Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYMANFA Y PASQ. I

News
Cite
Share

CYMANFA Y PASQ. I Erbyn heddyw y mae yr hen Wyl gysseg- redig ac anwyl uchod wedi camu trothwy'r dyfodol a'r presenol am y gorphenol, Wyth- nos yn ol edrychem yn mlaen am dani, gan fod Eglwysi Peniel, Bethesda, Tabernacl, a'r Garregddu a Bethel, Tanygrisiau, wedi parotoi gwleddoedd yr hen Efengyl ar ein cyfer, a galw am oreugwyr y pwlpud Methodistiaid yno i waitio. Bu yr oil ohonynt, 10 mewn nifer, wrtbi a'u holl egni, yn arlwyo o flaen eu gwrandawyr y bwyd mwyaf blasus, iachue, a chadarnaf, yr hwn fwyd a fwynhawyd gan bawb heb yr arwydd leiaf o ddiflyg treuliad. Erbyn heddyw y mae y wledd wedi myned heibio, ond nid heb ein cryfhau i wrthsefyll corwyntoedd a all gael ei chwythu arnom o gyfsiriad mynyddoedd creedig anflyddiaeth. Parhaodd yr Wyl Q nos Sadwrn hyd nos Lun, a'r gweinidogion oeddynt y Parchn. Pr. J, G. Moelwyn Hughes, Aberteifi W. Adams, B.A., Llanelli; J. H. Howard. Cwmafon; Thomas Charles Williams, M.A Menai Bridge; R. E. Morris, M.A., Wrexham; John Williams, Brynsiencyn W. M. Jones, Lsrpwl; Griffith Ellis, M A. Bootle; M. P. Morgan, Biaen- anerch; a David Williams. Pregethodd yr Q11 yn rymus ac effeitbiol fel y dywedasom o'r blaen. Ceisiwn yn fyr roddi yr hyn a draeth- wyd gan y gweinidogicn ya Nghapal y Taber- nacl, ynghyda'u Testinau. Nos Sadwrn, am 7 o'r gloch, pregethwyd gan Dr, Moelwyn Hughes. Cymerodd ei destyn yn Deuteron- omium, xxxiii. 27, Dy noddfa yw Duw trag- wyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiaa tragywyddol." Ymdriniodd i ddechreu gydag Amser a Thragwyddoldeb. Yr oedd amser yn mynwesau y Tragwyddol di-ddechreu a'r di- ddiwedd. Yr oedd y Tragwyddol yn Berson, a'r Person yno yn holl-bresenol. Nid ydyw tragwyddoldeb yn meddu bddolaeth heb Dduw. Oed yr Anfeidrol yw tragwyddoldeb. Y greadigaeth roddodd fod i Amser, Mewn Tragwyddoldeb yr ydym yn byw yn awr, ac nid ydyw Amser ond rhyw spot bychan ar ei ganol. Felly yr oedd Duw yn bod cyn amser, ac yn anibynol ar amser. Yr oedd yn anmhosibl i unrhyw un fod mewn ingpadd unigrwydd-gan lie bynag y byddo un y byddai dau. Dweyd cymeriad y Tragwyddol Berson ydoedd ei destyn. Dar- pariaeth ar gyfer ein gorphenol ydyw Duw sydd Noddfa a darpariaeth ar gyfer y dyfodol a'r presenol ydyw y Breichiau Tragwyddol. Rhywbeth ar gyfer ddoe ydyw y Noddfa, a rhywbeth ar gyfer heddyw ac yfory ydyw y Breichiau. Cariad ydyw yr haen ddyfnaf yn Nuw. Cafwyd oedfa neillduol o rymus, yr hon ddiweddwyd trwy ganu Duw mawr pa beth a welaf draw," &c. Am 10 o'r gloch, boreu Stil, pregethodd y Parch. W. Adams, B A.. Llanelli, oddiar loan i, 18, Ni welodd neb Dduw erioed; yr unig- anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnw a'i hysbysedd Ef." Angen mawr pob j dyn ydyw ei eni o Dduw. Colled enaid oedd colli Duw. (1), Datguddiad o Dduw yn Nghrist ydyw ein Duw. Datguddiodd Iesu Grist Dduw yn ei greadigaeth, (2), Datgudd- iad mewn Tystiolaethau. (3), Y Datguddiad wedi dod. Wedi dod o'r coppaoedd i'r dyff- rynoedd atom ni. Nid disgyn yn sydyn a wnaeth o'i Uchelder i Breseb Bethlehem. Na arosodd ddigon ar Moriah i Abraham ei weled. Arosodd ya y Berth gyda Moses. Arosodd yn Ffau y Llewod gyda Daniel, ac yn y Ffwrn Dan gyda'r tri Ilanc, &c, cyn cyrhaedd ohono Breseb Bethlehem. Am 2 o'r gloch, pregethodd y Parch. J. H, Howard, Cwmafon, oddiar Esaiah xl. 31, Eithr y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth," Yr oedd yr Eglwys ar hyn o bryd yn Babilon. Un dosbarth ohoni eisiau aros yno fel caetbion dosbarth arall eisiau bod yn rhydd,—yr oedd y rhai hyn wedi tori eu calon, ond eu bod yn rhy wan i feddianu rhyddid. Mater :—"Natur y nerth sydd yn rhyddhau." Daliai mai perygl mawr yr Eglwys ym mhob oes ydyw dibynu gormod ar Wleidyddiaeth. Protest yn etbyn yr Eglwys Sefydledig oberwydd ei chysylltiad a'r Wlad- wriaeth roddodd fod i Ymneillduaeth. Ferygl Ymneillduaeth yw ei llwyddiant. Y mae yna berygl o roddi gwaith yr Eglwys y dyddiau hyn ar y Wladwriaeth, Nerth allanol i'r Eglwys fyddai hyny. Os am lwyddo rhaid i'r Eglwys gael y nerth mewnol, sef y Nerth Dwyfol. Rhaid iddi ddibynu ar yr ysbrydol ac nid ar y gwleidyddol. Gyda llaw, clywsom gais newydd hollol gan y pregethwr hwn pan ar ei weddi yn gofyn. "O! Arglwydd mawr," meddai, "cofia am y trernpyn tlawd di-gartref sydd yn gorfod cetdded o dre i dre," yr hwn sylw dynodd ddagrau o lygaid llawer i un o'r gwrandawyr. Yn dilyn, gweinyddwyd yr Or- dinhad o "Swper yr Arglwydd," gan y Parch. W. Adams, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. H. Howard. I Am 6 o'r gloch, pregethwyd gan y Parch. R. E. Morris, M.A Wrexham, yn Matthew vii, 28, A bu wedi i'r Iesu orpben y geiriau hyn, y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeid- iaeth Ef." Mater:—"Ei ddysgeidiaeth Ef- Bywyd," fel y'i clywyd ganddo yn ei Bregeth ar y Mynydd. (1), Mai Bywydd Crefydd Iesu Grist, ydyw'r bywyd sy'n cael ei lywoc- raethu a'i roddi gan gariad at eraill. Os ces yma rai, meddai, heb fod yn ddisgyblion i Iesu Grist, bryoiwch i ddod er mwyn i chwi • gael gwybod beth yw byw." (2), Y cariad hwnw sydd nid yn unig yn barod i roi, ond rboi y goreu i bawb. Y peth agosaf at Dduw ydyw Tad Da, yr hwn sydd yn caru ac yn rhoddi y goreu i'w blsnt. (3), Y cariad hwnw sydd yn barod i.wneyd ei creu tuagat bawb. Yn dilyn, pregethodd y Parch. John Wil- liams, 13rynsien, oddiar Philippiaid i., 21 "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw." Mai adnabod Iesu Grist yn iawn yn newid ystyr byw Canys byw i mi yw Crist." Beth ydyw byw. Cwestiwn mawr yr oes ydyw Sut i fyw." Dywedodd fod perygl i ni drwy son am hawliau, anghofio ein dyledswyddau. Gyda Cwestiynau a Phyngciau Llafur, anog- odd am i'r materion hyn gael eu rhoddi yn ngofal dynion sydd yn caru Daw a pharch i'w Ordinhadau. Dywedodd ei fod yn preg- ethu i Jawr yn y Deheudir ar ddydd Sabbath dro yn ol, ac ar derfyn un o'r gwasanaeth, pan yn myned o'r capel i'r ty, gwelodd Sais yn anerch tyrfa fawr o Weithwyr arhosodd am funyd i wrando beth yr oedd yn ei ddweyd, a chlywodd ef yn gwaeddi am i'r gweithwyr fynu eu Hawliau, heb feddwl moment fod ef ei hun yn sathru dan ei draed y dydd hwnw hawliau ei Greawdwr. Beth ydyw Byw ? Pan y gosodwn nod i'n bywyd, a cheisio gwneyd yni deilwng er ei sicrhau, byddwn yn byw yr adeg hono. Yn Iesu Grist y cawn nod a nerth i fyw. Am 10 o'r gloch boreu Llun, pregethodd y Parch. Thomas Charles Williams, MA., Menai Bridge, oddiar Matthew xvi, 15, 16, Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyf fi ? A Simon Pedr a attebodd ac a ddywedodd, Ti yw y Crist, Mab y Du-.v byw," Iesu Grist. ydyw yr unig un sydd wedi cyffwrdd y bywyd eangaf méwn can lleied o amser. Y mae yn well i Gri'tion- ogaeth gael an dyn wedi ei hvyr argyhoeddi na Ilon'J gwlad 5 Gristionogion anwybodus. "Ti yw Crist, Mab y Duw byw," ydyw cyffes yr Eglwys i'w Harglwydd. Yr oedd yn wirionedd hanfodol. Flydd yn Nuwdod ein Harglwydd lesu Grist ydyw gwirionedd han- fodol yr Eglwys, Gwaith yr Eglwys ydyw dal yr Iesa o flaen y byd fel y gwnaeth Efe ei Hunan. Crefydd .yn ei chyfanrwydd, a chrefydd heb sail, ac heb ddim ynddi o gwbl, fydd y frwydr yn y dyfodol. Pobl sydd wedi credu yn Iesu Grist fel Mab Duw ydyw y bobl sydd wedi gwneyd eu hoi yn y byd. Am 2 o'r gloch, prydnawn Llun, pregethwyd ato gan y Parch. R. E. Morris, M A Wrex- ham, yn Matthew vi. 39, 40: "A hyn yw ewyllys yr Hwn y Tad a'm hanfonodd I." Llefarodd Crist y geiriau hyn yn ngwyneb anghrediniaeth yr Iuddewon. Mater: "Ewyll- ys y Tad." (l). Yn fwriad grasol yn ol yr hwn y mae y Tad yn rhoddi dynion i'r Mab i'w cadw ganddo. Nid rhoddi yn yr arfacth y mae yn ei olygu yn y fan hon, ond yn rhoddi yn awr. Pa ffordd y mae Duw yn rhoddi dynion i'r Mab yn awr i'w achub? Trwy ddylanwadu yn rasol, yn rymus, ac effeithiol ar ddynion trwy eu goleuo i'w galluogi i gael golwg ar y Mab yn y Bywyd Tragwyddol. Y mae Crist yn cyflwyno ei Hunan er cael ei weled gan ei gyd-ddynion. "Gweledigaetb Nefol sydd yn (rhoddi golwg er cadw. (2), Fod ewyllys grasol y Tad yn rhoddi dynion fel y maent." Mae ewyllys y Tad wedi troi yn Ddeddf yn yr Efengyl. Pob un sydd yn gweled y Mab mae bywyd yn dilyn hwnyna. Ynddo Ef y mae y Bywyd. Trwy gael golwg barhaus ar Grist, a chredu parhaus yng Nghrist, mae cynyddu yn y bywyd ysbrydol. Bywyd mewn cymod a Duw. Y mae holl fendithion ac ewyllys y Tad i'w cael wrth weled y Mab, er etifeddu y Bywyd. Nos Lun, pregethodd y Parch. W. Adams, Llanelli, yn Jeremiah xxxi, 1, 2, 3 "Gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremiah yr ail waith Galw arnaf, a mi a' th atebaf, ac a ddangoswyf i ti bethau mawrion, a chedyra, yrhainis gwyddcst." Adnod i broffwyd mewn carchar ydyw y geiriau. Z%Inter: Dyn yn meddu Ilygad i weled Duw." (l), Fod galw ar Dduw yn sicrhau atebiad.—Fod rhaid galw ar Dduw er cael atebiad. (2), Fod atebion Duw yn cynwys dangos pethau mawrion a chedyrn y rhai nis gwyddost. Pinacl uwchaf Duw ydyw "Maddeuant." Mae y Duwdod yn gynghanedd i gyd. Yn dilyn, pregethodd Dr. Moelwyn Hughes oddiar Ezra vii. 27: Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw ein Tadau," &c. Y mae Duw yn caru amrywiaeth. Mae Duw wedi ein gwneyd yn genedl Gymreig, a pha Gymro bynag wado ei iaitb a throi i siarad Saesneg sydd yn dadwneyd gwaith Duw. Yr oedd yr adnodau oedd yn gadernid i Iesu Grist pan yn cael ei demtio yn yr anialwch gan y diafol wedi eu dysgu iddo gan ei fam pan yn blentyn ar yr aelwyd gartref allan o Lyfr y Deuteronomium, pa un oedd yn Llyfr Teulu- aidd yr adeg hono, fel y mae y Beibl yn awr genym ni. Sylwodd ar (1). Ffydd Draddod- iadol (2). Ffydd o ran ei dyfnder; (3). Ffydd yn ei Lied. Cafwyd oedfeuon grymus drcs ben ar hyd y Gymanfa, cynulleidfaoedd mawrion, gwian- dawiad astud ar yr hen Wirioneddau disyflyd Marw'r Groes a'r Adgyfodi," pa rai oedd yn cael eu derbyn gyda bias. Er fod y Gymanfa hon wedi gweled ei 45 mlwydd oed, nid yw wedi colli gronyn o'i dylanwad, ei hawdurdod, na'i bias, er treigliad ymaith yr holl flyn- yddoedd. Er gwaethaf pobpeth sydd yn ceisio codi eu pen yn yr ardal, y mae gallu yr Efengyl yn dal yn rhy gryf yn en herbyn iddynt gael "dinas barhaus" yn ein plith. Wrth derfynu, nid oes genyf ond gobeithio na wnes gam a'r pregethwyr rhagorol trwy ddifynu yn frysiog hyn o'u pregetbau, a hyny ar yr awr olaf megis, cyn imi gsel amser i ail-ddarllen yr hyn yr oeddwn wedi ei ysgrifenu.— AP LLECHWEDD.

LLANDECWYN, TALSARNAU.

I TREFRSW.

I HARLECH.

II BLAENAU FFESTINIOG.-I

BETTWSYOOED.,

Family Notices

TREFN OEDFAON Y SUL

I-AT -EIN GOME BWYR,