Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Y PARCH. D. STANLEY JONES…
Y PARCH. D. STANLEY JONES A SOSIALAETH. Syr.—Mae'n ddiamheu eich bod chwi a'ch lluosog ddarHenwyr wedi syhvi ar y modd god- idog y diwedda y Parch, D. Stanley Jones, Caernarfon ei ysgrif alluog ac amserol yn Nghylchgrawn Myfyrwyr y Bala (Tymor y gauaf 190S) ar Yr Eglwysi a'r MudiadCym- deithasnl." Yn ei ysgrif cymer olwg eang ar agwedd ac arafwcti yr Eglwysi yn y ganrif ddi- weddaf 1 dderbyn golygiadadau newyddion mewn beirniadaeth ysgrythyrol a dadblygiadau mewn gwyddoniaeth, &c, a'i cholled o'r her- wydd. Olrheiniai darddiad y mudiadau llafur- awl i orthrwm a thraha y tidwyddi a meistriaid gwaith a rhydd gipdrem ar dyfiant Undebau Llafur yn myd llafurawl ac yn ddiweddarach yn y byd gwleidyddol ar gwestiynau llafur pryd y ganwyd y plenty n a elwir "Plaid Annibynol Llafur" yn y senedd, ac yn ddilynol yr ail blentyn a elwir "Sosialaeth." Maentumia mai cynyrch uniongyrchol Cristionogaeth yw y mudiadau hyn a holl bynciau y dydd ac y dylai yr Eglwysi Cristionogol eu nodi a'u har- olygu gan fod tuedd yn rhai o blant cyfreith- lawn Cristionogaeth fyned yn blant afradlon. Dyma fel y diwedda Mr. Jones ei ysgrif:— Perygl y symudiad Sosialaidd ar hyn o bryd ydyw- cyfyngu by wyd i bethau materol, a brys i geisio ateb y cwastiwn, pwy sydd i gael mwy- af o bethau yn y byd hwn ? Lie na byddo gweledigaeth marw a wna y bobl. Cenhad- aeth yr Eglwys yn y cysylltiad hwn ydyw, cadw goleuni byd arall i losgi ar byngciau y dydd, a thrwy hyny argyhoeddi y cyfoetbog a'r tlawd na ddylent gyfyngu bywyd i bethau materol y byd hwn. Ni charwn ddyweyd dim yn an- mharchus am arweinwyr cymdeithasol y dydd- iau hyn, ond dymunwn ddyweyd yn bendant na ddylasai mudiadau gychwynwyd gan Grist- ionogaeth gael eu harwain ar gyfeiliorn gan ddynion digred fel Mr Robert Blatchford. Os am yru byddinoedd yr estroniaid hyn i gilio rhaid i'r Eglwys fyned allan yn enw yr Hwn sydd a'i genbadon yn ysprydion a'i weinidog- ion yn fflam dan," rhaid i ieuengtyd ein heg-- lwysi ddod i'r maes i wneyd i syniad Iesu Grist am iawnder deyrnasu ym meddyliau dyn- ion. ei syniad am bechod yn dan yn nghydwy- bod y byd, ei syniad am faddenant yn feddyg- iniaeth i'r archolledig, a'i syniad am ddyled- swydd yn ddeddf i'r oes. I SOSIALYDD CRISTIONOGOL.
ADDYSG YN PENMACHNO, I
ADDYSG YN PENMACHNO, I Syr.-Gwledd i mi y Nadolig oedd darHen yn y RHEDEGYDD" hanes agoriad Ysgol Newydd ardderchog Penmachno. Nid wyf erioed wedi ei gweled ond yr wyf am wneyd pererindod yno yr haf nesaf i'r amcan. Gwyn fyd plant bach yr ardal yn gyffredinol o hyn allan. Yn yr adeiladau eang ca eu cyrph bychain bob chwareu teg i dyfu ac ymgryfhau yn yr awyr iach, ac nid oes dim gwell i eangu eu mheddyliau a'u "heneidiau nab awyr iach rhyddid dihualau. Yr wyf fi fel eraill wedi darllen a gwylio pob symudiad yn nglyn a'r frwydr tagorol, yr hon oedd wedi ei dwyn i derfyniad mor ogoneddus ddydd yr agoriad. Nid oedd yn syn fod eich gohebydd yn metbu gwneyd cyfiawnder a'r areithiau brwdfrydig. Nid rhyfedd fod llawenydd yr oruchafiaeth yn tori dros yr ymylon. Yn nglyn a'r helynt hwn o'r dechreu, yr wyf wedi cael llawer iawn o hwyl wrth ddarllen llithoedd y Rheithor ar y mater. Da chwi peidiwch a byrhau na thocio dim arnynt yn y dyfodol. Yn y RHEDEGYDD diweddaf y mae yn codi ei ddwylaw i'r nef mewn galar ffug-sancteiddiol am fod y Cyngor Sir yn myn'd i gau:y Bsibl o'r Ysgol ac yn llunio Beibl o'r eiddynt eu hunain yn ei le. Cynghor da iddo fyddai hwnw roddwyd gan y doethawr gynt, Clear your mind of cant, Sir." Onid yw y cyhuddiad hwn yn athrod celwyddog a'r Ymneillduwyr Crefyddol Cymru. Pwy abarthodd gymaint dros y Beibl? Pwy ymdreuliodd i ddysgu ei adnodau i'r plant bach, a phwy sydd yn gwneyd mwy eto mewn unrhyw wlad. Na, nid yw Cymry Penmach- no nac unrhyw ardal arall sydd yn cefnogi addysg rydd anenwadol wedi colli eu parch i Fab Duw. Yr wyf yn deall eu bod yn y cyfarfod agoriadol yn canu yn wresog, Marchog Iesu yn llwyddianus," ac nid oes un arwydd gwell ei fod yn marchog felly, na gweled cadwynau'n myn'd yn rhydd ynrmhob cyfeiriad. Proffesir gofal mawr am addysg grefyddol y plant. Ewch i bob Cwm yn Nghymru y nosweithiau hyn a chwi welwch adeiladau helaethaf y wlad yn cleu i gyd er mwyn dysgu athrawiaethau Gair Duw i'r oes sydd yn codi, ac nid dysgeidiaeth Catecismau a llwydni henaint drostynt i gyd. Arglwydd Penrhyn, onide, oedd yn dweyd nad oedd ryfedd fod yr Eglwys Sefydledig wedi colli ei holl ddylanwad yng Nghymrn, tra yr oedd y Capelau a'u hysgoldai yn oleu, yr oedd yr Eglwysi yn nghau ac yn dywyll. Y canlyniad yw fod y gwahaniaeth mwyaf rhwng gwybod- aeth Feiblaidd plant yr Ymneillduwyr a'r eiddo plant yr Eglwys. Yr oedd un o aelodau mwyaf selcg yr Eglwys yn sylwi yn ddiweddar gyda theimlad fod yr eneth fach o forwyn oedd yn eu tv hwy yn gwybod mwy dderg- waith o'r Beibl nac yr oedd ef; am y rheswm, fel y dywedai mai i'r Capel yr oedd hi yn myn'd lie yr oedd addycg dda, ac yntru i'r Eglwys lIe yr oedd niwi tvwyllwch yn teym- asu. Yr wyf wrth ddarllen llythyrau y Rbeithor (er cad wyf ericed wediei weled ef yn y cnawd) yn methu yn Ian a pheidio chwerthin wrth ei weied ar 01 mgthu yn ei amcan o rwystro adeil- adu yr Ysgol, yn debyg iawn i hogyn bach pan y bydd rbywun wedi myn'd a thegan peryglus oddiarno yn gorwedd ar lawr ac yn g^aeddi gan gicio yr awyr a'i draed. Nid gofai am addysg y plant, Rawer llai eiddigedd am eu haddysg Ysgrythyrol yw y rheswm fod psrsonkid Cymru yn ymiadd cymaint, ond gweled y ma-ent fod y Uywodraeth yn myned yn Hwyr. o'u dwylaw hwy. Beth os oedd yr ysgolion yn fychain, ac yn afiach, yr addysg mor wallus, fel yr oedd raid i'r Arholwyr goginio eu had- roddiad i'r Bwrdd yn Llundain. Yr oeddynt hwy yn ymherawdwyr yn yr Ysgol. "Better to reign in hell, than serve in heaven." Mor araf y maent yn dysgu eu bod wedi colli eu dylan- wad yn y wlad. Nid oes .ganddyut ddigon i anfon un aelod seneddol i'w cynrycbioli yn Nghymru i gyd. Y mae boneddigion Cymru o'r diwedd yn dod i weled gwir sefyllfa pethau. Dro yn ol mewn ardal heb fod yn bell o Pen- machno fe ddaeth Lord, i gyffyrddiad am y tro cyntaf a phlant Ysgol y Cynghor yn y Pentref. Yr oedd wedi synu at eu medrusrwydd o'u cymharu a phlant yr Ysgol Eglwysig gynhelid ganddo ef a'i hynafiaid. Anlonocd orchymyn ar unwaith am i'r plant oil fyned i Ysgol y Cynghor a chauodd y Hall yn ddiseremoni. Bydd mwy o hyn yn y man. Ai tybed y gwelodd y Rheithor yr hyn oedd Archesgob Caergaint-y gwr craff hwnw i ddarllen ar- wyddion yr amseraU-Yll ei ddyweyd yy ddi- weddar wrth yr esgobion a'r personiaid ? Rhag ofn nad ydyw wedi eu darllen (nid wyf yn gweled un arwydd yn ei lythyrau fod cylch ei ddarllen yn eang iawn) :A special oblega- tion lies upon the Church of England to read just itself to new conditions." Neu gan fod y Rheithor yn proffesu cymaint o barch i'r Beibl ai gwell ganddo adnod ar y pwnc Yr hen bethau aethant heibio, wele gwnaethpwyd pob peth o'r newydd." Rhaid i mi gydnabod y bydd fy hon waed anghydffurfiol yn poethi pan y clywaf Bersoniaid Cymru yn son am faich y dreth fel y gwna hwn. Mab i dyddynwr wyf fi. Gwn pa mor fawr fu ymdrech fy rhieni i fagu tyaid o honom a thalu y rhent fawr yn onest a gofynion pawb arall hefyd. Yn ychwanegol rhaid oedd iddynt dalu degwm trwm i Berson na fu erioed dros riniog ein ty ni. Ni fuasai yn adnabod un o honom mewn un man. Y cwbl welem o hono oedd yn pasio yn ei gerbyd pedwar olwyn. yn cael ei dynu gan farch porthiantus heibio ein ty ar hyd y ffordd, gan ryw ddisgwyl yn ofer hefyd am fow" genym. Dylasai yr arian hyny fyned at dalu am ein haddysg yn lie eu bod yn gorfod myned trwy rym cyfraith i gynal gwasanaeth mewn Eglwys Iwyd i ryw ddyrnaid o rai ddylasai dalu am gynhal eu crefydd fel ninau. Yr wyf yn deall fod Ysgol arall i'w hadeil- adu gan y Cynghor yn y Cwm. Da iawn. Byddaf yn disgwyl gyda dyddordeb am ddydd agoriad hono eto. Dyma'r ffordd i "godi'r hen wlad yn ei hol." TIRFEDDIANYDD. I
-BREUDDWYD HYNOD.-1
BREUDDWYD HYNOD. -1 Foneddigion.-Mae yr hyn wyf yn ei ysgrifenu yn wirionedd bob gair ac nid ffug- chwedl mohono ar rheswm fy mod yn ei ysgrifenu ydyw fy mod wedi ei freuddwydio ddwywaith yr un noswaitb, yn hollol yr un fath; y tro cyntaf y breuddwydiais ef, mae weithian wyth mlynedd a'r hugain wedi rhedeg tros erchwyn amser, ac mae yn naturiol i'r darllenydd ofyn paham na fuaswn yn ei adrodd cyn hyn: wel o bosibl mae nad oeddwn yr adeg a basiodd yn meddwl rhyw lawer am Freud'dwydion, y gweledigaethau y nos pan a'm pen ar y gobenydd, ac yr wyf yn cael fy nhyeddu yn awr i gredu mwy, yn gymaint am bod wedi breuddwydio yr un peth y flwyddyn 1908, tua ei ddiwedd a phwy o ddarllenwyr y RHEDEGYDD" a ddehonglai i mi y breu- ddwyd, yn gymaint a'i yn dod i mi etto yr un fath ond nid yr un ochr i'r Ddinas, ar tro cyntaf breuddwydiais. Ond yr un gwrtbrychau yn hollol yn dod yn y breuddwyd. Wele y Breuddwyd:—Breuddwydio yr oeddwn fy mod yn pysgota yn afon Glaslyn a'r wraig gyda mi, Ar ol croesi pont y Felin, hyd Sarn ddu, yr ochr hyn i'r afon; ac wedi cael helfa dda yn y breuddwyd; croesais y Sarn am y ffordd sydd yn arwain am Nant Gwynant. Myn'd yr oeddwn hyd nes cyr- haedd adwy yn y wal sydd yn arwain at feudy perthynof i ffermdy Hafod y Porth. Gwelwn fy hun yn troi i fyny yma am "Ddinas Emrys" ac mewn lie neillduol tan gareg ar ochr y Ddinas gwelwn fox at pa un y cyfeiriais fy nghamrau. Yr oedd golwg hen- afol iawn a phydredig ar y box. Tynais ei gauad yn hawdd, ac er fy syndod nid oedd ynddo ar yr olwg gyntaf ond ei lond o Iwch man. Dyna He yr oeddwn yn ei chwalu, a'r peth cyntaf a gefais oedd watch fechan hen ffasiwn llygad 'Mharan, a phwt o chain wrthi rhoddais hi wrth fy nghlust, ond nid oedd yn myn'd o gfabl. Chwalu yr oeddwn y llwch, a'r peth nesaf a gefais oedd Watch Aur gyda'r fwyaf welais erioed; rhoddais hi wrth fy nghlust, ac yr oedd yn myn'd yn gryf, a'r amser arni oedd 10 munyd i 12 o'r gloch. Chwalu yn mlaen yr oeddwn, a'r peth nesaf ddaetti i'm Haw oedd rhywbeth at flurf a maint wy gwydd. Yna dywedais wrth y wraig dyma y perl i ti, a taenais ffunan ar y ddaear gan roi y cwbl o'r trysor ynddi, a chyn cychwyn troais yn ol drach fy nghefn i edrach ar y Box. Cyn ym- adael, ac O! er fy syndod beth welwn yn y Box ond plentyn bach yn chwerthin yn galon- og arnaf gyda. dau lygaid du tlws. Yna deff- rois, ond cysgais wedy'n, a breuddwydiais yr un peth yn hollol: nid yw y breuddwyd byth wedi myn'd o'm cof, ond dyma sydd ryfedd Cefais rhyw fath o lonydd heb freuddwydio am y lie hyd y flwyddyn ddiweddaf, pryd y breuddwydiais am y lie a'r un weledigaeth, ond nid yr un cchr i'r Ddinas, end yr un trysorau oeddwn yn ei gael. A ocs rhywun fedr ddehongli y breuddwyd i mi ? HAFODY-PORTH.
[No title]
Team against Conway next Saturday, at the Newbcrough Paik :—Goal, A. N. Other; backs, Tom Hughes, James Lloyd; halves, M. E. Morris, J. Jones Roberts, Wm. Jones; forwards, Jack JODes, Moses Roberts, Meirion Jones, W, Williams, Ned Griffiths. Reserves, johnny Hughes, Edgar Hughes. Kick-off 2-30 p.m. Admission,-4d. 2d. and Id. Colours will be White. I
FFESTSMSOG. I
FFESTSMSOG. I YN MHOB LLAFUR Y MAE ELW,—Llawen- ydd genym unrhyw adeg ydyw cael llongyf- arch y rhai a fyddant yn llwyddo. Clywsom mai parh"u felly y mae ein cyn-ardalwr Mr. R. O. Jones, Bodunig gynt, yr hwn sydd yn awr yn Organydd yn Towyn, Meirionydd. Deallwn fod ei ddisgyblion wedi pasio arhol- iad o dan nawdd yi Incorporated Society of Musicians mewn chwsreu y berdoneg, yr hon a gynhaliwyd yn Blaenau Festiniog y mis di- weddaf. Y mae hefyd wedi ei benodi yn Bandmaster cyflcgedig ar Seindorf ag sydd yn cael ei sefydlu yn Towyn. Yn sicr bydd y profiad a gafodd pan yn aelod am flynyddoedd o Seindorf enwog y Llan pan oedd mewn bri o fantais dirfawr iddo yn y cyfeiriad hwn, a chyda Haw, aelod iawn oedd R. O. yn mhob ystyr, un ag y buasai yn werth i aelodau y Seindorf bresenol ei efelychu. leuenctyd Ffestiniog, a phob man arall o ran hyny, cym- erwch wers a gwnewch ddefnydd o'ch oiiau hamddenol a'r cyfleusderau sydd yn eich cyr- haedd fel ag y gwnaeth ein cyfaill, yr hyn yn ddiamheu i raddau sydd yn cyfrif am ei lwydd- iant a'r safle uchel y mae wedi enill yn y byd cerddorol.-Go.-i.
I- -- 11 ADOLYGIAD.
I- 11 ADOLYGIAD. "CRIST A CHWESTIYNAU'R DYDD, I sef Darlithoedd draddodwyd mewn Ysgol Haf Ddiwinyddol yn Nolgellau, 1908, gan Chwech o Weinidogion y Bedyddwyr. Blaenau Festiniog: Argraffwyd gan Davies & Co. Pris Swllt. MAE y gyfrol amserol a chynwysfawr hon new- ydd ei chyhoeddi gan y Parch. E. Cefni Jones, Calfaria, BIaenau Festiniog, ac aiff yr elw oddi- wrthi i gyd tuag at leihau dyled eglwys Cal- faria. Haedda gefnogaeth gyffredinol pe ond er mwyn yr amcan da sydd iw chyhoeddi; ond ni raid i'r gyfrol gardotta ffafr er mwyn yr achos hwnw er cystal yw, mae yn sicr o fyn'd yn ei phwysau ei hun. Mae y pynciau pwysig ac amserol a drinir ynddi, a'r medr a'r feis- trolaeth gyda pha rai y trinir y pynciau hyny yn ei gwneyd yn gyfrol wir werthfawr, a chaiff y neb a'i pwrcaso fwy na Hawn werth ei arian. Gwelwn oddiwrth y Rhagdraeth, sef ysgrif ddyddorol y Parch. Joseph Davies,Birkenhead, ar yr Ysgol Haf yn Nolgellau, mai i'r ddarlith olaf a draddodwyd y rhoddir y lie blaenaf yn y gyfrol, sef eiddo y Parch. R. G. Roberts, Caernarfon, ar Grist a Chwestiynau Cym- deithas," ac yn ein barn ni haedda'r lie hwn nid yn unig ar gyfrif ei phwnc pwysig, ond hefyd ar gyfrif grasp gafae!gar y darlithydd o'i bwnc, a'i drafodaeth oleuedig a grymus arno. Yn rhan gyntaf ei ddarlith cyfeiria Mr. Rob- erts at rai o'r achosion sydd yn gyfrifol am ddwyn i amlygrwydd y cwestiynau hyny sydd heddyw yn hawlio cymaint o sylw mewn gwasg a llwyfan a phulpud. Noda fel y rhai penaf fuddugoliaeth y bobl yn y flwyddyn '68 trwy freintiau y Reform Bill, a chyhoeddiad Ecce Homo llyfr enwog yr Atbro Seeley,-y naill trwy godi cwestiynau cymdeithas, a'r Hall trwy eu dwyn i berthynas a Christ a'i ddysg- eidiaeth. Cynorthwywyd y dylanwadau hyn gan eraill megis y cyfnewidiad yn amodau llaf- ur mewn canlyniad i gynydd gwybodaeth a dyfeisiad peirianau newyddion, a gwaith y werin yn diboblogi'r wlad ac yn tagu'r trefi a'r dinasoedd; yr hyn, gyda'r cydymdeimlad newydd a chyflwr y bobl, a wasgai gwestiynau cymdeithas yn anocheladwy i sylw. Cyfeirir at gyfodiad Sosialaeth, ac at ymdrech glodfawr dynion fel Maurice, Kingsley a Seeley i Grist- ioneiddio'r mudiad mawr hwnw a dylanwad y cyfryw rai yn olynol ar feddwl yr eglwys yn y wlad hon ac ar y cyfandir. A chan ddal bod meddwl Crist wedi ei ddatguddio yn eithaf clir ar bynciau cymdeithas, try Mr. Roberts ato am oleuni Ei feddwl ar bum' pen, sef Cymdeithas, y Wladwriaeth, y Teulu, Eiddo, a Llafur. Mae ymdriniaeth Mr Roberts ar y pynciau hyn yn dangosei fod yn feddyliwr diragfarn ac annibynol. Cydnebydd mai nod penaf Crist oedd deffro yr unigolion i'w gwir fywyd, ond dywed yr un pryd ei fod o hyd a'i lygad ar gymdeithas, ac yn dysgu na sylweddola yr unigolyn ei gymeriad ond mewn cymdeithas. Enw Crist ar gymdeithas ddelfrydol yw "teyrnas Dduw"' a'r drwydded iddi yw cym- eriad-bod yn blentyn i Dduw. Brawdoliaeth seiliedig ar fabolaeth ydyw, ac yn ymyl delfryd Crist syrth cymdeithas y gwledydd mwyaf gwareiddiedig i amherffeithrwydd gwarthus." Cefnogydd trefn gymdeithasol yn unig oedd Crist, yn ol Mr. Roberts, ac nid pleidydd ffurf neillduol o lywodraeth. Ni ellir defnyddio un gair ddyweclodd Crist i brofi fod un ffurf-lywodraeth yn fwy dwyfol na'r Hail Gellir gwneyd heb frenin, ac heb lywydd ac heb- ymherawdwr, ac heb bwyllgor o Sosialwyr, ond nid heb drefn." Mae ei ymdriniad ar Grist a'r Teulu yn benigamp. Dengys mai nid mympwy a damwain yw y teulu yn ol meddwl Crist, ond y rhed ei wraidd i lawr hyd at ffeithiau han- fodol creadigaeth, a'r canlyniad yw fod yr undeb priodasol i barhau yn annatodol, a bod pob aelcd yn y teulu yn gydradd. Gtrneir sylw dyladwy o'r dylanwadau sydd yn bygwth y teulu ym mywyd heddyw. Un yw y chwant am bleser a chyfoeth, a'r dybiaeth fod y teulu yn cyfyngu arnynt. Un arall, sydd yn I ymyryd ar teulu yn mysg y dosbarthiadau isaf, ydyw dylifiad aruthrol y bobl i'r trefi, lIe maent yn byw dan amodau sydd yn wenwyn i'r teulu. Un arall yw ymosodiadau yr arweinwyr Sosialaidd hyny sydd yn dal fod y teulu yn nawddogi eiddo parsonol. Ond yn ugwyneb y cwbl creda Mr. Roberts, ac yr ydym yn cydolygu agef yn hollol, "os ca dysgeidiaoth Crist chwareu teg y ceidw y teulu id le fel carreg sylfaen y bywyd cym- deithasol, Mae traetbiad Mr."Roberts ar Crist ac Eiddo, ac a Llafur, yr un mor gryf, ac os rywbeth y mae.yn grymuso ar bob cam wrth fyned rhag- ddo. "Drwg wydrau cymeriad a brawdoliaeth mm iin vr edrychai Crist ar gyfoeth a meddai ef, a hyny heb gymeryd ochr unrhyw blaid neillduol. Difyna ymadroddion Crist sydd yn condemnio cyfoeth a chyfoethogion, ond y mae ei esboniad arnynt yn gymedrol a doeth. Nid yw am groeshoelio cyfoeth na gorseddu tlodi; nid yw y naill na'r HaIl na da na drwg ynddynt eu hunain—beth yw eu dylanwad ar gymeriad sydd bwysig. Cytuna a Sosialaeth Mr. H. G. Wells ar bwnc eiddo, a dywed bod yr awdwr hwnw yn nes i ddysgeidiaeth Crist nag i eiriau y gwyr hyny fu yn cynhyrfu Iwrop gyda'r cri mai JIadrad yw eiddo' Dangosir hefyd bod Crist yn barnu llafur yn ngoleuni dwy egwyddor fawr y deyrnas, sef cynyrchu cymeriad a sefydlu brawdoliaeth a dadleuir pe cai yr egwyddor hon le y byddai yn haws settlo rhai o gwestiynau llafur presenol. Eff- eithiai ar gwestiwn cySog ac oriau llafur. Pan sylweddolir delfryd Crist ynglyn a llafur, bydd gwaith i bawb ar amodau cyfiawn a rhes- ymol, a chyflawnir ef oddiar gymellion teilwng. Unir y meistr a'r Hafurwr yn rhwymau cariad a chyfiawnder, a chodir yr oil o gymdeithas mewn cysuron materol yn ogystal ag mewn cymeriad moesol." Ffrwyth darllen eang, a myfyrdod dwfn, ffrwyth meddwl mewn cyffyrddiad byw chwes- tiyau'r dydd, a chalon mewn cydymdeimlad a dyheadau gwerin ac mewn awydd am eu sancteiddio a'u dyrchafu, yw y ddarlith hon drwyddi draw, a thai yn dda i bwy bynag gymero amser i'w darllen ac i fyfyrio uwch ei phen. Gwnawn sylw o'r darlithoedd eraill yr wyth- nos nesaf.—J.D.D.
LLANRWST.
LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglwys Sefydledig. St. Crwst.—Parchn. D. C. Davies, B.A,, a J. Morgan, B.A. St. Mary.—Parchn. J. Morgan, B.A., a D. C. Dayies, B.A. y Methodistiaid. Seion-Parch. T. M. Jones (Gwenallt), Colwyn Bay. Heol Scotland.-Cyfarfod Ysgol. Yr Annibynwyr. Tabernacl. -Parch. W. C. Williams. Ebenezer.—Myfyriwr. Y Wesleyaid. Horeb.—10, Mr. Edward Jones; 6, Mr. O. Foqlkes. St. James (English Chapel).-Mr. F. D. Tompkinson. Y Bedyddwy. Penuel.—Oedfaon. Y mae Mri. Blackwall, Hayes, & Co., wedi cyhoeddi Calender prydferth iawn eto eleni, gan nodi arnynt ddyddiau eu Sales yn Cae'rgraig er mwyn hwylusdod i werthwyr a phrynwyr. MEDDW, AFREOLUS, AC YMOSOD.—Mewn heddlys arbenig ddydd Sadwrn o flaen Mri. O. Isgoed Jones, a W. Hughes, yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd W. J. Parry, Scotland Street, o fod yn feddw ac afreolus, ac ymosod arno y noson cynt. Gwelodd y swyddog ef yn feddw yn y dref y noson gynt, ac yn ceisio cael diod yn nhafarnau y dref, a phan aeth i rybuddio y tafarnwyr bu i'r cyhuddedig ei daraw.—Dirwy 10/- a'r costau am ymosod, a 2/6 a'r costau am fod yn feddw ac afreolus. HOREB.-Nos Lun, o dan lywyddiaeth y Parch. T. C. Roberts, traddodwyd Darlith o flaen y Gymdeithas Ddiwvlliadol ar Ddaear- grynfeydd a Llosgfynyddau," gan Mr. Caradog Mills, Flas Helyg. Ni raid dywedyd fod y Ddarlith yn un benigamp, gan fod enw y Dar- lithydd yn ddigon o warantrwydd am hyny. Y mae ef yn hollol gartrefol yn maesydd Gwyddoniaeth, ac yn fedrus ar fynegi ei feddwl yn gyhoeddus er budd eraill. Diolchwyd yn gynes iddo am ei sylwadau gwerthfawr. PREGETHU.—Yn Nghapel Horeb yr wyth- nos nesaf, bydd cyfres o bregethau yn cael eu traddodi. Nos Lun a nos Fawrth pregethir gan y Parch. Edward Humphreys, a'r tair noson ddilynol gan y Parch. Richard Lloyd Jones, Cadeirydd y Dalaeth. Nos Sabbath, cychwynwyd cyfarfod gweddi y Bobl Ieuaingc yn Horeb, a dewiswyd Mr. Owen Ffoulkes yn Llywydd. BLWYDD-DAL.-Aeth haner cant am eu blwydd-dal ddydd Gwener yn y Llythyrdy. Dymunol iawn oedd canfod gwen a sirioldeb ar wynebau cynifer a hyny o bobl oedranus y dref wrth dderbyn eu blwydd-dal. AMRYWIOL.—Da genym weled yr heddgeid- wad J. Jones wedi ail ddechreu ar ei ddyled- swyddau ar ol ei waeledd diweddar.—Y mae Mr. T. L. Roberts, mab hynaf Mr. W. Lloyd Roberts, Avondale, wedi anfon adref Ddraig Goch hardd nodedig wedi ei gweithio mewn sidan gan Chinead. Y mae Mr. Louis Roberts yn awr yn Vancouver yn gwneyd enw da iddo ei hun gyda newyddiaduraeth.-Hysbysir ni fod Mr. W. Lloyd Roberts, Avondale, wedi prynu Life Policy y diweddar John Roberts, Pencraig, ychydig gwell nag wythnos cyn iddo foddi yn Afon Llugwy. Hysbysir ni yn mhell- ach fod Mr. Roberts wedi rhoddi [120 allan o'r swm oedd yn dod iddo o dan y Policy i'r weddw. MEDDW AC AFREOLUS.—Mewn Heddlys arbenig ddydd Llun, o flaen Dir. T. E. Jones, O. Isgoed Jones, a L. O. R. Ashley, yr Hedd- geidwad Holgate a gyhuddodd John Huckle, Back Watling Street, o fod yn feddw ac afreolus yn, Denbigh Street nos Sadwrn. Tystiodd y Swyddog iddo weled y cyhuddedig tua chwech o'r gloch yn feddw ac afreolus, a phan ofynodd iddo fyned adref gwrthododd, a chanlynodd ef gan ddefnyddio iaith aflan.—Yr Uwch-arolygydd Woolam a dystiodd i'r cyhuddedig gae! ei ddirwyo am feddv?i yn Mehefin diweddaf, ond nid oedd wedi talu y ddirwy hono. Gadawodd ei wraig ef a thri ple?tyn, 5, 9, ?c 11 oed. Bu yn gweithio yn Dolgarog, ond yn ddiweddar yr oedd yn tor cerig o dan y Cyngor Dinesig. Ar un achlysutf pan aeth ef (y tyst) a chig i'w dycafodd y plant heb dan, ac yn ymarferol heb ymborth, tra yc oedd y cyhuddedig yn gwario ei arian yn y tafarndai. Yr oedd y ty bron yn hollol foel a ddodrefn, ac yr oedd yn bwriadu galw sylw Swyddog y Gymdeithas er atal Creulondeb at Blant at yr achos. Yr oedd ganddo 6/11 yn ei feddiant pan gymerwyd ef i fyny.—Dirwy o 5/- a'r costau neu 14 niwrned. Gwrthodwyd arcs am yr arian, ac awd ag ef i garchar. CYLCHWYL* FLYNYDDOL CAPEL SCOTLAND. —Dydd Calan cynhaHwyd Gwyl De a chyfarfod cystadleuol nodedig o Iwyddianus yn nghapel cenhadol Heol Scotland. Gofalwyd am y byrddau te gan Misses Williams, Town Hill; Miss Williams, a Miss Kate Williams, Regent House; Miss Rowlands, Grove House; Miss Owen, Station Road; Miss Jones, Dafarn Fedw; Miss Roberts, Taiybont: Miss Jones, Bodunig, a Mrs, Roberts, Street y Bont. Wedi clirio y byrddau Hywyddodd Mr. T. Rogers Jones ar gyfarfod cystadleuol llwyddianus drefnwyd gan yr Ysgrifenydd ymreddol, Mr. Herbert Roberts. Cyfeiliwyd gan Miss Rowlands a Mr. Gwilym Roberts. Clorianwyd yr ymgeiswyr gan gyfeillion lleol, a Mr. Albert Jones, A.C., Bettwsycoed, yn barnu'r canu. Enillwyd y gwobrwyon fe! y canlyn:- Traethawd (agored). 1, Robert Hughes; 2, Elias Hughes Eto, dan 21. 1, D. J. Owen 2, Evan Thomas. Arholiad Ysgrythyrol, dros 21. Robert Hughes a D. Williams yn gyd- radd. Eto, dan 21. 1, D. J. Owen; 2, Katie Rowlands. Eto, dan 16. 1, T. J, Jones a Mona Williams yn gydradd; 2, J. Ogwen Thomas 3, Phylis Savin. Eto, dan 14. 1, Lizzie J. Roberts; 2, J. G. Jones; 3, Lily Jones; 4, Miriam Hughes a Robert Williams- yn gydradd. Eto, dan 12. 1, Olwen Rowlands; 2, Annie Hugnes. Eto, dan 10. 1, J. G. Jones, L. J. Roberts a Lily Jones yn gydradd. 2, Miriam Hughes; 3, R. O. Williams. Adrodd, dros 14. David Williams. Eto, dan 14. 1, Mona Williams; 2. Lizzie Williams. Eto, dan 10. 1, Tommy Owen; 2, W. A. Jones; 3, R. E..Pritchard. Corau Plant. Y goreu oedd Cor Mr. David Williams. Parti o wyth. D. Williams a'i barti. Unawd i rai dan 21. Evan Thomas. Eto, genethod dan 16. 1, Lizzie Williams; 2 C. A. Owen. Eto, bechgyn dan 16. 1, Tommy Owen; 2. W. Hughes Deuawd, dan 16. Lizzie a D. Williams. Unawd, dan 10. 1, Lily Jones; 2, E. J. Jones.—Gwobrwyodd Mr. John Thomas, Llywydd yr Ysgol Sul y plant can- lynol am eu ffyddlondeb yn yr Ysgol yn ystod y flwyddyn.-D. Pritchard a A. J. Pritchard (52). W. Parry, Tanygraig W. J, Williams W. T. Taylart; T. Owen R. J), Pritchard (51). J. Ogwen Thomas; J v J?vans Robert Evans; Jennie Jones: Lizzie J. Roberts; Reggie Alisup ac Eddie Evans. (50). O. H. Salisbury (49).
VVYVVVVVVVVVVVV BLAENAU FFESTINIOG.
VVYVVVVVVVVVVVV BLAENAU FFESTINIOG. Amheuthyn i Frecwest.—Best Bacon, plain, 9d per lb; Cumberland Cut, Sd Best Danish Smoked, lOd; Small Pickie Hams, 41d; Best American Cheese, 8d, i'w cael am y prisiau isel a enwyd yn unig gan E. B. Jones & Co., Canton House. BRYNBOWYDD.—Nos Iau, 31ain, cynhaliodd cymdeithas ddiwylliadol Brynbowydd eu cyfarfod adloniadol yn Griffin Tem. Hotel, a chawsant Swper yn y cyfarfod. Cymerodd pleidiau canlynol ran. Detholiad gyda'r Gramephone gan John Lloyd Davies. Anerch- iad gan y Llywydd, Mr. Robert W. Robqrts.' Can gan J. R. Jones, Ty Capel, a W. J. Williams, Square. Araeth byrfyfyr, Cariad. goreu, W. J. Williams. Can gan Mr. Evan 0. Williams. Adroddiad gan Miss Maria Williams, Square. Can gan Miss Sarah A. Morris. Drwg genym ei bod wedi gorfod myned allan o'r cyfarfod yn y diwedd i alia roddi y gweddill i lawr. Caed hwyl rhagorol a Swper rhagorol iawn.—Yn y Gymdeithas ddiwylliadol nos Lun, caed dadl ar "A oes, perygl i Gristionogaeth oddiwrth y deffroad Sosialaidd." Oes, medd Mr. Hugh Jones. Medical Hall; Nac oes, medd Mr. Gwilymt Morris, Holland View. Siaradwyd yn mhellach arno gan amryw o Frodyr a rhodd- wyd ef i bleidlais a chaed mwyafrif dros nad oes berygl.—T.R. Mae y Dorth Fawr, sydd yn ddigon o faich i ddyn, yn dal i gael ei gwneyd a'i gwerthu am yr un bris eto yn Shop E. B. Jones, Canton House. GdBEiTHLU MAENOFFEREN.—Nos Fercher cynhaliwyd yr uchod o dan lywyddiaeth Glyn Myfyr. Canodd y plant amryw donau yn swynol iawn. Cafwyd cystadleuaeth ysgrifenu banes Iesu Grist hyd yn 12eg oed, goreu, Ellen Parry Jones. Cafwyd amryw gystadleuon dyddorol, a chyfarfod da. Bydd y Gobeithlu, yn gwasanaethu yn Jerusalem nos Sadwrn nesaf.—YSG. Angen y Cyhoedd yw cael Nwyddau goreu. am y prisiau isaf. Mae Bacon campus, Lard, Caws, a Menyn diguro, ar werth gan Parry, Shop Newydd, High Street. DIRWESTOL.—Cynhaliwyd cyfarfod dirwest- ol dan nawdd Gobeithlu Jerusalem dan lywydd- iaeth Mr John Jones, Fronheulog. Ton gyff- redinol. Adroddiad o Ephesiaid 6 ben., gan E. Cadvan Jones. Adroddiadau gan D. Roberts, Jennie Jones, Emlyn Hughes, Grace Hughes, Evan Cadvan Jones, a Maggie Edwards. Deu- awd gan Maggie a David Williams. Can gan Miss Mary J. Pearce, Mjss M. Trywena Jones, David Joseph Jones, Miss Minnie Jones a Mr. Morris H. Thomas. Annerchiad gan y Parch J. Hughes. Canodd y plant yn dda ragorot o dan arweiniad medrus Mr Thomas Pugh, yn cael ei gynorthwyo gyda'r --efferyn gan Miss, Ohven Thomas. Terfynwyd y cyfarfod gan y Parch j. Hughes. ByddGobeithIu Maenoffer: en yn gwasanaeth nos Sadwrn nesaf.- T.R.