Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
. -- - - I .--Llofruddio Babanod.…
Llofruddio Babanod. Î Y mae achos difrifol wedi ei wneyd yn hysbysu yn nghymydogaeth Munich, lie y preswylia geneth o nurse bedair-ar-ddeg oed o'r enw Ada Schnell, yr hon sydd yn y ddalfa am lofruddio chwech o fabanod ymddiriedwyd i'w gofal yn y gwahanol fanau y bu'n gweini. Pan ddaethpwyd a chorph y baban olaf a laddodd i'w gwyneb, addefodd iddi ladd pedwar o fabanod eraill. Gwnaeth i ffwrdd a'r oil o honynt yr un modd, trwy wthio pin trwy y He meddal (iad) ar eu penau. Dywed- odd fod llefau y babanod yn ei chynhyrfu, ac nad allai beidio gwneyd fel y gwnaeth. Codir cyrph y pum baban arall.
Advertising
1,Y YN 25AIN. OED—Y mae'r GENINEN bellach wedi byw am chwarter Canrif, ac yn dal i edrych mor raenus ag erioed, Bara gwyn digaro anferth am chwe'cheiniog ar un ar werth gan E. B. Jones & Co. Nis gell- Weh wneyd yn well na rhoddi prawf arnynt.
Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd.
Cyfarfod Misol Gorllewin Meirion- ydd. Cynhaliwyd yr uchod ddydd Llun a dydd Mawrth, yn Pennal. Llywyddid gan y Parch. John Davies, Bontddu, yn absenoldeb y Parch. Trefor Evans, Llwyngwril. Treuliwyd y rhan fwyaf o gyfai fod y boreu i wrando hanes yr achos yn y lie. Arweiniwyd gyda phrofiad y swyddogion gan y Parch. Richard Evans, Harlech, a holwyd i hanes yr achos gan Mr. Edward Jones, Corris. Yna derbyniwyd Mri. John Ashley a Hugh Barrow-Evans yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, fel swyddogion o eglwys Seisnig Abermaw. Cymerwyd rhan yn eu der- byniad gan y Parchn. John Lewis, Aberdyfi; R. R. Williams, M.A., Towyn, a Richard Ed- wards, Cemaes. Caed adroddiad yr ymwelwyr ag eglwysi Bryncrug, Towyn, ac Aberdyfi. Cyflwynwyd adroddiad cvfarfod dosparth Dy- j ffryn o'r materion at y fi ?yddyn nesaf. Pen- odwyd y Parch. John Davies yn drysorydd, a'r Parch. Wm. Griffith M.A., Talsarnau, yn ys- grifenydd, tysteb y Parch Thomas Levi. Caed anercbiad rhagorol gan y Parch John Williams, B.A., Wrecsam, ar y genadaeth gartrefol. Pasiwyd i ofyn caniatad y G ymdeithasfa i eg- lwys Nazareth i werthu yr hen ysgoldy. Cy- flwynodd y Parch Hugh Ellis adroddiad y pwyllgor fu yn ymchwilio i achos brawd o bregethwr, a phasiwyd nas gellid mwyach ei ystyried yn bregethwr. Hysbyswyd fod eg- lwysi Llanbedr a'r Gwynfryn wedi rhoddi galwad i'r Parch Theophilus Lewis, Dolgellau, yn weinidog. Nodwyd i bregethu nos Lun a dydd Mawrth: Y Parchn. D. Hoslcins, M.A., E. Afonwy Williams, Abermaw; D. Hughes, Trawsfynydd R. T. Owen, Aberllefeni; Thos. Hughes, B.A., Rhiw; Joseph Jenkins, a Rich- ard Morris, B.D. vwwvwv/wwwwwvwvvvvw
[No title]
Prif enllyn y mis hwn yw Caws Caer goreu am saith geiniog y pwys gan E. B. Jones & Co., Canton House. Digwyddodd cynifer a 333 o ddamweiniau gyda cheir modur yn ystod Mehefin, Gorphenaf ac Awst. Lladdwyd 74 a niweidiwyd 298 o bersonau ganddynt. Mae'r ffigyrau dychryn- llyd hyn yn dangos y dylai rhywbeth gael ei wneyd yn fuan i atal rhysedd y modurwyr. Ymenyn tori durol, goreu'i fias a brofwyd erioed. am swllt y pwys, yn shop E. B. Jones & Co., Canton House.
.BRAWDLYS GOGLEDD CYMRU.I
BRAWDLYS GOGLEDD CYMRU. Dechrefuwyd y Frawdlys hon ddydd Iau o flaen yr iarglwydd Farnwr Sutton, a chyn- wysai Siroedd Dinbych, Flint, Maldwyn a Meirion. Dychwe^wyd dedfryd o ddieuog yn achos Henry Williams, Groom, a gyhuddwyd o wneyd ympsodiad anweddus ar Rosa Ellin Watkins, 13 oed, yn Llandwnog, Maldwyn, Dywedodd y Barnwr nad ellid condemnio Thomas Freeman, ar amheuaeth yn unig o osod tas o wair ar dan yn Higher Kinverton, a gollyngwyd ef yn rhydd. Anfonwyd lleidr ieuangc ugain oed o'r enw John Henderson, i garchar am chwe' mis am ladrata deg swllt oddiar Robert John Smith, Llanbedr, Rhuthyn. Cyhuddwyd Thomas Jones, Cigydd oTrallwm o ladrata heffer gwerth £12 5s Oc, eiddo Wil- liam Jones, Trallwm. Amddiffynwyd trwy ddadleu nad oedd y carcharor yn gwbl gyf- rifol am ei weithredoedd, a'i fod yn arferol a chael gwasgfeuon. Cafodd wasgfa yn y Llys, a phan ddaeth ato ei hun cafodd ei rwymo i ddod am ddedfryd pan elwid arno. Traddodwyd Joseph Martindale Peart, Cyn- genhadwr Wesleyaidd, i garchar am chwe' mis gyda llafur caled, am anfon llythyrau bygythiol at y Parch William Richard Roberts, Gweinidog Wesleyaidd Llanfaircaereinion. Yr oedd wedi gorfod tynu ei eiriau yn ol, ac addaw peidio poeni Mr. Roberts eto, cyn cael ei ddedfrydu, gan fod y Barnwr yn dywedyd fod yn rhaid iddo gael cymeriad Mr. Roberts wedi ei glirio cyn gadael y Llys. Yr oedd Roberts a Peart wedi bod yn gyd-fyfyrwyr yn y Coleg, ac yn Neheudir Affrica diarddelwyd Peart o'r weinidogaeth am gamymddygiad. Cafwyd Amaethwr o Churchstoke, Maldwyn, O'r enw William Evans, yn ddieuog o yrnosod- iad anweddus ar eneth o'r enw Annie Richards. Cafwyd Robert Evans, Llandinam, yn euog o ymosodiad anweddus ar Harriet Cissie Weaver, geneth o dan 16 oed. Traddodwyd i garchar am bymtheg mis, gyda llafur caled. Taflwyd allan y cyhuddiad o ddynladdiad ddygwyd yn erbyn Stephen Bennett Owen, 17 oed, am gicio Alfred Owen i farwolaeth yn Llanidloes, Medi 23. Tyngu anudon oedd y cyhuddiad yn erbyn John Ashton Smith, Llanidloes, a Mrs. Elizabeth Jones, Belle Vue, Llanidloes. Cod- odd yr achos o gyngaws gymerwyd yn erbyn Smith yn Awst am fod yn Belle Vue ar ol amser cau y gwesty, ac yn erbyn Jones am ganiatau hyny. Taflwyd yr achos allan gan yr Ynadon ar sail llwon Smith a lletywr o'r enw Swancott, eu bod yn cysgu gyda'u gilydd y noson mewn dadl. O'r ochr arall, tystiodd y swyddog iddo weled Mrs. Jones-gwr yr bon oedd oddicartref y noson hono, yn gollwng Smith allan, ac yn ei gusanu wrth y drws. Yr oedd dyn a dynes arhosent yn y ty y noson hono yn tystio fod y ddau-Smith a Swancott -i lawr yn y ty gyda Mrs. Jones. Croes- holwyd y ddau dvst hyny, a chafwyd eu bod yn byw mewn anfoesoldeb gyda'u gilydd. -Taflwyd yr achos allan yn erbyn Smith, a dywedodd yr erlyniaeth y cymerent amser i ystyried a aent yn mlaen gyda'r achos yn erbyn Mrs. Jones. Gan fod y Barnwr yn gorfod myned i Gaer a Chaerdydd, bu raid gohirio y Frawdlys hyd Tachwedd. Gohiriwyd yr achosion canlynol hyd y Frawdlys yn Tachwedd :—Achos y saetbu yn Llansanan; Tyngu anudon yn Llanidloes; Lladrata defaid yn Dyffryn Clwyd; a cudd- ladrad gan Housekeeper Erddig, Wrecsam.
Gwarcheidwaid mewn Helbul.I
Gwarcheidwaid mewn Helbul. Bu Bwrdd Gwarcheidwaid Wrecsam mewn cryn drafferth yn eu cyfarfod diweddaf. Yr oeddynt wedi penodi Sais i'r swydd o Gofrest- rydd i Ddosbarth Ruabon, a chyngorau Plwyfol y Rhos a Penycae wedi anfon cwyn i Fwrdd y Llywodraeth Leol ar y mater. Wrth gwrs, yr Oedd y Bwrdd yn meddwl eu hunain yn gallach na threthdalwyr y Dosbarth yr oedd y Sais Wedi ei benu yn Swyddog iddynt, ac ni fynent Sydaabod eu bod wedi gwneyd camgymeriad, Yt oedd Archwilydd y cyfrifon wedi galw sylw at yr afreoleidd-dra oedd yn y cyfrifon, yn arbenig yn nglyn ar Tlodty. Fel engraifft, yr oedd 36 pwys o Spices "i lawr yn ol 1/6 y Pwys, at y ciniaw Nadolig. Yr oedd 430 o dlodion, yn cynwys y cleifion a'r plant, wedi hwyta 780 pwys o beef, 23 pwys o de, a 29 PWys o goffi mewn un diwrnod. Yr oedd afreoleidd-dra hefyd gyda chyfrifon y fferm, a'r un modd gyda'r ystorfa yn y Ty. I ychwanegu, yr oedd Meistress y Ty yn gofyn Itm gael rhoddi ei lie i fyny; ond gwrthdystiai amryw i'r ymddiswyddiad gael ei dderbyn hyd nes y clirid pethau. Y mae pwyllgor wedi Clstedd. a'u hadroddiad wedi ei anfon i fyny i Fwrdd y Llywodraeth Leol, er fod rhai o'r Bwrdd yn teimlo nad oedd yr adroddiad yn agos i foddbaol.
Y Chwarelwr: ei Ragoriaethau,…
Y Chwarelwr: ei Ragoriaethau, ei Ddiffygion, a'i Beryglon. Yr wyf yn cymeryd y gair chwarelwr i olygu yn unig y rhai sydd yn gweithio yn y chwarelau llechau. Ychydig o'r dosbarth hwn sydd o'r tu allan i Arfon a Meirion ac nid yw y cwbl yn cynwys mwy na rhyw 15,000 o weithwyr. Peth lied anhawdd yw ysgrifenu am ddos- barth o ddynion oblegid bydd pa beth bynag a ddywedir yn rhwym o fod yn anghywir am ran ohonynt: a bydd yr hyn a ddywedir yn awr, yn yr ysgrif hon, yn wir am ran fawr o honynt; ond, wrth gwrs, gellir cael eithriadau i'r gwrthwyneb. Nid yw y rhagoriaethau yn eiddo pawb o honynt; ac nid yw y diffygion a nodwn yn perthyn i bob un o honynt, ond credwn eu bod yn perthyn i ddigon o honynt i'n cyfreithloni i ddweyd eu bod yn perthyn i'r dosbarth. Yr ydym yn dweyd hyn ar y dechreu er mwyn osgoi camgymeriad ac ni bydd dwyn eithriadau gwahanol, yma ac acw, yn gwrthbrofi ein gosodiadau, am ein bod, ar y cychwyn, yn addef hyny. Gyda hyn o eglurhad gadewch ini, yn awr, ddechreu gyda'u rhagoriaethau. Nid ysgrifenu molawd i'r chwarelwr ydyw ein hamcan, er ei fod yn haeddu hyny yn fwy na llawer. Gadewch ini ddechreu gyda'i garedigrwydd. Mae y chwarelwr, fel rheol, yn ddyn caredig. Bum yn tybio fod y dull y mae chwarelwr yn gorfod dechreu ei yrfa yn tueddu i feithrin y rhinwedd hwn. Mae pob chwarelwr yn gorfod dechreu ei yrfa trwy ddibynu yn hollol ar garedigrwydd rhai eraill. Wrth rybela mae pob chwarelwr yn gorfod dechreu ei yrfa weithfaol trwy gardota ei fara ac os oes rhyw ddaioni yn deilliaw o'r gyfundrefn hon buasem yn disgwyl iddi feithrin caredigrwydd oblegid nid yw ambell un yn gallu anghofio, ar hyd ei oes, druenusrwydd ei sefyllfa pan wedi bod, ar hyd y dydd, yn disgwyl am glwt," a neb yn rhoi: ac fel y disgwylid i Israel fod yn dyner wrth y caethwasa'r dieithr am eu bod wedi bod felly eu hunain yn yr Aifft felly disgwyliem i'r bargeinwyr fod yn garedig pan y mae eu cyfle wedi dod i roi, ac nid i dderbyn ac fel y mae y rybelwr yn byw ar elusen, felly y mae y bar- geiniwr, ar hyd ei oes, yn meithrin elusengar- wch, ac yn arfer rhoi elusen. Gellid yn hawdd wch, ddisgwyl felly fod un sydd, bob dydd o'i fywyd, yn gweithredu elusengarwch, a hyny nid fel goruchwyliwr dros eiddo nad yw yn pertbyn iddo, ond yn fynych yn gorfod rhanu a'r rybelwr o'i brinder, yn rhwym o ym- ddadblygu yn ddyn caredig a haelionus mewn cylchoedd eraill. Ac y mae y bargeinwyr yn rhoi y cwbl o'i ewyllys da ei hun oblegid y mae yn drosedd anfaddeuol o ddeddfau moeegarwch i'r rybelwr ofyn am ddim: ac y mae hyn, weithiau, yn rboi mantais i ddyn calon-galed a chrintachlyd i fanteisio ar gym- wynasgarwch a help y rybelwr iddo, heb roddi unrhyw ad-daliad yn ol; oblegid y ddeddf anysgrifenedig yw i'r rybelwr helpu y bargein- iwr yn gyfnewid ar y cerrig a dderbynid gan- ddo. Ond y mae y gyfundrefn hon,, heblaw meithrin caredigrwydd yn y mwyafrif o'r chwarelwyr, yn dadblygu eraill yn ddynion caled, brwnt, crintach, ac anghyfiawn, parod i fanteisio ar lafur eraill heb barodrwydd i'w gydnabod ac nid oes un man gwell i adnabod y rhydd ei galon a'r dyn crintachlyd na phone y chwarel. Credaf y gellir olrhain haelioni diarhebol y chwarelwr i'w arferion chwarelyddol yn fwy na dim arall. Cofier, nid ydym yn dyweyd mai da digymysg ydyw dylanwad yr arfer o rybela a chadw rybelwyr ar gymeriad y chwarelwr ceisiwn ddangos hyny pan ddeuwn at ei ddiffygion. Haelioni chwarelwyr Cae- braichycafn at Goleg Bangor fu y ddadl gryfaf er argyhoeddi y Llywodraeth fod Cymru yn awyddus i gael addysg uwchraddol a chanol- raddol. A gallwn ddyweyd fod gan y chwarelwr syniad uchel am werth addysg. Dengys hanes byrddau ysgol Llanberis, Llanllyfni, a Ffestin- iog, fod y chwarelwr yn barod i drethu ei hun yn drwm er mwyn addysg ei blant. Ac y mae yr hyn a wnaeth chwarelwyr Bethesda gyda'u hysgolion gwirfoddol (er yn methu cael bwrdd ysgol oblegid eu hagosrwydd at y Cast ell, ac oblegid eu bod wedi eu hieuo yn anghydmarus ag amaethwyr pen isaf y plwyf, y rhai oedd, ac y sydd, yn rhoi Ilawer mwy o bwys ar wên y goruchwyliwr nag ar well addysg i'w plant) yn ymddangos eu bod hwyth u o'r un deimlad am bwysigrwydd cael addysg dda i'w plant a'u brodyr yn y rhanau chwarelyddol eraill. — (O'r Geninen am Hydref), WVAAVWVVVWYVWWVWWWW
Mr. J. Prydderch Williams…
Mr. J. Prydderch Williams fel Beirniad. Yn y Drych o dan y penawd Beirniad Diwyro," ymddangosodd y nodiadau hyn o waith loan Eryri. Bydd yn dda gan lu cyfeill- ion Mr. J. Prydderch Williams yn yr ardal hon gael darllen yr hyn a ddywedir am dano —" Gwelais restr testynau Eisteddfod agos- haol Columbus, 0., a boddhad digymysg oedd canfod enw y cerddgar J. Prydderch Williams, Utica, ar ben y rhestr fel beirniad cerddorol, a chyda y fath un a J. Powell Jones, sydd a'i enw yn arogli yn esmwyth yn y dyffryn hwn a llawer dyffryn arall. Nid oedd hyn yn i taro yn rhyfedd i ni ychwaith, gan ein bod wedi dylyn Prydderch yn fanwl er's rhaiblynyddau, a hyny am ein bod yn ei adnabod yn dda, ac hefyd wedi ei weled a'i glywed fel beirniad cerddorol yn y dyffryn hwn mewn ami i Eis- teddfod o Fair Haven i West Pawlet. Mae y ffaith iddo yma mewn chwech o Eisteddfodau roddi y boddlonrwydd llwyraf yn profi fod ei gymwysder yn ddigonol i'r gwaith o feirniadu corau a chantorion clasurol Cymreig. Cread- uriaid anhawdd eu trin feI rheol yw y Brass Bands, ond mewn cystadleuaeth yn Poultney, rhoddodd ein cyfaill foddlonrwydd llwyr i'r tair seindorf oedd yn ymgeisio am y wobr. Bu hefyd yn Pennsylvania mewn amryw leoedd yn beirniadu, ac yn Edwardsdale, yn nyth y gan glasurol Gymreig, yn fwy na thywysog. Ond mae un peth mwy na gallu cerddorol yn medd- iant John, sef gonestrwydd diwyro nid dyn y gall neb ei brynu yw ef, ond un diofn yn dweyd ei farn, a diau fod pwyllgor Eisteddfod Colum- bus wedi bod yn ddoeth yn eu dewisiad o feirniad. Un yw Prydderch wedi dringo trwy ddyfalbarhad o ddinodedd i allu a sylw ei genedl yn y wlad hon a Chymru. Darllenasom iddo gael derbyniad tywysogaidd gan y band a'r Cor yr oedd yn aelod o honynt pan ar ym- weliad a Chymru yn ddiweddar. Mae y ffaith ei fod yn un o'r cwmni masnachol mwyaf yn Utica heddyw yn profi ei fod yn un o oleu a chymeriad y mae y byd yn edrych i fyny ato.-IOAN ERYRI, Poultney, Vt. 'V'V'VVVVV^V'VVVNAA/SA/S/S/VVVNA/WN/W
IYmchwiliad Bwrdd Masnach…
I Ymchwiliad Bwrdd Masnach i'r Trychineb yn Amwythig. Cynhaliodd Cyrnol Yorke ymchwiliad i achos y trychineb ofnadwy i'r cyflwr yn Amwythig dydd Mercher. Yr oedd Mr. D. Lloyd George yn bresenol yn yr ymchwiliad, a dat- ganodd gydymdeimlad y Bwrdd Masnach, y Llywodraeth, a'r bobl yn gyffredinol a theulu- oedd y rhai a laddwyd ac a anafwyd. Dywedodd Harry Nash, taniwr, fod Sam Martin yn yriedydd er y flwyddyn 1898. Yr oedd ei gymeriad a'i iechyd yn dda, ac hyd y gwyddai ef nid oedd dim yn ei erbyn. Yr oedd yn ddyn sobr. Dywedwyd ei fod i gael gor- phwys yn Nghaergybi am dair awr ar ddeg a chwe' munyd a deugain. Gofynai Mr. Lloyd George yn mha le yr oedd Martin yn gorphwys yn Nghaergybi. Atebai Mr. Nash mai yn lletty y cwmni. Ni chawsai gyfle i gael diod feddwol yn y refresh- ment rooms yn Crewe. Yr oedd y taniwr Fletcher hefyd yn ddyn sobr. Mr. George A oes genych rywbeth i'w ddweyd a rydd oleuni ar y trychineb ? Y Tyst: Nac oes; nis gallaf roddi eglurhad o gwbl. Mr. Lloyd George: Rhaid fod genych rhyw fath o syniad. Wrth gwrs, ni ddelir chwi yn gyfrifol; ond gall fod yn help i ni. Y Tyst: Rhaid ddarfod i Sam Martin gam- gyfrif ei gyflymdra. Nid oedd gan y tyst atebiad i'w roddi i ofyn- iad Mr. Lloyd George i'r perwyl a oedd Martin wedi camgymeryd mewn barn; ond ni thybiai y tyst fod dim yn sydyn wedi digwydd ar iechyd Martin. HOLIADAU MR. LLOYD GEORGE, Holwyd Mr. Nash yn fanwl gan Mr. Lloyd George yn nghylch pa brawfion a roddodd ar yriedyddion gyda golwg ar eu nerth corphorol ar gyfer y fath ofalon a phryderon ar eu medd- yliau. Atebodd Mr. Nash y bernid hwy yn ol eu hiechyd cyffredinol. Mr. Lloyd George: A ydych chwi yn tybied y dylai gyriedyddion gael eu harchwilio gan feddyg bob hyn a hyn o amser ? Y Tyst: Nac wyf. Byddaf yn gofalu fy hunain i archwilio gyriedyddion cerbydresi cyflym. Galwaf hwy ger fy mron, a holaf am lawer o fanylion. Edrychaf eu bod yn gym- wys i'w gwaith. Mr. Lloyd George: Tybier fod dyn yn meddu calon wan pa sut yr ydych chwi i wybod hyny ? Nid ydych yn ei holi neu yn ei archwilio. Wrth gwr, ni buasech yn gosod eich hunan allan fel meddyg ? Mr. Nash Na fuaswn Mr. Lloyd George; Yr wyf yn cytuno ond y mae adegau pan y tyr iechyd dyn i lawr, a phan y mae y wybodaeth am hyny, yn anffodus, yn rhy ddiweddar. Mi dybiwn fod gyru cerbydres gyflym yn bwysau mawr ar feddwl a nerfau dyn, oherwydd y fath gyfrifoldeb sydd arno.
IO'R _PEDWAR -CWR.'
I O'R PEDWAR CWR. Y MAE Mr. Edward Aston, Wilmslow Park, Wilmslow, wedi gadael dros gan' mil o bunau i'r Wesleyaid, gyda'r rhai yr oedd yn aelod blaenllaw. CAFODD un Edward Hughes, 6, Shard Square, Peckham Park, ei anfon i garchar am chwech mis, gan Ynad Westminster, am werthu Ilaeth heb fod yn lan. AETH mam i Lys Mr. Plowden, Llundain, i gwyno fod ei bachgen yn lladrata. "Ewch adref, a maddeuwch iddo, a dysgwch i beidio lladrata eto," meddai Mr. Plowden ond mae o wedi dwyn o'r blaen," atebai y fam, Dyna fwy byth o reswm dros i chwi faddeu iddo. Maddeuwch iddo hyd ddengwaith a thriugain seithwaith, Peidiwch a dod ag ef i'r Llys," oedd cyngor yr Ynad poblogaidd. CAFODD un Mrs. Barnes, iawn o bum' punt a'r hugain, gan Cwmni Reilffyrdd Caer, am iddynt ei chadw yn yr Orsaf am gryn amser oherwydd nad oedd yn abl i gael hyd i'w thocyn. Ystyriai y Llys fod ei chadw felly yn gyfystyr a'i charcharu. YN Mrawdlys Chwarterol Meirion, dedfryd- wyd Thomas Jones, (Twm y Gwlan), i dair blynedd o benyd wasanaeth am ddwyn sach- aid o wlan o fferm yn Trawsfynydd. Y MAE y Parch. Robert Thomas, Gweinidog yr Anibynwyr yn Abermaw, wedi derbyn gal- wad gan Eglwysi Amaes a Llanfechel, Mon. TRADDODODD Syr W. H. Preece, ddarlith ddyddorol i Aelodau Guild yr Eglwys yn Nghaernarfon, nos Sadwrn, cyn cychwyn am daith i Ddeheudir Affrica. Y MAE enwau Mr. T. H. Parry, Bargyfreith- iwr o Wyddgrug, a Mr. J. W. Simmers, Camalyn, Rossett, i gael eu gosod o flaen Pwyllgor Canolog Rhyddfrydwyr Sir Fflint fel ymgeiswyr am y Bwrdeisdrefi. CAFODD y Reilffordd Ysgafn rhwng Llan- dudno a Cholwyn Bay ei hagor i gario teithwyr, ddydd Sadwrn, a manteisiodd amryw ar y cyfle i roddi y prawf cyntaf ar y Llinell. TRADDODODD Mr. Harry Evans, anerchiad dyddorol o flaen Cymreigyddion Lerpwl, ar Gerddoriaeth ddyfodol Cymru." Yr oedd yn golygu y dyfodol yn lied flafriol, a gwnaeth amryw awgrymiadau gwerthfawr ar y mater, WRTH fyned trwy y seremoni o fedyddio baban, sylwodd y Clericwr ar y bychan yn gwenu, a dywedodd wrth y fam, Y mae genyf i'ch llongyfarch ar ymddygiad eich un bach. Yr wyf wedi bedyddio dros ddwy fil o fabanod, ond ymddygodd ef yn well na'r un o honynt." Gwenodd y fam, a dywedodd, fod hi a'r tad wedi bod yn ymarferyd arno am ddeng niwr- nod. MAE y tan diystriol ddigwyddodd yn ystordai Mri. Barbour's, a'r Minsbull Street Police Court Building, a gwaith dodrefn John Wil- liams, Henry Street, Manchester, wedi achosi dros filiwn o bunau o golled. DYDD Llun diweddaf oedd dydd gwyl y Llyngesydd enwog Nelson. Gwnaeth prif drefi Lloegr anrhydedd mawr i goffadwriaeth prif atwr Trafalgar. DYWEDIR bod pawb o'r clwyfedigion yn y ddamwain ddychrynllyd wrth orsaf Amwythig yn dyfod yn mlaen yn dda. Mae y meddygon yn gobeitbio y daw Hudson, y dosbarthwr llythyrau, drwyddi, er bod ei gyflwr wedi ei ystyried yn anobeithiol o'r dechreuad. MAE'R Parch. Evan Jones, ficer Llanfair- caereinion, wedi derbyn y cynyg a gafodd ar fywioliaeth yr Wyddgrug. Dyma'r ail waith i Mr. Jones ddychwelyd yn ficer i blwyfi y bu gynt yn gwasanaethu ynddo fel ciwrad. Nos Sul diweddaf, hysbysodd y Parch. Job Miles ei gynulleidfa yn nghapel Baker Street, (A), Aberystwyth, ei fod yn bwriadu ymddi- swyddo ar ddiwedd y flwyddyn hon o'r weinid- ogaeth yn y lie. Bu Mr. Miles yn weinidog ffydlon ar yr eglwys hon am 35 mlynedd. Derbyniwyd yr hysbysrwydd gyda gofid cyff- redinol. DEDFRYDWYD Henry Daunton, i fis o garchar, yn Merthyr, dydd Llun, am gerdded o amgylch yn y pwll glo gyda goleu ar lamp doredig. Yr oedd tri-chant-ar-ddeg yn gweithio yn y pwll ar y pryd, a dywedai yr Ynad y gallai y diflynydd fod wedi chwythu yr holl le i fyny. YN nghyfarfod diweddaf Gwallgofdy Din- bych, penodwyd y Parch. H. Humphreys, rheithior Henllan, yn gaplan y sefydliad, yn lie y Parch. Daniel Davies, rheithior Dinbych, yr hwn a benodwyd yn ddiweddor i fywiol- iaeth Wrecsam. Mae cyflog y swydd hon wedi ei ostwng i £60 y flwyddyn yn lie £ 80 fel ag a delid i Mr. Davies. YN Llandudno, dydd Llun, dirwywyd Hugh Hughes, Llandudno, i 2/6 ar costau am sefyll ar step cerbyd y rheilffordd pan oedd y tren yn cychwyn. Yr oedd wedi cael ei rybuddio i sefyll draw, ac wedi gwrthod, Yr oedd y Cwmni yn awyddus i gael rhoddi pen ar yr arferiad beryglus hon. MAE Mr. Frank Goldsmith, o Gyngor Sirol Llundain, wedi ei ddewis fel ymgeisydd Undebol dros Ogledd-orllewin Suffolk. Mr. G. A. Hardy, Rhyddfrydwr, yw yr aelod ar hyn o bryd. LLADDWYD dyn o'r enw Thomas Evans, glowr yn gweithio yn nglofa Mostyn, dydd Llun, trwy gwympiad o'r graig arno, gan beri hollt yn ei benglog. PROFWYD ewyllys y diweddar Mr. William Eames, Moss Bank, Bangor Uchaf, masnaeh- ydd llechi, ac aelod o Gyngor Dinesig Bangor, ac yr oedd yn werth [4,505. MEWN cystadleuaeth nofio yn y baddonau cyhoeddus yn Manceinion, nos Lun, cymerwyd un ferch ieuanc oedd yr cystadlu yn wael. Llwyddodd i nofio at ochr y baddon, a daliodd ei gafael yn y rail. Gwelwyd hi gan foneddig- es ieuanc, yr hon a geisiodd estyn cynorthwy iddi; wrth iddi wneyd hyny, fodd bynad, syrthiodd hithau i'r dwfr, ond yn ffodus ;r oedd yn medru nofio, ac er ei bod yn:ei dillad gwisgo nofiodd at yr eneth sal a daliodd hi hyd nes cafwyd gwaredigaeth. Cafodd gymerad- j wyaeth mawr am ei gwroldeb pan ddaeth allan o'r dwfr,
I FOOTBALL.
I FOOTBALL. I NORTH WALES COAST FOOTBALL LEAGUE. Table up to and including lastt Saturday. DIVISION I. Goals. P. W. L. D. F. A. P. Beaumaris 4 4 0 0 .18 5 8 Holyhead 3 2 1 0 .11 4 4 Bangor 3 2 1. 0 .10 8 4 Carnarvon U. 4 2 2 0 .15 8 4 Llanrwst 4 2 2 0 7 8 4 Rhyl Res. 4 2 2. 0 9. 7 4 Colwyn Bay 2 1 1 0 3 3 2 LlandudnoA. 3 1 2. 0 5 9. 2 Denbigh 3 1 2. 0 4 .10 2 Bl. Festiniog 3 1 2 0 5 .18 2 Conway 3 0 3 0 7 .14 0 Last Saturday's Results: Llanrwst 4, Denbigh 3. Holyhead 3, Bangor 1. Carnarvon 4, Llandudno 0. Beaumaris 8, Blaenau Festiniog 2. FESTINIOG COUNTY SCHOOL V. LLANRWST COUNTY SCHOOL.—The above teams met at the Recreation Ground, Blaenau Festiniog, on Saturday last. Llanrwst winning the toss de- cided to play against the wind. W. J. Hughes set the ball in motion, and soon the home forwards made an advance towards the visitors net. One or two corners were forced, but they proved of no advantage to the Festiniog men. until a little later another rush was made by the forwards which resulted in J. Owen regis- tering the first goal against Llanrwst. Not in the least disheartened the Roosters played up, and some capital play on their part followed. Evans getting possession of the ball outdid the Festiniog men and sent the ball in with a nice shot which gave Lloyd no chance. Matters were now equal, and the game was becoming very interesting. Shortly before the half time the home right wing showed form, and W. Morris scored, thus giving Festiniog the lead once more. During the second half play was very exciting. Lloyd saved well more than once, but he had comparatively little work. The Festiniog forwards should try and keep their places better. Several good chances were lost by their not being in their proper positions. Final-Festiniog 2, Llanrwst 1. Next Saturday, at the Recreation Ground, Festiniog will be engaged in the 1st round of the North Wales Junior Cup with Llandudno. The following players will represent the town team :—Goal, E. Hughes; backs, D. Mac Naughton, J. Lloyd; halves, Bert Bradley, J. W. Kinneir, M. E. Morris; forwards, John Jones (capt.), W. Williams, Meirion Jones, W. R, Hutt, W. Jones. Reserves-Ted Jones. Robert Roberts, John Morris. Admission 4d., Boys Id. Kick-off 2-45 p.m. prompt.
PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. CYNGERDD YN LLYS EDNYFED.—Bu Mr. Jarrett Humphreys a chwmni o offerynwyr ac adroddwyr yn rhoddi cyngerdd yn y Tlodty yr wythnos ddiweddaf, er difyrwch mawr y tlodion. Mae y gwaith hwn yn haeddu ei gydnabod a'i ganmol, a theimla llawer yn ddiolchgar i'r rhai gymerasant ran. GORPHWYSFA. Dydd Sadwrn diweddaf, cyfranogodd yr eglwys uchod a'r plant o wledd ddanteithiol baratowyd gan chwiorydd caredig yr eglwys. Gwasanaethwyd wrth y byrddal1 gan Mrs Daniel, Miss Evans, Mrs Roberts a Mrs Williams, Castle Street; Miss Humphreys, Miss Jane E. Owen, Miss J. H. Jones, Pen- sarn Miss A. E. Davies, Mrs Humphreys, High Street; Miss Jones, Eryri Terrace Mrs Roberts, Hyfrydle; Miss Edwards, Church place; Miss Jones, Regent House, a Miss Ed; wards, Tegid House; Mrs Thomas, Castle Street: Mrs Owen, Church Place Mrs Wil- liams, Caerffynon Terrace; Mrs Edwards, Shop Newydd, a Mrs Davies, Castle Street, a'r cyfan dan arolygiaeth Mrs Williams, Miss Owen, Miss Hughes, a Miss Edwards. Ar ol y te cafwyd chwareuon difyr gyda'r plant a'r bobl ieuaingc, a mwynhaodd pawb ei hun yn rhagorol.
RHOS AR CYLCH.
RHOS AR CYLCH. Rhoddodd cwmni o dan gyfarwyddyd y Cymro pybyr Mr. J. M. Edwards, M.A., Treffynon, berfformiad rhagorol o'r ddrama Rhys Lewis" yn y Public Hall, nos Wener diweddaf Yr oedd y cynulliad mawr yn profi nad oes llawer o ragfarn yn erbyn y ddrama yn yr ardal hon. Cafodd aelodau y Ford Groa wledd ragorol i agor eu tymor eleni. Eisteddodd tua 60 wrth y bwrdd. Mae y gymdeithas yn dal yn fyw ac effro, ac wedi tynu rhaglen ragorol allan at y tymor nesaf. Mae pwyllgor yr Eisteddfod wrthi yn gwneyd eu trefniadau. Buont yn dewis beirniaid yr wythnos ddiweddaf. Bydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf ar raddfa gryn lawer yn eangach na'r un ddiweddaf. Tra yr oedd Mr. John Edwards, Mountain Street, wrth ei orchwyl yn Nglcfa Glan'rafon, dydd Ian, disgynodd rhan or nenfwd arno gan ei anafu yn dost. Y mae yn graddol wella a dan law Dr. J. C. Davies. Dydd Gwener, cyfarfyddodd John Roberts, Acerfair, a damwain dradd yn,. angeuol iddo, yn Nglofa Wyncstay lie yr oedd yn gweithio. Bu farw mewn ychydig funydau wedi dyfod ag ef i'r lan. < Taith Israel o'r Aifit i Ganaan,"oedd testyn papurau dyddorol gan Mri. W. Smith a Z. Griffiths, yn ysgoldy y Tabernacl, nos lau. Gwnaeth Mr. A. D. Foulkes fap o'r daitb i eg- Iluro y papurau. Traddododd y Parch. T. Wynne Jones, gweinidog newydd Salem, bregeth yn nghyfar- fod diolchgarwch am y cynhauaf yn nghapel ) Mynydd Seion (A), nos Lun.