Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
LLYS MANDDYLEDION LLANRWST.
LLYS MANDDYLEDION LLANRWST. Dydd Gwener o flaen ei Anrhydedd y Barnwr Samuel Moss. Gweinyddu trwy'r Llys. Mr. A. Lloyd Griffith a wnaeth gais ar ran Robert E. Jones, Masnachydd Glo, Bettwsy- coed, am i'r £ 43 dyledus ar y diweddar R. Ptice Davies, Smithy, Bettwsycoed, gael eu talu o'r arian oedd yn y Llys.—Ymddangosai Mr. E. Davies Jones dros yr Ysgutorion. Hysbyswyd yn y Llys diweddaf fod y dyledion yn £ 637 a'r eiddo yn werth £ 228. Archodd -ei Anrhydedd i'r arian gael eu talu i'r Llys, a bod y Cofrestrydd (Mr. J. E. Humphreys) i fyned trwy yr holl gyfrifon. Yr oedd hyn oil wedi ei wneyd, a gofynid yn awr am i bethau gael eu dirwyn i benderfyniad. Hysbyswyd mai £ 122 oedd o arian yn y Llys.—Ei Anrhyd- edd a ddywedodd ei fod yn cadarnhau Tystys- grif y Cofrestrydd ar y cyfrifon, yn caniatau costau ar raddfa B allan o'r etifeddiaeth, R. E. Jones i'w dalu yn Ilawn, a'r gweddill i'w rhanu i'r gofynwyr eraill. lawn i Weithiwr. Robert Griffith a hawliodd iawn o haner ei gyflog gan Berchenog chwarel Ty'nybryn, Dolwyddelen. Yr oedd y chwarel wedi talu haner y cyflog wythnosol i Robert Griffith, ond oddeutu pedwar mis yn ol, bu iddynt beidio talu, ac mewn canlyniad darfu i'w gyfreiihiwr gofrestru y cytundeb fel ag i orfodi y chwarel i dalu yn mlaen yr iawn wythnosol. knfonwyd Rhybudd o hyn i'r Chwarel, ond ni chymer- wyd sylw o hono, ac felly yr oedd Mr. R. O. Davies heddyw yn bygwth cymeryd moddion pellach i orfodi y chwarel i dalu. Apeliai Mr. A. Lloyd Griffith dros Gwmni y chwarel am i'r Barnwr atal yr Hawlydd am bythefnos fel nas gallai Mr. Davies roddi ei fygythiad mewn grym, a sylwoddMr. Griffiith fod rhyw afryfus- edd wedi bod onide buasai sylw wedi ei wneyd O'r Rhybudd.—Dywedodd y Barnwr mai ar gwmni y chwarel yr oedd y bai, oherwydd yr Oeddynt wedi anwybyddu y Rhybudd ond gan nad oedd gwrthwynebiad, yr oedd yn atal llaw yr Hawlydd am bythefnos. Tal am Eiddo. John Davies, Wern (Paris House, gynt), Llanrwst, a hawliodd £5 8s 7c gan Mrs. Elizabeth Lloyd, Pwllycwm, Penmachno.— Ymddangosodd Mr. R, O. Davies, dros y Ddiffynyddes. Yr oeddyr achos wedi eiohirio o'r Llys diweddaf er mwyn i'r Hawlydd ddod a'i lyfrau i'r Llys i brofi y ddyled. Tystiodd ya awr nad oedd y Ddiffynyddes wedi prynu dim ganddc ar ol i'w gwr farw: ond yr oedd wedi talu rhan o'r ddyled, ac wedi addaw talu yr oil.—Mr. Davies ar ran y Ddiffynyddes, a ddywedodd i Lloyd farw Rhagfyr 6, 1896, a bu i'r wraig dalu gymaint bedair gwaith o'i dyled- 10nag oedd o eiddo ar ei ol.—Mrs. Lloyd a dystiodd mai gweithiwr oedd ei diweddar briod, ac nad oedd eiddo ar ei ol ond y dodrefn, un fuwch, a tua gwerth pump punt o wair. Nid oedd y fuwch wedi talu am dani. Nid oedd y ganddi fuwch yn awr, end yr oedd tair o fuch- od yn pori ar y tir, a hithau yu cael llaeth un o honynt am ei bwyd.—Y Barnwr a ddywedodd tnai £ 15 oedd ef yri ei gael oedd gwerth yr eiddo alol Lloyd, ac yr oedd yn Rhoddi dedfryd i'r Hawlydd am y swm a ofynai; ond yr oedd y. Cofrestrydd i fyned trwy y taliadau wnaeth Mrs. Lloyd yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ol claddu ei gwr, ac os ceid eu bod o dan £15 yr. oedd yr Hawlydd i gael yn ol a fyddai yn brin 0 gyraedd hyny os £ 12 dalwyd yr oedd i gael A ac felly yn y blaen yn ol ydriefn hono; ond °s byddid yn cael fod £ 15 wedi eu talu yn ystod y flwyddyn hono, nidoedd yr Hawlydd i gael dim gan mai dyled y gwr oedd yr un dan Sylw y Llys. Cyngaws am Rent. William J. James, Toll-bont, Llanrwst, a hawliodd £ 8 gan Thomas Chambers, Glan- Conwy Inn, Llanrwst, sef tri mis o rent dyledus Medi 2-Ymddangosai Mr. R. O. Davies dros yr Hawlydd a Mr. A. Lloyd Griffith dros Y Diffynydd.—Tystiodd yr Hawlydd iddo, fel goruchwyliwr y Parch. John Gower, osod y Shop elwir Blodwen, Trefriw, i'r Diffynydd ar Mehefin 19, am y rhent blynyddol o £ 32, talad- ?y yn chwarterol. Clywodd y cytundeb rhwng Mr. Gower ar Diffynydd wrth osod y He. Aeth y Diifynydd i'r Shop i gymeryd meddiant, ond 111 ddaeth i fyw yno. Gofynodd iddo yn mhen Beth amser ar olfhyny pa bryd yr oedd am ddod i fyw i'r Shop. Aeth David Rees, y cyn-den- act yn fethdalwr, Bu siarad am y drwydded gwertha diodydd meddwol oedd yn perthyn i'r Shop, a dywedodd y Diffynydd fod gan y Der- bynydd Swyddogol eisieu dwy gini am dani. dywedodd ef wrtho y maddeuid y chwarter gyntaf o rent os elai ef i fyw i'r lie cyn Medi 24, oedd hyd yn hyn wedi myned yno i fyw. X farch. John Gower, a dystiodd mai efe Oedd pcrclienog y masnachdy mewn. dadl. Daeth y Diffynydd ato i gymeryd y lie, a dyw- edCddy;i"entÜ a'r dodrefn yno arunwaith. Ar g cfynodd a wnai ef ei gyfarfod amy rhent cyntaf, ac addawodd yntau wneyd os deuai yno i fyw yn ddioed. Yn lIe dod yno ei hun, daeth a dynes yno i feddwl gwneyd mas- nach mewn pysggd a chip potatoes; ond buasai yi, ?7,-C; Yl1 veil gc,nddo ef chwythu y lie i fyny yn ron- ynaii cyn y caniatasai i'r fath fasnach gael dod 1 r adeilad 0 gwbl. Yr oedd y ddynes ddaeth YDO novo cpr-;au ar y pryd, a gwrthododd y lie iddi, y pryd, a gwrtbododd y Thomas Chambers, y Diffynydd, a dystiodd y cytundeb ar yr hwn y cymerodd y lie. Eu -at;.2 am yr hawl o gael ad-osod, ac nid ^-dd t "> Ir. Gower wrthwynebiad lleiaf, am V Rwyil ij>j nad allai ef yn bersqnol ddim myned v i fy \>t. Daeth James ato ar ol hyny i ofyn ?-bri:r 1m buasai yn dod i fyw yno, a gofynodd beth am y Drwydded ?" Yr oedd Mr. Gotver wedi anfon at y Derbynydd Swyddogol ylch y Drwydded. Anfonodd ef ei hun pm ddwy gini, ond nid oedd i'w newid -1 y rhan o'r amser oedd heb redeg allan •4 d'T.v1. Dywedodd Jones y maddeuid y r" iddo am yr arian a dalodd am *r i. Yr oedd yn foddlawn cymeryd meddiant yn awr, ac aeth a thenant yno, ond gwrthodwyd hi. Nid oedd wedi cymeryd y lie gyda'r bwriad o fyned yno ei hun. Yr oedd yn dal fod y cytundeb yn parhau yn ei rym. Nid oedd ganddo denant i fyned yno, ond gallai gael un ar unwaith, Mrs. Roberts, o Landud- no oedd ganddo mewn golwg at y chwarter presenol.—Mrs. Chambers a gadarnhaodd dyst- iolaeth ei gwr am jjy cytundeb, a'r ymddiddan gyda'r Hawlydd am faddeu y chwarter cyntaf o'r rhent. Y Barnwr a ddywedodd fod yn hollol glir fod y Diffynydd yn wrong ar y mater hwn. Gofynai y gyfraith am breswyliad mewn achos o Drwydded. Nid oedd ganddo denant hyd heddyw. Dedfryd i'r Hawlydd am £ 8 a'r costau i ddilyn. Y swm i'w dalu yn ol dwy bunt yn y mis.
CYNHADLEDD YR ATHRAWON YN…
CYNHADLEDD YR ATHRAWON YN BLAENAU FFESTINIOG. Prydnawn Sadwrn, yn YsgolUwchraddol y Genethod, cynhaliodd Cymdeithas Athrawon Ffestiniog Gynhadledd o dan nawdd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, a llywyddiaeth Mr. Owen Jones, Erwfair. Y Llywydd a sylwodd ei fod yn gwerth- fawrogi cyfuniad o weinyddiad addysgol Deddf 902 "j ond ofnai, mor bell ag yr oedd Ffestiniog yn y cwestiwn. yr oedd yn achos o wastadhau i lawr yn hytrach na chodi i fyny (clywch, clywch). Rhoddodd ffigyrau yn dangos cydmariaeth rhwng nifer yr athrawon a wasanaethai o dan yr hen Fwrdd Ysgol, a'r nifer sydd yn awr o dan Bwyllgor Addysg y Sir. Yn 1903, blwyddyn olaf y Bwrdd Ysgol, yr oedd 44 o athrawon trwyddedig. a 36 o athrawon anrhwyddedig yn nosbarth Ffestiniog, gyda chyfartaledd presenoldeb o 2,001. Yn 1907, yr oedd 39 o athrawon trwyddedig, ac 20 anrhwyddedig, gyda 1,983 o ddysgyblion. Nid oedd lleihad ond o 18 yn y presenoldeb, tra yr oedd lleihad o 21 yn yr athrawon. Nifer y dysgyblion i bob athraw trwyddedig yn 1903 ydoedd 45, ac i bob athraw trwyddedig ac anrhwyddedig 25 o ddysgyblion. Yn 1907 yr oedd y rhif yn 51 i bob athraw trwyddedig, ac yn 33 i bob athraw trwyddedig ac anrhwydded- ig. Tra nad oedd yn ystyried fod gormod o athrawon yn yr Ysgol Ganolraddol, gallai grybwyll fod yno athraw ar gyfer pob 17 dysgybl. Ar gynygiad Mr. R. Williams, Tanygrisiau, ac eiliad Mr. G. J. Bevan, Manod, pasiwyd nad oeddid yn ystyried y byddai y pwngc addysgol wedi ei benderfynu yn foddhaol tra y byddai unrhyw ffurf o arbrawf crefyddol yn cael ei arosod ar athrawon amgen na chymeriad a gallu. Dywedodd Mr. Bevan ei fod yn wrthwynebol i unrhyw addysg grefyddol gael ei gyfranu yn yr ysgol. Ac mewn attebiad i'r Parchn. T. Isfryn Hughes, a T. H. Hughes, Ficer, dywedodd Mr. Bevan ei fod o blaid addysg foesol mor belled ag na byddai yn syl- faenedig ar gredo. Mr. Edward Griffith, a bwysodd ar yr angenrheidrwydd o wneyd yn hysbys i rieni Ffestiniog y ffaith fod meusydd eraill yn agored i'w plant heblaw mewn masnach, addysgu, y chwarel, gwasanaeth teuluaidd, a gwnio. Yr oedd meusydd mewn cangenau eraill, yn arbenig o dan y Llywodraeth.-Y Parch. John Hughes, a amheuai a wyddai haner cant y cant o rieni yr ardal am y meusydd a nodid.—Hysbyswyd fod Rheolwyr yr Ysgol Ganolraddol wedi penodi pwyllgor i fynsd i mewn i'r holl fater. Mr. Rhys Nicholas, Ysgolfeistr, Caernarfon, ac aelod o bwyllgor Gweithiol Undeb Cenedl- aethol yr Athrawon, yn absenoldeb Mr. Tom John, yr hwn oedd i anerch y cyfarfod a siaradodd ar y nifer o athrawon oedd yn ysgol- ion Meirion, a'i fod o'r farn, wrth gydmaru ffigyrau, fod y Sir yn hynod ddigynydd yn y cysylltiad hwnw. Cyfeiriodd hefyd at absenol- deb graddfa cyflogau yn y Sir. Cyfeiriodd Mr. Nicholas at eglurhad diweddar Mr. M'Kenna yn nghylch y grants roddid i Ysgol- ion Canolraddol Cymru. Yr oedd yr eglurhad yn anfoddhaol. Os oedd rhaniad grants o gwbl i fod, dylasai gael ei sylfaenu ar nifer y dysgyblion addysgid yn Nghymru a Lloegr. Yn Ile bod yn un ran o naw i enill grant, dylai fod yn un nn o ddeg o'r dysgyblion. Yr oedd y dull p.esenol o ranu y grants yn un anheg ac anghyfiawn i Gymru. a rhaid oedd symud y cyfryw gwyn. A' ynygiad Mr. Ll. Vaughan Humphreys a chef .ogiad Mr. John Cadwaladr, pasiwyd pen- derfyniad yn ffafr rhoddi dyrchafiadau i ath- rawon oeddynt eisoes yn ngwasanaeth yr Aw- durdod Addysgol os byddai pobpeth arall yn gyfartal. Mr. H. Ellis Hughes, mewn araeth wresog nodedig a gyfeiriodd at yr anghyfartaledd yn y cyflogau, a chynygiodd y penderfyniad can- lynol:—" Nas gellir gwario arian cyhoeddus mewn dull doethach nag mewn addysgu plant yn yr ysgolion elfenol, trwy gyfranu gwybod- aeth, dadblygu dealltwriaeth, ac adeiladu i fyny gymeriad ac felly y mae yn ddymunadwy, er budd plant y Sir, ac i gael gwasanaeth yr Ath- rawon goreu yn bosibl yn yr ysgolion. Gyda'r amcan hwn mewn golwg, apelia y cyfarfod yn daer at Bwyllgor Addysg Sir Feirionydd i fab- wysiadu graddfa cyflogau digonol, a dodi yn y Cyfryw ddarpariaeth i roddi codiadau blynydd- ol." Dywedodd ei fod wedi colli pob ymddir- iedaeth mewn gwney cais am gynydd yn y cyflogau ar sail haeddi,nt.-Mr. M. E. Phillips, B.sc., a gefnogodd, a phasiwyd yn unfrydol Yna terfynwyd y Gyi hadledd. A A i A A A. AAAAAAA>
[No title]
Y MAE iechyd y Cadfridog Booth yn peri cryn bryder. Ar daith yn America y mae ar hyn o bryd, ac yn ol y newyddion diweddaraf, y mae yn gwella yn foddhsol. AGORWYD ysgol newydd yn Nghydffordd Llandudno, prydnawn ddydd Llun, pryd y traddodwyd araeth benigamp gan Arglwydd Stanley. Costiodd yr adeilad saith mil o bun- au, a chafwyd llechi i'w doi o Chwarel y Rhos, Capel Curig, perchenog yr hon yw Mr. J. W. Jones, brawd Mri. Evan a William Jones, Penygroes, Rbiwbryfdir.
- -YSBYTTY IFAN.
YSBYTTY IFAN. DIOLCHGARWCH. Cynhaliwyd gwyl y Diolchgarwch yn Eglwys y Plwyf uchod, nos Fercher, y 23ain, a thrwy ddydd Iau, y 24ain o Hydref. Cyfiawnodd y gweinidogion oedd- ynt wedi addaw pregethu eu haddewid fel rhai a chenadwri ganddynt. Pregethwyd nos Fercher gan y Parch. J. Ll. Richards, B.A., Dolwyddelen. Am wyth o'r gloch foreu Iau, daeth namun un ugain at Fwrdd yr Arglwydd. Am ddeg, pregethodd y Parch. D. C. Davies, B.A., Llanrwst. Yn y prydnawn a'r hwyr, pregethwyd gan y Parch. T. H. Hughes, Ficer Blaenau Ffestiniog. Un nodwedd neillduol yr wyl eleni ydoedd Authem arbenig Mr. Osborne Roberts ar gyfer yr wyl. Bu Mr. Roberts mor garedig a dyfod yr holl ffordd o Landudno i'w harwain ar yr Organ. Tystiolaeth pawb a'i clywodd ydoedd ei bod yn anthem dda a thlws, ac i'r cantorion ei chanu yn effeithiol. Cymer- wyd yr unawd Baritone g?n Mr. Joseph Wood, a chanodd ef yn afaelgar iawn, Mae 'clod yn ddyledus hefyd i Mr. Samuel Roberts, Post- Office, am ei waith gyda'r canu.—Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurho yn brydferth trwy garedigrwydd Mr, Wynn Finch, Voelas; a Misses J. Roberts, Post Office A. Jones, High Street; Jane Roberts, Glanypwil; a Sally EobertsJiHigh Street.—Mae diolchgarwch neillduol yn ddyledus i Mr. Foster, Plas Pad- dock, a Mr, Benjamin Lloyd, Tai'nymaes; am eu careJligrwydd gyda'u cerbydau.
rv"v"/-../'v"./' O&.fJ?:V…
rv"v"v" O&.fJ?:V Arrsn rr Undeb. Yn Heddlys South Western, Llundain, dydd Li an, cy'huddwyd llafurwr o'r enw Jack Andrews, o dan Ddeddf Undeb Gweithfaol o gadw £ 9 8s 4c, perthynol i Undeb y Navies. Cymcrv.yd ef i'r ddalfa yn St. Pancras, lle'r oedd i ddadlcu ag un arall yn nghylch Masnach Kydd. Mr. John Ward, A.S., a ddywedodd fod vr arian dan sylw wedi eu casglu gan y Carcharor ar ran Undeb y Navies yn 1905.— Dywedodd yr Ynad fod Mr. Ward wedi aros v l r. W, ard wedi aros yn rhy hir, gan fod y gyfraith yn cyfyngu i chwe' mis mewn achoaion o'r fath. Gollyng- w>d y carcharor yn rhydd. II; A
] Lladrata Gwirodydd yn Llanrwst.
] Lladrata Gwirodydd yn Llanrwst. Dydd Gwener, o flaen Mri. O. Isgoed Jones, W. J. Williams, a W. Hughes, yr Arolygydd Woolam a gyhuddodd Griffith Jones, cylch- werthwr, Blaenau Ffestiniog, a Griffith Wil- liams, labrwr, Caergybi, o ladrata potel o Rum gwerth 3/6. a photel yn cynwys gwerth 2/- o wisci o'r Cambrian Vaults prydnawn y dydd blaenorol. Mrs. Elizabeth Hughes a dystiodd ei bod yn gofalu am ei thy, y Cambrian Vaults, gyda'i gwr Mr. Rowland Hughes. Gwelodd y ddau garcharor yn y ty y boreu blaenorol, a chaws- ant ddau beint o gwrw bob un. Daethant drachefn yn y prydnawn tua haner awr wedi dau o'r gloch, a gofynasant am ddiod, ond gwrthododd roddi dim iddynt. Gofynasant iddi paham y gwrthodai hwynt, ac atebodd hithau iddi glywed iddynt fod yn gwneyd cyn- wrf yn y dref. Gofynasant pwy ddywedodd wrthi, ac atebodd hithau mai yr Arolygydd Woolam. Gadawsant y ty ar hyny heb gael diod. Yr oedd yn adwaen y poteli a ddangosid yn y Llys. Scotch Wiskey oedd yn un, a Rum yn y llall. Cadwai hwynt ar shelf Counter y Bar oddifewn, ac yr oedd modd i ddyn tal eu cyrhaedd o'r ochr arall trwy ymestyn dros y Counter. Gwelodd hwynt olaf tua phump o'r gloch pan aeth i ymofyn ei the, a bu yn rhoddi wisci allan o un o honynt cyn iddi fyned. Nid oedd neb yn Bar am tua phum' mynud tra y bu hi yn gorphen ei the. Galwodd yr Heddgeid- wad Jones i mewn i ofyn a oedd yno nafis yn y ty, a holodd rywbeth arall. Gofynodd cwsmer am wisci, ond yr oedd y botel wedi myn'd, a'r botel Rum yr un modd. Anfonodd am yr Heddgeidwad Jones, ac hysbysodd ef o'r peth. Yr Heddgeidwad Jones a dystiodd ei fod yn Denbigh Street tua chwarter wedi pedwar o'r gloch y dydd blaenorol. a gwelodd y carcharor Jones yn dod i fyny o'r Square, ac yc uno a'r carcharor Williams wrth y Red Lion. Sylwodd ar y ddau yn myned i'r Cambrian Vaults, ac yr oeddynt mewn diod. Canlynodd hwy trwy y drws sydd yn agoryd i Watling Street, ac aeth y ddau allan trwy y drws egyr i Denbigh Street. Buont i mewn am fynud neu fynud a haner. Sylwodd ar Williams, fod ganddo rhywbeth symgar yn ei logell chwith. Siarad- odd a Mrs. Hughes. Nid oedd neb yn y Bar ar y pryd. Aeth y ddau garcharor i fyny Denbigh Street, a throesant i Narrow Street. Yr Heddgeidwad Holgate a dystiodd iddo ar ol gweled Mrs. Hughes, fyned i dy Mrs. Jones, Ty Capel Lodging House, a chael hyd i'r ddau garcharor yno yn eistedd yn y gegin. Yr oedd Jones yn feddw ddiymadferth, a Williams mewn diod. Bu iddo chwilio y gegin, a thu ol i'r bwrdd cafodd y botel Wisci wedi ei chuddio o'r golwg, a'r botel Rum yn y lludw o dan y tin. Yr oedd tri arall yn y lie ar y pryd. Aroglai y ddau garcharor yn drwm o wirodydd. Gofynodd i Jones beth am y botel Wisci, ac atebodd iddo ei phrynu mewn tafarn yn y dref, a dywedodd Williams na wyddai ddim am danynt. Aeth a'r ddau i'r gell, ond gan eu bod yn rhy feddwon ar y pryd, ni chyhuddodd hwynt tan y boreu. Dywedodd y ddau pan gyhuddwyd hwy, Nid wyf yn euog: wn i ddim am y peth." Pan gyhuddwyd hwy yn y Llys, addefasant eu bod yh euog, a'u bod yn haner meddw pan gyflawnasant y weithred. Yr Arolygydd Wool- am a ddywedodd fod gan Jones drwydded ped- lera, a gallai y Faingc gymeryd hono oddiarno yn ogystal a'i gosbi.—Anfonwyd y ddau i garchar am fis gyda llafur caled.
\VWWWVVVS/VWWVAiVWWWV Amlwreiciaeth…
\VWWWVVVS/VWWVAiVWWWV Amlwreiciaeth Cymro. Gwraridawyd achos eUhriadol yn heddlys Dinas Oxford ddydd Sadwrn, pan yr addefodd Owen Jones, alias y Parch. Frederick Howard, gwr adnabyddusynNgogledd Cymru, ei euogrwydd yn ngwyneb y cyhuddiad o ffug honiadau. Gwadodd y carcharor yn ffyrnig iddo gael ei euogfarnu yn y Central Criminal Court yn 1893, a chymerwyd amryw oriau i brofi mai efe oedd y person hwnw. Galwyd y Cudd-Swyddog Fuller, yr hwn a dystiodd fod y carcharor yn edrych ar ol ty dirwestol yn 1893, yn Upper Porchester Street, Paddington, i'r hwn yr oedd y Parch. J. Hardinge yn berchenog, ac oddiar yr hwn y lladrataodd oriawr gwerth haner can' punt. Ar ol hyny cyhuddwyd ef o ladratau eraill ac o aml- wreiciaeth. Ni awd yn mlaen ond gydag un achos yn unig, a thraddodwyd y carcharor i benydwasanaeth yn enw Thomas Owen. Tystiwyd fod y marciau ar gorph y carcharor, a marciau ei fysedd yn cyfateb yn holloli eiddo y Thomas Owen hwnw. Rhoddodd y car- charor dystiolaeth, yn gwadu iddo gael ei euogfarnu mewn unrhyw Lys yn Nghymru. Bu yn Brisbane, Awstralia, New Orleans, a Burmah, a dywedodd fod y cais am ei wneyd yr un un a Thomas Owen, yn un anheg. Cafodd y rheithwyr ef yn euog. Y Cudd- Swyddog Fuller a ddywedodd i'r carcharor gael ei euogfarnu ddwywaith yn Nghaernarfon. Ni wyddai yn fanwl rifedi gwragedd y car- charor, ond gwyddai am dair cyn 1893. Yn y i flwyddyn hono yr oedd ganddo wraig a phlant yn Nghonwy. Yn Mai, yr un flwyddyn, aeth trwy y seremoni o briodas gyda Miss Hesty, a chafodd arian ganddi. Deuddeng mis cynt, yr oedd wedi priodi boneddiges arall yn Birkenhead. Yr oedd y tyst wedi darllen llythyr oddiwrth un arall, yr hon allai fod yn bumed gwraig i'r carcharor. Yr oedd wedi clywed ar dystiolaeth gredadwy fod ganddo wraig yn Rangoom, a'i bod yn awr yn dychwelyd i'r wlad hon. Hysbysodd yr Arolygydd Trinder, Oxford, fod yg carcharor vn aros ei brawf yn Bournemouth ar y cyhudd- iad 0 gael mil o bunau gan foneddiges o dan yr addewid o'iphriodi.—YrYnad, wrth ddedfrydu y carcharor, a ddywedodd ei fod er's llawer o flynyddoedd yn myned o amgylch y wlad i dwyllo pobl. Yr oedd yn eglur iddo fod yn bradychu a thwyllo merched diamddiffyn, a chymeryd oddiarnynt arian nad allent fforddio i'w colli. Wrth ei anfon i benyd wasanaethjam bum mlynedd yr oedd yn cymeryd i ystyiiagth fod ganddo i sefyll ei brawf yn Bournemouth a byddai hwnw i'w brofi yn hollol ar wahan i hwn. ?-
IManylion am rai o Arholiadau…
Manylion am rai o Arholiadau y "Civil Service." Fel yr awgrymwyd yn Nghyfarfod yr Ath- rawon y Sadwrn diweddaf, dylai fod yn yr ardal well cyfleusderau er paratoi ein becbgyn a'n genethod ar gyfer arholiadau y Civil Service." Gwnawn ychydig sylwadau yr wyth- nos hon ar rai o'r swyddi; feallai y cawn ham- dden eto i wneyd sylwadau manylach ynglyn a'r penodiadau pwysig byn (1).-Assista-nts- of Customs. Rhaid i'r ymgeiswyr fod rhwng 18eg ac 21ain oed. Testynau yr Arholiad: Writing," Arith- metic," Composition and Spelling," "Geography," "Digest," "Manuscript Copy- ing." Cyflog £ 70 i £ 700 y flwyddyn. (2).-Excise Assistants. Oed 19eg i 22ain. Testynau yr Arholiad: "Writing," "Com- position," Spelling," Arithmetic," Men- suration," Geography." Cyflog £ 90 i £ 250 a chyfle i gael dyrchafiad. (3).-Woman Clerks in Post Office. Oed 18eg i 20ain. Testynau yr Arholiad: Com- position," "Writing," "Spelling," "Arith- metic," "Geography," "Latin" or "French" or German," History," "Algebra," Short- hand." Ni raid cymeryd ond dau o'r tri olaf. Cyflog £ 55 i £ 190 y flwyddyn. (4).-Girl's Clerks in Post Office. Oed 16eg i 18eg. Testynau yr Arholiad Yr un a rhai "Woman Clerks," Cyflog y tair blynedd cyn- taf £ 35, £37 10s, a £ 40. Os yn gymwys ar derfyn y tair blynedd penodir hwy yn Woman Clerks" a derbyniant yr un cyflog sef £55 i 190, (5).-Woman Sorters in Post Offce. Oed 15eg. i 18eg. Taldra 4 troedfedd 10 modfedd. Testynau yr Arholiad: Reading, Copying Manuscripts, Writing, Spelling, Arithmetic (first four rules, simple and compound), Geo- graphy (United Kingdom). Cyflog 12 swllt i bunt yr wythnos ac yn uwch. (6).-Female Telegraph Learners in Post Office. Oed 15eg i 18eg. Testynau yr Arhol- iad: Composition, Writing, Spelling, Arith- metic (Vulgar and Decimal Fractions), Geo- graphy. Cyflog, 7 swllt yr wythnos, yna 14s, 17s, i 30s. (7).-Sorter Telegraphist Learners in G. P. O. Oed 16-1 i 18J. Testynau yr Arholiad "Dictation," "Writing," "Composition," "Arithmetic" (to Vulgar and Decimal Fract- ions, and Percentages), General Geography." Cyflog: 9 swllt yr wythnos am y flwyddyn gyntaf i £ 140 a C190 y flwyddyn. (8).-Assistant Examiners in Patent Office. Oed 21ain i 25aio. Testynau yr Ar- holiad: "English Composition," "Arith- metic (including Vulgar and Decimal Fract- ions), "Precis," "Geometry," "Mechanics" and "Mechanism," "Chemistry," "Electric- ity" and "Magnetism," Hydrostatics," "Hydraulics," "Pneumatics." Cyflog £ 150 i £ 450 y flwyddyn. (9).-Second Division Clerks. Oed 17eg i 20ain. Testynau yr Arholiad Writing," "Spelling," "Manuscript Copying," "Arith- metic," "English Composition," "Precis" (including Index and Digest), Book-keeping and Shorthand," "Geography and English History," "Latin or "French" or "German," Mathematics (Euclid 1 to 4 and Algebra up to and including the Binomial Theorem), Inorganic Chemistry with the Elements of "Physics." Ni raid cymeryd ond pedwar o'r chwe' testyn olaf. Cyflog £ 70 i £ 350, &c., y flwyddyn. (1.0),-Junior Appointments in the Supply and Accounting Department of the Admir- alty. Oed 18eg i 20eg. Testynau yr Arholiad Mathematics, Latin, French, rseu German, English Composition, Geography, ynghyda dau o'r testynau canlynol: Advanced Mathematics, German neu French, Greek, English History, Chemistry and Heat, Physics, Physiography, Geology. Cyflog, £ 100 y lfwyddyn am y ddwy flynedd gyntaf yna Z120 i £ 200 drwy godiadau o £ 10 y flwyddyn; yna £ 200 i £350 drwy god- iadau o £ 15 y flwyddyn. Yn sicr gellid parotoi lluaws o fechgyn a genetbod yr ardal yn llwyddianus ar gyfer rhai os nad yr oil o'r penodiadau uchod, A A. Á A Á Á Á Á JOHN CADWALADR. |
TALYBONT. I
TALYBONT. »CYFARFOD ORDEINIO YN SALEM.-Nos i Fawrth, pregethwyd gan y Parchn. Thomas Davies, Llandudno, a G. Rees, Cwmllynfell. Am 10 y boreu, ddydd Mercher cymerodd or- deinio Mr. D. P. Hopkins. Dechreuwyd gan un o'i gyd-fyfyrwyr. Yna traddodwyd anerch- iad ar Natur Eglwys," gan Dr. Prcbert, yn eithriadol o dda. Yna holwyd y gofyniadau arferol gan y Parch. Henry Jones, Trefriw, pryd y cafwyd atebion cynwysfawr a thoddedig gan y gweinidog ieuanc—Mr. Hopkins. Off- rymwyd yr Urdd Weddi gan y Parch. Cynwyd Williams. Yna pregethwyd Siars i'r Gwein- idog," gan Mr. Rees, Cwmllynfell. Yna cafwyd gair ar ran Myfyrwyr Coleg Bangor, gan Mr. Emrys Morgan, a rhoddodd air uchel iawn i Mr. Hopkins, fel dyn ieuanc o gymer- iad da ac yn un a hoffid gan yr holl fyfvrwyr. Yna cyflwynodd Mr. Rees iddo wrs yn cynwys aur, ac amryw Gyfrolau, ar ran°Eg!wys Cwm- twrch. Yn y prydnawn, pregethodd Mr. T. Davies, Siars yr Eglwys," ac ar ei ol pregeth- odd Mr. Henry Jones. Yn yr hwyr pregeth- i wyd gan Mr. Rees a Dr. Probert. Cafwyd hin ffafriol, a derbyniad croesawgat Eglwyd Salem a Soar. Bendith Duw ar yr Undeb. Llywyddwyd yr oil o'r Cyfarfcdydd gan y Parch. W. E. Jones, Penllyn. Gwelsora yn bresenol hebiaw y rhai a noawyd, y Parch. Luther Thomas; D.,son, Ge-:izi?-.n ia Jones, Hcndryd; O. G. Williams (M.C.), T?- y-bont; a nifer luosog o Fyfyrwyr Coleg Bangor. & 0: I>
[No title]
^yyyy v V V V V' V V "V "V V V "V V V V V V V -v -v •. » PYFARNWYD tair mil o bunau o iawn i ddau blentyn Cadben C. J. Rosen grit, Swede, gan Lys Durham ddydd Llun. Lladdwyd y Cad- bejtfpan yn deithiwr ar y Berlin, yr hon oedd I yn eiddo Cwmni Reilffyrdd y Great Western,
IcYNGOR DINESIG BETTWSYCOED.
IcYNGOR DINESIG BETTWSYCOED. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol, Mri' Robert Parry (Cadeirydd) Thomas Parry (Is-gadeirydd) Robert Parry, Pendyffryn J. P. Faichney; T. W. B. Corns; Dr. Prichard; R. Rowlinson; J. T. Roberts; R. R. Owen (Clerc) a R. D. Jones (Arol- ygydd). Arianol. Mr. Corns (Cadeirydd y Pwyllgor Arianol), a gyflwynodd yr adroddiad am sefyllfa arianol y Cyngor. Argymellid biliau a chyflogau i'w talu yn gwneyd cyfanswm o £ 216 2s 6c. Yn y swm hwnw yr oedd £ 200 i'w talu i Mri. Hughes a Rowlands ar y gwaith o wneyd Carthffos i Pentredu, ar yr hyn yr oedd tyst- ysgrif y Peirianydd, ac adroddiad ffafriol yr Arolygydd wedi eu cyflwyno i'r Cyngor. Yr oedd £ 222 6s 7c wedi eu casglu yn ystod y mis, ac yr oedd £ 157 4s 2c yn aros heb eu casglu. Wedi talu eu holl ofynion, yr oedd gweddill o £ 418 mewn llaw. Llythyrdy Newydd. Cymeradwywyd cynllun y Llythyrdy newydd fwriedir wneyd yn Glanconwy, yr hwn sydd gyferbyn a'r fynedfa o'r Orsaf. Plan. Pasiwyd y cynllun a gyflwynodd yr Is-gad- eirydd o gyfnewidiadau ar Glanmachno. Ni byddai i'r cyfnewidiadau bwriadedig ymyraeth o gwbl ar carthffosydd. Rhybudd. Rhoddodd Dr. Prichard rybudd y cynygiai i ddau droethai (urinal) cyhoeddus gael eu codi yn y pentref. Yr Ystorfa. Y Cadeirydd a ddywedodd iddo ef a Mr. John Hughes fyned i archwilio yr ystorfa cyn i'r cyn-Arolygydd ymadael, a chawsant y lie "yn weddol foddhaol." Y Nwy. Yr oedd amryw o'r aelodau yn cwyno yn fawr o herwydd y cyflenwad anfoddhaol o nwy oedd yn y dosbartb, a phasiwyd i anfon cwyn at y Cwmni. Goleuni yr Orsaf. Anfonodd Mr. W. Byles, y Gorsaf-feistr, i ddywedyd eu bod yn gwneyd eu goreu gyda goleuo y fynedfa i'r Orsaf.—Mr. John Hughes, Bydd canwyll ddimeu lawn cystal a'r lamp sydd ganddynt. Y mae y cyngor yn gwario i oleuo y pentref, a dylent hwythau wneyd eu rhan fel Cwmni,"—Pasiwyd i anfon at y cwmni i gwyno yn nghylch y mater. Coleg Bangor. Ail-ddewisiwyd Mr. Henry Roberts i gynrychioli y Cyngor a'r Gyngor Coleg Bangor. Meddygol. Adroddai Dr. Frazer i un gael ei eni, ac i un farw yn ystod mis Medi. Ymwelydd oedd yr un fu farw. Yr un rhif oedd am y mis cyferbyniol y Hynedd. Nid oedd yr un achos o gleiyd yn yr ardal, Penodiadau. Daeth gair o Fwrdd y Llywodraeth Leol yn nghylch penodiad Dr. Frazer yn Swyddog Meddygol i'r Cyngor, a Mr. R. D. Jones yn Arolygydd Iechydol. Benthyciadau. Hysbyswyd fod y taliad olaf o'r benthyciadau yn cael eu talu y noson hono, fel yr oedd y lie heb ddimeu o ddyled yn aros arno.
[No title]
DECHREUODD y diweddar William Butler o Birmingham, ei yrfa fel eilliwr tlawd, a bu fRr" 'edi bed 'ya ddarllawydd. Profwyd ei ewyllys yn werth £ 273,000.