Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
CYNGOR DINESIG LLANRWST. I
CYNGOR DINESIG LLANRWST. Cyfarfu y Cyngorwyr canlynol nos Wener yn eu hystafell yn y Neuadd Drefol, Mri. Wil- liam Hughes {Cadeirydd); Parch. W. Cynwyd Williams; W. J. Williams; T. Rogers Jones; D. J. Williams; William Davies; Griffith Jones; Albert Hughes; Arthur Parry; R. R. Owen (Clerc); Thomas Hughes (Clerc Cynorthwyol) George Wynne (Arolygydd); ac Evan M. Jones (Tretbgasglydd). Pwngc y Stalls. Adroddodd y Cadeirydd i'r PwyHgor gyfar- fod i ystyried beth ellid ei wneyd er cael gwell trefn gyda'r stalls ar y Sgwer, ond teimlent fod y mater yn un rhy anhawdd iddynt hwy eu drafod, a phenderfynasant ei drosglwyddo i'r boll Gyngor.—Mr. Albert Hughes a ddywed- odd ei fod yn gwbl foddhaol i'r Cyngor ei drafod.—Mr. D, J. Williams a olygai y dylai y Cyngor ei drafod.—Mr D. J. Williams a olygai y dylai y Gyngor dynu allan fath o gynllun elfenol i'r pwyllgor i'w drafod.—Awgrymodd Mr A. Hughes i Gyngor Arbenig gael ei alw i ystyried y mater.—Y Cadeirydd a ddywedodd y gelwid Cyngor Arbenig yn fuan i bwrpas arall, a byddai yn fuddiol cymeryd y mater hwn hefyd yr un pryd.—Cydsyniwyd a'r aw- grym, a phasiwyd yn unol a hyny. Lladrata Lamp. Yr Arolygydd a adroddodd i rywun dynu y lamp oedd yn y Troethai yn Station Road gyda grym, a'i Iladrata.-Ar gynygiad y Parch. W. Cynwyd Williams, a chefnogiad Mr. William Davies. pasiwyd i alw sylw yr Heddlu at y r,nater.-Dywedodd yr Arolygydd fod y Lamp yn un hawdd ei hadnabod gan ei bod o gynlluu neillduol. I Plan. Pasiwyd cynllun o eiddo Mr. A. Morley Jones, cynllunydd, i wneyd cyfnewidiadau ar Pias-yn-Dre Lodge. Clirio Eira. Y Cadeirydd a eglurodd iddo roddi awdur dod i'r Arolygydd gyflogi dynion a throliau glirio yr eira oddiar yr heolydd ar ol yr ystorm fawr a gafwyd.—Cymeradwyodd y Cyngor y CWlS a gymerodd y Cadeirydd yn y mater. Lie Peryglus. Mr. Griffith Jones a alwodd sylw at y Man- hole peryglus oedd ar y Square, ac yr oedd dyn wedi syrthio arno a'i gaethiwo i'w wely am ddyddiau.—Yr Arolygydd a ddywedodd mai y ffordd oedd wedi treulio yn y lie fel ag i beri ei bod ychydig is na'r Manhole. Gwnelid Y He yn wastad yn mhen ychydig ddyddiau. Y Goleuni Cyhoeddus. Mr. T. R. Jones, Arolygydd y Goleuni Cyhoeddus a ddywedodd iddo wylio pob lamp yn y dosbarth bob nos yn ystod y pedwar mis basiodd, a chyda'r eithriad o un gwyn ar Medi 13, cafodd bobpeth yn hollol foddhaol. Pan tyddai yn adrodd am unrhyw ddiffyg, byddai Rheolwr y Gwaith Nwy yn cymeryd sylw uniongyrchol o'i adroddiad. Yr oedd y Cwmni yn cael diwrnod o amser at wneyd unrhyw ddiffyg i fyny. Crybwyllai hyny er mwyn i'r Aelodau Newyddion ar y Cyngor wybod y trefniadau.—Mri. A. Hughes a G. Jones a sylwasant fod y Mantles ar rai o'r lampau allan o drefn, a bod cerddoriaeth i'w gael ar y Sgwer trwy y Nwy.—Mr. T. R. Jones, "Ond cerddoriaeth allan o amser ydoedd, ac y mae yn awr wedi ei droi yn Nwy" (chwerthin). Yr oedd ef wedi cael llawer o gynorthwy i gael hyd i ddiffygion ar rai o'r lampau gan Mri. T. Rogers Jones, W. Wil- liams, D. J. Williams, a W. Davies, a byddai yn ddiolchgar am gynorthwy pellach gan yr Aelodau eraill.—Pasiwyd i Mr. Jones gvnwys y lampau yn y Troethai yn mhlith y rhai y Sofalai am danynt. Y Prif Ffyrdd. Y Clerc a adroddodd iddo dderbyn y swm o £ 191 18s Ic o'r Cyngor Sirol at gadw y ffyrdd tnewn trefn yn y Dosbarth. Tori a Chario Cerig, Ar gynygiad Mr W. J. Williams, a chefnog- i. ad Mr A. Parry pasiwyd i gario y cerrig yllynt wedi eu tori yn Parry's Street wrth y dydd. Adroddodd y Clerc fod dros 570 tunell o gerrig wedi eu cael o Chwarel Caecoch, a bod o 12 i 13 o ddynion wedi cael eu cyflogi i'w tori am tua 11 wythnos.-Pasiwyd i brynu rliagor o gerig i'w tori er mwyn rhoddi gwaith t r rhai diwaith yn y dref. Meddygol. Dr. Travis a adroddodd i 3 genedigaeth a 4 marwolaeth gael eu cofrestru yn y Dosbarth ystod mis rhagfyr. Cyngor Arbenig. Paslwyd i ystyried y mater o ad-drefnu cyflog y Clerc mewn Cyngor Arbenig, a'r un modd adroddiad Dr. Travis ar Dai Gweithwyr y Dref.—Yr oedd cais wedi tlqd oddiwrth Mr. G. R. Jones, Bodeifion, am li'r carthion gael eu clirio yn wythnosol eddiwrth ei dy. Yr Arolygydd k ddywedodd fod hyny yn anmhos- ibl heb daflu y trefniadau presenol i anrhefn. Cyfiwynwyd y mater i'r Cyngor Arbenig Gwaliau. Y Clerc a hysbysodd iddo weled Mr. Adams yr Aroiygydd Sirol, yr hwn a'i hysbysodd fod y Cyngor am osod at-glawdd (fence) wrth Felin Ucha, ac adgyweirio y wal wrth St. Mary. Y Gongl wrth yr Orsaf. Darllenwyd llythyr oddiwrth MrL Fletcher a Chrisholm, yn cynyg plann y gongl wrth y fynedfa i'r Orsaf gyda bythol-wyrddion a gof- alu am eu cadw mewn trefn, ar yr amod eu bod yn cael gosod Hysbys-fwrdd wrth fur y Ile.-Ar gynygiad Mr. W. J. Williams a chefn- ogiad Mr. A. Hughes, pasiwyd i ohirio y mater He?—AMr r? i'r Clerc gael edrych i mewn i bwngc yr Hysbys-fyrddau. I Tymor Pysgota Eogiald. I Pasiwyd penderfyniad cyfystyr ag eiddo Cyngor Bettwsycoed i wneyd cais at y Bwrdd Pysgota i gadw y tymor Pysgota Eogiaid yn agored hyd Tachwedd 14 fel yr arferai fod. Trethu Gwerth Tirol. I Ar gynygiad y Parch. Cynwyd Williams, pasiwyd i gefnogi deiseb Corphoraeth Glasgow i wneyd cais at Ganghellydd y Trysorlys i ddodi trethiad ar werth tirol (land values) yn ei Gyllideb nesaf. i Arianol. I Pasiwyd i dalu biliau i'r swm o J354 15s lO!c, yr hyn a adawai weddill yn ffafr y Cyn- gor o £ 473 5s ztc. Casglwyd y swm o £ 73 13s 10c, yn ystod y mis —Rhoddwyd awdurdod i'r Trethgasglydd wysio y rhai oeddynt ar ol gyda'u tretbi.
Dal Lleidr yn Llanrwst. t
Dal Lleidr yn Llanrwst. t Am gryn amser yr oedd man ladrata yn myned yn mlaen yn Llanrwst, gan beri gryn anghysur i'r ardalwyr, ond llwyddodd yr Heddgeidwad J. Jones i ddod ag uno'r lladron i'r ddalfa. Boreu ddydd Iau, o flaen Dr. T. E. Jones, O. Isgoed Jones, William Hughes, a L. O. R. Ashley, Ysweiniaid, yr Heddgeidwad J. Jones a gyhuddodd Hugh Parry, River Terrace, Llanrwst, o ladrata cynfas gwely gwerth tri. swllt. Mrs. Chambers, Poplar Grove, a dystiodd iddi roddi llonaid line o ddillad i sychu ddau o'r gloch ddydd Mawrth. Aeth i feddwl eu casglu cyn myned i'r Capel, ond gan eu bod yn rhy wlybion gadawodd hwynt hyd nes y deuai adref o'r Capel. Tua haner awr wedi naw canfu fod un o'r cynfasau wedi eu lladrata. Yr oedd yn sicr mai ei heiddo hi oedd yr un ddangosid yn y Llys, ac yr oedd yn werth tri swl't.-Grace Jones, Heol Scotland, a dystiodd ei bod yn cadw Llety Cofrestredig. Daeth y carcharor i'w thy tua haner awr wedi saith nos Fawrth, a chynygiodd gynfas ar werth. Dywedodd mai newydd ei golchi yr oedd ei wraig, ac mai dyna sut yr oedd yn wlyb. Yr oedd ef yn awyddus i'w gwerthu er mwyn cael rhywbeth i'w blentyn oedd o dan y Frech Goch. Gan ei bod hi yn gwybod fod y plentyn yn sal credodd qi stori a thalodd swllt iddo amy gynfas.— Yr Heddgeidwad J. Jones a dystiodd iddo fyned i dy Grace Jones nos Fercher tua haner awr wedi chwech y nos, a gofynodd a oedd hi wedi gweled rhywun yn cynyg cynfas ar werth, ac atebodd had oedd. Yna gofynodd iddi a'i nid oedd hi wedi prynu un y noson cynt, a daliodd hithau i wadu, a'i bod allan o'r ty yr amser hono yn gwyngalchu y ty newydd oedd ar fin symud iddo. Edrychodd ef trwy y ffenestr fechan oedd yn y mur rhwng yr ys- tafell a'r gegin. Sylwodd fod cynfas o flaen tan y gegin yn cael ei sychu, ac aeth i'w har- chwilio. Canfu ol dwylaw ar y gynfas, a'i bod wedi syrthio ar y ddaear. Cododd hyny ei amheuaeth, ac aeth at Grace Jones drachefn, ond parhaodd hono i wadu. Yna gadawodd y ty er mwyn cael desgrifiad manylach o'r gyn- fas, a pnan ddychwelodd i dy Grace Jones, cafodd fod y gynfas wedi ei symud oddiwrth y I tan, ac un arall wedi ei dodi yn ei lie. Siar- adodd a Grace Jones yn nghylch y peth, a dywedodd hithau fod yn ddrwg iawn ganddi, a'i bod wedi anghofio iddi brynu y gynfas. Yna aeth ei mherch i ganol pentwr o gelfi yn y shop, a daeth a'r egynfas ddangosid i'r Llys oddiyno. Eglurodd Grace Jones iddi ei phrynu gan y carcharor am swllt. Yna cymer- odd y carcharor i'r ddalfa, a phan gyhuddodd ef, ni ddywedodd ddim mewn atebiad. Addefodd y carcharor ei euogrwydd.—Yr Uwch-Arolygydd Woolam, mewn atebiad i'r Faingc a dystiodd fod hwn y degfed tro a'r hugain i'r carcharor fod yn y Llys.-De-dfryd- wyd ef i dri mis o garchar gyda llafur caled,- Yr uwch- Arolygydd a alwodd sylw y Faingc at ymddygiad anfoddhaol Grace Jones, ac os rhoddid iddo y gallu byddai iddo gymeryd cwrs yn ei herbyn am dderbyn eiddo lladrat- edig. Yr oedd ymddygiad fel ei heiddo hi yn ei wneyd yn hynod o anhawdd i'r Heddlu allu gwneyd ymchwiliad i achosion. Gobeith- iai na chaniatai y Faingc ei chostau fel tyst yn yr acbos. Y Cadeirydd a alwodd Grace Jones i'r box, a dywedodd wrthi iddi wneyd peth hollol anheilwng, ac os byddai yn nglyn ag achos cyffelyb eto y cymerid cwrs yn ei herbyn, ac yr oedd yn ei rhybuddio na byddai i'w hymddygiad gael ei oddef eto. Yr oedd y Faingc hefyd yn gwrthod rhoddi iddi ei chostau.—Grace Jones, Ni wnaf byth brynu dim gan bobol fel hyn eto
Cyfiwyno Tystebau yn Llanrwst.
Cyfiwyno Tystebau yn Llanrwst. Tysteb Mr. J. LI. Evans. I Cymerodd y seremoni ddyddorol o gyflwyno Tysteb i Mr. J. Ll. Evans, mab Mr. Thomas Evans, Gwydr Cottage, a chyn-glerc Gorsaf Llanrwst, le y nos Lun o'r blaen yn Ystafell y Cyngor Dinesig, o dan lywyddiaeth Mr. H., J. W. Watling, u.H., pryd yr oedd nifer dda o brif fasnachwyr y dref yn bresenol. Bu Mr. Evans yn Booking Clerc yn yr Orsaf am wyth mlynedd, ac enillodd gymeradwyaeth gyffred- inol trwy ei ddull boneddigaidd a chymwynas- gar o ymddwyn at bawb ddeuai i'r orsaf i wneyd busness. Pan ddeallwyd am ei benod- iad yn Booking Clerc i Orsaf Caergybi, bu i'r ardalwyr deimlo y dylent roddi arddangosiad o'u cymeradwyaeth o'i waith, a'u gofid o'i golli o'i plith, a dewisiwyd Mr. J. M. Williams yn Drysorydd, a Mr. J. Latimer Jones yn Ysgrifenydd y mudiad i'w anrhegu. Cafwyd anerchiadau dyddorol nos Lun, a phawb yn siarad yn uchel iawn am wasanaeth Mr. Evans i'r cyhoedd tra yn ei swydd yn yr Orsaf. Cyfranodd dros 70 at yr anrheg. Cyflwynodd Mrs. J. M. Williams yr anrheg o oriawr aur gwerth ;621.-Cydnabyddodd Mr. Evans mewn modd diolchgar ac hapus y teimladau da ddangosid tuag ato. Gadawai lu o gyfeill- ion ar ei ol yn Llanrwst.- Treuliwyd cyfarfod difyrus ac adeiladol, a diweddwyd gyda diolch i swyddogion y mudiad a cbadeirydd y cyfar- fod. Tysteb y Parch. W. Cynwyd Williams. I Ar derfyniad y cyfarfod gweddi nos Fawrth yn Nghapel y Tabernacl, llanwyd yr adeilad eang, pan yr oedd y Parch. W. Cynwyd Wil- liams, y gweinidog yn cael ei anrheg. gan eglwysi y Tabernacl a Nantyrhiw, ac Eglwysi Ymneillduol y dref, ar derfyniad ei ugain mlynedd o Weinidogaeth yn eu mysg. Yn ystod yr amser bu Mr. Williams yn hynod ymroddol gyda phob mudiad daionus yn y dref a'r ardal, a gwerthfawrogid ei weinidog- aeth nid yn unig gan eglwysi ei ofal, ond gan eglwysi yr holl enwadau yn y cylch. Cymer- odd ran flaenllaw yn y symudiadau lleol, ac y mae yn aelod gwerthfawr ar y Cyngor Dinesig, ar Fwrdd Addysg y Dosbarth, yn un o Reolwyr yr Ysgol Eglwysig, ac hyd yn ddi- weddar yn Gadeirydd Cymdeithas Ryddfrydol Llanrwst. Yn yr holl gylchoedd hyn gwnaeth argraff dwfn ac arhosol. Tua blwyddyn yn ol bu raid iddo fyned o dan law-feddygiaeth bwysig, ac yn ffodus bu hono yn Ilwyddianus fel ag y mae wedi adnewyddu mewn iechyd a nerth. Bu cyfnod ei waeledd yn un o bryder mawr i'w eglwys, a mawr oedd y cydymdeim- lad ag ef trwy yr holl gylch, a'r llawenydd ar ei adferiad. Wedi i eglwysi y dref ddeall fod eglwys y Tabernacl a'r Rhiw am gyflwyno anrheg iddo, gofynasant am gael ymuno yn y mudiad, yr hwn gynvgiad a dderbyn- iwyd yn ddiolcbgar. Daeth y tystysgrifiadau i mewn yn lluosog a chalonog. Cymerodd yr anrhef y ffurf o bwrs yn cynwys £ 66 lis 3c ac Anerchiad wedi ei oreuro cyfanswm y tan- ysgrifiadau oedd £74 115 6c. Yr oedd yr Anerchiad yn un nardd iawn wedi ei gynllunio a'i weithio allan gan Mr R. Parry, Bourne, gynt o Gaernarfon. Yr argraff arno oedd :— Anerchiad cyflDedig gyda phwr.s o aur i'r Parchedig William Cynwyd Williams, gweinidog yr Annibynwyr yn y Tabernacl a- Nant y Rhiw, Llanrwst. Anwyl Frawd,—Ar orpheniad ugain mlyn- edd o wasanaeth gwerthfawr fel gweinidog. yr ydym yn cymeryd mantais ar y cyfleusdra i gyflwyno i chwi yr anerchiad hon ar ran yr eglwysi uchod, ynghyd a nifer luosog o gyfeill- ion eraill yn y dref a'r ardal, fel rhyw arddan- gosiad fechan o'n hedmygedd o honoch. Gall- wn eich sicrhau fod y gwaith gyflawnwyd genych fel bugail, er yn ami yn ngwyneb llawer o anhawsderau, wedi gadael ei argraff er daioni ar genhedlaeth gyfan yn y cylch, a bod eich gweinidogaeth dan fendith yr Ar glwydd wedi bod yn argyhoeddiadol i'r byd, ac er adeiladaetb i'r saint. Yr ydych wedi llanw eich safle fel un o arweinwyr crefyddol a moesol yn ein plith i'r ymylon. Cydnabyddwn yn rhwydd ein rhwymedigaeth i chw'i am eich gwasanaeth ar ein byrddau cyhoeddus a'n cynghorau, yn enwedig felly ynglyn a chwestiwn addysg. Yr ydych wedi gofalu am fuddianau uchaf yr ardal, a gwncuthur pob peth a allasech i godi a dyrchafu moesoldeb a rhinwedd yn y dref a'r amgylchoedd. Wrth gyflwyno i chwi yr anerchiad fechan hon dymunwn i chwi flyn- yddau lawer o iechyd corph a nsrth meddwl i wasanaethu eich Harglwydd eto yn ein plith, a gweddiwn ar i'ch gwaith yn y dyfodol fod er bendith i lawer o'ch cyd-ddynion, ag yn ogon- iant i Ben Mawr yr Eglwys. Arwyddwyd dros y Pwyllgor, W. J. Williams, Llywydd E. Mills, Trysorydd; W. G. Owen a William-Hughes, Ysgrifenyddion. Arwyddwyd dros Eglwys y Tabernacl gan John Berry a William Davies, a dros Eglwys Nant y Rhiw gan John Davies a Robert Roberts. lonawr, 1909." Llywyddwyd y cyfarfod gan Mr. John Berry, Diacon hynaf yr Eglwys. Cyfeiriodd ¡ at weinidogion blaenorol yr Eglwys, sef Lewis Everett, Peter Griffith, Azariah Shadrack, Ishmael Jones, W. Williams (Caledfryn), Thomas Roberts (Scorpion), H. Ifor Jones, ac nid y lleiaf, Mr. Cynwyd Williams, pregeth gyntaf yr hwn a gofiai yn dda. Gwasanaeth- odd hwy yneffyddlon a gonest am 21 mlynedd. Y Parch. William Thomas (M.C.), Seion, a ddywedodd ei fod yn fater o hyfrydwch iddynt oil weled Mr Williams wedi cael adferiad mor dda i'w iechyd, a'i fod yn awr mor gryf ag erioed. Yr oedd y dorf fawr gynullodd i'r lleyn brawf o'u gwerthfawrogiad o'i lafur, a'r parch a deimlid tuag ato tystiolaeth ydoedd o deimladau da fyddent yn sicr o fod yn gal- ondid a sirioldeb ysbryd i Mr. Williams gyda'i waith. Gwneid tystebau yn gyffredin i rai ar eu hymadawiad o le, ond i Mr. Williams ar ei arhosiad yn eu mysg. Hyderai yr arbedid ef i gael gweled 41 mlynedd yn mhlith pobl ei ofal, a byddai y noson hono yn sicr o fod yn gynorthwy mawr iddo gyda'r gwaith pwysig oedd ganddo i'w gyflawni. Y Parch. Henry Jones (A.), Trefriw, a gyd- lawenhai a'r eglwysi ar adferiad ei gyfaill di- hoced Mr. Williams. Cyfaill pur oedd ef, a dyn yn byw o dan heulwen, ac nid mewn tarth a niwl. Yr oedd yr Eglwysi yn ffodus o gael pregethwr mor gytoethog o feddwl ag athrylith, ac un oedd yn eu dyrchafu gyda'i weinidogaeth nerthol. Y Parch. R. Rowlands (M.C.), Heol Scot- land, a ddywedodd fod Mr. Williams yn ddyn o argyhoeddiadau dyfnion a sefydlog: yr oedd nerth cymeriad tu ol i'w bregethu. Yr oedd- ynt yno i gydnabod gwaith mawr a wnaed ganddo yn ystod 21 mlynedd, ac hyderai a barheid yn hir eto. Y Parch. Llewelyn Jerman (A.), Nebo a Siloam, a ddywedodd iddo fel un ieuangc yn y weinidogaeth, gael help hyfforddwr a chyngor- wr diogel yn Mr. Williams, a gallai eglwysi y Tabernacl a Nantyrhiw deimlo yn falch o feddu gweinidog mor rhagorol i weinidogaethu iddynt dyn a synid yn uchel am dano gan bawb yn anibynal ar gredo ac enwad. Mr. John Davies, Diacon, Nantyrhiw, a dystiodd am y lie dwfn oedd gan Mr. Williams yn serchiadau yr eglwys yno, a'r llawenydd mawr a'u meddianai oil ar ei adferiad o'i gystudd. Mr. William Hughes, U.H., ar ran cyrph cyhoeddus y dref a dygodd dystiolaeth uchel i wasanaeth Mr, Williams fel aelod blaenllaw a gweithgar o honynt. Ymddygai bob amser gyda'r urddas a'r boneddigeiddrwydd hwnw oedd weddus i wr yn ei sane fel gweinidogion yr Efengyl ar gyrph cyhoeddus yn gosod urddas ar y cyrph hyny, ac nid oedd Mr. Wil- liams wedi profi ei hun yn llai Gweinidog i Grist oblegid ei fed yn eistedd arnynt. Yna darllenodd Mr. W. G. Owen (un o ysgrifenyddion y mudiad) yr Anerchiad, a gwnaeth Mr. W. J. Williams, U. a. (cadeirydd y mudiad) sylwadau teimladwy iawn wrth gyflwyno y cyfryw. Byddai darlleniad yr Anerchiad mewn amser o ddigalondid yn sicr o fod yn adgyfnertbiad a sirioldeb i ysbryd Mr. Williams yn y weinidogaeth. Yna cyflwynodd Mr. Edward Mills, U.H., (Trysorydd), y pwrs i Mr. Williams, a gwnaeth sylwadau cyfaddas iawn wrth wneyd hyny. Mr. Williams a ddatganodd ei ddiolch cynes am yr arddangosiad wnaed o deimladau da tuag ato. Nid swm y rhodd oedd yn bwysig yn ei olwg, ond y teimlad oedd o dan y eyfan. Yr oedd yn diolch o galon iddynt oil am eu rhoddion, ac am eu cefnogaeth trwy eu pres- enoldeb y noson hono. Byddai yr oil yn sicr o fod yn symbyliad newydd iddo gyda'r gwaith, ac yn rhwymyn newydd i'w glymu wrth yr eglwysi a'r ardal. Diweddwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr. John Davies..
i Addysg yn Panmachno.
Addysg yn Panmachno. Wythnos i nos Wener, yn yr Ysgol Eglwysig cynhaliwyd cyfarfod i drafod y pwngc o addysg yn ei berthynas a'r Ysgol hono. Llywyddwyd gsn y Parch. Ben Jones, Rheithor y plwyf. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch. G. Roberts. M.A., Deon Bangor, a'r Parch. W. Morgan, M.A., St. Anns. Llandegai. Yr oedd yr Ysgol wedi ei gorlenwi a gwrandawyr astud. Y Cadeirydd wrth agor y cyfarfod asylwodd mai y diweddar Canon D. Walter Thomas, Vicar Caergybi, a'r pryd hwnw Rheithor Penmachno, a gychwynodd Iy mudiad i gael Ysgol Genedlaethol i Penmachno, a trwy hysbysiad cyhoeddus gwahoddwyd y cyhoedd i gyfaifod a'i amcan penodol i sefydlu Ysgol felly yn y lie cyfarfod agored i'r hon blwyfolion ydoedd. Cynhaliwyd y cyfarfcd cyntaf Chwefror 9, 1856, jpan y pasiwyd yn unfrydol i fyned yn mlaen gyda.'r cynllun yn (1rliymdroj. Dywed rhai, cymerodd y cyhoedd idD yn y mudiad, a dylent gael caniatad i reoli yr ysgol. Dim o'r fath, yr oedd ef yn danysgrifiwr tat Gyfrinfa Leol yr Odyddlon, etc nis gallai hawlio llais at ei chyngor, na dywedyd wrth y gymdeithas sut y dylai fyned yn mlaen gyda'i gwaith. Folly yr oedd yn hollol gyda'r Ysgol Genedlaethol yn Pen- machno. Agorwyd yr adeilad newydd :Jel Mehefia 4, 1858. neu haner "can' mlynedd yn ol, a chafwyd yr arlan i'w chodi o gyfraniadau gwirfoddol ac nid' o'r treihi fel ar adeilad arall., Gadawoddy Parch. D. Walter Thoma5, Penmachno a daeth yn Ficer St. Anus. ac wedi hyny' yn Ddeon Bangor, ac yr oedd yn dda ganddo weled ei olynwyr gyda hwy y noson hono yn y cyfarfod. Goiphenwyd yr adeilad yn 1858, wedi Yn mhen 15 mlynedd wedi hyny ychwanegwyd adran y Babanod gyda'r draul o £ 400. Yu mhen tair blynedd ar ol hyny gwariwyd £ 100 ar weliiant- au, tra yn 1897 ychwanegwyd y cloakroom yr hon a gostiodd £ 200, a thair neu 4, blynedd ar ol hyny gwariwyd ar yr adeilad £200, yn gwneyd cyfanswm o £ 1,600 neu gyda'r Ysgol yn y Cwm. y cyfanswm o £ 2,360 am yr adeiladau yn unig, tra costiodd cynal y ddwy Ysgol £ 3,300 ychwanegol, neu gyfaoswm o £ 5,600, a'r oil o roddion gwirfoddol; dim ffyrling o honynt o'r trethi. Yn ystod yr haner canrif diweddaf magwyd rhai rhwng e muriau oeddynt yn anrhydedd i'r ardal, ond yn ystod y tair blynedd diweddaf bu yr Ysgol yn nod i ymosodiadau chwerwon ac anfad. Yn ystod pethau eraill, dywedid fad yr Ysgol yn rhy agos i'r fynwent, eto safai yn hollol yr un fan ag ydoedd hauer can' mlynedd yn ol os yn rhy agos i'r fynwent yn awr, paham nad felly y pryd hwnw. Ond gwyddent hwy am adeiladau eraill godwyd yn nes i'r mynwentydd nag ydoedd Ysgol Penmachno, ond ni ynganodd neb air, ac ymddangosai pob mynwent yn iach ond mynwent yr Eglwys. Astudiwyd iechyd trwy wydr lliwiedig sectyddiaeth a rbagfarn, a chondemnient bobpeth perthynol i'r Eglwys heb un prawf eu bod yn gywir. Defnyddiwyd hyd yn nod enw Dr. Frazer i geisio dileu yr Ysgol. Dywed- wyd fod y Swyddog Meddygol hwnw wedi condemnio yr adeilad fel un peryglus i iechyd y plant. Yr oedd hyn yn gyhuddiad difrifol, ac ni fuasai ef yn codi llaw o gwbl o blaid cadw y fath adeilad ar ei draed. Cymerodd gamrau i wybod y gwir ar y mater hwnw, a chafodd gopi o adroddiad Dr. Frazer gan Glerc Cyngor Dosbarth Geirionydd. Darllenodd yr adroddiad a chafodd nad oedd yr un gair condemniol i'r adeilad ynddo, a'r holl wrthwynebiad a godid oedd fod yr adeilad wedi ei orlenwi. Bu i Reolwyr yr ysgol gyf- arfod eu gilydd ac awgrymasant i'r Pwyllgor Sirol i wahardd babanod o dan bump oed ddod i'r ysgol, ond ni allent wneyd hyny heb beryglu y grants, gan fod grant yn bwysicach yn eu golwg nag iechyd. Yr oedd y Reolwyf wedi darparu ystafell arall i'r Babanod chwe' mis cyn i Dr. Frazer adrodd ar yr ysgol, ond ni wnaed defnydd o honi gan yr Awdurdod add- ysg, y rhai yn unig oeddynt yn gyfrifol am y gorlenwi ac nid y Rheolwyr oeddynt wedi gwneyd pobpeth yn eu gallu i gyfarfod yr an- hawsderau. Yr oedd ysgol arall wedi ei chodi yn y plwyf, ond yr oedd y Llywodraeth wedi condemnio ei safle, ac wedi gwrthod rhoddi bentyciad i dalu am dano. Ar ddydd yr ag- oriad, bu i Mr. Evan R. Davies, Clerc Addysg Sir Gaernarfon ddwyn cyhuddiadau arswydus yn ei erbyn ef, a'i fygwth a chyngaws am atbrod. Yr oedd ef, yn mhresenoldeb y wasg y noson hono yn herio Mr. E. R. Daviesiddod a cnyngaws yn ei erbyn ac os gwnai, hyderai y gwnai heb ddim oediad, gan ei fod ef yn barod iddo. Os deuai a chyngaws, gobeitbiai y talai ei gostau o'i logell ei hun ac nid o logellau y trethdalwyr, fel yr oedd ef am wneyd. Yr oedd newydd dderbyn llythyr oddi wrth Mr E. R. Davies yn ei hysbysu fod y Pwyllgor Addysg wedi penodi Mr. D. J. Rowlands, un o'r Athrawon Cyflenwo! (Supply) Trwyddedig i gymeryd gofal yr Ysgol ac agorid hi ddydd Llun. Hyderai yr arfonai y rbieni eu plant yino yn gyson a phrydlcn. Ni byddai raid i'r un o'r plant ddarllen na dysgu y Beibl os osdd y rhieni yn gwrthwynebu hyny, ac ni ddysgid iddynt Holwyddoreg yr Eglwys oni ddymunai y rhieni hyny; ond caffai bob plen- tyn ddeuai trwy ddrws yr adeilad FeibI agored o'i flaen, a rboddid iddo gyfle o leiaf i'w ddysgu-nid y Beibl ymyredig ag ef oedd yn Ysgol y Cyngor, end Beibl Duw (cymeradwy- hirfaith). Yna traddododd Deon Bangor anerchiad gwresog yn hysbysu fod Ysgolion yr Eglwys yn dysgu Gair Du% i bob plentyn, ac yr oedd hyny yn fendith fawr gan fod lluaws o blant nad oeddynt yn mynychu yr Ysgolion Sabbothol. Os oedd awr o ddysgu y Beibl yn yr Ysgol S'nl unwaith yn yr wythnos yn llesol, yn sicr yr oedd awr bob dydd am chwe diwrnod yn yr wythnos yn llesol. Nid oedd cymaint o fynychu ar yr Ysgol Sul ag y bu, a dangosai tystadegau y Bedyddwyr fod wyth mil o leihad gyda hwy ar y flwyddyn cynt. Ni cheuid Ysgol Penmachno Bydd yr Esgob- aeth a'r holi Eglwys wrth gefn i'w chario yn mlaen. fel ag i ofalu am addysg grefyddol i'r plant pan oedd y Rhyddfrydwyr presenol yn gogwydd at gymeryd y Beibl o'r Ysgolion ddyddiol. Wedi "r Parch. W. Morgan draddodi anerchiad gwresog, terfynwyd y cyfarfod brwdfrydig awn, gyda phob golwg na wel Penmachno y dydd i gau yr hen Ysgol gychwynwyd trwy ymrdech y diweddar Canon Thomas, ac a gariwyd yn miaenEmor llwydd- ianus ar hyd y blynyddoedd.
I LLANFROTHEN.
LLANFROTHEN. cYNGOR PLWYF.—Daeth wyth o'r cyng- horwyr a'r ysgrifenydd ynghyd nos Sadwrn diweddaf. Pasiwyd i drwsio llwybr Cae'r Lloiau a chamfa y lie, yngbyda chamfa y Rhyd. Daeth Pwyllgor y fynwent ag adrodd- iad a derbyniwyd ef. Pasiwyd i gael Cwrdd Plwyfoi yn mhen y pythefnos.-Gah. .¿¿¿¿._ÂÂÂÂÂ.-¿¿Â
TANYQRISIAU.
TANYQRISIAU. YN GWELLA.-Da genym ddeall lod Mr. William Williams, Tanian, yn gwella yn rhag- orol ar ol ei afiechyd. YN WAEL.—Drwg genym ddeall mai par- hau yn wael y mae Evan a Howell Gabriel, Foundry. Dymunwn i'r ddau adferiad buan. PREGETH.-Nos Iau diweddaf, yn Nghapel Cwmorthin, cafwyd pregeth rhagorol gan y Parch. R. Silyn Roberts. Daeth cynulliad da ynghyd er mor stormus y tywydd.—D.H.J.
I HEDDLYS BETTWSYCOED.I
I HEDDLYS BETTWSYCOED. I I Dydd Sadwrn, o flaen Col. Johnstone, a'r I Parch. John Gower. I Penodi Swyddog. I I Ail benodwyd Mr. Thomas Parry, yn I Swyddog o dan Ddeddf Troseddwyr ar Brawf, am y flwyddyn. Troi Allan. I Mr. William James, Goruchwyliwr Mr. Gower, a ofynodd am archeb i droi William Thomas, 3, Pentrewen Cottage, allan o'r Ty. Profwyd i rybuddion gael eu gwasanaethu arno, ond gwrthodai fyned allan.-Caniatawyd y cais a bod y ty i'w waghau mewn 25 niwrnod. I Cyflogau Chwarelwyr Dolwyddelen. Edward Richards, Perchenog a Goruchwyl- iwr Chwarel Prince Llewelyn, Dolwyddelen, a wysiwyd gan y gweithwyr canlynol oDolwydd- elen am eu cyflogau :-John Roberts, Church House, Pontypant, £ 10; Robert Ellis Roberts, eto, £ 2 10s Oc; John Davies, Tvnyfron, £ 10 Robert G. Owen, Frongoch, £ 7 Is Oc; Rd. Williams, Brynhyfryd, £2. 12s 10c Robert Ellis Owen, Glanaber, £ 2 5s 0c.—Ymddang- osodd Mr. Twigge Ellis dros y Gweithwyr, a dywedodd Clerc y Llys fod y Diffynydd mewn sefyllfa arianol adfydus, gan fod Iluaws o ach- osion yn ei erbyn yn Llys y Manddyledion.— Gwnaed archeb "am y symiau a hawlid, gyda'r costau yn ol y Raddfa. I Trwyddedol. I Ar gais Mr. A. Lloyd Griffith, caniatawyd trosglwyddiad cyflawn o Drwydded Ship Inn, Trefriw, i enw Michael Judge. Mr. Twigge Ellis a wnaeth gais am dros- glwyddiad trwydded y White Horse Inn, Pen- qiachno, o enw David Ellis Jones i enw y ferch, Miss Elizabeth Catherine Jones.—Y Rhingyll Breeze a dystiodd iddo roddi Dis- tress Warrant ar yr eiddo am £1 14s Oc trethi dyledus, a chafwyd nad oedd dim o'r eiddo yn perthyn i David Ellis Jones. Yr oedd y dod- refn yn y ty ar y Gyfundrefn Logi yn enwau y merched.—Caniatawyd y cals ar yr amod fod y trethi yn cael eu talu yn mhen saith niwrnod.
GARN, DOLBEltilVaAEN.
GARN, DOLBEltilVaAEN. PRIODAS.-Dydd Sadwrn, yn Nghapel Isaf y Garn (M.C.) priodwyq Mr. Griffith Williams Fron Goch, a Miss Ann Williams, Llanfihang- el y Pennant. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. E. Joseph, a Mr. Richard Parry, Cofrestrydd. Er cryfed Griffith William, Canfyddodd merch y Llan Ar ol gwneyd hir ymchwiliad Yn mhle 'roedd ynte'n wan Boed bendith arnynt bellach, Ac aelwyd lawn o blant; Byw byth fo'r Hengwrt Isaf, Byw byth fo'r ferch o'r Nant. I, LLWYDMAWR.