Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

I0 GADAIR YNYS FADOG.I

HARLECH.

News
Cite
Share

HARLECH. PREGETHU .-Cynhelir cyfarfod pregethu y Wesleyaid nos Iau a dydd Gwener, disgwylir i bregethu y Parchn. O. Madoc Roberts, a W. 0. Evans. LLYTHYRAU.—Mae'r post hwyrol y cyfeir- iasom ato ddechreu yr haf wedi ei sefydlu er- byn hyn yn rheolaidd, a bydd yn gadael am 7-45 drwy'r flwyddyn. Mae'r llythyrau anfonir gyda'r post hwn yn cael eu rhanu yn mhrif drefi Lloegr, a thrwy Ogledd Cymru y boreu dranoeth. Derbynir llythyrau yma am 5-30 y prydnawn drwy'r flwyddyn, ond ni renir hwynt o ddiwedd Medi hyd ddechreu Mehefin ond i'r rhai alwant i'w hymofyn. Yn ol pob tebyg bydd gwasanaeth y telephone yma yn lied fuan. TE PARTI.—Dydd Mercher, rhoddwyd Te parti i blant Ysgol Sul Rehoboth yn Rhiwgoch. Daeth nifer dda o blant ynghyd, a chafwyd gwledd ddymunol, a mwynhaodd pawb eu hun- ain yn gampus. GWERTHU EIDDO MRS. HOLLAND.—Dydd Gwener diweddaf, yn Neuadd y Dref, gan Mri. Dew a'i Fab, rhoddwyd eiddo Mrs. Holland, Caerdeon, ar werth. Yr oedd nifer dda o brynwyr yn bresenol a chafwyd arwerthiant bywiog. Dyma restr o'r pryniadau gyda enwau y prynwyr a'r ffigyrau yn mha rai y disgynodd y morthwyl :—Fair View, Mr. Ivor Jones, /680 Brynhyfryd, Mr. Fowler, Sutton Cold- field, /240 No. 1, Bronwen Terr., Mr. J. E. Humphreys, Gwynfryn, £ 570, No., 2 do., Lease £ 40, Mr. R. Williams; No. 3, do., Miss Griffith, Penybryn, £ 480; No. 4, do., Le-ase;640, Mr. J. P. Jones No. 5, do., tynwyd yn ol am £ 470; No. 6, do., Miss L. A. Roberts, £ 550 Tantwthill Cottages, Mr. Wm. Hughes, £ 250 Tir adeiladu yn ymyl, Parch. A. A. Bourne, Cheltenham, [150; Castle Hotel a'r Ardd, Mri. Sheriff Roberts, £ 2500; Y maes perthynol yn y Morfa f 500 Castle Villa, Mr. Morris Jones, £ 520; Tir adeiladu wrth ei ochr, Miss George, £ 50; Ty'r Machine gyda'r Yard, Mrs. Lloyd, Belle Vue, £ 375 London House, Mrs. Roberts, f 280 Towyn House, Miss George, £ 280 Tanllech Newydd, Mr. Ed. Griffith, £ 85; Penllech, Mrs. Llovd Davies, Llechwedd Du Mawr, £ 175; Ty'r Eiddew, Hugh Roberts, £ 150; Ty-tan-y-Bicws gyda'r gerddi a'r tir o amgylch: Mr. Richard Jones, £ 445; Ysgoldy, Mr. John Edwards, £ 250; Ty'n-y-grisiau, Miss Griffith, £ 140 Unlle, Mr. Ed. Griffith, £ 140 1, 2 a 3, Rock Terrace, Mr. Robert Roberts, £ 215 Ty yn Tryfar Terr., Mr. W. Grey Thomas, (115; eto, Mr. Richard Thomas, £ 70; eto, Mrs. Eliz. Jones, £ 200; Ty'ndwr, Mrs. Lloyd, Belle Vue, £ 310; Buarth y Clogwyn, Mr. J. Ivor Jones, £ 310; Clogwyn House, Mrs. Lloyd, £ 300; Clogwyn Villa, Mr. William Williams, £ 350; Bron Clogwyn Cottages, Dr. Thomas, Merthyr Tydvil, £300; Yr Efail a'r Gerddi, Mr. James Morris, £ 200; Glan Morfa, Mr. William Jones, Lerpwl, £ 395 Cae Du, Mr. Wm. Williams, £ 1260 Garthbach, Mr. Edward Jones, xc300 Groeslwyd, Mr. John Williams, 1.215; Rhyd- galed Ucha, Mr. Richard Williams, 600; Cerrig-y-gwaenydd, Mr. Edward Roberts, f 500; Morfa, Mr. Lewis Jones, Coettybach, Talsarn- au; Lasynus Fach a Garth Mawr Hen, Lord Harlech, 3,000; Lasynys Fawr, Lord Harlech, £ 2,000 Hengeuau, Capt. Evans, Bryngoleu. £ 470; Ty Cerrig, Dyffryn, Parch. Hugh Hughes, £ 380; Erwgochyn, Mr. John Williams, f 140. Gwelir bod y rhan fwyaf o'r daliadau wedi dyfod i ddwylaw y tenantiaid oedd ynddynt yn flaenorol. Teimlid cryn bryderrhag i'r Eiddo fyned i ddwylaw estron- iaid, a boddhad mawr i bawb oedd fod y dor- aeth ohono wedi ei sicrhau gan deulu yr hen dref ei hun.

TANYGRISIAU. -f

Advertising

[No title]

TAITH I'R AIFFT.1

RHOS A'R CYLCH.

[No title]

Cyngor Dosbarth Geirionydd.…

[No title]

TREFN OEDFAON Y SUL