Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Family Notices

HDyrs ieuangc GwastrafFus.…

Advertising

[No title]

-- Achos -.Yswiriol pwysig.

DiwedcS Show Barnum _a Bailey.…

-DIWEDDARAF.-I . -. --- I

BLAENAU FFESTINIOG. - ....…

News
Cite
Share

Parhad o Tudalen 8. ARHOLIADAU ORDEINIO.—Disgwyl yn bryd- erus am ganlyniad yr Arholiadau y mae yr ymgeiswyr oedd yn sefyll arholiadau Cym- deithasfaol perthynol i'r Methodistiaid Calfin- aidd am Ordeiniad. Yn Nghapel y Bowydd eistedda'r ymgeiswyr dros y Gogledd—15eg mewn nifer. Yr arholwyr gogleddol eleni ydoedd y Parchn John Williams, Brynsiencyn, •i j. M. Saunders, M.A. Hefyd yr oedd y Parch. D. Hoskins, M.A., Bethesda, yn un o'r arholwyr deheuol, yr hon gynhaliwyd yn Nghaerdydd. DAMWAIN.—Derbyniodd Thomas Roberts, mab Mr. David Roberts, Hafodlas, niwaid i ben ei lin, dydd Mercher, trwy gael ei wasgu rhwng dwy wagen, yn Chwarel Oakeley. DIRWESTOL. Cynhaliwyd cyfarfod dir- westol nos Sadwrn diweddaf yn School Room Jerusalem, o dan lywyddiaeth Mr. Elias Roberts, Llwyngell. Dechreuwydgan J. Owen, Bryn Din,s. Ton cyffredinol. Anerchiad gan v llywydd. Adroddiad gan Miss Mary Dilys Thomas. Anerchiad gan y Parch. George Davies, B A., Bryn Bowydd. Can gan Miss Thomas. Anerchiad gan y Parch. H. Jerman (Nebo), Llanrwst, a diweddwyd ganddo. Conwn y bydd y cyfarfodydd i ddechreu am 6-30 bob nos Sadwrn. Y CL's RHYDDFRYDOL.— Yn nghyfarfod y Pwyligor yr wythnos hon, gwnaed trefniadau er cynal cyfres o gyfarfodydd yn ystod y gauaf. Penderfynwyd rhoddi gwahoddiad i'r bonedd- igion canlynol i anerch y cyfarfodydd :-Mri. Artemus Jones, Haydn Jones, S. L. Phillips, D. R. Daniel, Proff Levi, Parchn. Gwynfryn Jones, Evan Jones, a James Charles. Bob nos Fawrth am wyth ceir rhydd-ymddiddanion ar -faterion cyhoeddus yn un o ystafelloedd y Clwb. Ethol wyd cynrychiolwyr i'r Gynhadledd Ryddfrydig gynhelir yn Rhyl yr wythnos nesaf. Dealhvn y bydd y boneddigion canlynol ymhlith eraill o'r ardal yn cael gwahoddiad i'r Gynhadledd —Mri. Wm. Owen, R. O. Davies, R. O. Jones, John Parry Jones, W. P. Evans, D. Whiie Phillips, Mona Roberts, M. E. Phillips, Dr. Evans, Dr. Jones, J. Cadwaladr, &c. ST. DAVID'S CHURCH HALL. The Harvest Thanksgiving Services were held on Sunday last, Oct. 20th. The Service in the morning was taken throughout by the Rev. D. Jones, of Abererch. In the evening the Service was taken by the Vicar, whilst the Rev. D. Jones, treated a large congregation to a power- ful and effective sermon. The choir under the leadership of Mr. W. L. Griffiths gave a very effective rendering of the anthem Praise the Lord 0 my Soul." The Hall was tastefully decorated with flowers, plants, fruit, vegetables, etc. High over the rostrum was the inscript- ion, Praise the Lord 0 my Soul this was worked in white letters on a red ground, the whole being daintily bordered with flowers and corn, as was also the inscription over the entrance door, Blessed be The Lord God of Israel." The rostrum was adorned with ears of wheat, oat and barley, and in front, on a small temporary platform was arrayed a most effective display of seasonable fruit and vegetables, with a large loaf as a center- piece, a prominent feature being the large bunches of grapes which hung from the reading desk. The Solo parts were takeu by Miss May Redgwell Davies, Erwfair, and Miss Maria G. Williams, Helsby House; the Golden Sickle was made by Mr. F. Lloyd, Erwfair. RHODD. Deallwn fod Mr. A. Osmond Williams, ein Haelod Seneddol poblogaidd, am anrhegu y Clwb Rhyddfrydol a Billiard Table newydd, a bod y pwyllgor am dderbyn y rhodd yn ddiolchgar. Y mae golwg llewyr- chus ar y Clwb yn bresenol, a'r pwyllgor yn galonog iawn yn ngwyneb y cynydd mawr sydd yn rhif yr aelodau. Bydd y Bwrdd a enfyn Mr. Williams yn ychwanegiad at yr ad-dyniad I i'r ystafell. ADDYSG.—Am haner awr wedi dau o'r gloch prydnawn Sadwrn, yn Ysgol Uwchraddoly Gen- ethod, cynhelir cyfarfod cyhoeddus Cymdeithas Athrawon Ffestiniog, pryd y traddodir anerch- iad gan Mr. Tom John, M.A., (cyn-lywydd Cymdeithas Genedlaethol yr Athrawon). 0 dan nawdd y Gymdeithas Genedlaethol y bydd y cyfarfod, a'i amcan yw hyrwyddo Addysg yn y Sir. Cynygir y penderfyniadau canlynol:—1, Na phenderfynir pwngc addysg yn foddhaol, os rhoddir unrhyw arbrawf pellach ar Ath- rawon na'u cymeriad a'u cymwysderau. 2, Pan ystyrir y cwestiwn o benodi athrawon i Ysgol, na ddylai athraw gyfrif am fwy na gofalu am ddeugain o blant. 3, Pan y byddo cymwysderau athrawon yn gyfartal, y dylid penodi y rhai sydd eisoes yn ngwasanaeth yr Awdurdod Addysg i gael dyrchafiadau. 4, Nas gellir gwario arian cyhoeddus mewn dull doethach nag mewn addysgu plant yn yr ysgol- ion elfenol, trwy gyfranu gwybodaeth, dad- blygu dealltwriaeth, ac adeiladu i fyny gymer- iad ac felly y mae yn ddymunadwy, er budd plant y Sir, ac i gael gwasanaeth yr Athrawon goreu yn bosibl yn yr ysgolion. Gyda'r amcan; hwn mewn golwg, apelia y cyfarfod yn daer at Bwyllgor Addysg Sir Feirionydd i fabwysiadu graddfa cyflogau digonol, a dodi yn y cyfryw ddarpariaeth i roddi codiadau blynyddol. Gwelir fod yr uchod yn cynwys pyngciau pwysig iawn, a diau y ceir trafodaeth ddyddor- 1 ol arnynt.