Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

NODICtN O'R CYLCH.

News
Cite
Share

NODICtN O'R CYLCH. Gwelir mewn colofn arall lythyr cyfeiriedig at Weithwyr Chwarelau Oakeley, wedi ei ys- grifenu gan Weithiwr, yn galw sylw unwaith eto at yr ymfudo cyson a pharhaus sydd yn tnyned yn mlaen yn yr ardal hon, ac yn holi a Oes modd mewn rhyw ffordd i drefnu cydym- gynghoriad rhwng y perchenogion a'r gweith- wyr, i edrych a ellir dal rhyw wawr gobaith o flacn y gweithwyr a roddai ataliad ar lif cyson yr ymfudwyr. Cyfeiria Gweithiwr at ddyfod- iad disgwyliedig Mr. Ashmore i'r ardal. Yr ydym yn sicr, oddiwrth yr hyn a gyhoeddasom yn ddiweddar o law y boneddwr hwnw, nad oes neb yn fwy awyddus nag ef am weled pethau'n gwella, nac yn barotach i ystyried y modd i Weithio at hyny Yr ydym yn credu y gellir ac y dylid gwneyd rhywbeth, ac yn rhyfeddu at Qdifraw der y rhai a ddylent gymeryd y blaen. Galwasom sylw at hyn droion o'r blaen, ond Did oedd arwydd bod neb yn gwneyd osgo at "dim ond cwyno a gadael iddi. Ond gwneir yr apel y tro hwn gan y Gweithiwr ei hun, a thybed na roddir sylw i'w gri. Credwn ei bod yn ddatganiad o deimlad cyffredinol yn mhlith y gweithwyr sydd yn aros; ac yn enwedig o eiddo y rhai hyny sydd yn dal i ddilyn eu gor- chwyl tlawd, naill ai am ei bod yn rhy gyfyng arnynt i allu ymadael, neu am fod elfenau car- trefgarwch a theulugarwch yn gryfach ynddynt nag yn y rhai gefnant ar yr ardal. PAN anfonasom at wr blaenllaw a chyfrifol o eglwys y Rhiw i ofyn beth oedd swm y casgliad ar ddydd diolchgarwch anfonodd yr atebiad effeithiol a ganlyn Na wyped dy law aswy Pa beth a wna dy law ddehau." Ar yr un Pryd cyfarwyddodd ni yn garedig i'r He y gallem ddisgwyl cael ffigyrau cywir yr hyn a barodd i ni feddwl ei bod yn gyfyng ar ein cyfailI rhwng dysgeidiaeth Crist ac arfer yr eglwysi Cristionogol. Dro yn ol, mewn Cwrdd Plwyf yn Harlech, codwyd y cwestiwn yn nghylch hawliau Personau unigol i godi gwaliau ar hyd ochrau "yrdd cyhoeddus i'r fath uchder fel ag i guddio o olwg y rhai fydd yn cerdded y ffordd y golygfeydd prydferth a swynol a fwynheid cyn iddynt gael eu codi. Mae'r cwestiwn hwnw Wedi myned yn ddistaw erbyn hyn, ond mae rhai yn dal i holi beth ddaeth ohono. A anfonwyd ef i sylw y Cyngor Sir fel y pasiwyd, ac os felly, pa atebiad gafwyd iddo oddiyno ? A yw hawl gwerin i olygfeydd prydferth eu gwlad yn un sicr, ynte ellir eu prynu gan ttnrhyw anturiaethwr ddigwyddo fod yn ddigon cul ei galon, ac hir ei bwrs? Gwaith da oedd COdi'r mater. p MAE yn dda genym ddeall hefyd fod Cyngor Plwyf Harlech yn cadw yn fyw y mater yn nglyn a hawl y cyhoedd i fwynhau rhyddid ar Y traeth yn ngIan y mor. Mater difrifol i'r ardal fuasai gorfod talu ardreth am godi caban J ymddiosg ynddo pan fyddis eisiau myned I ymdrochi. Ond mae ymdrech yn cael ei gwneyd yn awr i drethu yr ardal am fraint ba warafuwyd mohoni iddynt erioed o'r blaen, Mae'n amlwg nad yw y Cyngor am gymeryd eu hysbeilio o'r fraint ar eu gorwedd, a gobeitbiwn y ca'nt yr ardal fel un gwr wrth eu cefn. Ni ddylid gollwng gafael o freintiau Cyhoeddus fel hyn ond o dan yr orfodaeth eithaf. p BWRDD hynod gafwyd ddydd Mawrth yn y enrhyn: Bwrdd a phawb yn siarad ar un- waith, a phawb fel wedi caelbwyd lied chwerw cyn cychwyn oddicartref. Doniol iawn oedd gweled saith o swyddogion yn bresenol, a dim ODd saith o Warcheidwaid hyd nes y daeth un atynt, ac ar yr ochr aswy i'r Gadair yr oedd Pump o wyr y wasg yn ceisio, goreu gallent, wneyd allan beth elai yn mlaen yn nghanol yr boll gydsiarad eedd yn yr ystafell. Cafwyd "afodaeth fywiog ar amryw faterion, a daeth achos yr eneth o Borthwen Bach o dan sylw, br y disgwyliem am gael adroddiad y pwyllgor benodwyd i ystyried y mater. A gyfarfyddodd y Pwyllgor ? Y mae y cyhoedd yn disgwyl am "ano. Gwnaeth Mr. Evan Richards yn ddoeth ymddacgos o flaen y Bwrdd i egluro mater ew yliys y diweddar William Francis arbedodd gostau cyfreithiol, a boddbawyd pawb heb gwrs o'r fath ag a fygythid. Y DYDD o'r blaen daethom ar draws y llyth- yr doniol a ganlyn o waith Trebor Mai. Fel y r'eHr, yr oedd Trebor ar y pryd yn gweithio fel teiliwr yn Tanygrisiau, a Gwilym Cowlyd,  yr hwn yr ysgrifenai, yn argraffu Uyfr Trebor (" Y Geninen.") Fel byn y mae y %thyr Meirion House, Frawd Mis Tachwedd, 1868. ^•tUvyl Frawd, — ?gho5a.is ddweyd wrthyt pa bryd y bydd 'ettIO y Rbiw." Dydd Sadwrn nesaf y bydd Yr Wyl hono. Ar fy mhererindod hyd yr ysgythrog yma ddoe, cefais y Toddaid canlyno1. u FFESTINIOG. 1 wU anelwig dan fentyll y niwloedd, Gwaeol a rhynol gyfog-le'r hinoedd, Yw bro Ffestiniog, gerygog grugoedd, A daear biblyd yn dwr o bobloedd Rhosyn o'i mewn trwy'r oesoedd—ni egyr, Lie cer anifyr, a phell o'r nefoedd. X ?ae tptlyf er mewn caethiwed, ac heb ym- ???dim, tros 40 o enwau at y?Genmen. 3r et y dam cyntaf o'r llyfr oddiwrthyt hedd- Vv- Y mae yn dda-ond yn page 17 y mae ?'g. sef I ganol ei farwolion," 'does yna vr I "? ? yn nechreu y llinell. Yr eiddot yn gywir, ac ar fryS, TREBOR." ? Y MAE yr uchod yn gwneyd i ni adgofio p p,?g'yn y diweddaf anwyl Iolo Drefaldwyu yn 1-?'st,??(ldfod Gymreig Llanrwst, ar Cymru, -?-gr, a Llanrwst," yr hwn oedd fc! y canlyn; "Lliwgar fro Lloegr fras,—ac O! mor fyw Yw Cymru fach werddlas; Lion a hardd llawn o urddas, A Llanrwst sy'n llawn o ras." Yr oedd y diweddar gyfaill talentog Mr. Evan Evans (I. D. Conwy), yn mhell o fod yr un syniad a Iolo am rasoldeb tref Llanrwst, a gwnaeth Englyn ateb, yr hwn oedd yn un llawn o losg-nwy, ac yn diweddu gyda'r llinell Na lie erioed a llai o ras." Heddwch i lwch y ddau bererin hoff. Y maent hwy, Trebor a Gwilym, yn huno er's blynyddoedd yn mhriddellau y dyffryn.

IY DIRWASGIAD YN Y FASNACHI…

I YSGOL --NEWYDD I PENMACHNO.I

ILLANRWST.-I

[No title]

0 GADAIR YNYS FADOG. I

IBETTWSYCOED.1.I ? -..11,…

BLAENAU FFESTINIOG. - ....…