Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
BWRDD Y GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Bwrdd uchod ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. Wiliiara Jones (Isgadeirydd) ya y Gadair, D. Tegid Jones, Robert Richards, Cadben Morgan Jones, Richard Roberts, William Williams (Blaenau), William Wil- linms (Trawsfynydd), Mrs. Casson, D. Fow- den Jones, Owen Evans, Morgan Roberts, Richard Williams, John Pierce, Robert Evans, W. W. Morris. R. W. Vaughan, John Roberts, John Williams, M. E. Mor is, Thomas Roberts (Clerc), David Jones (Clerc Cynorthwycl), Dr J. R. Jones (Swyddog Meddygol), D. J. Jones fMeistr y Ty), a'r tri Swyddog Elusenol. Yr Elusenau a'r Tlodion. Talodd Mr Richard Parry yn nosbirth Tre- madog mewn elusenau yn ystod y bytheinos diweddaf £ 85 18s l]c rhwng 303 o dlodion, ar gyfer "75 18s Cc rhwng 2490 cHadion Fun cyfnoo. y Ilyned 1, a gofynid am £ 88 at alwadau y bythefnos nesat. Yn nosbarth Ffestiniog talodd Mr William Thomas 11"124 14s 2c rhwiiv 385 o dlodion, ar gyfer £120 19s 0c rhwng 377 o dlodion, a gof- ynid am £ 128. Yn nosba.rth Deudraeth talodd Mr. J. Ben- nett Jores. fSl,) 18s lie rhwng 259 o dlodion, ar gyfer 1.73 183 Oc rhwng 246 a dlodion, a f *3 f n gUlyi-AU iii-U ;t I t, Cyfanswra y taliadau £ 298 12s Oc ar gyfer £ 272 15s Oc, a't gofyniadau yn £290. Adroddiad y Meistr. Y Meistr a hysbysodd i Msggie Ann Thomas 17 oed, o'r Penrhyn, ddod i'r Ty Mawrth 11, a rhoddodd .enodigaejh i bientyn yn mhen deu- ddydd ar 01 dofl i mewn. Bu y plertyn fatw. Yr oedd trefniadau wedi eu gwneyd i anfon yr eneth hon i fod dan nawdd boneddigesau caredig, end gwrthododd bob cyoyg pan oedd- id wedi gorphen pobpeth er ei chysur a'i dyfodol. Anghyms»adwyai y Bwrdd ei hyra- ddygiad anoeth. Mawrth 12, daeth Emma Jones, gwraig James Jones, y gwlawleni, Penrhyn, i'r Ty, a bu farw draaoeth. Mawrth 10, gwrtbododd Albert Lee, crwyd- ryn, a gwneyd ei dasg, ac aafonodd yr ynadon ef i garchar am 14 niwrnod. Mawrth 18, daeth Samuel Rowlands 55 oed, Gwehydd o'r Garn, i'r Ty. Mawrth 14, diangodd Margaret E. Hughes o'r Ty trwy ddringo dros y llidiart, a gwnaed pob yrnchwiliad am ciani. Yr oedd yr Heddlu wedi derbyn hysbysrwydd ya ei chylch. CynhaliodJ Gobsithlu Capel y Methodist- iaid IGarth, Porthmadoc, gyfaifod adioniadol yn y Ty Mawrth 11, dros yr hwn y llywyddid gan y Parch. W. T. Ellis. Hefyd bu Mr. Jarrett Humphreys, Penrhyn, a'i gyfeillion, yn cynal cyfarfod cyffelyb Mawrth 22. Gofynid am v, e th £ 88 6s 10c o nwyddau at wasanaeth y Ty yn ystod y mis. Mawrth 14, bu farw Richard Owen (Glas- lyn), yn 79 mlwydd oed, Daeth llythyr oddi- wrth ei fab Ap Glaslyn yn gofyn am yr ychydig bethan cedd ar ei ol, ac yn dioJch am garedig- rwydd y Bwrdd a'r Meistr tuag at ei dan.- Mr. D. Tegid Jones a ddywedodd fod ton y mab yn wahanol yn awr i'r hyn ydoedd ei ym- ddygiscj. Dylasai fod wedi gwneyd rhyw- beth i gynorthwyo ei dad yn lie ei adael i bob! eraill i'w gynai.-Ar gynygiad Mr. Morgan Roberts, a chefnogiad Mr. W. Williams, Ffestiniog, fod y maib yn cael y pethau ar yr amod ei fod yn doi i'w hymofvn.—P&siwyd i dciJchi Mr Roberts, Penybryn, Caernarfon, em ddw/n y ccstau claddu, Mawrth 15. bu farw William Hughes (reryn), 63 oed, gynt o Blaensa Ff-istinisg. Ni dclaeth Deb o'r teulu i lawr i'w giaddu, a sylwyd fod swm o arian at gl >ddu yn Fund Chwarel Maenofferen, a gadawyd ar y Swyddogicn i ymhoii yn eu cylch. Galwyd 50 o grwydriaid yn ystod y bythefnos diweddaf. Yr oedd 89 o dlodion yn y Ty ar gyfer 88 yr un amser y Hynedd. Yitichwiliad i amgylchiadau y Tlodion. I Mr. Richards a alwodd sylw at y pwys o fod ymctawiliad trylwyr i amgylchiadau yr holl dlodion pertlienol i'r Undeb, ac y dylai y Swyddogion Elusenol weffed pob tlawd cyn dod a'i achos o then y Bwrdd, ac unwaith bob chwarter i'r dyben o alia gwneyd tegwch 11 awn a nhob acho". Cry -id leuangc. I CyflwynoJd y Swvddog Eluse-nol aclios dyn iauangc o'r Llan oedd yn gorphen ei amssr fel egwyddorwas o Grydd yn Conglywal. Ar gynygiad Me. Richard Williams a chefnogiad Mr. Richard Roberts, pasiwyd i roddi 12/- iddo yn ychwsnegol at y 3/- o elusen wyth- nosol er mwyn iddo gael prynu I arfau at gtfchwyn gwaith trwsio esgidiau drosto ei hun yn y Llan. Gan ei fod yn anafus ei gorph hysbysid nas g-UIat wnayd esgidiau nswyddion. Swm yr Ychwancgiadau, I Mrs Casson a alwodd sylw at amldra yr argymeliioa i rcddi ychv;anegiadau mewn Ifordd o lefrith, beef tea, &c.t i r tlodion yn • Ffestiniog. Credai hit y dylai pa faint o'r petbau hyay oedd yn angenrbeidiol yn mhob achos gael ei nodi ar dystysgrif y meddyg. Cynygiai hi fod hyny yn cael ei ofyn o hyn ailan, a. chefnogcdd Mr. Richards.—.Mr. Rich- ard Williams, Gwvr y Doctor yn well r a Mrs Cssson ca Wil-iam Thomas et < sydd oieu i'r tlawd, neu i betb yr ydym ya tala iddo ?"—Mr. Williim Thomas, Gwn yn well na'r Doctor am amgylchiadau y tlodion, a byddai yn rhoddi t m a pbethau o'r fath lddynt pan welaf angen hyny heb i'r Doctor grybivyJl am y peth "—Mrs. Casson, "Ùylai swm y llefrith, ac 'ell/ yn mlaen, fydd yn o ynol fod er bapur y Doctor."—Kir. William Thom&s, "ý fltlae leliy bron ya daieithriad." I Meddy^'Plwyfol Trawsfynydd. Aufonodd Dr. T. J. Carey Evans ei ymddi- swyddiad i mewn fel swyddog meddygol plwyf Trawsfynydd am ei fod yn astudio am gwrs arbenig mewn meddygiaeth.—Derbyniwyd yr ymddiswyddiad yr bon oedd i ddod i rym Ebrill 20fed, a bod hysbysebu am un i lanw y lie. Dewisir yn mhen y mis. I Arianol. Pasiwyd i gyfranu dwy,gini at y Gymdeitbas er atal Creulondeb at blant. Ymwelodd y Swvddog y Gymdeithas a 349 o achosion yn yr Undeb ynystod y tlwyddyn. Pasiwyd i gyfranu pum' gini at y Cartref yn Rhyl. Hysbyswyd mai f,40 7s Oc oedd pris y tir ychwanegwyd at eiddo y Ty gan gynwys costau cyfreithiwr Mr. Osmond Williams ei berchen- og. Yr oedd dyled y piwyfi yn £ 3379, yn cynwys £ 2293 dyledusar Ffestiniog. Disgwylid i ddod i mewn at ddiwedd y flwyddyn arianol o bob ffynonel! C4605 18s Oc, yr hyn a adawai weddiil yn ffaic y Bwrdd wedi cyfarfod yr boll alwadau o £ 1457. Yr oedd eisiau at y haner blwyddyn nesaf £ 5539, vr hyn oedd yn fwy o £ 43 10s Oc na'r haner blwyddyn cyferbyniol. Yr oedd y draul gyda.'r tlodion wedi codi £ 200 vn ystod y flwyddyn, a gwerth trethiadoi yr Undeb wedi gostwng £ 3,063. Byddai eisiau treth o 1/6J y bunt at dreuliau yr Undeb. Yr adran ddifrif- aid oedd galwad Cyngor Sir Arfon yn ol 1/9 v bunt. Cododd treth Arfon 65 mewn dwy, flynedd. NAAAAA/WvAAAANWvVVWwVVWW
QYNGOR -D058ARTH DEUDRAETH-
QYNGOR D058ARTH DEUDRAETH- Gynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor ddydd Mawrth yn Ystafell yr Undeb, Penrhyndeudraeth, pryd yr oedd yn bresenol Md. D. Tegid Jones (Cadeirydd), William Jones, R. W. Vaughan, Robert Richards, Owen Evans, William Williams, John Pierce, M. E. Morris, Thomas Roberts (Clerc), David Jones (Clerc Cynorthwyoi), a Thomas Jones (Arolygydd Iechydol). Dangosai y cofnodion fod mesuriadau ac amcaû-Ryfrifon wedi eu gwneyd o'r cynliun i gael cyflenwad Dwfr i Trawsfynydd o Lyn y Graigwen. Yr oedd Mr. D. Lloyd Jones wedi anfon ei dclerau am baratoi ac arolygu cynliun Carth ffosawl i Harlech, sef pedair punt y cant ar y gost o gario y cynllun allan. Penododd y Cyngor ef i wneyd y gwaith yn ol y telerau a gynygiai. Hysbyswyd nad oedd yr un actios wedi bod yn y Dosbarth yn galw am i'r Cyngor atal neb i werthu llefrith oherwydd diffyg glanweithdra, ac afiechyd ar y Gwartheg perthynol i'r Gwerthwyr. Daeth £ 52 oddiwrth y Trysarydd Sirol at gyflog y Swyddog Meddygol, a £ 32 10s Oc at gyflog yr Arolygydd Iechydol. Pasiwyd i ohirio gwneyd dim yn nglyn a'r drafodaeth gyda Mr. Osmond Williams yn nghylch troi dwfr i garthffos neil duol yn y Penrhyn, hyd nes y byddai Mr. John Pierce, tenant Hafodywern wedi egluro y mater yn bersonol i Mr. Williams. Gan i clwycfsrch Mr. Owen, Glasgoed, Trawsfynydd, gael ei niweidio trwy fyned i ffos oedd yn cael ei gwneyd gan weithwyr y Cyngor yn y pentref, a pasiwdd i dalu y 4/- cost am adgyweirio. Esgeuluso gosod lamp ar y lie i ddangos y perygl fa yn achlysur i'r ddamwain ddigwydd. Galwodd Cadben Brandon, o'r Wersyllfa yn Trawsfynydd sylw at gyflwr anfoddhaol ffordd Geiligaia. Cyfarwyddwyd yr Arolygydd i drefnu anfon dynion i'w hadgyweirio mor fuan ag y gellir gan fod adran o'r Fyddin yn dod drosodd i'r wersyllfa yr wythncs nesa.f. Daeth gair o Fwrdd y Llywodraeth Leol yn holi yn nghylch beth oeddid yn ei wneyd syda charthffosu Minffordd, Penrhyndeudraetb.- Clerc, Y mae y Pianiau weci eu hanfon i Bwyllgor Plwyf y Penrhyn. Nid am fod rhaid gwneyd hyny, qnd fel mater o fturf ac o deimladau da'—Gwnaed sylwadau cryfion ar waith y Cyngor Plwyf yn cadw y pianiau fel ag i oedi gwneyd y gwaith.—Mr. John Pierce a ddywedodd y cynheiid cyfarfod y noson bon i'w hystyried.—Y Cadeirydd, Y mae yn ym- ddangos fod y pen uchaf o'r piwyf yn bender- fynol o geis:o gwneyd pobpeth a allant i rwystro y pen isaf i gael yr hyn a ddylent. Fe awn yn miaen gyda'r gwaith gan nad beth ddywed poll y Penrhyn. Yr ydym, wedi inyned i ormod o gost a tbreulio gorrnod o amser i adael pethau ddim yn hwy."—Y Clerc, I'r Pwyllgor Plwyfol y mae y planiau wedi eu hwfan. ac nid i'r Cyngor. Nid oes gan y Cyngor ddim i'w wneyd a'r mtter. Gwneir y pwyllgor i fyny o aelodau y Cyngor Plwyf a'r dau aelod o'r Cyngor hwn. Atebaf lythyr Bwrdd y Llywodraeth Leol i eg'nro yr am- gylchiadau iddynt." Darllenwyd llythyr o Fwrdd y Llywodraeth Leol yn hjsbysu eu bod yn ciniatau benthyg £ 9SStt y gost gyda'r Gwaith Dwfr yn Har- lech, ac estyn y pibelli at Bias Arglwvddes Amherst. Ceid yr arian am tair a baner y cant, i'w bad dalu mewn ugain mlynedd. Galwai y Bwrdd sylw difrifol y Cyngor at fod y trethi yn Harlech yn 9/- y bunt.-Y Cadeir- ydd a ofynai a'i nid gweil fyddai myned yn miaen i wneyd y Ffynon yn iawn nid oedd yn dda i d Jim fel y mae, ac yr oedd yn rbaid cael dwfr at wasanaeth y lie.—Mr. W. Jones, lihaid gwneyd y Ffynou neu ni fydd y carthffosyid dda i ddim.Clerc, A ydyw yn ddoeth myned yn miaen gyda'r cynliun o Garthffosireth beb i ni fod mewn sefyllfa glir- itch. Oedais anfoa at fclr. D. Lloyd Jones ar y mater er mwyn cael eich barn ar y path. Y mae iechyd cyhoeddus y lie ya galw am i'r Carthffcsydd gael eu gwneyd. ac yr oeddwn yn meddwl egluro i Fwrdd y Llywodraeth Leol yr holl amgylchiadau. Nid oes genym hawl i fenthyca. mwy na dwbl y gwerth tretbiadol am ddwy flynedd.Mri. William Jones, a R. Richards a awgrymasant i'r Clerc wneyd yr hyn a grybwyllodd.—Clerc, O'r goreu. Y mae y planiau gyda'r Ffynon wedi myned i fyny eisoes "—Mr. David Jones, Y mae £ 700 o'r £ 986 wedi eu gwario eisioes ar y gwaith." Hysbyswyd fod dyIed y Cyngor ar ddechreu y cyfasfod yn £ 50 Is. 5c. Ganwyd 10 yn y Dosbarth yn. mis Chwefror, a bu farw 8, dau o ba rai oeddynt heb fod yn perthyn i'r Dosbarth.—Cadeirydd, Y mse y Dcsbarth yn un o'r ihai iacbaf yn yr holl deyrnas, a dylai y cyboedd gael gwybod hyny." Daeth gair o Fwrdd y Llywodraeth Leolsyn gofyn am sylw y Cyngor ar lythyr gawsant o Gyngor Plwyf y Penrhyn yn achwyn am nad oeddynt yn adgyweirio Ffordd Bwlchyfedwen. Yn mhlith amryw bethau eraill nodid fod liai o ffyrdd i'w hadgyweirio gan y Cyngor na'r U:1 plwyf yn y Dosbarth.—Mr. J. Pierce a gynyg- iodd a Mr. M. E. Morris a gefnogodd eu bod yn derbyn y ffordd i'w gofal.-Cadeirydd, Nid yw yn ffordd gyhoeddus gan nad yw ond saith troedfedd o led. Y cyfrif dros fod can lleied o flyrdd yn y plwyf vdyw, fod dwy brif- ffordd yn myned trwyddo." Mri W. Jones a W. Williams a ddalient mai glynu wrth eu penderfvniad blaenorol a ddy- lent Nid oadd dim ond ysbryd gorchfygu wrth wraidd gwaith y Cyngor Plwyf yn anfon fel y gwnaetbant. Yr oeddid yn barod i gvm- eryd y Ifordd i fyny ond ei cbael mewn cyflwr priodol i ddechren.-Cododd saith en dwylaw dros lynu wrth y penderfyniad blaenorol, a dau dros gymeryd y ffordd i fyny. Darllenwyd llythyr o Gyngor Plwyf y Penrhyn yn gofyn am i'r Cyngor agor y llwybr i Cae'rgraig. Wedi trafodaeth faith, bernid nal oedd y llwybr yn arwain ond yr hwn oedd yn eiddo Dr. Hughes. Yr oU a wnaeth Dr. Hughes oedd cau y llwybr a gwneyd ffordd yn ei le.—Pasiwyd i'r Clerc anfon i ofyn am tyrofion fod y llwybr yn un cyhoeddus ac i ba le yr oedd yn arwain.
I O'R SIABOD B Q&ERSALEIV2.
O'R SIABOD B Q&ERSALEIV2. Pris Swllt, gan yr awdwr Mr. E. C. Roberts. Dolwyddelen. Medda ein cymydcgion y Saeson lawer o gyfryngau rhad a chylleus i ddwyn hanes cennedioedd a gwledydd y ddaear, yn orphen- ol a phresenol, o flaen meibion llafar: ond am y Cymry, tlawd iawn yw y cyfryngau. Croesawn yr ymgais ganmoladwy hon i ddwyn i sylw ryfeddodau a helyntion taith O'r Siabod i Gaersalem;" a gorchwyl fyddai gweled yn iaith ein cymdogion, debygwn, gymaint o feddwl mewn lleied o le. Mae ei gynwys yn bur, amrywioJ, dyddorol, ac adeiladol. Y mae amryw o ysgrifau a rhai llyfrau wedi ymddangos yn ddiweddar yn desgrifio y daith gymerodd Mr. E. C. Roberts, a diau y bussem yn cael mwy o gynyrchion o'r nodwedd yma pe cawsant y gefnogaeth a deilycgent. Y mae digon o le i gystadleuaeth yn y maes hwn oblegyd gall pob ysgrifenydd edrych ar y gwrthrychau a ddeuir i gyffyrddiad a hwy o wahanol safleoedd. Yr ydym o'n babandod yn gynnefin ag enwau Aifft, Palestina, Groeg, &c., and pan y gofynwn i ni ein hunain beth yr ydym yn wirioneddol wybod am danynt, dyna yr adeg y canfyddwn ein banwybodaetb. Pan yn trefnu ymweliad a Judea OrlJewinol gofynwyd i'r ysgrifenydd gan wr cyfrifol a fuasai yn talu ymwehad a chyfaill iddo cedd tua chyffiniau Damascus a phryd arall pan yn gwynebu taith i wJedydd codiad haul gofynwyd iddo gan berson neiliduol a fuasai yn trefnu i weled cyfaill iddo oedd yn trigianu yn ngwlad machlud haul!! Ac fel yna, wrth holi ein hunain, teimlvvn mor amddifad ydym, nid yn unig 0 hanesiaeth ond hyd y nod o sefyllfa ddaearyddol y gwTed- ydd byny ag y mae Prydain ynddyledus iddynt am ei gogoniant presenol a'i hurddas cened- laethol. Wrth ddarllen y gyfrol bon teimlv/n fy mod yn tramwy rhai liwybraa ac yn rnwyuhau y golygfeydd unwaith yn rhagor, amethasom a'i throi o'r neillda hyd nes y cyrhaeddwyd y frawddeg olaf Ddarllenydd, myn waled y wIad a bydd farw! Llwydda yr awdwr i wisgo esgyrn sycbion a giau a chig a rboddi anadl bywyd ynddynt; a gwyn fyd na welai ieuenctyd ein gwlad fod "gwirionedd yn hynotach na ffug" ac fod ymbleseru uwchben ffug chwareu yn gwneyd meddwl yn beth beichus i'r dyn ieuainc am ei oes. Tuag at eanga y meddwl, deffro y cyneddfan, lladd rhagfarn, ymlid ofergoeledd, gwastrodi culni a dalibleidiaeth, nis gwyddom am ddim efifeithiolach na darllen hanes cenhedloedd ac ymgydnabyddu a gwledydd y ddaear. Deuwn felly, fei cenedl, i adnabod ein nerth a'n gwendid, ein rhsgoriaethau a'n diffygion, ein mawredd a'n bycbander. Buasai yn dda genym alia dyfynu yn belaeth o'r gyfrol, ond gwell yw ei darllen o'i dechreu. Ni phetruswn ddweyd nad oes gwell gwerth swllt i'r ieuainc yn marchnad y wasg Gymreig ac os na dderbynia y darllenydd ychwanegiad gwybodaeth am y dwyrainfyd didwrf a mwyn- had lond ei lestr, bydded mor ddistaw a'r Pyramidiau neu fe amlyga pa mor agos i dalpyn o glai y gali creadur 0 ddyn fod.— J. It, ARTHUR.
TANYQRISIAU.
TANYQRISIAU. I'R AtIERICA.-Dydd Sadwrn nesaf, 27 cyf. bydd Mr. Hugh 0. Parry, mab Mr. H. Parry, Wrysgan Fawr, Tanygrisiau, ac befyd Mr. Mosses Robeits, Dolrhedyn Terrace, Tany- grisiau, yn myned am yr America. Dymunwn iddynt bob Uwydd yn y wlad fawr hono.
I BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. Mae digonedd o GIGOEDD rhad i'w gael yn Siop J. T. Oweo. Deuwch a gwelwch dros eich hun. Cofiwch hefyd fod 8 bwys o'r blawd goreu i'w gael am SWLLT. Y GOLWG.-Mae yn fautais i bawb sydd srnynt angen Gwydrau cywir i'r golwg, ddeall mae yr unig Optician yn. Sir Feir- ionydd sydd wedi pasio Arholiadau mewn PROFI Y GOLWG ydyw Mr. Hugh Jones, F.S.M.C., Medical Hall, Blaenau Festiniog. Amheuthyn i Frecwest.—Best Richardsons, Bacon, plain, 9d per lb; Cumberland Cut, 8d Best Danish Smoked, lOd Small Pickie Hams, 4^d; Best American Cheese, 8d, i'w cael am y prisiau issl a enwyd yn unig gan E. B. Jones & Co., Canton House. Os ydych am CNWD DA o'ch Gardd, rhoddwch HAD DA ynddi. Y mae gan W. H. PARRY, Chemist, High Street, Stoc newydd o' HADAU GERDDI. Hefyd Had Gwair, Clovers, Llwynhidl, Swedes, Mangolds, &c., ar gyfer Amaethwyr. Ymofyner am Samples a Prisiau, =N,lae, y Dcrth Fawr, sydd yn ddigon o faich i ddyn, yn dal i gael ei gwneyd a'i gwerthu am yr un bris eto yn Shop E. B. Jones, Canton House. SALE.—Deallwch nad oes ball ar gatsmol y njvyddau werthir yn rbad yr wythnos hon yn New Landon House. Y mae galw mawr am y nwyddau yn y ffenestr swlit a'r ffenestr haner coron. N&g oedir myned i bwrcasu cyn i'r Sale fyned drosodd. AM PROVISIONS GOREU Gwertbir Smoked Bacon wedi ei slishio am lOc y pwys, a Plain Bacon goreu am 8c; neu wrth gymeryd darn am saith geiniog y pwys. Hefyd gwerthir Hams, Caws, Lard, a Menyn goreu sydd bosibl gan Parry, Shop Newydd, High Street. GWAELEDD,—Drwg genym ddeall am wael- edd y cyfaiil Mr. Hugh Lloyd, yr hwn fel y gwyddis sydd yn awr yn Nghaer er's tua blwyddyn yn ol. Nid oedd yn dda 0 ran ei iechyd pan adawodd yr ardal hon, a gofidus genym oedd clywed ra 1 oedd awyrgylch Crer- lleon yn dygymod dim yn well ag ef, os cystal. Bydd yn ddrwg gan ei liaws cyfeillion yn yr ardal hon glywed hyn am dano. Hyderwn y caiS adferiad buan. CYNGERDD ELUSENOL Y PLANT.—'Y mae edrych yn miaen trwy yr holi ardal am y Cyngerdd gynhelir nos Fawrth nesaf yn y Neuadd Gynull er bu plant tlodion yr ardal. Y mae ein cerddorion blaenaf, heb eitbrio yr un o honynt, ya rhoddi eu gwasanaeth yn rhad er mwyn yr amcan clodwiw mewn golwg. Hefyd, cymer cystadieuaeth datgana" Unrhyw Unawd le, am yr hyn y cynygir gini o wobr. Deuwoh yn llu er mwyn y wledd, ac yn arbenig er mwyn y plant. GWLEIDYDDOL.—Yn ystod yr wytbnos ddiweddaf derbyniodd Mr. O. D. Jones, prif- athro Ysgol y Cyngor yn Abergwaeo, a brodor o Flaenau Ffestiniog, wahoddiad oddiwrth y Free Trade Union i gymeryd rhan yn y frwydr etholiadol gymer le ar hyn o bryd yn Nwyrain Sir Ddinbych. Derbyniodd yr anrhydedd hon ar gyfrif y gwaith pwysig wnaeth dros Rydd- frydiaeth yn Mhenfro, ar rhan gymerodd yn nychweliad Mr. W. F. Roch yn Ngorphenaf diweddaf yn gystal sfg yn yr etliolisd gyffredin- ol. Mae galw mawr am wasanaeth Mr. Jones yn yr ardaloedd hyn, gan ei fed yn siaradwr rhwydd a Uithrig yn Gymraeg a Saesneg. TRWYDDECOL.—Dydd Sadwrn, o flaen Pr. R. D. Evans, a John Lloyd Jones, Ysweiniaid, caniatau adnewyddiad trwydded y Railway Inn, ar yr un telerau ag eiddo y Cross Keys, a Maenofferen Hotel. sef fod y llidiart gefn i'w chau wyth o'r gloch y nos yn y gauaf a naw o'r gloch yr haf i bob dybenion cyflenwi diodydd. CYNGERDD Y COR MIERCI-IF-D.-Fel y gwelir mewn colofn arall, y mae ein Cor Merched o dan arweiniad y Cerddor medrus Mr. J. Tudor Owen, A.R.C.M., yn trefnu Cyngerdd i'w gynal Ebrill 22. Cynwysai y Cor 120 o leisiau, a chynorthwyir gan Miss Winifred Lewis, y Contralto enwog. Cafodd y Cor air eithriadol o ganmoliaethus gan Pedr Alaw yn un o'r newyddiaduron Seisneg yr wythncs o'r blaen. Y mae gwlcdd yn ein haros. DIRWESTOL.—Cynhaliwyd cyfarfod Dir- westol o dan nawdd Gobeithlu Bethesda, Ton gyff. Dechreuwyd gan Wm, Davies. Ton gan y Band of Hope dan arweiniad J. Jones, Anerchiad gan y llywydd, W. James Jones. Adrcddiadau gan Winnie Williams, Emly Thomas, eto gan nifer o blant, Kate Jones, Willie O. Roberts, Sydney M. Jones, Alun Williams, Hen Feibl Mawr fy Mam," gan ddosbarth 'Miss N. Roberts, eto, Y Faril," gan Rossina Davies. Adroddiad gan Hugh D. Roberts. Dadl, gan E. P. Jones, a J, Lloyd. Unawdau gan John Jones, Hughie Jones, Nellie Williams, Robert E. Jones Triawd gan Katia Jones a'i chyfeillion. Unawd gan Miss Stoddart. Can gan y Cor dan arweiniad John Jones. Gair gan y Parch. D, Hoskins. Deuawd gan Miss Stoddard "a'i chyfaill. Ton gan y Band of Hope. Terfyn- wyd gan Mr. Hoskins. Bydd cyfarfod nos Sadwrn nesaf hefyd. Hwn fydd cyfarfod olaf y tymor,presenol.-T R. Y NEUADD EGLWYSIG'.—Nos Lun 22ain, cynhaliwyd cyfarfod anrhegu y Parch. Benjamin Thomas, B.D., Ciwrad, ar ei ymad- awiad o fod yma am "Pcridinorwic.^ tDechreu- wyd gyda thon gan y Band of Hope. Unawd Hen Gymru fy Nglwad," gan Miss Jennie Williams. Anerchiad gan y Cadeirydd, Mr. Job James, G.W.R., yr hwn a dynodd fradun o waiih da Mr. Thomas tra yma yn Giwrad mewn modd cymeradwy iawn. Can Gartotes fach," Miss Hannah E. Williams. Adroddiad, Miss Katie Hughes. Can, Gyda'r Wawr," Miss Polly Evans. Yna cafwyd byr ansrehiad- au gaa y cyfeillion canlynol :—Mri. David Jones, Builder, D. D. Roberts, Trevor Jones, Wm. Williams, Richard Davies a W. L. Griffith, yr oil yn talu i tejrnged uehel i Mr. Thomas am ei lafur diwyd yn mhob cylch tra y bu yma yn Giwrad. Ton gan y Band of Hope. Yna cyflwynwyd Anerchiad hardd i Mr. Thomas (o waith Mr. Rowland Hughes, Photographer), ar ran llu ei edmygwyr yn ogystal oddi allan ac oddi fewn i'r Eglwys, gan Mrs. Dr. Evans, Llysmeddyg, a phwrs o auf ac arian gan Miss S. A. Smart, pa rai a wnaeth- ant sylwadau pwrpasol i'r amgylchiad. yna diolchodd Mr. Thomas yn gynes i bawb am en teimladau da tuag ato. Can "The Song, that reached my heart," Miss Katie Hughes, yna cafwyd ychydig sylwadau amserol gan Ficer Hughes, a'r Parch. W. R. Jerman, a ) therfynwyd cyfarfod tra ragorol trwy i Miss Katie Hughes ganu "Duwgadwo'r Brenin." ) Cyfeiliwyd gan Mr. W. L. Griffith. CYMDEITHAS SEION (B.)— Nos Fawrth, dan lywyddiaeth Mr. Hugh Jones, cafwyd darlith hynod o ddyddorol ae addysgiadol ar "Billy Bray gan un o blant yr eglwys, sef y Parch. H. Bryn Davies, Llandudno. Ymdriniodd y brawd gyda, deheurwydd neillduol ar fywyd cyfriniol Billy yn ei amlweddau, gan sylwi yn arbenig ar ei fywyd cyn ei droedigaeth, Billy Bray yn mwlch yr argyhoeddiad; yn pregethu, yn gorfoleddu. ac yn troi y gorfoledd yn was- anaeth dros ei waredwr. Penod dyddorol gafwyd ganddo arno yn adeiiadu capelau trwy ei ymddibyniad hollol ar Dduw. Yr oedd yn garedig, am y credai fod Duw yn ad-dalu yn ddwbl, a phrofwyd hyny yn amlwg yn vstod ei oes. Ehedodd ei ysbryd mawr haelionus rhyw 40 mlynedd yn ol, i'r unig fan y dymunodd, sef i'r trigfanau fry, yn 74 mlwydd oed, wedi treuiio oes o wasanaeth gwirioneddol dros ei geidwad. Diolchwyd yn gynes i'r brawd am garedigrwydd yn darparu mor flasus a belaeth eleni eto, gan Mri. Rd. Fairy a Pherorfryn.—Nos Lun nesai, terfynir y gyfres ¥an y bardd enwog Bryfdir, gydag "Awr yn nghwrnarr Beirdd," pryd y dadgenir gan y gantores swynol L'inos Uwyryd, a bydd croesaw cynes i'r cyfarfod. GARREGDDU.—Cyfarfod Llenyddol Garreg- ddu, a gynhaliwyd nos Fercher a nos Iau. Llywydd cyfarfod nos Fercher cedd Mr. J. R. Jones, Darbod a nos Iau, Mr. Griffith T. Williams. Gwobrwywyd a ganlyn :-Chwar- euad ar y BerdonegMiss Eva Jenkins, Hemming a back-stiching dan 10, 1, Bertha Williams; 2, Ethel Lewis. Gwneud twll bctwm a goscd botwm, dan 16 oed, 1, Gwen Wiliiams; 2, Hannah J. Evans. Pencil Sketch dan 14 oed, 1. Ellis Humphreys. Unawd i rai dan 12 oed, 1, Eliiw Roberts 2, Annie BIodwen Morris; 3, Florie Williams. Llawysgrifen oreu dan 12 oed, 1, Florie Wil- liams; 2, Diiys Evans; Ellis Humphreys, Dictation dan 12 oed, 1, Maggie Dsvies; 2, Florie Williams. Cofnodi hanesyn ar y pryd, dan 16 oed, 1, Jennie Humphreys; 2, Eliz. Lewis. Gwobrwywyd am waith y Safonau am y flwyddyn. Safon 1. 1, Willie Jones a D. James Roberts yn gyfartal; 2, Eluned Wil- liams; 3, Howell Daniels. Safon II. 1, Griffith Morris a Ellis Lewis yn gyfartal; 2. Elliw Roberts; 3, W. Osborne Williams. Safon III. 1, Bertha Williams, a Myfanwy Owen yn gyfartai; 2, Wellie R. Jones, a E. R. Owen yn gyfartai; 3, Owen Tudor Rob- erts. Safon IV. Caradog Evans 2, Herbert Parry Evans 3, Robert Jones. Safon V. 1, Florie Williams 2. Maggie Davies; 3, Gwen Williams. Safon VI. 1, Gwladys Evans; 2. Dilys P. Evans; 3, Jennie Jones. Safon VII. I, May Parry; 2, Jennie Humphreys 3, Robert J. Roberts. Safon VIII. 1, Eliz- abeth Lewis; 2, Hannah J. Evans; 3, Annje Tudor Roberts. Safon IX, 1, Jennie Wil- liams; 2, Sarah Lilian Evans. Safon X. 1, Polly Jones. Hefyd rhoddwyd Llyfrau i bob un oedd wedi dysgu ei lafur yn gyflawn am y flwyddyn, o'r Dosbarth Rhsgbaratoawl i fyny. Adroddiad i rai dan 10 oed. 1, Bertha Wil- liams; 2, Eirlys Williams 3, Janet Williams. Cyfeithu darn i'r Cymraeg, 1, Hannah Jane- Evans a Robert J. Roberts; 2, Jennie Hum- phreys, Cystadleuaeth Corau Plant, Cor Miss Jennie Owen, Bank Place. Cofnodi pregethau, a draddodwyd yn y Garregddu vn vstod mis Ionawr diweddaf, 1. Jennie Williams; 2, Johnie Humphreys. Unawd i rai dan 18 oed,. I, Hannah Jane Evans; 2, Lizzie Lewis. Cofcodiad or Seiadau. Rbagfvr ac Ionawr di- weddaf dan 16 oed, 1, William Henrv Rob- erts a Jennie Humphreys yn gyfartal. Unawd Soprano, Miss Poilv Jones. Athogiad, ateb' cwestiynau oddiar y Maes Llafur, dan 21 oed, 1, R. Caradog Davies a John Parry Evans yn gyfartal 2. Sarah Lilian Evans, Adroddiad i rai dan 18 oed, 1. Jennie Williams; 2, W. Henry Roberts, Unawd Contralto, 1. Miss Mary Hughes. Llythyr Plentyn adref at ei rieni, dan 18 oed, 1, Jennie Williams; 2, Maggie Jones Roberts. Deuawd i rai dan 18 oed, 1, Haoah Jane Evans a Lizzie Lewis; 2,- Howell Morris ac Annie B. Morris. Unawd, Tenor, Mr. Evan Lewis. Traethawd i ferched, Mrs. Lewis Edwards. Traethawd i rai dan 21 oed, Sarah Lilian Evans Pedwarawd, 1, Parti Owen Edwards. Beirniad y Gerddor- iaetb, Mr. F. P. Dodd, M.A. Y Farddoniaeth, « Cvffdy, Adroddiadau, Parch. Joseph Jenkins, a Mr. W. J. Roberts, Bolton House. Cyfett- yddesau, Miss Jennie Owen, Bowydd Road; Miss Minnie Lewis, Church Street; Miss Ellen Lewis, Cromwell Street. Ysgrifenydd. W. H. Jones, North & South Wales Bank, a gwnaeth ei waith yn hynod gymeradwy. Llon- gyfarchwn ef ar lwyddiant y cyfarfod. Trysor- yddes, Miss Laura Jones, Oxford Street. GWAELEDD.—Diwedd yr wytbnos diweddaf, tarawyd y Parch, R. R. Morris, y Tabernacle a Maenofferen, yn bur wael. Deallwn ei fod yn liawer iawn gwell ddechreu yr wythnos hon, a dymunwn yn gywir am iddo gael adfer- iad Uwyr a buan. HENO! BENO Ii. Cofied pawb mai HENO mae'r Cyngerdd Mawreddog ac Uwch- raddol hwnnw ag y mae Miss Edith Davies, Wrexham, a Mr. H. Vaughan Davies, Caer- narfon, yn gwasanaethu, Hefyd y dMganwr peraidd Eos Brychan. •' S