Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

BETTWSYCOED. I

News
Cite
Share

BETTWSYCOED. I St. Mary.—Parch. R. R. Jones, M.A., Ficer. Brynmawr.—Parch. A. T. Jones, Chwilog. Tabernacl.—Mr. E. Roberts. Pentrefoelas At drigolion yr ardal ar amgylcboedd. Y mae Mr, William Williams, Pontypair Shop, yn dymuno hysbysu ei fod wedi cael bob math o batrymau newyddion at dymor y gauaf mewn Overcoats, Rainproops, a Suitiau Dynion a Bechgyn. Cedwir Overcoats Dynion mewn Stock am 18/6 i fyny, hefyd i Fecbgyn o 7/6 i fyny. Eto, Siwtiau i Ddynion am 18/6, Trowsers, 4/6 i fyny. Gwarentir fit a'r style ddiweddaraf. Gellir eu cael ar fyr rybudd. Pob math o Crysau, Hosanau, a Scarfs. Y mae Mr. Williams yn Agent i Mri. Thomson, Perth Dye Works. Nos Iau, cynhaliwyd gwasanaeth agoriadol yr Organ. Bu yr Organ o dan adgyweiriad, ac yr oedd y draul tua tri chant o bunau. ChwareuwydS gyda meistrolaeth ar yr Offeryn gan Dr. Rowland Rogers, Bangor, a datganwyd yn swynol gan foneddigesa Golwyn Bay, yn absenoldeb Mrs. Taylor, Rhyl. Nos Sadwrn, cynhaliodd y Gymdeithas Elusengar ei 55 cyfarfod blynyddol. Yr oedd te ar y byrddau o dri o'r gloch hyd 6. Mudwyr eleni oeddynt, MrsThomas, Bryn Llewellyn, at Mrs Jones, Cyrau View. Casglodd y Gym- deithas oddeutu £ 31 i'w rhanu rhwng gwedd- won a'r amddifaid yr ardal. Dangoswyd ffydd- londeb mawr a gweithgarwch diflino yn mysg y chwiorydd. Mae hwn yn hen sefydliad yn yr ardal, ac wedi cael gafael ar galonau y teulu- oedd ac fel dengys pethau eleni mai myn'd yn ddyfnach y mae. Gellir gwirio Mai dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn." Yn yr hwyr am 6-15, cynhaliwyd cyngerdd mawreddog yn Ysgoldy Glan Llygwy. Llywydd Mr Matthew H. Thomas, 2, Glanrafon. Arweiniwyd yn hynod fedrus gan y Parch. R. M. Jones, M.A., ficar. Dechreuwyd gyda chwareuad ar y ber- doneg gan Miss Pritchard. Gwasanaethwyd yn hynod gymeradwygan Mr E. Ffestin Jones, A.C., a Mr David Francis (Telynwr Dall), Bl. Ffestiniog. Cafwyd treat ganddynt, a rbodd- I asant foddlonrwydd cyffredino4. Hefyd yr un modd y Cor Undebol o dan arweiniad, Mr. D. C. Hughes, Willoughby House. Triawd gan Mr Albert Jones, A.c., a'i gyfeillion. Un- awdau gan Llinos Elsi, Mrs A. H. Davies, a Mr D. C. Hugbes. Deuawd gan Evie Jones ac Annie Jones, Cyrau View. Adroddiadau gan Mri Elias Morris Roberts, Cethin Terrace, Alun Rawson Williams, Muriau, a Miss Smiley Roberts, Rock House. Cafwyd hanes y gymdeithas elusengar am y 55 mlynedd a'i gweithrediadau, gan Mr. Wm. Williams, Machno Villa. Chwareuwyd yn ystod y cyfarfod gan Miss Roberts, De Eresby House. Haedda y pwyllgor glod am ei trefniant, ynghyda Mr. D. Lewis Hnghes, Craig y Don (yr ysgrifenydd/ yr hwn a wnaeth ei waith yn hynod ddeheuig. Ymwahanodd pawb wedi mwynhau un o'r cyfarfodydd gore-a er's blynyddoedd. \\A(\V\AAAAWWWVVWWVW

PENMACHNO.

NAftTMOR. -1

|TRAWSFYNYDD.

ITroi yn ol i Gymru.

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG. I

!Y NADOLIG A'R CALAIS.

i -I TREFRIW.

ITanygrisiau.

I FOOTBALL,