Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

TAITH I'R AIFFT.I

News
Cite
Share

TAITH I'R AIFFT. I GAN MR. J. R. ARTHUR. I GIBRALTAR. Y MAE yn canlyn yn enaturiol I fod gan y fath le a hwn hanes gorphenol pwysig, ac nid an- fuddiol fyddai rhoi cipdrem drosto. Tarik tywysog grymus a galluog y Saraceniaid, a a choncwerwr cyntaf Spaen, oedd hefyd y cyntaf i ganfod, oddeutu y flwyddyn 690, ei werth milwrol. Ymwelodd ein Brenin, Iorwerth y VII, yn ddiweddar a'r lie, a chan- fyddodd ei fod yn gaerfa anorchfygol, a'r penaf a'r pwysicaf o holl weithiau amddiffynol yr Ymherodraeth nad ydyw yr haul byth yn mach- lud ami. Mae hanesiaeth a rhamant wedi cyf- eillachu a'u gilydd i waddoli ryw rldyddordeb hudolus a swynol yn nglyn a Gibraltar. Wrth hwylio yn mlaen am y Canoldir, a throi ein golygon yn ol ar Gibraltar, dyry pelydrau euraidd yr haul machludol amlii clliad hapus o Gibraltar ar back ground o ffurfafen las loyw; ac ymddanghosa i'r t iwr oddiar fwrdd y Tabor fel Llew a hoi yn ym- grymu, ac fel pe yn gwylio yn i :aus fynydd- oedd a bryniau a thiriogaethaL ;aen i gyfeir- iad y gogledd. Bu Gibraltar yn meddiant Tarik, tywysog y Saraceniaid, a'i "olynwyr, y Moors am dros wyth canrif ac yn ystod y canrifoedd hyny fe wnaeth y Spaniards saith o ymosodiadau aflwyddianus, ond yr wythfed gwarchae Ilwyddasant i ymlid y Moors allan, a chadwodd y Spaniards afael yno am ysbaid o ddwy ganrif. Yn ystod rhyfeloedd gwaedlyd y Spanish Success- ion," cymerwyd Gibraltar, drwy amgyliad- au damweiniol, gan y Prydeiniaid, ac yn eu jjjheddiant ni y gorphwysodd byth wedy'n er gwaetha'r hoi' ymdrecbion cenhadol a milwrol i'w adfeddianu. A dyma sut y cafwyd hi:— Yn 1704, gorchymynodd Prydain i'r Llynhesydd enwog, Sir George Rooke, ymosod a chymeryd Barcelona, ond jnethiant fu yr ymgyrch hono, ac ymiidiwyd Rooke a'i lynges o gyfiiniau :R7- celona gan y Spaniaid. Yn ahewyllysgar wrth feddwl dychwelyd adref i Loegr yn waglaw, penderfynodd Sir George Rooke wrth ffoi o Barcelona, ymosod a rhuthro ar diriogaethau Spaen oddeutu Centa, Cadiz, neu Gibraltar. YR YMOSODIAD PRYDEINIG. YN ffodus i'r Llynghes- ydd, canfyddodd ar Gorphenaf 24, 1704, fod Gibraltar yn digwydd bod yn cael ei warchodi gan 150 yn unig o filwyr Spaen. Cyfeiriodd yn ddiymdroi ryw 15,000 o Shells i'r dre, ac fe syrthiodd Gibral- tar yn ysglyfaeth nvydd a hawdd i'w dan- beleniad; a sylweddolocld Spaen ei cham- gymeriad difrifol o adaC" 1 y lie mor ddiamddifTyn, a'r dynged farwol oedd colli Gibraltar i'w gallu a'u huchelgais. Yn 1727, gyda 20,000 o filwyr, gwnaethont ymdrech adnewyddol, oddiar dir a mor, i'w hail feddianu, ond ni choronwyd eu cynlluniau a llwyddiant; ac felly collasant, mewn tri diwrnod, yr hyn y buont am dair blynedd yn olynol yn ceisio ei adferyd. Gyda dallineb rhyfedd, ac annirnadwy heddyw, i bwysigrwydd milwrol Gibraltar, mynai amryw o brif ddynion Prydain, ystyried yr ysbail ychwanegol fel maen melin neu blwm wrth odrau Prydain. Siaradai Rhyddfrydwyr y cyfnod hwnw yn ddirmygedig am y graig foel," ac ymosodent yn ddiarbeb ar y Llywod- raeth, a chondemnient mewn amser ac allan o amser y gost o'i chadw. Heddyw una y blaid fu am 50 canrif yn ceisio cael ymwared a'i swmbwl, i glodfori ystyfnig- rwydd neu olygon pellgyrhaeddol yr wrth- blaid, ac am afael ynddi hyd dranc bron i fod yn un os nad y golofn bwysicaf yn ein hymer- odraeth. Ymddengys oddiwrth hanes, y gall- asai Spaen un cyfnod, gyfnewid tiriogaethau eraill am Gibraltar; ond er cymaint ei briw wrth weled y "LIew Prydeinig" ar riniog ei drws megis, gwrthododd y cyfle i wneyd bar- gen a Phrydain, na rhoi un math o gyfnewid am ei adferyd. Ac oherwydd hyny, dioddef- odd Gibraltar am y pymthegfed tro, yr hyn a elwir gan haneswyr yn warchae mawr." Di- gwyddodd hyn ddechreu'r flwyddyn 1770, pan oedd Prydain Fawr mewn trafferthion, ac an- hawsderau a'i threfedigaethau Americanaidd. Am dair blynedd cadwyd blockade egniol a Ilym. Gobeithiai y Spaniards ncwynu y gwarchodlu, ond ofer fu eu darpariadau. YR YMDRECH OLAF. DRACHEFN, yn 1782, gwnawd I un ymosodiad mawreddog gan fyddinoedd a llynghes- oedd unedig Ffrainca Spaen ond daliodd y pum mil dewricn Prydeinig eu gafael yn y graig, a Ilwyddasant, wedi arwr- iaeth filwrol ddihafal, i losgi y llynghesoedd a pheleni cliwilboeth yn ystod y nos a'r boreu canlynol, wrth weled y fath ddifrod, dysgodd y ddwy deyrnas ddoethineb, a rhoddwyd y syn- iad o ailfcddianu Gibraltar i fyny, am fod Llewod Prydeinig mewn ogofau Craig, yn dwyn cyffelyb ddelw, yn ddiysgog ac yn anorchfygcl. Mae miliynau o arian ein gwlad wedi eu gwario i gryfbau y lie, a. gall Gibraltar heddyw, yn biiodol, liawlio y cymeriad o fod yn amddiffyn- fa filwrol ansigledig. Mae yr holl graig mor dyllog, gan ogofau a lefelydd, a chrwybr gwenyn a dim l!ai na 1,000 o fagnelau, a pheirianau dinystriol yn barod a'r eiliad II i amddiffyn drws y fynedfa i'r tiriog- aethau sydd yn ffinio ar For y Canoldir. Fel y crybwyllwyd ar y aecnreu, mae y gwyneb dwyreiniol i'r graig, ac hefyd y gwyneb gogleddol, i'r amddiffynfa hon yn unionsyth, ac oherwydd hyny yn anghyraedaadwy i uurhyw elyn ymosodol. Cyfyd Gibraltar oddiar y Sprmish Frontier yn syth am 1500 troedfedd, yna gogwydda y graig yn sydyn nes y mae y cwr dehcuol yn gracldol ddisgyn i'r Mor, ac yn edrych dros y deg nuHdir o for sydd cydrhwng y trwyn deheuol, sef Europa Pdnt, a cbyfandir Africa. Mae pob llanerch a chilfach gyfleus ar y gwyneb hwnw,—y gwyneb sydd yn edrych ar Africa,—yn tneddu ar gen'lif o gna1 IU, a'u Croenau oerioa yn cae' c:u cuJJi" 'n Gcran- 1 iums a phlanhigion bytholwyrdd. Saii y dref j ar yr ochr orllewinol. Ei phreswylwyr ydynt oddeutu 25,000 yn cynwys Prydeinwyr, Iuddew- on, Spaniards, Italians, a Moors. Fe gyst Gibraltar i'r trethdalwyr Prydeinig f350,000 bob blwyddyn, a rhifa y Milwyr sefydlog o bump i chwe' mil. Dyna amlinelliad byr o safle a hanes Gibraltar. Gwelwn fod yr amddiffynfa yn un orbwysig, ac oherwydd hyny, wedi bod yn ganolbwynt stormydd milwrol am ganrifoedd lawer; a gobeithiwn y gwelir y lie bellach, am gyfnodau cyffelyb, yn hafan hedd. DIGWYDDIAD TORCALONUS. YN mhlith yr amrywiol ager- longau yn mhorthladd Gib- raltar, sylwasom ar un oedd newydd gyrbaedd yno o bydney, Australia. Yr oedd y teithwyr yn cynwys rai o Bombay, East Indians gwisgi, Olive-skinned Nurses siongc yn gwisgo anklets arian trwchus, Lascars ystwyth, a llu mawr o Awstralians, yn dychwelyd adref i Brydain Fawr, am y tro cyntaf erioed yn eu hanes. Digwyddodd fod rhif y marwolaethau, yn ystod y fordaith hirfaith hono, o Sydney i Gibraltar, yn uchel iawn. Bu farw dau yn ystod y fordaith fer rhwng Malta a Gibral- tar,—sef geneth fach 5 mlwydd oed, a swyddog uchel yn myddin India. Yn fuan ar ol i'r swyddog hwnw lanio yn India, a dechreu ar ei oruchwylion, gafaelodd afiech- yd blin yn ei gyfansoddiad, a chyngorwyd ef gan ei feddygon'i ddychwelyd adref ar frys os oedd am fynu adferiad. Hysbyswyd ei wraig yn gynil o'r ffaith ei fod ar ei ffordd adref, a bu i'w serch a'i chariad yn ei phryder dybryd, gyfeirio ei chamrau, hi a'i hunig ferch, i'w gyfarfod mor bell ac Ynys Malta. Pan yr ystyriwn, ac y gwyddom, am flinderau a pher- yglon taith mor hirfaith i ddynes mor wan- Ilyd, siaradai yr aberth yr aeth hi a'i mherch iddo am ryw ffyddlondeb diledryw, ac am fyd- oedd o ddiderfyn gariad. Ar brydnawn haf- aidd yn swn iaith calon a theimlad clychau dinas Valetta, gwnaeth y Llestr ei hymddang- ho.,i yn y porthladd. Ac ar y lanfa, daeth y cyd-gyfarfyddiad tapus a bir-ddisgwyliedig rhwng y gwr, y wraig, a'r ferch, a'r tri yno fel ffydd, gobaith, a chariad, yn cyd-blethu cAn croesawiad. Fel yna prydferth ydyw darpar- iadau hiraeth. Ond, ar yr ail-ddiwrnod, ar ol i'r Llestr adael Malta, bu farw y swyddog o'r darfodedigaeth, a'r boreu canlynol bu farw yr eneth fach yn dra sydyn. A phrydnawn y diwrnod hwnw, wedi gweddi fer gan y captain at "Dad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon," cyflwynwyd gweddillion marwol y tad a'r plentyn,-priod a'r ferch, dros ganllaw- iau y Hong i ofal y "dyfroedd mawr a'r tonau," rhwng Malta a Gibraltar. Hawdd- ach dychmygu na desgrifio galar a gofidiau y wraig ffyddlon hono, wrth gymeryd dwfn fyfyriol drem ar ei phriod a'i phlentyn, yn cael eu gosod a'r ystlysau y Hong i'w hebrwng i'w hirdaith olaf. Hawddach dychmygu na desgrifio, loesion ac ingoedd enaid y wraig ffyddlon hono, pan yn cymeryd y drem ddiweddaf, ar ddau o'i hanwyliaid, oedd ar gael eu rhifo at y myrddiynau sydd yn gwneyd Mor y Canoldir yn un o'r mynwentau mwyaf poblog. Fel yna, ffyrdd yr Arglwydd sydd yn y mor," medd y Salmydd, a'i "lwybrau yn y dyfroedd mawrion." I'w barhau.

IBWRDD Y GWARCHEIDWAID, I…

I SOAR, TALSARNAU.

CYNGOR DOSBARTH GWLEDIG I…

Deffiniad y Barnwr Moss.

Advertising