Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
GENT'S & BOY'S NEW SLOUCH (TWEED) HATS, Latest Shapes and Mixtures at 1/11, 2/6, 2/9, and 3/6 each. Boys' Slouch Hats 1/-each. Little Girl's Serge tiats 1/1 each., in Green, Brown, Navy, and Cardinal. The above are quite the correct thing for the NEW YEAR. Buy NOW at SHOP-YR-ERYR, Church Street, Blaenan Ffestiniog, | AND Shop tsaf, maentuwog SYLWER.—Gyda phob PWYS o DE TWROG 1/6 y pwys, a THE DERFEL 2/- (y telir am dano ar y pryd), rhoddir Calendar am 1909, neu Blotting Pad yn anrheg o hyn i nos Sadwrn, lonawr y 9fed, 1909. RHAGFYR 16eg, 1908. THOS. ROBERTS, Ar 'lk MAYPOLE v  w m BU Ft n THE VERY BEST, only A LB. QUALITY GUARANTEED PERFECT AS ALWAYS. 10 Made under the Supervision of our own Experts. Direct from the Dairies to our 600 Branches. MikYomOLE PfllRV COMPANy, LTD. 12, Church Street, Blaenau Ffestiniog. The Largest Retailers of choicest quality Butter, Tea, and Margarine in the Kingdom. A A ?,W F ^iLL BE HELD AT ASSEMBLY ROOMS, BL. FFESTINIOG, On Tuesday, February 9th, 1909, BY miss MARIE NOVELLO WILLIAMS (The BRILLIANT SOLO PIANIST), (Pupil of Madame Clara Novello Davies and Herr Letchetefsky, Vienna). Assisted by the following Artistes:— Soprano :-Miss ELIZABETH HALL, Burry Port, Cardiff. National Eisteddfod and Champion Prize Winner). Contralto := Miss WINIFRED LEWIS, Senghenydd, Cardiff, Winner of every possible Prize at the last two National Eisteddfodau. From the Queen's Hall, the Albert Hall, and St. James Hall Concerts, London. Baritone :-Mr. WILLIAM KENWAY, Birmingham. Accompantsti-Mtss BLANCHE JOHN, Dinas Powis, Cardiff. Chairman:- F. P. DODD, Esq., M.A. A "GRAND" PIANOFORTE will be sent especially for these Recitals by Messrs. THOMSON & SHACKELL, Ltd., Cardiff. Proceeds in aid of English Presbyterian Church, "CAEL YN OL YR- IIYN GOLLWYD. SPE-CTOLS DIGURO. YN OL YR HYN GOLLWYD." PAN y byddwch mewn angen SPECTOL HARDD DDIGURO i siwtio eich golwg, ewch ar unwaith at yr EYESIGHT-TESTER WM. THOMAS JONES, Watchmaker and Optician, 2, NEWBOROUGH BUILDINGS, | BLAENAU FFESTINIOG, fi i gael gweled y GWYDRAU a'r FRAMES hardd sydd ganddo ef ar law bob amser. Mae > y galwadau eithriadol sydd wedi bod ar ei > LENSES y flwyddyn ddiweddaf, yn brawf di- v gamsyniol o'i fedrusrwydd yn y gelfyddyd o < (-Ms ? BROFI Y GOLWG. > Y mae W. T. J. yn barod bob < JW ? < amser I bro? golwg pawb ewyn- ? ysial dalu ymweHad ag ef yn { PROFI Y GOLWG. > bmaw* > KM?E?).. < a chofied pawb a berthyn iddynt 8 I wybod, fod y golwg yn llawer I rhy bwysig a gwerthfawr I gell- 1 wair ag ef. I Cofiwch y Cyfeiriad WM. THOMAS JONES, Watchmaker and Optician, 2, Newborough Buildings, Blaenau Ffestiniog,
l,AT EIN ,GOHEBWYR.
l AT EIN GOHEBWYR. Adolygiadau Crist a Chwestiynau'r Dydd," (parhad), "Y Ddiwinyddiaeth Newydd," (Parch. Henry Jones). "Cymru," "Y Traeth- odydd," a'r "Llusern," allan yr wythnos hon o ddiffyg He.
I NODIADAU WYTHNOSOLI
I NODIADAU WYTHNOSOL I Twrci ac Awstria. Er nad oes eto sicrwydd llawn y daw Twrci ac Awstria i gytundeb ynglyn a gwaith Awstria yn eymeryd meddiant llawn o Bosnia a Herjegovini y rhai oeddynt eisoes dan ei nawdd, y mae yn debygol i'r eithaf mai cytuno a wnant. Nid yw bellach ond mater o arian. Y mae Awstria yn barod i dalu iawn arianol am y golled i Twrci, ac y mae hithau wedi dangos ei bod yn foddlon i dderbyn iawn yn y ffurf hono. Swm yr iawn yn unig sydd mewn dadl. Nid oes gan Awstria, a dywedyd y lleiaf fwy na digon o drysor yn ei choffrau, ac y mae gan Twrci lawer Hai na digon i gyfarfod a'r gofyniadau, yn enwedig pan y mae yn gwneyd parotoadau ac iyn tynu allan gynlluniau i ad-drefnu a chryfhau ei byddin a'i llynges. Ond y mae pob rheswm dros gredu y llwyddir igaelgan- ddynt i "ranu yr ymrafael." Er £ od Servia yn parhau i fygwih, a Montenegro ymladdgar i chwythu celanedd, y maent hwy gyda'u gilydd yn rhan wan i feddwl am ryfela yn erbyn Awstria wrthynt eu hunain. Ped aethai Twrci i ryfel yn yr achos, gallasent estyn cymorth sylwedd ol iddi, ond gan nad yw hi yn awyddus i ddadweinio'r cledd, ofer fyddai iddynt hwy feddwl am wneyd hyny. Felly y mae parhad heddwch ychydig yn sicr.
Ymchwiliad mewn pryd. I
Ymchwiliad mewn pryd. I Hysbysir fod Canghellydd y Trysorlys I wedi penodi pwyllgor bychan i edrych i fewn i weinyddiad Cyfraith Blwydd-dal, er mwyn gweled pa gyfnewidiadau y dylid ac y gellir eu gwneyd ynddi. Mae'r pwyllgor eisoes wedi dechreu ar ei waith, a disgwylir yceir ei adroddiad ymhen ychydig wythnosau. Da yw hyn. Dengys fod Mr. Lloyd George yn awyddus iawn i berffeithio'r gyfraith yn mhob modd sydd yn bosibl, ac y mae rheswm yn dywedyd fod llawer rhyng- ddi a bod yn berffaith. Y mae y teim- lad cryf fod yr adran sydd yn difreinio rhai o herwydd derbyn o honynt gym- orth plwyfol yn gwasgu mewn modd abymunol iawn, os nad anghyfiawn hefyd, ar lawer o bersonau gwir deil- wng- Heblaw hyny cred llawer fod eisieu newid y gyfraith cyn belled ag y mae yn gosod rhai ag y mae ganddynt ganoedd lawer o bunau wedi eu rhoddi o'r neilldu ar yr un tir a'r rhai nad oes ganddynt ychydig neu ddim. Yn ngwyneb bwriad àmlwg Canghellydd y Trysorlys i "wella" y gyfraith lie y dangosir fod angen am ei gwella, dylai ei phleidwyr roddi iddo bob cefnogaeth foesol, a dylai y rhai sydd-yn ei gweled yn ami ei beiau roddi amser rhesymol a phob chwareu teg i wneyd i gyfraith dda hon- yn well fyth. ■
Clod i'r hwn y mae clod yn…
Clod i'r hwn y mae clod yn ddy-I iedus. Rhoddodd y ddaeargryn ofnadwy a dinystriol a gymerodd Ie yn yr Eidal achlysuri Frenin a Brenines y wlad hono, ddangos o fath ba yspryd y maent. Y mac yn yspryd rhagorol a gwir frenhinol, ac nid ddylid bod yn hwyrfrydig i gyd- nafeod hyny. 0 ba radd by nag y bo dyn pa un bynag ai gwreng ai bonedd fyddo, a pba un bynag ai mewn palas gwych ai mewn bwthyn bychan y byddo yn trigo, dylid rhoddi iddo y clod a fo'n ei baeddu Nid cynt y gwybu y Brenin Vietor Em- anuel a'i Frenhines beth oedd wedi digwydd nag y brysiasant i'r lie. Ym- daflodd ef a'i boll egni i gydweithio a'r rhai oeddynt yn ciisio gwaredu y truein- iaid oedd wedi eu clwyfo ac mewn per- ygl o gael eu lladd, a dangosodd y Fren- hines fod ganddi galon ddewr a thyner trwy weini arnynt a'u hymgeleddu. Profodd ei bod yn weinyddes fedrus iawn Heblaw hyn mae'r Brenin wedi cyfranu £ 50,000 tuag at gronfa gynorthwyol. Tuag wythnos yn ddiweddarach daeth dydd pen blwydd y Frenhines. Gwnaeth gais taer (ond yn gryfach na gorchymyn) at awdurdodau cyboeddus a holl bobl y wlad i beidio ei ddathlu mewn un modd ac erfyniodd arnynt gyflwyno yr arian yr oeddynt wedi bwriada eu gwario felly i'r drysorfa gynorthwyol. Mae'n ddiameu genym mai teimlad tosturiol pur a gymellodd y ddau i wneuthur fel hyn, ac nad oes ganddynt unrhyw am- can mewn golwg ond lleddfu poenau di- oddefwyr a chysuro galarwyr. Er hyny —yn wir, am hyny,—bydd yn foddion effeithiol iawn i gadarnhau eu gorsedd, ac i'w gwneyd yn anwyl iawn gan eu deiliaid. Nid anghofir yr hyn a wnaeth- ant,ac yn parhau i'w wneyd, tra fyddant byw-
Cytundeb Rhagorol.
Cytundeb Rhagorol. lrwy ymdrechion Mr. A. Wilkie, A.S. (Cynrychiolydd Dundee) yn benaf y mae cytundeb o'r pwysigrwydd mwyaf rhwng Gymdeithas Adeiladwyr Llongail a chwech-ar-hugain o Undeban Llafur newydd gael ei harwyddo. Cynrychiola, yr Undebau Llafur bob dosbarth o grefftwyr ag y mae iddynt ran yn y gwaith o adeiladu llongau. Darpara y cytundeb fed pob anghydwelediad Ineu anghydfod a gyfyd rhwng y pleidiau i gael ei gylfwyno i,a'i ystyried a'i ben- derfynu gan Fwrdd Cyflafareddol a, ffurfir yn ddioed yn ol y trefniant sydd wedi ei dynu allan. Gan y bwrdd hwn y penderfynir pa gyflogau a delir o bryd i bryd i'r dosbeirth gwahanol o weith- wyr, ynghyda phob mater arall a gyfyd rhwng y meistri a'r gweithwyr. Atalia, hyn gloi allan a sefyll allan yn mhob achos, oni fydd y Bwrdd cyflafar- eddol wedi ffaelu dyfod i gytundeb i gyt- undeb yn ei gylch. Gobeithiwn y dil- ynir yr esampl wir dda hon gan luaws mawr o weithwyr a meistri yn mhob rhad o'r deyrnas, oblegid ni ddichon dim ond lies ddeilliaw o hono i'r cyflogwyr ac i'r cyflogedig, ac i gymdeithas yn gyfiredinol.
Arweinydd Doeth.
Arweinydd Doeth. Er nad oes cymaint o son am Mr. Henderson, A.S., ag sydd am lawer o ddynion llai a salach nag ef, y mae yn meddu i fesur llawn y cymhwysderau sydc yn angenrheidiol i un yn dal y swydd a ddelir ganddo ef—swydd bwys- ig arweinydd Plaid Llafur yn Nhy'r Cyffredin. Y mae cuddiad ei gryfder yn ei bwyll a'i ddoethineb a'i arafwch. Yr hyn sydd wedi rhoddi achlvsur i ni grybwyll am dano ydyw araeth a dra- ddododd yn Leigh dydd Llun diweddaf. Ynddi dangosodd waith mor fawr ac mor dda sydd wedi ei wneyd gan Blaid Llafur, a chwalodd y cyhnddiadau a ddygir yn ei herbyn gan yr ad ran eith- afol o Sosialwyr ei bod wedi bod yn ddi- fater ac yn ddiystyr o fuddianau a hawl- iau gweithwyr. Llwyddodd i wneyd hyn yn hynod effeithiol heb ymffrostio yn ffol na dweyd gair yn amharchus am neb. Deil ei araeth gydmariaeth ffafriol iawn ag areithiau Mr. Keir Hardie, gwr sydd yn tynu-oddiwrth werfch ambell i araeth ragorol o'i eiddo trwy draddodf un ffol iawn yn fuan ar ei hoi; ac y mae cymaint o wahaniaeth rhwng ei araeth ef ac areithiau Victor Grayson ag sydd rhwng doethineb berffaith a ffolineb noeth. Mae gan y Blaid Llafur achos i ymddiried ynddo ac i fod yn falch ohono.
Yn Mhlaid Heddwch.
Yn Mhlaid Heddwch. Cytundeb yn mhlaid heddwch ydyw'r cytundeb rhwng Prydain Fawr a'r UnoI Dalaethau ac yn awr yn barod i gael ei arwyddo. Y mae a wnelo a rheolaeth ac arolygiaeth y llynoedd mawrion sydd. yn ffurfio rhan helaeth o'r terfyn rhwng yr Unol Daleithau a Canada. Er y clywir gorm6d o son am ryfel yn mhob gwlad o'r bron, a bod nifer y gwyr sydd. dan arfau yn feunyddiol yn fwy nag er- ioed, y mae i'w gweled, arwyddion lied sicr na fydd o hyn allan gymaint o dy- wallt gwaed ag a fu yn yr amser sydd wedi myn'd heibio. Yn raddol-ac nid yn araf, ond yn weddol gyflym--y mae trigolion gwledydd gwahanol yn dysgu edrych ar eu gilydd nid fel gelynion ond fel brodyr, a hyn yn unig sydd yn ang enrheidiol i'w dwyn i weled mor afres- ymol ynddynt ydyw brysio i fygwth eu gilydd ac i son am ryfela yn erbyn eu gilydd- pa bryd bynag y byddant yn ffaelu gweled lygad yn llygad ynghyich rhyw fater pwysig neu ddibwys.
U Ni bydd."'O'*-I
U Ni bydd." 'O' Barnodd Arglwydd-Faer Caerdydd yn ddoeth ohirio hyd amser anmhenodol y t