gymerodd le y Sul cynt i Gapel Ym- neillduol -yn yr -ardal, dywedodd ei fod yn edrych gyda gofid ar yr ymgais i gysylitu ysbryd milwrol ag Eglwysi Kbyddion Cymru. II Un ^glwysi Rhyddion Prydain Fawr bob amser yn rhagfuriau yn erbyn ysbryd Jingo- aidd a milwrol Caria Crist ei achos yn mlaen trwy foddion holi ysbrydol, ac nid ag arfau cnawdol. Rhaid pregethu y gwirioned.d hwn yn ei holl rym a'i egiurder heddyw, am foa camddealltwriaeth yn ei gvich yn ymddangos yn ffynu ar bob Haw On; bydd Eglwysi Cristionogol ein gwlad yn eSro glpnir ein gwlad yn fuan mewn gorfodiiath milwrol,"
Archeb i Drochi Cwartheg.
Archeb i Drochi Cwartheg. Y mas y gwibedyn adnabyddir fel warble fly 11 yn costio i berchenogion gwartheg yn y Deyrnas Gyfunol y swm blynyddol o chwe miliwn o bunau, meddai Mr, Snowden, A.S., mewn cwestiwn o'r hwn y rhoddodd rybudd. Gofynodd oni wnlli Bwrdd Amaethyddiaeth Archeb yn galk am i bawb oedd a gwartheg ganddo, neu dan ei ofal, i'w "dipio"ddwy- waith yn y flwyddyn, oherwydd y niwed a wneid gan y gwibaid uchod. Beth ddywed amaethwyr am gynygiad fel hyn ? Y maent yn cwyno yn enbyd yn erbyn dipio eu defaid ddwywaith yn y flwyddyn.
TREFRIW.
TREFRIW. Pan oedd awel hafaidd ysgafndroed yn chwareu dan wenau cyntaf haulwen hyfryd hefio, brawychwyd trigolioa Trefriw, gan swn cerddediad awel auaioi, arw, ac oer glyn cysgod angau. Taflodd y bead ei len dda dros- wythnos i y Sulgwyn yn hanes aelwyd Vine Cottage, trwy gymeryd ymaith y priod holf, y brawd siriol, a'r cy/aili cywir, Daniel Lloyd, yn 71 mlwydd oed. Daeth i Drefciw o Coecpoeth tua 30 mlynedd yn ol/ Mwnwr oedd wrth ei alwedigaeth, a gweithiodd am flynyddoedd yn Mines yr ardal. Dyn tawel, caredig, oedd efe, hoff gan bswb. Yr oedd yn aelod fyddlon yn Peuiel (M.C.) Hebryng- wyd ei weddiliion gan beithynasau a chyfeiil- ion ddydd Sadwrn i fynwent Llanddoged, ger Addoldy y Bedyddwyr. Y tpae Llanddoget yn ardal enedigol Mrs Lloyd. Yn y fynwent hon huna rhai anwyl iddi. Gwasanaethwyd wrth y. ty gan y Parch Henry Jones, ac ar lan y bedd gan y Parch Evan Davies. Noswylio wnaeth y gweithiwr Ar hwyr ddiwrnod gwaith, Gorphwyso wnaeth y teithiwr Blinedig ar y daith Blynyddoedd yr addewid A rhagor iddo tved,- lach heddyw yn y gwynfyd Yw'r anwyl Daniel Lloyd. Nawdd y nef fyddo dros ei briod yn ei henaint a'i hunigrwydd.—DEULYN.
[No title]
Yn hwyr nos Lun, wrth fyned i lawr allt yn Buxton ar ei olwynfarch cyfarfu y Parch. John Walker, 45 mlwydd oed, a damwain derfynodd yn angeuol iddo. Yr cedd wedi ei anafu yn ddifrifol trwy gael ei daflu yn erbyn wal y ffordd. Yr oedd y gwr parchedig yn boblog- aidd iawn yn Newton, Staffordsh're, fel Rheithor y Plwyf.