Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

MACHLUDIAD YR HAUL. I

News
Cite
Share

MACHLUDIAD YR HAUL. I Mae'r nos yn dynesu dros ael y bryn, Darfyddodd y glesni, tywylla y gwyn; Y blodau'n ddigalon grymant eu pen, A rhua y feis-don yn brudd dros ben. Draw, draw yn y gorwel arwyddion sydd I'w gweled yn tawel ymlid y dydd; Symuda'n arafaidd—gorchfygo! yw, Try'r wybren yn bruddaidd a choch ei lliw. Distawodd olwynion masnach y byd, A llais y cerddorion-aethant yn fud, A'r gwynt a gwynfana yn nghlustiau'r dail, Oherwydd dyfodfa machludiad haul, Olygfa arddunol !-brenin y dydd, O'i safle swyddogol yn cilio sydd, Gwasgarodd oleuni bywyd i'r byd, Ac eto mor heini-mor bur ei wrid, Mae'r nos yn mantellu ein daear ni, I'r nef gael gwasgaru ei ser diri, A'r lleuad mewn nwyfiant ddangos ei hun, A natur gael seibiant a thawel bun. Mae gwlad hwnt i'r wybren—gwlad sanctaidd A haul ei ffurfafen yn fythol glir; [bur, Gwlad Ilawn o lawenydd-byth wyrddion ddail Heb nos yn dragwyddol, na machlud haul.  Street, T. E. WILLIAMS, I Jones Street, Blaenau Ffestiniog.

-ER COF-I

.DEIGRYN

,, . - LLINELLAU I

PWN Y FFARMWR. I

Advertising