Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

.BLAENAU FFESTINIOG.

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. GWYWO YN GYNAR.—Y nos Fawrth gyntaf o'r flwyddyn, wedi cystudd poenus am dri mis, bu farw Agnes, anwyl blentyn Thomas ac Ellen Thomas, Bodlondeb. Manod Road, a hi bron a chyrraedd ei hunarddeg oed. Diodd- efodd ei chysludd yn dawel a dirwgnacb, Dydd Sadwrn diweddaf, hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Bethesda gan dyrfa fawr a pharchus. Blaenorid y dyrfa gan ob- eithlu Gwylfa, o'r hon yr oedd yr ymadawedig yu aelod selog a ffyddlon, a chanasant o'r ty i'r fynwent, a thrachefn ar lan y bedd. Gorchuddiwyd ei harch a blodeu ymhlith pa rai yr oedd blodeu-dorch hardd wedi ei hanfon gan ei chyn-athrawes yn yr Ysgol Sul, ac un arall gan nn o'i chyd-ddisgyblion. Gwasan- aethwyd yn y ty gan y Parch. D. Davies, Preswylfa, ac ar lan y bedd ganddo ef a'r Parch. D. Hoskins, M.A., yn hynod o effeith- iol. Cydymdeimlir gan yr ardal gyfan a'rfam a'r tad, y brodyr a'i chwaer a adewir i alaru ar ei hoi. Cymered y teulu trallodus gysur yn y geiriau mai huno y mae," ac y cant eto ei chwrdd. Y SEINDORF.-Deallwn fod y Seindorf wedi ei chyflogi i fyned i gynal Cyngerdd yn Dre- ftynon y Sadwrn cyntaf yn mis Mawrth. Gwelir fod eu clod yn hysbys trwy yr holl wlad, a diau y rhoddant bob boddlonrwydd i'r Gallestriaid twymgalon. GWASANAETH COFFA. Nos Lun, yn Eglwys Dewi Sant, ac yn y Neuadd Eglwysig, cynhaliwyd Gwasanaeth Coffa ar ol Miss Hughes, y Rheithordy. Pregethwyd yn yr Eglwys gan y Parch. W. R. Jerman, B.A., ac yn y Neuadd Eglwysig gan y Parch G, H. Harrison, B A. Yr oedd arwyddion amlwg o alar yn y ddau wasanaeth ar ol un a hoffid mor fawr gan bawb yn yr ardal. CYNGHERDD.-Mae PwyHgor Eisteddfod Gwyl Dewi, Blaenau Ffestiniog wedi pender- fynu peidio cynnal Eisteddfod eleni gan eu bod wedi trefnu Cyngherdd Uwchraddol fydd yn fwy o treat i'w cefnogwyr cerddgar yn nosbarth Ffestiniog nac Eisteddfod na dim arall.-Ysg. ANERCHIADAU.-Nos Fercher, o flaen Cyf- eillach Bethania bu y Parch. John Hughes, yn traddodi Anerchiad air "Ffydd;" y Parch. J. Rhydwen Parry, yn Jerusalem yn traddodi an- erchiad ar "Faddeuant;" Parch R. Talfcr Phillips, yn Brynbowydd ar Ymneillduaeth yn yr ail ganrif ar bymtheg;" y Parch. Thomas Griffith yn Hyfrydfa, ar Y Sacramentau y Parch. George Davies, yn Bethel, Llan, ar Ymgnawdoliad;" a'r Parch. J. Williams- Davies, ar "Beehod." YD Salem. UNDEB Y CHWARELWYR.—Bu raid gohirio y Cyfarfod Cyhoeddus oedd i'w gynal nos Fawrth am fod priod Mr. Ellis E. Davies, A.S., mor wael fel nad alfai Mr. Davies fod yn bres- enol i anerch y cyfarfod. Cynhaliwyd y Gymdeithas nos Lun o dan lywyddiaeth Mr. Hugh Jones. Traddododd y Parch. J. Spinther Jones, D.Litt., ddarlith ddyddorol, a gwir addysgiadol ar "Abraham, tad llawer o genhedloedd." Hyfrydwch mawr oedd gwrando ar yr Hanesvdd hyglod, 3 n trafod banes Tad y ffydd/oniaid" mor ddeheuig. Eglurai hanes ei grwydriadau yn ystod ei fywyd, a'i ufudd-dod parod i alwadau yr Arglwydd. Eglurai hanes ei deithiau gyda cynorthwy Map yr hyn a ychwanegai yn ddirfawr at wneyd y Ddarlith yn ddealladwy. Cadwodd y Darlithydd dorf astud yn hwyliog dros awr o amser. Diolchwyd yn wresog i'r Dr. gan y Mri. S. S. Jones a John Hughes, Siaradwyd yn ystod y cyfarfod gan y Parch. H. Bryn Davies.—Nos Fawrth nesaf disgwylir .y Parch. R. Silyn Roberts, M.A., i anerch ar Tro yn America." Ni raid i Mr. Roberts wrth lythyraucanmoliaeth, GARREGDDU.—Cyfarfod Ysgolion nos Wener yn y Garregddu am 7 o'r gloch. Llywydd Mr. T. J. Roberts, Rhiw. Mater "Adgyfodiad lesu Grist," i'w agor gan y Parch. R. Silyn Roberts, M A. Am 9, bareu Sul, holi y swydd- ogion gan Mr. E. E. Roberts, Gwylfa. Am 10, holi y plant yn y Rhodd Mam a phenod o Oriau Olaf Iesu Grist. Am 11, mater, "Crist fel Canolbwynt Dysgeidiaeth yr Ysgol Sabbothol," i'w agor Mr. John R. Jones, Bethel. Am 2, Holi y Dosbarth Canol yn Mathew 26 penod, o'r 6 hyd y 46 adnodau. Am 6, HoJi y Dosbarth Hynaf yn Mathew 25 Penod. Holwyddorwr, Parch. John Williams, Corwen.—YSG. DAMWAIN.—Drwg genym am y ddamwain dderbyniodd Mr. Thomas D. Willioms, Liver- pool House, Rhiwbryfdir (gynt Manod Road), i'w lygad trwy ddilyn oi orchwyl yn y chwarel. Gorfu ei aufon y dydd dilynol i Ysbytty yn Lerpwi, lie y mae ar hyn o bryd o dan drin- iaeth neillduol. Eiddunwn iddo wellhad llwyr a buan. -OFF.ERYNOL.-Trwy rhyw amryfusedd gad- awsom enwau y ddau gyfaill talentog Mri. Wiliiam Edwards, Brittania Terrace, High St., a John R. Hughes, Gwynfa, Manod Road, allan o restr buddugwyr Nadolig a'r Calan, let enillwyr ar y ddeuawd offerynol yn Eisteddfod Do'geilau y Calan. Yr ceddynt hefyd yno yn gyflogedig yn cynorthwyo Seindorf Dolgellau, yr hon oedd yn fuddugol. I'R AMERICA.—Dydd Sadwrn nesaf bydd Mr Owen Roberts, 19, Glanygors Terrace, Manod Road, yn mordwyo am yr Unol Dal- aethau, lie mae iddo eisoes ddau frawd, perthynasau a lluaws o gyfeillion agos. Dym- unwn iddo fordaith hapus a glaniad diogel. TREAT.-The Annual Sunday School treat of the English Chapel, Bl. Ffestiniog took place at the G-riffiin Temperance Hotel last Thursday evening, where a good number of the children and adults sat êot tbe tables so well laid out by Mrs. Thomas, and all seemed to have well enjoyed the feast. The second part was conducted by the Rev. John Owen, M.A., The Pastor, and the children went through the following Programme very effect- ive :-Pianoforte Duett by Miss Gaynor Owen, & Marv Evans. Song, Sing a Song of Six- pence," Master Idwal Griffith. Recitation by Miss Winnie Davies. Pianoforte Solo by Miss Nellie Davies. Song, Morning Greetings," by Miss Betty Jones. Recitation, The Tee- totallers case stated," by Miss Elsie Williams, & Annie Jenkins. Song, Wh a can the matter be," by Miss Ema Crook. Recitation, Dollys Bath." Miss Cessie Jenkins. Piano- forte Sqlo, In the fields," by Miss Ammy Dodd. Recitation, Keeping a School," by Miss Emily Jane Owen. Welsh Air, "All through the right," Miss Elsie Williams, 1,b&y Annie Jenkins. Recitation, "Dirty Jim," Master Watkin Puistone Jones. Recitation, Tims Appeal," by Master Hugh Amos Jones. Song, Daddy," by Miss Sylvia Davies. Recitation "Forward," by Master Harry Griffiths. Song, old Welsh Air, by Mr. Ted Lewis. Recitation, A race for life," Master Idwal Griffiths. Recitation, Far away from Home," Master Tommy Lloyd. Recitation, Hurrah for King Jesus" by Miss Mary Crook. Song, England of you I am dream- ing," Mr. Mathew Dancey, which was encored, when Mr. Dancey sang the same song. Song, "Arra Wana," Master Gwynedd Jones. Pianoforte Solo, Miss Dorothy Jones. Recit- ation, II Napolion's last speech," Master W. Williams. Song, "Good Night," by Miss Gwenie Davies. Mr. Henry Pulstone Jones proposed a very hearty vote of thanks to the Chairman, our Pastor, which was heartely supported by Mr. Mathew Daucey, The Superintendant of the Sunday School & carried with cheers, and the company went home after enjoying a very pleasant evening. CERDDOROL —Cynhaliwyd arholiad mewn carddoriaeth o dan nawdd y Trinity College of Music, yn Mlaenau Ffestiniog, y 19eg o Ragfyr. Bu'r rhai canlynol yn llwyddianus i basio'r Preparatory Grade ;—Misses Evelyn A. White, Margaret E. Williams a Master William E. Cartwright, Criccieth, Misses Winifred Roberts, a Maggie A. Edwards o Harlech, a Miss Elizabeth E. Davies, Cae'rffridd, Bl. Ffestiniog. Grade Four (advanced), M, Selina Davies, a David J. Thomas, grade one: y ddau ddiweddaf yn ddysgyblion Mr. R O. Jones, Llan. A A.It.

Advertising

-111.11-.""-..,"",1.11,11-111,11110-?…

Advertising