Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

BLAENAU FFESTINIOG. I

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. I ANFFAWD,—Y Sabbath diweddaf, hvsbvs- wyd ni am y ddamwain ddigwyddodd i Miss Elizabeth Pierce Jones, 17, Manod Road, trwy i ddwfr berwedig droi ar ei thraed.-o.H.s. JERUSALEM. Cynhaliwyd y Gymdeitbas Ddiwylliadol nos Fawrth, o ea-i lywyddiaeth Mr. John Jones, Fronbeulog. Daeth cynull- iad rhagorol yn nghyd, a chafwyd dadl ar A ydyw yn bosibl cael Ffestiniog i beidio dibynu ar y chwareli?" Cymerwyd yr ochr gadarn- haol gan Miss Madge Roberts aCaerwyson; a'r ochr nacaol gan Mri. E. T. Pritchard ac Henry Williams. Cafwyd mwyafrif cryf dros y cadarnhaol. Y CLWB RHYDDFRYDOL,—Nos Ian, cyn- haliwyd cyfarfod y C!wb Rhyddfrydol o dan lywyddiaeth Mr. Griffith Roberts, Adeiladydd. Yr oedd Morgan E Phillips, D sc., yr Ysgol Uwchraddol i draddodi Darlith ar "Dair blynedd o waith y Weinyddiaeth Ryddfrydig gan ei hegluro gyda Hudd-lusern, ond an- alluogwyd ef i foti. ya bresenol trwy afiechyd. Anfonodd Mr. Phillips ei sylwadau i Mr. R. Griffith, Tegfan, ac nis gallesid meddw1. am neb gweli at grmeryd ei le. Aeth Mr. Griffith trwy y sylwadau yn fedrns iawn, a gofelid am y Lantern gan Mr. J. T. Evans. Diolchwyd yn gynes i Mri. Phillips, R. Griffith, a J. T. Evans am eu gwasanaeth gwerthfawr. CYFARFOD LLENYDDOL BowyDD.- Cynhal- iwyd yr uchod nos Wener a nos Sadwrn di- weddaf, a chafwvd cyfarfodydd llwvddianus iawn, er i'r tywydJ droi braidd yn anffafriol, a hefyd y "Cheap Jack," a'r "Living Pictures" yn ymyl. Yr oedd y pwyHgor wedi sicrhau Mr Tudor Ov;en, A.P..C M., fel Befrniad Cerddorol a gwnaeth ei waith yn ddeheuig dros ben, ac yn ddiddadi y mae cystal dyfodol iddo fel 'beirniad ag fel datganwr. Rhoddodd ei holl feirniadaethau foddSonrwydd cyffredinol. Gellir dweyd yr uo modd am Mr H. E. Hughes (Dery!). Yr oedd ynt?.u yn ei hwvliau goreu, a cbanmolai y gwahanol gystadleuaethau Y Cyfeilwyr oec1 Int :-Nos Wener, M. Lewis Jones; a nos Sadwrn gan Mr. F. P. Dodd, M.A Llywvddwyd cyfarfod Wecer gan Mr. White Phillips, gan yr hwn y cafwyd anerchiad yn ystod y cyfarfod. Yr Arweinydd ydoedd y Parch J. Owen, M.A., yr hyn a wnaeth gyda i fedrusrwydd arferol. Wele restr o'r goreuon —Unawd i rai dan 8 osd, 1, Bob Thomas, 2, Annie Williams, 3, cydradd Elizabeth Ellen Jones ac Albert Thomas. Eto, o 8 i 10 oed, 1, Owen Price Griffith, 2, Gwennie May Thomas, 3, Maggie Williams. Hefyd i enetliod .010 i 13 eed, 1, Catherine J. Richards, 2, Annie C. Edwards, 3, Winnie Hughes a Nellie Rowlands. Eto, i fecbgyn o 10 i 16, 1, Meir- ion Llovd Jones, 2. Samuel Williems, 3, Wm. David Williams. Eto i enethod o 13 i 16. 1, 'Nell Thomas. 2. Cassie Roberts, 3, Kate Ellen Hughes. Dsuawd dan 16, 1, Nell Thomas a Grade Owen, 2, Dilys a Maggie Williams. Modulator, 1, Nell Thomas, 2, Annie Williams Dysgu alkin, Safon I, 1, Sallie Parry a Lizzie Jenkins. Safon II, I, Sallie Parry ac Annie Aled WilMams. Safon III, 1, Owen Price Griffith a Katie Edwards, 2. Katie Owen ac Albert Thomas. Ssion IV--IX, 1, Sallie Rowlands, 2, Sydney Rowlands. Safon X, 1, 'Nell Jones. Adroddiad i rai dan 10 oed, Evan Emlyn Roberts a Lizzie Jenkins; 2. Maggie Williams, 3, Albert Thomas, Eto o 10 i 15, 1, John Rhys Roberts a Laura Jenkins; 2, Nancy Lloyd Jones Gwriidwaith, 1, Jennie Owen, 2. Cassie Rcb?rts, Drawing, 1, John Rhys Roberts, 2. Hugh Parry. Arholiadau Ysgrif- enedig Safon IV, 1, Austin Roberts, 2, Nancy Lloyd Jones, 3, Wiiiie Hughes. Safon V, 1, Sallie Rowlands, 2, Jennie Alice Jones, 3, Annie C. Edwards. Safon VII, l,Meirion LL Jones, 2. John Rhys Roberts, 3. Rowland Edwards. Safon IX, 1, Hannah Elian Owen, 2, Blodwen Williams. Corau Plant. Daeth tri cor ymlaen, a dyfarnwyd yn oreu yr un dan arweiniad Willie Osborne Thomas. Cyfarfod nos Sadwrn, y Llywydd ydoedd Mr. William Owen, Plasweunydd, a chafwyd anerchiad byr ,ganddo. Yr Arweinydd ydoedd Mr. John Owen. Hefyd yr oedd Mr. R. J. Davies (Barlwydon), beirniad y farddoniaeth yn traddodi ei feirniadaethau, ac yr oedd mewn 'hwyI anarferol. Dyfarnwyd y. gwobrwyon fel y ca.nlyn :-Llythyr at frawd nEm chwaer yn yr America, 28 o ymgeiswyr, 1, Mrs. Evan Rob- erts, Wynn Road; 2, Miss Myfanwy Jones, 'Uncorn Cottage. Unawd Contralto neu Bass, Mrs Evan Roberts, a hi enillodd nesaf am wneyd Wool Scarf. Arholiad Ysgrifenedig i rai dan 21 oed, Miss Nell Jones, 2, cydradd Miss Myfanwy Jones a Mr Robert J. Williams, 3, Miss Blodwen Roberts. Chwe* phenill, Disgwyl gwawr," Mr. Thomas Williams. Unawd Soprano neu Denor, Mr. David Wil- liams, Wynn Road (gynt Brondwyryd) Englyn. Y Gorlan," goreu In ei chysgod." yr hwn nid atebodd i'w enw. Unawd i rai dros 50 oed, 1, Mr. Robert Ellis, 2, cydradd Mri. David R. Pritchard a John G. Roberts. Prif-adroddiad, "y Ncs." Mr. Tom Jenkins, Wynn Road (enillydd Gwylfa) Ateb cwest- iynau ar yr lawn, cydradd Mrs. Edward Lloyd a Mr Evan Roberts. Deuawd, Miss Blodwen Blanche Roberts a Mrs. Evan Roberts, Trathawd i rai dan 21 oed, 1, Miss Myfanwy Jones, Uncorn Cottage 2, John Rhys Roberts Traethawd i farched, cydradd Mrs Lloyd Jones a Mrs Evan Roberts. Prif-draethawd, 1, Mrs. Evan Roberts. Herunawd Bedd Glyndwr," Mr. Ted Jones. Daeth pedwar o Gorau yn mlaen i ddatganu "Deuwch, canwn i'r Ar- glwydd," sef Brynbowydd (R. Roberts), Hyf- rydfa (HughPagh), Bowydd (Edward Thomas) a Pant Iwyd (W. E. Ephraim). Dyfarnwyd y wobr i Gor Pantllwyd. Ar ol i Mr. J. Owen ddiolch i bawb a wasanaethasant yn nglyn a'r cyfarfodydd, ymwahanwyd. SEINDORF FRENHINOL OAKELEY YN TRE- FFYNON.—Y nos Sadwrn o'rblaen bueinSein- dorf yn cadw Cyngerdd ya Nhreffynon, Sir Fflint, dros yr hwn y llywyddid gan Mr J. Petrie, Maesglas. Cyfeiriodd Mr Petrie at .safle urddasol y Scindorf, a bod gwledd yn aros y dorf. Fel hyn yr edrydd newyddiadur y Sir am y rhaglen yr awd trwyddi:—" Y der- nyn agoriadol oedd y "Dreadnaught" March, i ba un y rhoddwyd chwareuad effeithiol, ac yn dilyn cafwyd detholiad o ddarnau cystadleuol, i ba rai y rhoddwyd encore. Cafwyd encore byddarol i Maritana," yr oedd yr unawd ar y Trombone "Let me like a Soldier Fall" yn feistrolgar. Yr oedd yr Unawdau yn y gwa- hanol ddarnau ar y Cornet, Tenor Horn, a'r Euphonium yn artistic. Mewn un o'r darnau, yr oedd yr unawd ar y Double B Bass yn gyw- rain iawn. Yr oedd y Soprano a'r Cornets ar bob amgylchiad yn artistic yn eu gwaith, a chlir mewn tonyddiaeth. Yr oedd manylder y chwareu, gyda light and shade a mynegiant, a'r cydbwysedd dymunol yn hynod o daraw- iadol. Yr oedd y rhaglen yn un nad anghofir yn fuan." DARLITH.-Mawr ganmolir y Ddrctiith dra- ddodwyd gan Mr. J. Lloyd JonesjLlyfrgellydd, vn Nghapel Trefeini, nos Iau diweddaf, pryd y llywyddodd Mr. Robert IDavies. Y testyn ydoedd Hen ddywediadau Brodorion Ffestin- iog." Dylai pob Eglwys fynu clywed y y Ddarlith odidog hoa, gan mor ardderchcg ydyw. FOOTBALL.—Next Saturday, the Festiniog Town will journey to play Carnarvon at the latter place, while the Reserves will meet Machno Rangers at the Newborough Park. The followirg h¡ve been selected to represent the Reserves:—Bob Smith; Wm. Ellis and Bob Ellis; Hugh Willirms, W. H. Williams, and Richard Jones; Owen Roberts, O. Cled- wyn Owen, Johnny Hughes, C. R. Owen, and John Pritchard. Referee, Mr. O. D. Owen. Admission 2d and Id. Kicjt 00 3 p.m.

.yyyyTAPJYGRISIAU.YYYYYYvI

LLAMRWST.

I-ADOLYGIAD.

vvvvvv BETTWSYCOED.

- - - - - - - - - - - - -…

VWWNAA\^NAAVVWvVWvWvVW I I…

[No title]

Advertising

[No title]