Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

* TALSARNAU.j

News
Cite
Share

TALSARNAU. Nos Iau diweddaf, daeth aelodau Cymdeith- as Lenyddol Soar (W.), ynghyd i fwynhau swper rhagorol wedi ei barottoi gan y dynion ieuaingc. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Mri. Wm. Price, David Edmunds, a J. J. Humphreys, yn cael eu cvnorthwvo gan Mri. Robert Davies, William Moiris, William Wil- liams, Edward Jones, a David Williams. Gwnaeth y brodyr ieuaingc eu gwaith yn. gan- moladwy, a theimlad pawb oedd Well done boys." Edrychir ymlaen at wledd gyffelyb yn fuan oddiwrth chwiorydd ieuaingc y Gym- deithas, a. cheir gweled pa rai yw y goreu am barottoi swper, y dynicn ynte y merched ieuaingc. Ar ol clirio y byrddau, cynhaliwyd cvfarfod adloniadol o dan lywyddiaeth y Parch. R. Morton Roberts. Cafwyd caneuon, ad- roddiadau, &c., rhagorol gan amryw o aelodau y Gymdeithas, Treuliwyd noson ddyddorol dros ben, a dymuniad pawb ydyw cael un gyffelyb yn fuau etto. Yr wythnos flaenorol clfwyd dadl frwd ar "Pa un a'i mantais a'i anfantais i grefydd ydyw Enwadaeth ? Agor- wyd o blaid "Enwadaeth" gan Mr. Ellis J. Edmunds, A.C., yn erbyn gan Mr. David Wit- liams. Pan roddwyd y mater i bleidlais, cafwyd fed mwyafrif yn erbyn Enwadaeth. Da genym ddweyd fod, y Gymdeithas yn gwisgo gwedd lewyrchus, a gwaith rhagorol yn cael ei wneyd ganddi. Edrychir ymlaen gyda dyddordebmawr at ddyfodiad y darlith- ydd enwog Mr, W. O. Jones, Bangor (Aber gynt), i draddodi ei Ddarlith boblogaidd ar Y T.;fod ios Sadwrn nesaf. Gweler hys- bysiad mewn colofn arall. Dyma fel y canodd un o'r Hen Langciau i'r achlysur :— Ar noson cyn y calan Fe glywyd Rhow a Stwr; Rhyw Dê oedd gan y Wesla, A pwy fel nhw, yn siwr. Fe drefiiwyd gan y pwyllgor, Fod hams, a buns, a chaws, A llu o bethau biasus, A'r Boys' i wisgo Blows. Fe welwyd William Williams, Un pen i'r Bwrdd yn Gawr A Johnny oedd ei waitres, Mewn ffedog laes-wen fawr. Rhoedd Robert Davies yno, Yn edrych yn bur swil; Yn dadrus gyda Wili, Pwy a'i i settlo'r Bill." Fe wehvyd un o'r llanciau, Wrth wneyd ei hun yn nice, Mewn helbul an] ddwyn Tebot, 'Ren gacno, William Frice. Mi glywais rhai yn gwaeddi, Hai! dipyn bach o gig;" Tra dywedai rhai o'r ladies, Wei, rlyna, dyna cheek." Fe gdwyd swpsr diddan, Yn swn hen landau ffraith, Yn canu gyda'r awen Mewn raesar Rbydd a chaeth. Ar ol i bawb gael digon, Fe gafwyd concert gwych, Rhoedd rhai'n darlithio ar fodur, A'r Hall ar destyn sych. Mae'n rhaid i mi roi terfyn Ar hanes llanciau'r dre; Neu ffarwel ro'nt ar dendio, Ar "Ladies gwych y lie.

Dolwyddelen.

Advertising

I-HARLECH.

Family Notices

Advertising