Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

BWRDD GWARCHEIDWAiD1 LLANRWST.

News
Cite
Share

BWRDD GWARCHEIDWAiD 1 LLANRWST. Cyfarfu y Gwarcheidwaid canlynol ddydd Mawrth,-Mri. D. G. Jones (Is-gadeirydd) yn y gadair; Parch. John Gower, Patch. H. Rawson Williams, Parch. J. Llewelyn Richards, J. Lloyd Morris. Hugh Roberts, Evan Williams, E. W. Roberts, W. G. Jones, John Hughes, T. T. Roberts, Edward Roberts, John Berry, John Williams, John Hughes, O. Lloyd Jones, R. T. Ellis, David Owen, David Lewis, Isaac Hughes, John Davies (Gwytherin), Edward Edwards, Owen Evans, David Jones, Robert Williams, David Jones (Llangernyw), R. R. Owen (clerc), Thomas Hughes (clerc cynorthwyol), Edward Hughes (Meistr y Ty). ) Yr I!iissn a'r Tlcd'on, Adroddodd y Clerc fod 26 0 dlsuiofi yn- r; Ty, ar gyfer 29 yr un adeg y llyftfedd; 3o; leihad. Yr oedd 295 o dlodion oddiallan i'r Ty i'r rhai y talwyd £ 184 9s 7c yn ystod mis; ar gyfer 313 yr un amser y Ilynedd i'r rhai y talwyd f 191 14s 3c Ileihad o 18 yn y tlodion, a £ 7 4s 8c yn yr elusenau. Adroddiad y Meistr. Y Meistr a adroddodd i 89 o grwydriaid yn vstod y mis, ar gyfer 105 yr un mis y llynedd Ileihad o 17. Adroddodd Mr. Hughes i 1005 o grwydriaid alw yn y Ty yn ystod 1908; a 1097 yn ystod 1909; cynyddo94. Yn 1908 yr oedd yr elw oddiwrth bobpeih wnaed yn nglyn a'r Ty yn £ ll 16s 7}., ac yn 1909 yn (54 16s 3c. Eleni yr oedd yr holl elw o bob ffynonell yn f 70 8s 9j. Yr oedd holl gostau v Ty yn 1908. yn £ 692 7s 7f ac yn 1909 yn £ 547 4s 7t; lleihad o J45 33 ai. Deddf y Plant. Y Clerc a eglurodd y ddeddf newydd oedd yn dod i mewn ar Ebrill laf. Penodwyd y Swyddogion Elusenol yn Arolygwyr o dan y Ddeddf newydd. I Arianol. Y Clerc a hysbyscdd fod pob plwyf wedi talu eu galwadau. Yr amcan-gyfrif am yr haner blwyddyn ydoedd [3.200, o'r rhai yr oedd £ 1984 i'w tynu allan fel symiau ddeuent i mewn o wahanol ffynonellau, gan adael £ 1216 i'w codi trwy dreth, yr hyn oedd yn gyfartal i bum' ceiniog a ffyrling yn y bunt ni bu treth yr Undeb mor isel er s llawer ivwn oflynyddoedd. Er nad oedd eisiau ond £ 1393, yr oadd costau y Cyngorau Sirol yn yr Undeb yn £ 3,215. Yr oedd treth Cyngor Sir Caernarfon yn dod i l/9jc y bunt, a Sir Ddinbych i 1/lfc y bunt. Adroddodd y Clerc am y ddau achos y bn Mr. A. Griffith yn ymddangos ynddynt ar ran y Bwrdd, a sylwod amryw o'r aelodau fod ai fee yn nodedig o resymol. Cyflenwi y Ty. I Y Parch J. Llewellyn Richards a gyflwynodd adroddiad y Pwyllgor fu yn ystyried y cynyg ion am gyflenwi y Ty a nwyddau am yr haner am yr haner blwyddyn nesaf. Argymellent dderbyn y rhai canlynol-Glo. E Salisbury & Sons," Colwyn Bay. Cig, Wiliam Jones, Hand, Llanrwst. Ymenyn a llefrith, William Jones, Berthddu. Groceries a Bara. E. B. Jones & Co., Llanrwst. Esgidiau, William Griffith, Llanrwst. Eircb, Jeremiah Jones, Llanrwst. Eiilio, William Morris. Wedi cryn gwestiyno, "a'r oil yn diweddu mewn dim ond treulio amser," pasiwyd argymeilion y pwyllgor ar gynygiad Mr Gower a chefnogiad mdr,i. Berry. Mcistres Gynorthwyol. I Yr oedd tair yn ymgeisio am le fel Meistres Gynorthwvol yn y Ty, sef. Dinah E. Wiliiams, Stentir, Penrhyndeudraetl) Martha Ellen Jones, 42, Denbigh Street, Llanrwst; a Lizzie Thomas, Manaros, Trawsfynydd. Yr oedd gan y tair lythyrau cymeradwyaeth hynod o ganmoliaethus. Dewisiwyd Miss Jones gyda mwyafrif.—Cani&tawyd cais yr Is-feistres bres- enol i gael ymadael mor fuan ag y byddo yn gyfleus i Miss Jones ddod i'w lie. Cyflog y Trethgasglydd. I Yr oedd Mr. R. E. Thomas wedi anfon cais am godiad yn ei gyflog fel Trethgasglydd yr Undeb, a bu y Bwrdd yn eistedd mewn Pwyllgor yr wythnos o'r blaen i ystyried y mater. Y Clerc. a adroddodd fod 25 yn bresenol yn y Pwyllgor allan o'r 31 Gwarch- eidwaid allasent fod yno. Ystyriwyd i ddech- reu y pricdoldeb o drafod y mater, a chododd 13 eu dwylaw o blaid, a 12 yn erbyn Yna cynygiwyd codi £30 yn y cyflog, a chododd 12 eu dwylaw dros hyny. Gwaith y Bwrdd yn awr oedd mabwysiadu neu wrthod yr argymelliad.—Mr. J. Lloyd Morris a gynygiodd fabwysiadu neu urthod argymelliaC1 y Pwyllgor, a chefnogodd Mr. Evan Williams—Mr. W. G. Jones a gynyg- iodd welliant na byddont yn codi y cyflog o herwydd fod y beichiau presenol yn llethol fel yr oeddynt; a chefnogodd Mr. William Evans. Yr oedd yn anhawdd talu petbau fel yr oeddynt heb. son am gcdi rhagor. Grwgnechid codi ychydig elusen y tlawd ond nid oeddid yn pstruso cadi qflogau. Darllenwyd llythyr oddiwrth Gymdeithas Masnachwyr Uaarwst yn protestio.yn erbyn codi y cyflog oherwydd y beichiau trvmion oedd arnynt eisoes, Mr. E, W. Roberts a ddywsdodd fod Cwrdd Plwyf Penmachno yn argymell codi £15 yn y cyBog; a Mr. Richards a ddywedodd fod Cwrdd Dolwyddelen wedi pasio yn erbyn codi am amryw resymau.—Ccdodd 8 eu dwylaw dros godi £ 30 yn y cyflog, a 17 yn erbyn codi dim ar y cyflog. Mr. J. Lloyd Morris a alwodd sy!w at yr anghyfartalwch yn y swm a dalai y gwahanol blwyii am gasglu y trethi, a rhoddodd rybudd o gynygiad ar y mater at y cyfarfod nesaf.

[No title]

ADOLYGIAD Y WASG.

SEDOGELERT. I

ITRAWSFYNYDD. ----J

-CYNGOR -DINESIG -BETTWSYCOED.

LLANFAiR, HARLECH.I

I-- - - - - - - - - - - -…

Y Diweddar Griffith WilliamsI…

Cyfarfod Blynyddol RechabiaidI…

I -- _-_- -_- - - MAENTWROG.v…

LLANRWST.