Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
Have you trrd WOLSEY = = = UNSHRINKABLE UNDERWARE ? IF NOT, get tl 3m = For the COI iNG SEASON! Every WOLSEY GARMENT is all Pure Wool. Every Garment is excellently made, and Every Garment is guaranteed unshrinkable (and will i") replaced free if it turns out otherwise.) NEW STOr: just arrived at SHOP=VR r:RYR, Co=operative Buildings, Bl. Ffestiniog, & SHOP IS F, Maentwrog. On receipt of enquiry, samples will be gladly sent to intending purchasers. OCT, 1907. T. ROBERTS. RECORD CHEQUE.. PROVES RECORD SALES. AND RECORD POPULARITY! Yes, the fact that;the Largest Cheque fo r Tea-Duty _ever paid amounted to £ 111,848 7$. Id., I andgwas'ipaid by the mflypoLE pfiiRy ço., LTP. and represented over Five ITHHion Pounds of the WORLD-FAMOUS JVIftYPOIiE TEA Proves indeed that It is by far the best and most popular Tea. OVER 520 BRANCHES NOW OPEN. ■iWiiMiiP'iiiiiwiii1 niii "si a~~i M"?!?? I Dyma gwestiwn a ddyla)aii gael eich sylw difrifolaf, a A Id weich hyny heb oedi" } y Os ydyw eich golwg yn Co!?? yn ddrw? nid oes modd ei wella D» d(ltfrfr ygi.ol heb rhyw gyfrwng allanol i Ddiffygiol wneyd hyny. IGoehelwch rh&g dfewis ctc ??esioS eich ???a!??, ??! fijuj ??ef! ?M fwy 0 ??e? 0 lawes*. Yr wyf yn barod i bfo6 eich golwg yn rhad, ac os bydd j—' gael rbai i'ch siwtio am bris ;hesymol. W. T h o m a 4)? I WatchmakÐP & OPtician,'1 ■ ^Ksitiofo' BtfliUi&B. Festinlog| S til #410 n? c- YY d Note Paper of every description, in neat boxes 6d. and is. Penny Packets, the trade supplied at wholesale prices. FOREIGN NOTE PAPER. Ch II II I ø 1f1l II ,) .f'j, í;,œ .t ??s h?!?  S?P? ???J! ??? M??N ? .3 ???! N ????S ?f??" ?s' ???   t< if ?'-?. ? ? *<<? ?? y flfjg i e i i 1 s
I At ein Gohebwyr. I
I At ein Gohebwyr. I J. G.-Diolch. Bydd yn dda genym glywed yn wythnosol oddiwrthych. D. D. (TRAWSFYNYDD).-Dyddorol dros ben. Diolch yn gynes i chwi. T. Ll. J .-DerbynioI bob amser. Nid oes ond disgwyl am ddechreu y gwanwyn i weled yr Adar, a'u clywed yn telori; ond difyr edrych ar rai o honynt hyd y nod yn y gauaf.
Araeth Nodedig. I
Araeth Nodedig. I Dydd Llun cyflwynwyd dinasfraint Llun- dain i Arglwydd Cromer fel cydnabyddiaeth am y gwaith mawr a gwerthfawr a wnaed ganddo yn yr Aipht dros dymor yn ymyl chwaner canrif. Diolchodd am yr anrbyd- edd mewn araeth fer ond nodedig iawn, gan ddangos mor fawr ydyw y cyfnewidiad er gwell ag y mae yr Aipht wedi myn'd trwyddo y blynyddoedd diweddaf. Trwy beirianwaith cywrain mae newyn a chyni oherwydd fod dyfroedd y Nilus yn isel i'w cyfrif ymhlith y pethau fu. Heblaw hyny mae y gwaith ynglyn a'r afon enwog wedi ei wneyd yn bosibl i dyfu cotwm yn y wlad ar radd eang iawn er mantais dirfawr i'r boblogaeth. Cyffyrddodd Arglwydd Cromer a'r ffaith fod llawer iawn mwy o aur yn cael ei gludo i'r Aipht nag a anfonir allan o hono. Mewn pedair blynedd yr oedd yn fwy o £13,000,000 Fel hyn y cyfi ifa Arglwydd Cromer am hyny Dywed fod cyfran helaeth o hono yn cael ei wario i ddadblygu y fasnach mewn cotwm, fod llawer iawn yn cael ei wneyd yn addurn- iadau personol yn ifurf modrwyau, breichled- au &c., a bod swm anhygoel o aur wedi ei guddio yn y ddaear gan ei berchenogion. Yn ddiweddar, eb efe, bu farw Aiphtwr cyf- oethog. Wedi ei farwolaeth cafwyd ei holl olud R80,000 wedi eu cuddio yn y ddaear dan lawr ei dy. Drachefn prynodd amaeth- wr cyfrifol dir am £ 25,000. Yn mhen haner awr wedi i'r cytundeb gael ei selio, daeth gyr o fulod at y swyddfa yn cludo yr £ 25,000 mewn aur, a gwybuwyd mai wedi eu guddio yn ngardd y gwr yr cedd y swm hwnw. Mae'r pethau hyn yn dra dyddorol i ni yn ngoleuni rhai o ddamhegion ein Harglwydd Iesu Grist. Anfantais i'r wlad ydyw fod cymaint o aur yn cael ei gadw felly o gylchrediad, a dadleuai Arglwydd Cromer dros sefydlu ynddi fanciau cynilo &c., dan nawdd y Llywodraeth fel y ceir hwynt yn y wlad hon. Pa beth bynag a ddywedir am hawl Prydain fawr i lywodraethu gwlad yr Aipht, y mae'n amlwg ei bod trwy ei llywod- raethu trwy Arglwydd Cromer wedi gwneyd i'r Aiphtiaid wasanaeth anmhrisiadwy. Nid oes Ilawer er's pan oedd y wlai yn ddi- ffaethwch nid oes llawer rhyngddi yn awr a bod yn ardd. Lie yr oedd tlodi ac angen mae cysur a llawnder.
Galwad i Waith.I
Galwad i Waith. Ercyn cof neb o hanam, y mae Arglwydd- raglawiaid y Siroedd wedi bod yn (lal segurswydd. Yr unig waith y mae yr oes bresenol o honynt wedi ei wneyd ydyw penodi ynadon a gwyddom sut y maent wedi gwneyd y gwaith hwnw. Apwyntiwyd yr Arglwydd-raglawiaid cyntaf i'r gwaith o godi milwyr bob un yn ei Sir ei hun at was- anacth y brcnin; yn awr, mae'r Brenin Iorwerth yn galw ar y rhai ddaliant y swydd yn bresenol i afael yn y gwaith a roddwyd i'w blaenoriaid i'w wneyd. Gorchymynodd iddynt ddyfod o bob rhan o Gymru a Lloegr i Balas Buckingham i ymddangos ger ei fron, ac fel un gwr ufuddhasant iddo. Cyfarchodd hwynt, a hysbysodd hwynt ei fod wedi eu galw ynghyd er mwyn hysbysu ei fod yn ewyllysio iddynt wneyd cymaint fyth ag a allant i wneyd cynllun Mr. Haldane i iawndrefnu a pherffeithio'r fyddin yn llwydd- iant. Nid gofyn iddynt, nid apelio atynt i wneyd hyny a ddarfu, ond gorchymyn hyny yn bendant. Dygodd ar gof iddynt mai i'r dyben yma y penodwyd Arglwydd-raglaw- iaid i ddechreu, a bod yr amser wedi dyfod iddynt afael drachefn yn y gwaith oedd wedi syrthio o'u dwylaw. Prin y mae yn rhaid dywedyd ddarfod i'w Fawrhydi wneyd hyny mewn dull perffaith foesgar, ond nid oedd yr awdurdod brenhinol gyda'r hwn y II efarai ddim yn llai o herwydd hyny. Dichon y buasai'r ffaith fod y cynllun wedi ei dynu allan gan Ryddfrydwr fel Mr. Haldene yn ddigon i rwystro rhai o'r gwyr rhag rhoddi eu hunain ddim o'r ffordd i'w weithio allan yn effeithiol, ac mae'n bosibl mai ofn peth felly a barodd i'r brenin gymeryd y mater mewn llaw. Fodd bynag; cafodd y duciaid a'r iarllod a'r arglwyddi a'r ysweiniaid a ymddangosasant o'i flaen wybod ganddo beth yw ei ewyllys frenhin- ol," ac y mae yn ddiameu genym y brysiant i'w gwneyd naill a'i o'u bodd neu o'u hanfodd. Nid ydym am gymeryd arnonl fod ynom y cydymdeimlad lleiaf a'r gwaith sydd wedi ei roddi iddynt, na'n bod yn ei ddeall chwaith. Yr oil a wyddom ydyw y cymer gryn lawer o'n hamser, y geilw arnynt i gymeryd trafferth y pair iddynt nid ychydig bryder ac y gesid arnynt gyfrifoldeb mwy nag a ddaeth i'w meddwl pan benodwyd hwy i'r swydd ag y mae gwyr mawr wedi arfer ei chwenych am el bod yn cael ei chyfrif yn swydd anrhydeddus ac urddasol.
NODIADAU WYTHNOSOL I
NODIADAU WYTHNOSOL I Helynt y Rheilffyrdd. I 0 ran dim sydd wedi ei wneyd yn hysbys, saif yr helynt yma lie safai wythnos yn ol. Cyfarfu y cyfarwyddwyr Mr. Lloyd George foreu ddydd Gwener, a buont yn ymgynghori ynghyd am rai oriau. Mae'r ffaith ddarfod i'r cyfarfod gael ei ohirio yn arwydd er daioni, oblegid ni fuasid yn trefnu i gyfarfod a'u gilydd drachefn oni bae fod o'r hyn lleiaf obaith fod cytundeb yn beth posibl. Nid gwiw pwyso gormod ar yr ychydig eiriau a ddywedodd Mr. Lloyd George pangyrhaedd- odd i'r Rhyl nos Lun. Dywedodd ei fod wedi rhoddi ei law i waith anhawdd a gobeithiai y llwyddai i wneyd heddwch rhwng y pleidiau. Gan iddo wneyd cyfeiriad o gwbl at yr achos, anhawdd fuasai iddo ddywedyd mwy na llai chwaith. Yr hyn a awgryma gohiriad y cyfarfod a crybwyllwyd, hyn a awgryma geiriau Llywydd Bwrdd Masnach. Gwaetha'r modd, bu i Arglwydd Claud Hamilton, Cadeirydd un o'r Cwmniau draddodi araeth herfeiddiol a ffol yn hon ni ddichon rwyddhau y ffordd i gytundeb ond a ddichon wneyd cytundeb yn anhawddach, oblegid mai ei heffaith naturiol ydyw chwerwi teimladau. Heblaw hyn mae Cwmni Rheilffordd Fawr Orllewinol (Great Western) wedi cyhoeddi ihybudd nachaniateir i'r rhai hyny o'u gwasanaethyddion a safant allan ddychwelyd at eu gwaith byth. Yn yr amgylchiadau mae rhybudd o'r fath i'w lwyr gondemnio; ni ellir fodd yn y byd ei esgusodi. Er fod y gweithwyr wedi pleid- leisio ar y cwestiwn A.ydych yn barod i sefyll allan ?" ni orphenir cyfrif y pleidleisiau hyd ddiwedd yr wythnos hon. Ymddengys i ni fod penderfyniad y cyfarwyddwyr i wrthod cydnabod Undeb y Gweithwyr mewn unrhyw fodd yn debyg i benderfyniad dynion yn tybied y gallant rwystro casgen o bylor rhag ffrwydro drwy sefyll gerllaw iddi a throi eu hwynebau oddiwrthi. Mae'r dydd wedi cerdded yn rhy bell i ychydig ddynion batch a thrahaus allu gorchfygu canoedd o filoead o ddynion gwell na hwy eu hunain, yn enwedig pan y mae gwlad gyfan mewn cydymdeimlad liawn a hwy.
Mr. Asquith a Mr. Carnegie…
Mr. Asquith a Mr. Carnegie ar Dy yr Arglwyddi. Mewn araeth a draddododd Mr. Asquith yn Newport dydd Mawrth dywedodd nad oedd ef yn cyfrif fod all dy seneddol mewn un modd yn angenrheidiol, ac mai cynyrch damweiniol amgylchiadau y gorphenol ydyw Ty yr Arglwyddi. Er hyny nid yw, mae'n amlwg, yn gweled ei ffordd yn glir i geisio ei diddymu. TDywed mai y peth cyntaf i'w wneyd ydyw gosod terfynau i'w awdurdod a deffinio ei waith-gwaith adolygiadol yn unig rhaid gwneyd hyny meddai, ac yna ei ddiwygio trwy newid ei gyfansoddiad. Tebyg iawn i'r eiddo ef ydyw barn Mr, Carnegie. Nid yw yn petruso dywedyd am ail dy seneddol yrurol DaIaethau-y goreu y gwyr ef am dano-nad oes, os bu erioed ddim angen am dano. Nid yw cyfoeth mawr Mr. Carnegie wedi peri iddo ymwrthod a'i olyg- iadau democrataidd. Ychydig iawn o bobl o'r tu allan i Dy yr Arglwyddi a chyfeillion personol y rhai sydd ynddo sydd yn credu fod yn rhaid i'r wlad wrtho.
Cylch Llygredig.I
Cylch Llygredig. Hyd yn ddiweddar yr oedd yn agos iawn at Ymherodraeth yr Almaen gylch tra llygredig yn cael ei wneyd i fyny o swydd- ogion milwrol uchel a gwyr teitlog. Erbyn hyn mae y gwyr a'i cyfansoddent wedi eu troi o'r gwasanaeth brenhinol, ac wedi syrthio i warth gerbron y byd. I Dr. Harden, golygyddy "Zukunst" y mae cymdeithas yn ddyledus am ddwyn y drygioni ffiaidd a wnaent i oleuni. Bu y Cadfridog Kuno Moltke, yr hwn gyda'r Tywysog Eulenburg, oedd ddyfnaf yn y drwg, yn ddigon beidd- yn ddigon beidd- gar i erlyn Dr. Harden am ei athrodi, a'r wythnos ddiweddaf bu yr achos gerbron yn Berlin. Amddiffynodd Dr. Harden ei achos ei hun a gwnaeth hyny yn hynod effeithiol. I brofi gwirionedd yr hyn a ddywedasai am Moltke galwodd dystion lawer iawn, a dangosodd eu tystiolaeth fod yr erlynydd a'i gyfeillion wedi syrthio i ddyfnderoedd isaf anfoesoldeb ac yn euog o weithredoedd rhy lygredig i'w traethu. Ni fu safle gym- deithas y gwyr sodomaidd yn ddigon i rwystro'r Llys rhag rhoddi dedfryd glir hollol yn nihiaid Dr. Harden, a gorchymyn i Moltke ddwyn hol 1 dreuliau y cyngaws. Da yw i wlad fod ynddi Wasg a fyn fod yn rhydd boed y canlyniadau a fyddonf. Yn yr Almaen gwaith lied beryglus ydyw dywedyd y gwir os bydd yn adlewyrchu yn anffafriol ar yr Ymh r >dwr neu ar wyr ag'os ato, neu ar y Bu golygydd y Zukunst" yn ddigon gwroi i ddywedyd ¡ caswir am rai oeddynt yn ffurfio cylch agos iawn at y teyrn, ac i ddadguddio llygredd sydd bron yn anghyhoel. Nid ydym heb ofni y gellid dywedyd gwir tebyg am nid ychydig o ddynion pwysig mewn ambell gylch yn ein gwlad ni. Pa mor isel bynag ydyw moesau Ilawer o'r rhai syddyn trigoyn heolydd culion ac aflan ein dinasoedd mawr- ion, nid ydynt yn euog o wneyd y ffieidd-dra a wneir gan rai sydd yn preswylio mewn tai gwychion ac yn cael byd da yn helaethwych beunydd. Mae'n sicr fod rhai sydd yn troi mewn cylchoedd felly yn dilyn arferion o'r fath ffieiddiaf sydd yn eu gwneyd yn anghymwys i fyw iyn mhlith pobl waraidd, nac anwaraidd chwaith o ran hyny. Pan orphena Dr. Harden ei waith yn yr Almaen, bydd yn ei aros fwy na digon o waith teby g iddo yn Lloegr, ac yn Nghymru hefyd.
I Pabyddiaeth yn Eglwys Lloegr.
Pabyddiaeth yn Eglwys Lloegr. Cynhaliwyd cyfarfod yn Lerpwl dan nawdd Cymdeithas yr Eglwys." Ffurfiwyd y gymdeithas hono gyda'r amcan o rwystro defodau Pabyddol rhag cael eu dwyn i fewn i'r Eglwys Sefydledig. Mae yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig, Mae yn perthyn i'r Eglwys gymdeithas arall a elwir Undeb yr Eglwys," llywydd yr hwn ydyw Arglwydd Halifax, gwr sydd yn Babydd mor wirion- eddol a neb a geir yn Eglwys Rufain. Dyben bodolaeth yr Undeb hwnw ydyw noddi a meithrin defodau Pabyddol a wrthwynebir gan Gymdeithas yr Eglwys. Fel hyn y mae aelodau yr Eglwys Sefydledig yn cydweithio. Anerchwyd y cyfarfod yn Lerpwl gan Syr George Kethewich, y boneddwr a fu yn agor Y sgol Uwchraddol y Genethod yn ein tref ychydig flynyddoedd yn ol. Y pryd hyny efe oedd Ysgrifenydd Sefydlog Swyddfa Add) sg. Y mae, weithian yn aelod Senedd- j ol. Eglwyswr yw a Rhyddfrydwr. Dywed- odd mai i Brotestaniacth y ihydd ef y lie blaenaf, a'r ail le i wleidyddiaeth, acapeliodd at Anghydffurfwyr y Deyrnas i helpu Eglwyswyr Protestanaidd i fwrw allan o'r Eglwys y Babyddiaeth sydd ynddi. Gallant wneyd hyny eu hunain pe baent yn foddlon i dori y cysylltiad sydd rhyngddi a'r wladwr- iaeth yr un dydd mewn lie arall, dywedai Mr. L. Haicourt A.s., mae "yteyrn a'r senedd ynghyd ydyw gwir ac unig ben Eglwys Lloegr," ac Eglwyswr ydyw yntau. Ceir yn areithiau y ddau foneddwr addefiad- au na fydd pleidwyr dadgysyllliad a dad- waddoliad yn araf i afael ynddynt a gwneyd y defnydd goreu o honynt. Da fyddai i Eglwyswyr diragfarn eu hystyried. Ond iddynt wneyd hyny gwelant mai mantais nid anfantais, ac enill yn mhob modd yn hytrach na cholled i'r Eglwys fyddai cael ei gollwng yn rhydd i fyw ami ei hun ac i drefnu ei materion ei hun. -_¿-
Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas…
Cyfarfod Blynyddol Cymdeithas Ddirwestol y Merched. Cynhaliwyd yr uchod dydd Mawrth, yn Nghapel Jerusalem, y cyfarfod cyntaf am ddatf o dan lywvddiaeth Mrs. R. R. Morris, Ilyw* yddes y Gymdeithas. Dechreuwyd gan Mrs. Hughes, Manod Road, ac awd trwy y gwaith a ganlyn. Ail-ddswiswyd Mrs. Morris yn HyW" yddes gydag unfrydedd. Mae Mrs. Morris wedi bod yn y swydd am y tair blynedd ddiw- eddaf, ac mae gwaith y gymdeithas yn ei hail ddewis yn dweyd ei bod yn rhoddi boddlon* rwydd mawr. Gweithiodd yn galed a diflino ar hyd y blynyddoedd, mewn swydd ac allan a swydd hefyd. Dewiswyd Miss Gwen Roberts, Duffws Terr., yn is-ysgrifenyddes hefo Mrs. D, Jones, Dorvil-st, yr ysgrifenyddes; a MisS Owen, Bank Place, yn is-drysoryddes, hefo Mrs. Isfryn Hughes. Y mae Cangen y Blaenail erbyn hyn yn ei phymthegfed mlwydd oed, aC yn rhifo dros fil o aelodau. Ymwelodd Y swyddogion o phob aelod bron yr wythnosaU diweddaf. Safodd yr aelodau ar eu traed tra y darllenai yr ysgrifenyddes enwau y chwior- ydd fuont feirw, a thra gweddiai Mrs. Isfryn Hughes. Yn yr hwyr am 7, cafwyd cyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth y Parch. Isfryn Hughes. Dechreuwyd gan Mr. Robert Ed- munds, Brynbowydd. Canodd y plant Rhag' om filwyr Iesu," yna cafwyd anerchiad ryrnus gan y Llywydd. Can gan Miss Hannah DavieS Ton gan y Plant; anerchiad gan Mrs. R. R, Morris can gan Mrs. Griffiths, Tegfan. Ail- erchwyd yn mhellach gan Miss Williams, Cen- hades o'r America, genedigol o DdolgeIlaa. Yn mhlith pethau eraill dywedodd ei bod yn falch o'i Sir enedigol am mai dvma y sir y mae lleiaf o ymyfed ynddi. Yr oedd trafaeliwtf mewn Whiskey wedi dweyd wrthi nad oedd yn werth ganddo ddod i Ffestiniog i geisio gwerthil ei stwff. Dyna'r rheswm cryfaf dros fod Y Barnwr yn Assizes y Sir yn cael gwisgo ei fen" yg gwynion mor fynych. Byddai yn hoff iawfl pan yn ymweled a charchardai yn yr Unol Dal" aethau, o son am hen garchardy yn Dolgellatl sydd wedi ei droi yn dy anedd, ac yn sicr bydd- ai i'r holl garchardai gael eu troi felly pe gellid sobri y bobl. Gwnaeth amryw sylwadan gwerthfawr iawn i rieni a phlant. Daliai bod llwyrymwrthodiad yn dyfod yn bwnc y dyd ac y bydd yn rhaid i bob dyn yn fuan cyn yt enilla safle anrhydeddus fod yn lwyrymwrthoa- wr.-fr oedd y cyfarfod drwyddo yn un budd- iol a da.-M.LL.i.
- - - - - - |LLANRWST.
LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglwys Sefydledig. St. Mary.—10, Parch C. W. Davies. 6. Parch. J. Morgan. St. Crwst.-10, Parch. J. Morgan, 6, Parcn C. W. Davies. y Methodistiaid. Seion.-Parch. William Thomas. Heol Scotlan-d-Pareli, Richard Rowlands. Yr Annibynwyr. Tabernacl.-lo, CyLarfod Gweddi; 6, Parch W. Cynwyd Williams. Ebenezer.—Parch. J. Anbrey, Pontrobert. Y Wesleyaid, Horeb—Parch. W. Lloyd Davies, PenmachnO. St. James (English Chapcl),-Rev, JameS Feather, Cohvyn Bay. Y Bedyddwyr. Penuel.-Mr. Eryri Jones, Garn Dolbenmaen* PRIODAS.—Dydd-Mercher, Hydref 23aia, Yty Nghapel Jerusalem, Cerrigydruidion, gan y Parchn. W. Thomas a J. Morgan Jones, un- wyd mewn glan briodas, y Parch. E. Arfpn Jones, Dinas, Rhondda.(Llanrwst gyni), a Miss Maggie Euans, Ty'nrhyd, Cerrigydruidion. Llwydd a dedwyddyd. liir i'r ddau. Boreu ddydd Gwener, canasoiu yn iach fa cyfaill ieLarigc rhadlon a thalentog Mr. T«