Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

LlacSrata Ci yn Nhrawsfynydd.

LLANFROTHEN.

.Toronto, Canada.I

Llyfrau Newydd.

GARN DOLBENMAEN. II

I - -a -y c- -------o -r a-…

BWRDD GWARCHEfDWAED LLANRWST.

Family Notices

CYNGOR DiiMESSG FFESTIWiOG.…

News
Cite
Share

CYNGOR DiiMESSG FFESTIWiOG. I Cyfarfu y Cyngorwyr canlynol yn nghyfarfod misol rheolaidd y Cyngor,—Mri.j John Cadwaladr (Cadeirydd); -Evan Jones, (Is- gadeirydd) J. Lloyd Jones (Hynaf); Cadwaladr Roberts; David Williams; Hugh Jones; W. J. Rowlands; J, Lloyd Jones (leu.) E. Lloyd Powell; Hugh Jones (Llan); Ben T. Jones; T. J. Roberts William Edwards; E, T. Pritchard; T. R. Davies; R. O. Davies (Clerc) E. Lewis Evans (Rheolwr Gwaith) W. W. Jones (Cyfrifydd) George Davies (Arolygydd) a Dr. Richard Jones (Swydddog Meddygol). Dymuniadsu Da. Y Cadeirydd a ddymunodd Flwyddyn Newydd Dda" i'r holl aelodau, a chynrych- lolwyr y Wasg. Y Clerc ar ei ran ei hun a'i Syd-swyddogion a ymunodd yn y dymuniadau a hyn, ac hyderid am flwyddyn fwy llwydd- iacus ar fasnach yr ardal nag a gafwyd y flwyddyn oedd newydd eu gadael. Mr. Llew Davies, Cambrian News, a ddiolchodd ar ran y Gohebwyr am y teimladau da amlygwyd at y wasg, ac unid i ddymuno yn dda i'r holl Gyngor a'i swyddogion. Y Llyfrgell. Yn nglyn a'r Llyfrau Newydd a archwyd, adroddodd y Llyfrgellydd (Mr J. Lloyd Jones) nad oedd y copi gafwyd o'r "Welsh Political Review yn gyflawn, a phasiwyd i'w ddych- welyd er mwyn cael un arall yn ei le.-Gan fod amryw lyfrau archwyd gan Mri Hey wood heb ddod i law am nad oeddynt yn eu mheddiant, pasiwyd i bwyso arnynt am en cael yn ddiym- droi, oblegid eu bod i'w cael ond eu ceisio pawn swyddfeydd eraill.—Derbyniwyd cynyg- lad Plaid Annibynol Llafur i gyflenwi y Llyfr- gell a Phapur y Blaid.-O berthynas i'r Llyfrau yr adroddai y Swyddog Meddygol eubod mewn cYfiwr afiechydol, pasiwyd i'w cadw o gylch- rediad, a bod nifer o'r Pwyllgor i'w harchwilio gyda'r Llyfrgellydd cyn eu dinystrio, a bod rhestr o'r rhai a ddinystir i'w chadw er mwyn Pwrcasu rhai yn eu lle.-Eglurodd y Clerc i'r Pwyllgor fu'n dethol llyfrau beth oedd y sef- yllfa arianol, a phasiwyd i'r cyfryw orphen eu gwaith o ddewis rhagor o lyfrau i fyny i'r swm sydd wrth law i'r amcan o'u prynu.—Ar gyn- Ygiad Mr. E. Lloyd Powell (Cadeirydd y Pwyllgor) a chefnogiad Mr. W. Edwards mab- Wysiadwyd yr adroddiad. Cyhoeddi Blwyddiadur. Yr oedd Is-bwyllgor y Rheolau sefydlog wedi ei. stedd amryw weithiau, ac argymellent rai cyfnewidiadau pwysig yn y cyfryw y rhai a ddodwyd ger bron y Cyngor i'w cymeradwyo. Yn nglyn a'r Rheolau Sefydlog, cyflwynwyd Copiau o Flwyddiaduron gyhoeddir gan Gyngorau eraill, y rhai a gynwysant y Rheolau Uchod a lluaws o fanylion eraill. Yr oeddid wedi gofyn am brisiau gan yr Argraffwyr am Oll cyhoeddi, ond nid oeddid wedi eu derbyn yd yn hyn.—Y Clerc a ddywedodd fod yr amser yn rhedeg yn mhell os arhosid hyd y gyngor nesaf, a byddai yn well i'r Cyngor "enderfynu pa un a roddid hawl i'r Is-bwyllgor "I,Oilhredu yn derfynol neu beidio.—Pasiwyd 1 r Blwyddiadur gad ei gyhoeddi os ystyriai yr Is-bwyllgor y pris yn rhesymol am wneyd y gwaith. Y Cynllun Carthffosawl. I Cyflwynwyd adroddiad yr Is-bwyllgor fu yn edrych y gwahanol fanau fuont dan sylw yn flaenorol fel lleoedd priodol at drin carthion 4dran 4, sydd yn cynwys ardaloedd poblog y Rhiw a Tanygrisiau. Argymellid i'r Rheolwr Gwaith gymeryd mesuriad o'r lie wrth Bont Maesneuadd; beth fyddai y gost o gario y Pibelli i Dolwen ac a ellid gwneyd trefniad i grin y carthion perthynol i'r tai ar y manau *«af ar wahan i'r cynllun at y gweddill o'r dosbarth.—Mabwvsiadwyd yr adroddiad. be Bu Cyngor arbenig yn eistedd i ystyried tha wnaed gyda golwg ar gwblhau Adran 3, o'r cynllun. Yr oedd Mr. Alltwen Williams wedi gwneyd y planiau &c, yn nglyn a'r gwaith Carthffosawl yn Cwmbowydd, ac jtoicangyfrifai y gost o'i gwblhau yn £ 1215. meradwywyd y planiau, a phasiwyd i'w hanfon i fyny i Fwrdd y Llywodraeth Leol i'w lerbyn gyda'r amcan o gael benthyciad at orphen y gwaith. Eisteddodd y pwyllgor cyn i'r Cyngor YlDgynull, a bu adroddiad y Rheolwr Gwaith ar y Gwelyau Bacteraidd yn Cwmbowydd o eu hystyriaeth. Yr oedd y gwaith bron edi ei gwMbau, ond fod y cario ar 01. Rhodd- yd awdurdod i Mr. Evans i gymeryd rhywun  yn oreu os ? byddai y cariwr cyfnfol In Y gwaith hwnw yn gallu ei wneyd. Man-ddeddfau. I Cyflwynwyd adroddiad y Pwyllgor fu'n ys- tyried y gwahanol Fan-ddeddfau fwriedid eu a.el.yn y Dosbarth, Hysbysodd y Clerc fod atebiad wedi ei dderbyn yn nghylch amryw o a dysgwyliai at y Cyngor nesaf y bydd- a Wedi gor pher- gyda'r oil o'r deddfau hyn. Goleuo Springfield Terrace. Y Rheolwr Gwaith a adroddodd i'r Pwyllgor ?d oedd y lamp yn goleuo ond i Yard Capel -'?usalem, yr hwn oedd yn !!e private, ac ar- ??eHai ei symud fel ag i oleuo i Springfield ?rrace ac OSsren Cottages, a chymeradwyai y pwyllgor yr awgrymiad.—Mr. David Wil- la.m.s a wrthwynebodd. Yr oedd y Cyngor wedi gwneyd cam dybryd a Chapel Jerusalem pa.n yn ad-drefnu y lampau. Darparwyd goleu at bob capel arall ond cymerwyd eiddo hwn i QWrdd. Yr oedd y lamp hon yn gwasanaethu i alenQ y fynedfa at ystafell y gwneid nrvy o defnYdd cyhoeddus o honi na'r uu arall yn yr hall ardal. Yno y cynhelid y cyfarfodydd dlrwestol bob nos Sadwrn, Fc amryw gyfarfod- y^d cyhoeddus eraiil, Pe symudid y lamp feI Yr awgrvmld, ni byddai yn ateb ond yn rhanol tr yn olygid iddi wneyd. Byddai hefyd yn ^Urion i'r Rheolwr Gwaith edrych i mewn a Oedd y ffordd ar yr boa y golygai ddodi y lamp un gyhoeddus ac a oedd wedi ei chymeryd tosodd gan y Cyngor, Cynygiai i'r mater gael ei droi yn ol i'r pwyllgor am ystyriaeth I pellach, a phasiwyd hyny. Gorsaf Dan. I Yr oedd y Pwyligor blaenorol wediawgrymu tri He i godi Gorsaf arnynt i gadw y Peiriant a'r offerynau ciffodd tan. Yn y pwyllgor diweddaf, ystyrid ystablau y Commercial Hotel yn anghyfaddas i'r pwrpas am yr un rheswm y gosodwyd y lie y talodd y Cyngor am dano yn ei ymyl, sef y perygi oedd yno oherwydd agos- rwydd y graig fregns oedd yno. Cafodd y pwyllgor adroddiad Mr. Evans ar y tir wrth gefn y Swyddfeydd cyhoeddus, a gofynwyd iddo ddarparu cynllun i ddefnyddio rhan o'r Farchnadfa at y pwrpas i aresjjtrefniant pellach a pha un a ellir defnyddio y gor.gl wag sydd wrth y Farchnadfa i'r un perwyl. Yr oeddid hefyd yn gofyn am amcan-gyfrif o'r gost. Oedwyd ystyried cynygiad Mr. Evan Morris i werthu ei Laundry i'r Cyngor at wneyd Gorsaf Dan hyd nes y ceid adroddiad Mr. Evans.— Mr. C. Roberts a ofynodd a oedd yr adroddiad yn barod, ac atebodd Mr. Evans nad oedd wedi cael hamdden i edrych i mewn i'r mater fel ag i allu cyflwyno ei adroddiad y noson hono.—Mr. C. Roberts, Y mae y mater hwn yn llusgo digon. Yr ydyrn yn codlo gydag ef er's blynyddoedd. a gwerth ugeiniau o bunau o eiddo y trethdalwyr yn dyfetha o eisiau lie i'w cadw. -Yr wyf yn cynyg fod Mr. Evans a'r pwyllgor yn myned i olwg y lie yn ddiym- droi, a bod Pwyllgor v Nwy a'r Dwfr yn cael ei alw i ystyried adroddiad Mr. Evans, a Chyngor arbenig i fod ar ei ddiwedd i gadari- hau y gweithrediadau.Cefnogodd Mr. D. Williams, a phasiwyd yn unfrydol. Ffordd Cwmbowydd. Anfonodd Mrs, Thomas, Cwmbowydd, gais am i'r Cyngor adgyweirio y ffordd o Bont Frongoch at Cwmbowydd, gan mai y Cyngor oedd wedi ei dryllio. Gofynwyd i Mr. Evans wneyd adroddiad ar y ffordd, yr hyn a wnaetb, gan hysbysu iddo gael allan, nad oedd y Cyngor wedi defnyddio y ffordd er's amser maith, ac felly nad oedd yn ystyried y dylid ei hadgyweirio. Pan ddarllenwyd ei adroddiad i'r Cyngor dywedwyd wrtho fod rhywun wedi ei gamarwain gan fod sicrwydd i'r Cyngor gario llawer ar hyd-ddi. Y canlyniad o'r ad- roddiad fu i Mrs. Thomas anfon at Mr. Evans i'w hysbysu na chaniatai i ragor o gerig gael eu codi ar dir Cwmbowydd heb i'r Cyngor dalu am y dresmas, a bu raid iddo yntau atal amryw ddynion o'r achos. Addawodd y Clerc weled Mrs. Thomas yn y cyfamser. Bu i'r Clerc a Mr. Evans weled Mrs. Thomas, a chytunwyd i gael caniatad i godi cerig ar y deall fod y ffordd yn cael ei hadgyweirio. Goleuo Baron Road. I Hysbyswyd fod Mr. Thomas Jones yn I gwneyd trefniadau gyda'r Cwmni Trydanol i I oleuo y ffordd uchod. Arianbl. I Argymellai y Pwyllgdr Arianol i dalu gofynion mewn cyflogau, &c, yn gwneyd cyfanswm o £ 880 5s Ie, a phasiwyd hyny. Yr oedd deg gitii, fee y Peirianydd (Mr. W. E Alltwen Williams), am Jjaratoi planiau, &c, cysylltiol ag Adran 3, o'r gyfundrefn Garth- ffosawl, yn y swm uchod. Mr. Richard Robert a ddywedodd fod y perchenogion yn tynu yn ol eu hawliad o ddeuddeg punt }n nglyn a lledu y ffordd yn Tanygrisiau, a phasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch iddynt. Derbyniwyd cynygiad y Peirianydd i wneyd plan cyflawn o holl ffosydd, pibelli dwfr, a pbibelli nwy trwy'r Dosbarth. Y cyfrifydd a ddywedodd i £ 464 5s 5c gael eu casglu i mewn o wahanol ffynonellau, a daeth benthyg o £ 959 i law. Byddai y ddyled yn yr ariandy ar ol talu y biliau yn £ 1222 12s 4c. Mewn atebiad i Mr. C. Roberts hysbysodd y Clerc nad oedd y diffygion yn nghyfrifon y diweddar Mr. W. P. Owen yn cyraedd dau gant o bunau, ac yr oedd yr hawliad wedi ei anfon i Gwmni Yswiriol yr Ocean. Deuai yr arian i law mor fuan ag y ceid y papurau gofynol i'w hanfon i fyny.—Mr. C. Roberts, Dylem geisio cael pob dimeu a allwn i mewn yn lie talu llog yn yr Ariandy am arian ydym yn godi oddiyno." Mr. David Davies a ofynodd a'i ni ellid defnyddio y J959 gafwyd yn fenthyg i roddi gwaith i'r diwaith yn yr ardal?—Y Clerc a atebodd mai arian oedd yrhai hyn at orphen y Gwaith yn CwmbQwydd, l!e y rhoddir gwaith i amryw bobl fel y profai y ffaith eu bod yn talu dros dri chant o bunau y mis hwn yn nglyn a'r lie. Yr oeddid yn awr yn gwneyd cais am ddeuddeg cant o bunau at waith pellach, a byddai y rhan fwyaf o'r arian yn myned yn gyflogau i'r gweithwyr. Adroddiadau y Swyddogion. I Yr Arolygydd a ofidiai orfod adrodd i 36 Achos o glefydon gael eu Nhodi i fyny hyd Rhagfyr 21, ar gyfer 14 achos y mis cynt, a 5 yr un amser y llynedd, ac yr oedd 30 o'r 36 yn Dwymyn Coch. Pasiwyd i gario allan y gwaith a nodai yr Arolygydd oedfi yn ofynol yn nghefn y Manod Hotel a'r tai cysylltiol. Y Swyddog Meddygol a hysbysodd i Ysgol y Babanod yn M»an«ff«ren gael ei chau hyd lonawr 11 oherwydd y Twymyn Coch.—Gan- wyd 17 yn mis Rhagfyr, a bu farw 8.—Yr oedd nifer fawr o achosion o'r Twymyn Coch (Mr. G. Davies, Saith a deugain,") wedi tori allan, yn neillduol yn rhanbarth Maenoffersn, Meddyliai y byddai yn briodol iawn wneyd cais at Gymdeithas y Gweinyddesau am i un o'r Gweinyddesau gymeryd gofal yr achos- ion hyn o glefydon er mwyn ceisio eu clirio o'r lie. Yr oedd yn cael ar ddeall nad oeddynt yn brysur iawn ar hyn a bryd, ag y gellid cael un i'r pwrpas a nodwyd, Yr oedd yn abl i brcfi fod y clefyd wedi dod i'r Dosbarth, ac nad oedd wedi cychwyn yn eu phth hwy.—Ar gynygiad Mr. C. Roberts a chefnogiad Mr. D. Williams pasiwyd i wneyd y cais am Nurse. Cymeradwywyd adroddiad y Clerc ar y gwahanol faterion ymddiriedwyd i'w ofal; a'r un modd Adroddiad y Rheolwr Gwaith. Goheblaethau. Pasiwyd i adael Hythyr Richard Roberts, Pengwern; a ilythyr Robert R. Davies, Incline Terrace, Tanygrisiau, ar y Bwrdd. Bu tipyn o siarad yn nglyn a llythyr Davies gyda golwg ar drwsio y Gamfa ar lwybr Tanygrisia.u, ond td yn unig a gododd eu dwylaw dros ei thrwsio. Pasiwyd i gefnogi deiseb o Gyngor Glasgow i gynwys dodi treth ar werth tirol (land values) yn y Gyllideb (Budget), Sylwodd Mr. J. Lloyd Jones yr arbedid haner trethi y Dosbarth pe tretbid gwelth tirol, Ar gynygiad Mr. Cadwaladr Roberts a chefnogiad Mr. D. Davies pasiwyd i ofyn i Mr. H. O. Davies draddodi yr Anerchlad oedd i'w roddi i'r Clwb Rhyddfrydol, yn y Neuadd mewn cyfarfod cyhoeddus ar ol cyfavfod y Clwb, Testyn Mr. Davies fydd,— Rhvddfreiniad Prydlescedd."—Rhoddwyd ar ddeall fod Mr, Davies yn myned i'r Cyngor Rhyddfrydol yn Caerdydd, ac addawodd ddatgan yno beth oedd teimlad Cyngor Ffestiniog sr y materion uchod, & & & & &