Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CYNGOR DOSBARTH GEIR-I - IONYDD.

News
Cite
Share

CYNGOR DOSBARTH GEIR- I IONYDD. Cyfarfu y Cyngor ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol Mri. John Gower (Cadeirydd), J. Lloyd Morris (Is-Gadeirydd), E. W. Roberts, R. T. Ellis, Edward Roberts, D. G. Jones, T. T. Roberts, J. Ll. Richards, Edward Roberts, Henry Jones, R. R. Owen (Clerc), Thomas Hughes (Clerc-cynorth- wyol), a R. H. Williams, Arolygydd). Wedi arwyddo y Cofnodion, awd i ystyried cais a ddaeth o Gyngor Dinesig Bettwsycoed, ar i'r Cyngor uno i anfon cais at Bwrdd Pysgodfeydd Dyffryn Conwy, i ofyn iddynt adfer yr amser i derfynu tymor pysgota Eog- iaid i Tachwedd 14, yn He cau fel y gwneir yn awr ddiwedd Hydref.—Ar gynygiad y Parch. Henry Jones, a chefnogiad yr Is-Gadeirydd I pasiwyd yn unol a'r cais o'r Bettws. Y Parch. Ben Jones, Rheithordy, Penmachno a anfonodd gwyn yn nghylcb y cyflenwad J diffygiol o ddwfr roddid i'w dy.—Yr Arolygydd a ofynodd am i'r mater gael ei ohirio hyd y cyfarfod nesaf, gan y byddai ei adroddiad cyflawn ar y cyflenwad Dwfr yn Penmachno yn barod erbyn hyny.—Pasiwyd yn unol ag awgrym Mr. Williams. Mr, Thomas Griffith, Peirianydd y Cyngor, a ddaeth o flaen y cyfarfod yn nglyn a chynllun y"Gwaith Dwfr newydd olygid ei wneyd i Dolwyddelen. Cymerodpl gynorthwy dyn o brofiad eang i'w gynorthwyo, a byddai yr adran gyntaf o'r cynllun yn barod at ddydd Mawrrh os byddai y tywydd yn ffafriol i'w gwblhau. Cynwysai yr adran hon yr hyn fyddai yn ofynol at ei anfon at y perchenogion tirol i ofyn am eu cydsyniad i fyned yn mlaen, —Sylwodd Mri. Richards, D. G. Jones, E. Roberts, a T. T. Roberts, fod angen mawr am i'r Gwaith fyned yn mlaen gyda chan lleied o oedi ag oedd yn bosibl.—Pasiwyd i'r Cyngor gyfarfod yn bwyllgor ddydd Mawrth i ystyried yr Adroddiad. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mri. A. J. Wright a James Kinna, Trefriw, yn cwyco fod cyrph yn cael eu claddu yn mynwent yr Eglwys wrth'eu tai tra yr oedd' Dr. Frazer wedi ar- gymell ei chau. Ystyrient y dylai y Cyngor gymeryd camrau i atal claddu yno o hyn allan. -Y Cadeirydd a sylwodd mai bai Mr. Wright cedd codi ei dai yn y fan y gwnaeth. Yr oedd y fynwent yn y He o flaen y tai. Nid oedd Mr. Kinna yn cwyno dim wrtho ef ar y mater. Ni fu i Dr. Frazer erioed argymell cau y fynwent.—Y Parch. Henry Jones. addywedodd fod y syniad yn Trefriw fod Dr. Frazer yn argymell peidio claddu yn y fynwent hon. Yr oedd rhai o'r beddi a dim ond dwy droedfedd o bridd ar y cyrph, ac yr oedd yn well gwynebu y peth ar unwaith, gan fod y teimlad yn Trefriw mor gryf ar y mater.—Y Cadeirydd a ddywedodd fod rhywbeth a phobpeth yn cael ei ddefnyddio yn Trefriw os byddai ryw- fodd yn ei erbyn ef yn bersonol. Ni ddylent redeg ar ol pawb waeddent arnynt. Daeth dyn rhyw ddiwrnod i'r Hafod i ofyn am dano, ac aeth ymaith cyn iddo ef ddod i'r ty. Rhedodd yntau ar ei ol, a phwy oedd yn ei cyfarfod ond Bob Tan'reglwys, Llanrhych- wyn. Ac ebai Bob, Peidiwch rhedeg i golli'ch gwynt a phethach, chewch i ddim byd gyna fo. Dyn sal ydi o' Felly, welwch, yr oedd Bob yn gallach na fi oedd yn rhedeg ar ol dyn nad oedd dim i'w gael ganddo er rhedeg ar ei ol (chwerthin).—Y Parch. Henry Jones, ,fl Y mae amryw yn cael eu claddu heb ond ychydig rhwng yr eirch a'r wyneb: gwelais amryw felly fy hunan, ac ni fuaswn i yn dawel os yn byw yn ymyl y fynwent."—Mr. D. G. Jones a ddywedodd iddo yntau glywed yn Maenan fod Dr. Frazer wedi argymell peidio claddu yn y fynwent, fel mai nid siarad pobl Trefriw yh unig yw y peth.-Yr Is gadeirydd a awgrym- odd i'r mater gael ei gyflwyno i'r Swyddog Meddygol a'r Arolygydd i adrodd arno.—Mr. Richards a sylwodd fod yn rhaid cael awdur- dod Bwrdd y Uywodraeth Leol i gau mynwent. —Cadeirydd, "Os cauwch hon yn Trefriw, bydd raid i chwi gysegru darn o'r Gladdfa Gyhoeddus, ac ni bydd gan neb hawl i gladdu yn y darn hwnw heb fy nghaniatad i."— Gofynwyd a oedd Adroddiad Dr. Frazer ar y Fynwent ar gael ?-Y Clerc. 0 ydyw. Bu yr achos o flaen yr awdurdod bwn o'r blaen flynyddoedd yn ol. Y Bwrdd claddu yn Trefriw sydd i weithredu yn y mater. Ar- gymellodd Dr. Frazer y pryd hwnw i beidio agor yr un bedd ner/ydd yn y fynwent, a rhoddai ar ddesll fod Mr. Gower yn cydsynio a hyny. Nid oes a wnelc ni fel Cyngor na'n swyddogion ddim a wnelcm a'r mater hyd nes y gwna y Swyddyg Meddygol adrodd ei fod yn peryglu iechyd y trigolion i gladdu yno. Y Bwrdd Claddu sydd i gymeryd y mater mewn llaw ar wahan i'r peth a nodais, "-Ar gynygiad Mr. D. G. Jones a chefnogiad y Parch. Henry Jones, pasiwyd i hysbysu MrL Wright a Kinna mai i'r Bwrdd Claddu y dylasant anfon eu Uythyr.—Y Cadeirydd (wrth Mr. Henry i-es, Dyna chwi. Chwi yw Cadeirydd y wrdd Claddu.Mr. H. Jones, Nage, Mr. Cadeirydd, nid wyf yn aelod o'r Bwrdd hwnw." Darllenwyd llythyr o Gyngor Plwyfol Dol- wyddelen, yn gofen i'r Cyngor adgyweirio Ffordd Ewybr-nant.—Yr Is-gadeirydd, A'i nid oes gan Gyrgor Dolwyddelen ddigon o waith edrych ar ol eu ffyrdd a'u pethau eu hun- ain heb ymyraeth a ffyrdd Penmachno ?"— Mr. T. T. Roberts a eglnrodd gwrs y ffordd hon.—Yr Arolygydd a ddywedodd i'r mater fod o dan sylw o'r blaen, a bu iddo ef ei cherdded arei hyd y pryd hwnw, ac adrodd arni. Ychydig o ddefnvdd a fyddai pe gwceid hi i fyny, a byddai y gost yn fawr iawn. Ni bu y Cyngor erioed yn ei hadgyweirio, ac nid oedd o dan eu gofal o gwbl.—Mr. Richards a ddywedodd mai eisiau goleu oedd gan Gyngor Dolwyddelen ar y mater: eisiau gwybod yn sicr a oedd yn ffordd blwyf a'i nad oedd.- Mr. Edward Roberts, Nid yw hyny o bwys o gwbl. Y mae ffordd Rhiwbach yn ffordd blwyf, ond gwrthododd y Cyngor hwn ei thrwsio am nad oedd wedi ei chymeryd i fyny ganddynt pan wnaed gyda ffyrdd eraill y Dosbarth. Nid ydym i ofalu and am y ffyrdd gymerasom i fyny."—Pasiwyd i adael y llythyr ar y bwrdd. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. T. M. Pritchard, Bodegroes, Dolwyddelen, yn cwyno nad oedd cyflenwad digonol o ddwfr yn dod at wasanaeth y He.—Mr. Morris, "Faint o wartheg sydd yno?"—Mr. Richards, "Nid oes neb acw yn talu am ddwfr i wartbeg.Mr. Morris, Nid ydynt yn talu ond ryw chwe' phunt i gyd am ddwfr yn Dolwyddelen !"— Mr. Richards a gwynai am ddiffyg y cyflen- wad. Ofnai fod gwaith yr Arolygydd yn cys- yllu yr hen Danycastell ar brtf bibell wedi an- mharu ar y cyflenwad.—Yr Arolygydd a ddy- wedodd nad oedd hyny yn iawn. Yr oedd digon o bwysau dwfr yn Tanycastell: rhwng yno a phont yr Arenig yr oedd y diffyg. Nid oedd mor ddrwg yn Bodegroes ag y dywedid. Yr oedd dwfr yno bob tro y bu ef yn edrych y lle.-Y Clerc a ddarllenodd lythyr oddiwrth bedwar o Dolwyddelen yn cwyno am ddiffyg dwfr, dau yn Cartrefle a dau yn Bronderw.— Mr. Richards a ddywedodd fod cyflwr pethau yn druenus yn Dolwyddelen, ac elai y Cyngor i helbul, a gellid eu herlyn os na wnelent sylw o'r cwynion parhaus ddeuai o'r lie.—Y Clerc' "Na, nid oes berygl felly o. gwbl. Heddyw y daeth y cwynion gyntaf yma, ac y mae y Cyngor yn symud yn mlaen mor gyflym ag sydd yn bosibl gyda'r cyflenwad newydd, Cwyno sydd yn nghylch y cyfleuwad presenol o'r ,cychwyn.Ar gynygiad Mr. Morris a chefnogiad Mr. D. G. Oweu, pasiwyd i'r Arolygydd wneyd archwiliad trwyadl ar y prif bibelli, a'u gosod mewn trefn.—Yr Arolygydd, Y mae y tai hyn (Cartrefle a Bronderw) a thy Mr. Bleddyn Lloyd wedi achosi llawer iawn o boen gyda'r dwfr. Y maeut wedi eu codi ar leoedd rhy uchel i'r dwfr fyned iddynt, a gwneir cam a phawb arall drwy y pentref wrth droi y dwfr iddynt. Nid bai y Cyngor yw y sefyllfa anfoddnaol hon ar bethau, ond eu bai bwy yn codi eu tai o gyraedd y dwfr." Dr. Travis a adroddodd i 10 genedigaeth gael eu cofrestru yn ystod mis Tachwedd, a 5 marwolaeth, ar gyfer 4 genedigreth a 5 marwol- aeth yn Nbachwedd- y flwyddyn cynt. Yn Rhagfyr cofresrwya 9 genedigaeth a 9 marwol- aeth, ar gyfer 8 gegedigaeth a 5 marwolaeth yr un mis y flwyddyn cynt. Anfonodd Mr. Jarrett Evans, gof, Penmach- no fil o 10/ am le offerynau y Cyngor o Tach- wedd hyd Mai, ac oni thalai y Cyngor yr arian ar unwaith y gwysid hwy.—Y Clerc a ddywed- odd i'r Arolygydd symud y pethau perthynol 1:r Cyngor o Efail Jarrett Evans yn Tachwedd a tbalu lo/- am en Ile i fyny hyd byny. Nid mater o rent ydoedd, ond cydnabyddiaeth am le y pethau. Yr oedd Evans wedi bod yn gof- alu am y Gwaith Dwfr yn Painmachno.-Cad- eirydd, Y mae ei lythyr yn un brwnt ac an- heilwng iawn."—Mr Morris, Bu yn offeryn i beri trafferth fawr i ni gyda Gwaith Dwfr y Cwm, a chostiodd hwnw tua tri chant o bunau mwy nag a ddylasai o'r aches. 'Symudwyd y pethau o'i efail am fod y llwch yno yn eu di- fetha. Cafodd Hose' gwerth saith punt ei difethayno."—Mr. E. W. Roberts," Yr wyf yn ystyried Jarrett Evans braidd yn ddigywilydd gofyn yr arian. Pe wedi gofalu fel y disgwyl- iem iddo buasai wedi arbed llawer i ni."—Wedi siarad pellach, gadawyd y mater yn Haw y Clerc a'r Arolygydd. Yr Arolygydd a adroddodd am y Clefydon a nodwyd yn y Dosbarth, a'i fod wedi tori y bibell ddwfr osodwyd i'r Ysgol Newydd yn Penmachno heb ganiatad, ar ddydd lau. Yr Is-gadeirydd a adroddodd am waith y Ddirprwyaeth o aelodau lleol Penmachno a'r Arolygydd yn nglyn a ffordd Rhydymeirch. Cawsant fod tua chwe' chant yn gwneyd defnydd dyddiol o'r ffordd hono. Oherwydd bod yr afon wedi newid ei chwrs yn y He, a bod gwely hono wedi bashau, yr oedd ar lifog- ydd yn codi dros y ffordd nes ei gwneyd yn anrhamwyadwy. Byddai i'r Arolygydd osod cynllun o'r hyn oeddynt hwy yn feddwl fuasai yn gwneyd i fifwrdd ag achos y gwyn.—Yr Arolygydd a roddodd blan o'r lie. Golygid unioni cwrs yr afon, a gwnelai hyny i ffordd a'r gorlifiad dros y ffordd. Byddai y draul yn £ 25 15s Oc.-Mr. Edward Roberts a ddywedodd fod tenant y tir wedi amlygu ei barodrwydd i wneyd pobpeth i hwyluso y gwaith.—Mr. Morris a eglurcdd fod tna chan' Hath o bobtu i'w darn ffordd hwy yn perthyn i'r Cyngor Siro!, a gorlifid y darnau hyny hefyd fel y dylai y Sir eu cyfarfod gyda dwyn rhan o'r draul gyda'r gwaith.— Pasiwyd i aros am atebiad Goruchwylydd Arglwydd Penrhyn cyn symud yn mhellach gyda'r mater.—Mr. E. W. Roberts, Mae y lie yn hynod o anghyflcus i'r plant fyned i'r ysgol a dynion at eu gwaith fel y mae yn awr, a beadilh fawr fyddai gwella pethau."

Llyfrau Newydd. I

[No title]

TYNGED ALARUS HARRY B.I WILLIAMS.

BWRDD Y GWARCHEIDWAID,I PENRHYNDEUDRAETH.

Brawdlysoedd Aifon a Dinbych.

BLAENAU FFESTINIOG.

Family Notices