Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Y DDAEARGRYN.I
Y DDAEARGRYN. I Daear a gryn, daw'n dywydd—a ry fraw I oer fron y cablydd Creded ef mae'r Creawdydd Drwy'r sigliad yn siarad sydd
Y LLONG RHYFEL. I
Y LLONG RHYFEL. I Ar y dyfroedd creu difrod—yw hyll waith Llong rhyfel drwy'i chyfnod A'i iu du mae angeu'n dod Yn warchodwr i'w cheudod.
Y CYBYDD. I
Y CYBYDD. I Unigedd a cheiniogau-hoffa ef, Gwertha'i ffydd am ddimau Efe, yn hir, all fwynhau Byw'n llegach uwchben llogau. CYFFDY. I
ANNERCH 1 BRYFDIR. I
ANNERCH 1 BRYFDIR. I Cu dyrwr y Cadeiriau-braf, ydyw Ein Bryfdir yn ddiau A byth hydwr Bathodau, Drwy ei gan a medr yn gwau. O'i allu, hefyd, ar y llwyfan-Bryfdir Ry brawf d^, yn mhobman; Llawn a choeth mewn lien a chân- Arweinydd o'r wir anian. I CLEIDIR. I
SOSIA.LYDD. I
SOSIA.LYDD. I Gwas yw selog Sosialydd-i'r werin I Yng ngororau cynydd; Brwd wron vn rhodio'n rhydd Dan awel rhyw fyd newydd. GWERlNWR. I
HEN GAPEL CYNTAF I
HEN GAPEL CYNTAF I Y Methodistiaid yn Penrhyndeudraeth. Hen Gapel y Penrhyn, mor anwyl yw d'enw, Er gweled dy furiau er Hwyded dy goed Mae'n serch tuag atat o hyd yn ddiysgog, A'n cariad yn para mor fyw ag erioed Pan arnat yn tremio, rhy anhawdd yw peidio A theimlo o'n calon anrhydedd a pharch Wrth gofio mai ti, hen deml anwylgu, Yw'r cyntaf trwy'n hardal roes gartef i'r Arch. Gelynion di-gariad, er rhwysro'r adeilad, Fu'n arfer dichellion, cynllunient yn faith, Ond rhyw Zorobabel a safodd yn wrol, Trwy gymorth Duw'r nefoedd, gorphenwyd y gwaith; Pob gelyn o'r golwg mewn dychryn a giliodd, Yr Arglwydd i'w bobl fu'n gymorth wrth raid; Ei fechan ddiadell wnai ffyddlou amddiffyn, Rhag syrthio'n ysglyfaeth dan draed y flin blaid, Y tan a gynheuwyd rhwng muriau 'rhen gape), Yn araf enynodd nes torodd yn fflam; A'i effaith anhafal ymledodd trwy'n hardal, Rhy anhawdd ei diffodd, o herwvdd, paham? Cref awel o'r nefoedd fu arno yn chwythu, Y tin cysegredig a gerddodd ar daen, Yr Arglwydd yw ffyddlon arweinydd plant Seion, Mae'r gwersyll yn para i symud ymlaen. EVAN DAVIES, I Fronheulog, Penrhyndeudraeth.
Cyfarfod Chwarterol-y Weslyaid.1
Cyfarfod Chwarterol-y Weslyaid.1 CynbaHwyd yr uchod dydd Sadwrn diwedda yn y Blaenau, pryd yr oedd yn bresenol y Gweinidogion a'r Swyddogion, ynghyd a chynrychiolaeth luosog Eglwysi y cylch. Tristwch a lanwai y cyfarfod pan y cyfeiriai y Parch. P. J. Roberts at farwolaeth un o'r cyfarfod y diweddar anwyl frawd Daniel Daniels, Swyddog ffyddlon a gweithgar yn Ebenezer pa un a gollwyd o'n plith mor sydyn <ac annisgwyliadwy, a phasiwyd i anfon llythyr yn datgan cydymdeimlad y cyfarfod a Mrs. Daniels yn ei phrofedigaeth chwerw, sirloldeb 1 r cyfarfod ydoedd clywed adroddiad Mr. p^ewis H. Williams, Ysgrifenydd DirwestoI, a wasanaeth Cymdeithasol t Cylch am ddeffroad cydymdeimlad yr Eglwysi yn eu ?ynorthwy arianol i Gymdeithas Ddirwestol Meirion. Diolchwyd ac ail-etholwyd gwahanol swyddogion y cyfarfod i wasanaethu blwvddyn arall. Gwasgwyd ar fod holl gyfrifon y enhadaeth dramor fod mewn Haw cyn dlwedd Iooawr fel y gellid eu hanfon yn tbrYdJon i Drysorfa Cyffredinol y Dalaeth. Darllenwyd Cyfriflen Aelodau yr Eglwysi yr On a ddanghosai ychydig gynydd ar y hvyarteri blaenorol. Gwasgai yr Arolygwr ar iod cyfrifon ymddiriedolwyr yr Eglwysi i fod Yn barod fan bellaf erbyn canol Chwefror fel y ellid cynal y cyfarfodydd Blynyddol yn rYdlan. Arholwyd Mr. John Jones, Llys Meirion, Blaenau, gan Mr. Roberts, ac wedi tystiolaethu i'w gymeriad gan amryw frodyr ^asiwyd i'w enw gael ei roddi ar Blan y Gylch- dalth yn bregethwr rheolaiddio. Y Cyfarfod 'hwarterol nesaf yw gynal yn Ffestiniog Mawrth 27ain.-GoH.
Advertising
ESGIDIAU ESGIDIAU Dymuna OWEN PARRY, CRYDD, DIPHWYS TERRACE, Hysbysu yr holl ardalwyr ei fod yn parhau i w«pob math o ESG!DEAU, ac yn TRWSao pob math gan nad gwaith pwy 'yddoat. Gwneir y gwaith yn y modd goreu a rhataf, gan ofalu am y defnyddiau goreu yn bosibl. Dymuna ediolch am y gefnogaeth a dderbyniodd yn ystod y deunaw mlynedd a ,basiodd, ac hydera am barhau yr unrhyw. Cofiwch y Cyfeiriad:- OWN PAY, Oiphwys Terrace, BSaertau Ffestiniog. ■ i
TREFN OEDFAON Y SUL
TREFN OEDFAON Y SUL Y METHODISTIAID. PENIEL.—Parch. T. Lloyd, Llanberis. 1 ENGEDI.-Pa,rch. Richard Morris, M.A.,B.D. GWYLFA.-IO, Parch. T. J. James, Pen- machno. 6, Parch. Hugh Ellis, Maen- twrog. BETHESDA.—10, Parch. Hugh Ellis, Maen- twrog. 6, Parch. T. J. James, Pen- machno. TABERNACL.—10, Parch. J. H. Williams, Llangefni. 6, Parch. R. Roberts, Colwyn Bay. MAENOFFEREN.—10, Parch. R. Roberts, Colwyn Bay. 6, Parch. J. H. Williams, Llangefni. GARREGDDU.—Parch. J. J. Roberts, Port- madoc. BOWYDD—Parch. T. J. Jones, B.A. Brynmawr. RHlw.-Parch. John Owen, M.A. BETHEL.—Parch. J. R. Jones, B.A. CAPEL SEISNIG (English Chapel). Rev. W. Griffith, M.A,, Talsarnau. YR ANNIBYNWYR. BETHEL.—10, Parch. Thomas Griffiths. 6, Parch. R. Talfor Phillips. HYFRYDFA.—6, Parch. J. Williams-Davies. BETHANIA.—10, Parch. John Hughes. 6, Parch. J. Rhydwen Parry. JERUSALEM.—6, Parch. J. Hughes. BRYNBOWYDD.-6, Parch. George Davies, B.A. SALEM.-6, Parch. T. Griffiths. CARMEL.—Parch. D. M. Harries, Brithdir. Y WESLEYAID. EBENEZER.—10, Parch. P. Jones-Roberts. 6, Mr. D. O. Jones. DLSGWYLFA.—10, Mr. Alun Griffiths. 6, Mr. J. Jones. SOAR RHIW.—Cyfarfod Ysgol. TANYGRISIAU.—10, Cyfarfod Gweddi. 6, Mr. Alun Griffiths. FFESTINIOG.-Mr. W. Roberts. Y BEDYDDWYR. I SEION.-Mr. J. Spinther James, M.A., D.Litt. CALFARIA.—10, Parch. E. Cefni Jones. MORIAH.-2, Parch. E. Cefni Jones. CAERSALEM.—10, Mr. John D. Davies. 6, Mr. David Garfield Owen. PISGAH.-10, Mr. David Garfield Owen. 6, Mr. John D. Davies.
Advertising
SOAR, TALSARNAU. Traddodir DARLITH mewn cysyHtiad a'r lie uchod Nos SADWRN, lonawr 9fed, 1908, yn YSGOLDY Y CYNGHOR. TALSARNAU, gan y Darlithydd enwog Mr. W. O. JONES, BANGOR (Aber gynt). Testyn:—"Y TAFOD." Cadeirydd:—R. ROBERTS, YSW., U.H., Plasmeini. Drysau yn agored am 6-30: a dechreuir am 7 o'r gloch. Mynediad i mewn trwy docynau Swllt a Chwe'cheiniog. f Neuadd Drefo!, 61. Ffestiniog. Cynhelir CYNGIIERDD ELUSENOL yn y lie uchod NOS IAU, CHWEFROR 18fed, 1909, pryd y gwasanaethir gan SEINDORF FRENHIMOL OAKELEY, Cot, BrenhsnoSJy Moelwyn, ynghyda phrif Enwogion yr Ardal mewn Datganu ac Adrodd. Cadeirydd-RICHARD JONES, Ysw., M.D., U.H. Isallt. Arweinydd-BRYFDIR. Cystadleuaeth Datganu norhyw Ddeuawd. Gwobr £1 Is Oc. Enwau yr Ymgeiswyr ac enw y Ddeuawd fwriedir ei ganu, i fod yn Haw yr Ysgrifenydd, Mr. Evan E. Griffiths, Meir- ion House, Tanygrisiau, ar neu cyn Chwefror 9fed. Beirniaid-Mri. J. E. Fidler a Cad. Roberts. Cyfeilwyr-Miss A. E. Owen-Davies, A.R.C.M. a Mr. David Francis. Drysau yn agored am 6-30., i ddechren, yn brydlon am 7. Yr elw tuagat gynorthwyo Mr. John R. Williams, Doppog, Tanygrisiau, yr hwn sydd yn analluog i ddilyn ei orchwyl er's amser maith oherwydd gwaeledd. Myned- iad i mewn trwy docynau 2/ 1/ a 6c. EISTEDDFOD GADEIRIOL MON, AM LV-IC H. GWYL Y SULGWYN, 1909 (LLUN a MAWRTH, MAI Slain, a MEIIEFIN laf). MAE Rhestr Gyflawn o'r TESTYNAU yn awr yn barod, ac i'w cael pris 2c drwy'r Elythyrdy 2jc, gan yr Ysgrifanydd, POBERT JONES, 11, Parys Lodga Square, Amlwch. .v'V'vvvv'vvvvvvvvvvvvvvvV'VVV Cigars a Cigarettes. Y mae dros 100 o wahanol fathau o'r uchod mewn Boxes ac yn rhydd yn Shop" Y GLOCH," y drws nesaf i'r Maypole Dairy Co. NEUADD GYNULL, BL. FFESTINIOG. Cynhelir BUDD=GYNGHERDD IIAWREDDOG yn y lie uchod < NOS IAU, MAWRTH 25ain, 1909. Datgenir gan Miss EDITH DAVIES, Wrexham (Enillydd yn Eisteddfod Corwen, 1908). Mr. H. VAUGHAN DAVIES, Caernarfon (Enillydd mewn Eisteddfod Genedlaethol). SEINDORF FREINSOL OAKELEY, ynghyda phrif gantorion yr ardal. Adroddir gan Mr. Edward Edwards, New Market Square, a Mr. H. Vaughan Davies, Caernarfon. Cadeirydd:—Dr. R. D. EVANS, U.H. Arweiuydd :-BRYFDIR. cyfeilydd:-F. P. DODD, Ysw., M.A. Yr elw er cynorthwyo Mr. John G. Jones, Park Square, yr hwn sydd wedi ei analluogi i ddilyn ei waith er's amser maith. Drysau yn agored am 6-30; dechreuir am 7 o'r gloch. Mynediad i mewn trwy docynau 2/ 1/ a 6c NEUADD GYNULL, BL. FFESTINIOG Cynhelir BUDD=GYNGHERDD MAWREDDOG yn y lie uchod NOS IAU. EBRILL 29ain., 1909. Gwasanaethir gan y ROYAL OAKELEY SILVER PRIZE BAND, a'r Baritone Byd-enwog MR. DAVID CHUBB, PONTYPRIDD, (Winner of Nine First Prizes at the Royal National Eisteddfod of Wales). SOPRANOMiss Davies, High Strecto Blaenau Ffestiniog. BASSMr. W. O. Jones, Ffestiniog. ADRODDWRMr. John Henry Jones, Bethania, Bl. Ffestintog. yn nghyd a PARTI MEIBION ENWOG GRAIGDDU, (o dan arweiniad Mr. W. Jones, Bodunig). Llywydd RICHARD BOWTON, Ysw., Cartre' Arweinydd j—DAVID DAVIES, Ysw., Wynnes Road. CyfeilyddF. P. DODD, Ysw., M.A. Drysau yn agored 6-30, dechreuir am 7 o'r gloch. Yr elw at gynorthwyo y brawd Robert Ellis, un o weithwyr Chwarel Graig- ddu, sydd yn wael er's blwyddyn a haner, ac mewn gwir angen. Mynediad i mewn trwy docynau 2/ 1/ a -/6. LLEW. P. GRIFFITHS, PHOTOGRAPHIC ARTIST (UNDER DISTINGUISHED PATRONAGE) FOR PHOTOGRAPHY OF THE HIGHEST CLASS AT THE LOWEST PRICES. ENLARGEMENT o unrhyw DDARLUN am 2/6 i fyny CABINET o 3 am 2/6. POSTCARDS 3/- a 3/6 y dwsin. Highly Finished. ANERCHIADAU plluminated Addresses] o waith fy llaw i gyd, wedi eu gweithio yn y mocid goreu am y Frisiau iselaf. > Cofiwch y Cyfeiriad:- The "STUDIO," 59, HIGH STREET, 81. Ffestiniog. At Drigolion Llanrwst a'r Wlad yn gyffiredinol. Y MAE WILLIAM THOMAS, R.S.S. (Mab y diweddar John Thomas, Foundry), yn dymuno gwneyd yn hysbys ei fod wedi cymeryd EFAIL Y BE DOL, DENBIGH STREET, LLANRWST, lie y gwneir pob math o waith Gof am BRIS RHESYMOL. Y mae W. T. wedi cael 16 mlynedd o brofiad gyda'i ddiweddar dad yn y Foundry, ac yn dal Tystysgrif o dan law y London Worshipful Company of Farriers fel Pedolv.r. Adgyweirir Erydr a phob Celfi Amaethyddol &c. Teimlir yn ddiolchgar am bob cefnogaetli GWALLT GWYN a aHerir yn barhaol a chyflym i'w Jiw cvntefit; trwy ddefnvddio HARRISON'S MALI COLOUR RESTORER. Nid cyffur liifo ydyw, ond gweithreda trwy .foddion naturiol fel atferydd. Ni chynwysa ddim niweidiol, ac y ms.e yn llesot i dyfiant a harddweh y gwalit. Mewn potali, 1/6; yr un (3c rhagor trwy'r post).:—G. W. HARRISON, Hair Specialist, Reading.—-Gcruchwyliwr i Bettwsycoed, R. PARRY. Chemzst; i Lanrwst a Trefriw, A. PARRY, Chemist. ) CYFARFOD LLENYDDOL HYFRYDFA, BLAENAU FFESTINIOG, a gynhelir GWENER A SADWRN, MAWRTH 27 a 28, 1909. Beirniad CerddorolMr. TUDOR OWEN, A.R.C.M., Blaenau Ffestiniog. Cyfeilydd: -FRANK P. DODD, YSW., M.A., Blaenau Ffestiniog. RHESTR O'R TESTYNAU AGORED I'R BYD. BARDDONIAETH: 1.—Cywydrl, "DiwyrJrwydd" (heb fod dros 40 llinell), Gwobr 7s 6c. 2.-Eoglyn, (< Y Llygad." Gwobr Is 6c. 3.-c-Emyn (dau benlii ar usriiyw fesur). Gwobr Is 6c. 4.—Chwe' phenill, "Seren Noswyl." Gwobr 38. Beirniad: Dewi Mai o Feirion, Bl. Ffestiniog. TRAETHODAU, &c: 5.-Prif Draethawd, "Etifeddeg." Gwobr 7s 6e. 6.—Traethawd i Ferched, "Y cylchoedd priodol i ferched eu llanw." Gwobr 4s. Beirniad Parch. R. Talfor Phillips, Bethel, Ffestiniog. 7.-Ateb ewestivnau ar y Maes Llafur, cyfyng- edig i gylch Ysgolion Sul Anibyowyr Ffest- iniog, Maefltwrog a Trawsfydydd (gweler y Rhaglen ) Gwobr 4s. Beirniad Parch. J. Rhydwen Parry, Bethania Bl. Ffestiniog. ADRODDIADAU: S.—Prif Adroddiad, Y Berth yn Llosgi" (J. T. Job). Gwobr 7s 6c a thlws arian canol aur (rhoddedis; gan Mr. J. Bollotten, Bangor). 9.-Adroddiad i rai dan 16eg oed, "Suly Blodau (Eifion Wyn). Gwobr 2s 6c. Beirniad: Mr, Huw Elis Huws (Deryl), Bl. Ffestiniog. CERDDOR1AETH: 10.—I'r Parti Cymysg heb fod dan 16eg mewn nifer, a ddatgano oreu, Deuwch, canwn i'r Arglwydd" (Gabriel, Bargoed, S. Wales). Gwobr f I 10s. 11.—Cor Plant, 12 mewn nifer, heb fod dros 16 oed, Boddio Duw (allan o Daflea Cymanfa Plant yr Anibynwyr 1909). Gwobr 6s a Pitchfork i'r Arweinydd. 12.-Unrhyw Unawd i rai heb enill 7s 6c. Gwobr 7s 6c. 13.—Pedwarawd, Y Rhosynau (E.D.Lloyd). Gwobr 6s. 14.-Unrhyw Unawd o waith Dr. Joseph Parry Gwobr 15s. 15. -Deuawd i S. ac A., neu T. a B., "Sibrwd yr Awel (Tom Price). Gwobr 8s. 16.—Deuawd i blant dan 16 oed, "Y Lili," allan o Delyn y Plant (Tom Price) Gwobr 3s. 17—Wythawd, y ddwy don, "Kilmorey" ar y geiriau Mae'r stormydd flydd yn curo, &c. a Portmadog," ar y geiriau 0 blen- tyu y nefoedd, &c." Gwobr 8s. TESTYN YCHWANEGOL.—Chwareu ar y Ber- doneg i rai dan 14eg oed, y don Y Delyn Aur" (rhif 91 o'r Caniedydd Cynulleid- faol'). Gwobr 3/ AMRYWIAETH. 18.—Am y par Hosanau coch a du goreu i ddyn. Gwobr 4s 6e. 19.—Am y par Hosanau ribs duon i blentyn dwy flwydd oed. Gwobr Is 6c. Beirniad, Mrs. Ann Ellis, Glan Eiddon, Manod Road. 20.-Crys goreu i ddyn (gwlanen oleu gwddf 15). Gwobr 10s. Beirniad, Mrs. Ellen Edwards, 166, Manod Rd. 21.—Am y Pencil Sketch goreu o Gapel Hyfrydfa (20 x 15). Gwobr 5s. Beirniad, Mr. Hnw Elis Huws. 22.—Am v Bonnett weuedig orea i blentyn. Gwobr 2s. 23.—Am y par o pillow slips goreu. Gwobr 4s. 24. — Am y Crotchet tie goreu. Gwobr Is. Beirxrad rhif 22-24, Miss Hughes, Dress- maker's Supply Stores, Manod Rd. Y goreu yn rhif 18—24 i fod yn eiddo rhodd- wyr y gwobrwyon. Y cy,a,,Sod,dau, C,f od yn llaw eu priodol feirniaid erbyn Mawrth 7fed; ac enwau yr ymgeiswyr ar yr Adroddiadau a'r Gerddoriaeth i fod yn ilaw yr Y sgrifeaydd erbyn Mawtth 20. Geliir cael rhestr gyflawn o'r testycau, amodau, &c oud anfon stamp dimeu at yr Ysgrifenydd: J. W. THOMAS, Tanybwlch, Manod Road. LLYGAID DOLURUS. ELI ANFFAELEDIG. BLAENAU FFESTINIOG. Yr wyf yn diolch yn fawr am yr hyn a wnaeth eich ELI i mi. Y mae yn werth i ddweyd yn dda am dano." Mr. Pris 6c. drwy y post. Canoedd o dystiol- aethau o Gymru a Uoegr. JOHtJ HUGHES, Chemist, GastiC House, Holyhead. WHIT-MONDAY, 1909. VALE OF CONWAY CRtUF: EJSTEDDFOD, to be held at LLANRWST. LIST OF SUBJECTS NOW READY, to ha obt&iasd from the Secretary, J. D. JONES, WatHsg Chambers, Llanrwst. PRICE 2?d. i Dymuna Mrs. DANIEL JONES, FRONDEG, BETTWSYCOED, alw sylw:y Cyhoedd at y STOCK NEWYDD, o DDI LI AD GAUAF sydd ganddi, yn cynwys JACEDI, FURS, GWLANENI CYMREIG, &c. Yr oil o'r defnyddiau goreu, ac am y prieiau mwyaf rhesymol. Cedwir STOC FAWR o bob math o AIILLINERI, DRESS MATERIALS, DRAPERY, DILLADAU DYNION, &c., ar law bob amser. ESGIDIAU gan y gwneuthurwyr goreu am brisiau isel. Hefyd Stoc o Lyfrau Cymraeg Safonol. Sylwch ar y Cyfeiriad :— Mrs. DANIEL JONES, Milliner, Dressmaker, Sc., FRONDEG. BETTWSYCOED. AAAAAAAAA^VVVVVNAAAAAAA/VVSAAA* AUCTIONEER'S NOTICE. W. G. JONES, OF FARM COTTAGE, Llanrwst Desires to make it known to the public at large that he has again taken out an AUCTIONEER'S LICENSE, and that he will undertake SALES OF PROPERTY, STOCK-IN-TRADE, FURNITURE, &c., &c., AT MODERATE TERMS and with Prompt Settlements. VALUATIONS FOR PROBATE AND OTHER PURPOSES. Eisteddfod Gadeiriol Rhosllanerchrugog. Dydd Llun, Gorphenaf 5ed, 1909. PRIF DESTYN Y FARDDONIAETH- Awdl Bryddest: Hen Gartref Meddyliau o Hedd." Gwobr £ 5 a Chadair Dderw Hardd. Beirniad, Bethel. PRIF-GYSTADLEUAETH :-(a) Worthy is the Lamb (Handel); (b), Tyr'd Swynol Serch" (Dowland). Gwobr £ 35. CORAU MEIBION:—" Cydgan y Pererinion" (Dr. Parry). Gwobr [20. AIL GYSTADLEUAETH GORAWL:- Dyddiau'r Haf (J. Price). Gwobr ilo. CORAU PLANT Y Fordaith (Hopkin Evans). Gwobr laf, 45; 2il £ 2. Beirniaid y Gerddoriaeth-David Evans, Ysw., Mus, Bac., a Mr. W. O.Jones, Cilfynydd. Rhestr o'r Testynau i'w cael gan yr Ysgrifen- yddion ;— JOSEPH DAVIES, 25, Brook Street, Rhos; J. T. EDWARDS, 72, Bank Street, Ponkey, Ruabon. VWVWWWWVVWWVVWSA/WW GAN ei bod yn neshau at ddiwedd y flwyddyn, a thymor gwasanaeth ENVELOPES CASGLIADAU MISOL bron a therfynu, dymunwn yn gywir alw sylw Swyddogion ein gwahanol Eglwysi ar hyd y wlad, at y Stoo rhagorol sydd genym newydd ddod i mewn. Yn sicr, y mae y Stoc hon eleni yn rhagori ar yr hyn gynygiwyd o'r blaen, yn eu cryfder wedi eu gummio yn briodol, ac mewn lliwiau gwahanol. Ni chynygiwyd am y pris yn yr ardal hon, well Stoc o ENVELOPES CASGLIADAU MISOL, na'r hon sydd genym i'w chynyg i chwi eleni am brisiau a bar syndod cyffredinol. Yn ychwanegol, gallwn ddweyd ein bod wedi derbynllongyftrchiadau gan amryw o'n cwsmeriaid, am y gwaith rhagorol a wnaethom y blynyddoedd a basiodd, yn enwedig y flwyddyn ddiweddaf, gyda'r ENVELOPES ( CASGLIADAU MISOL. CYN fhoddi eich Harchebion yn un- man arall, gwahoddwn chwi i weled ein Stoc rhagorol, ynghyda'r Prisiau. SWYDDFA'R- RHEDEGYDD," BLAENAU FFESTIKIOG.