Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

TAITH I'R AIFFT.

News
Cite
Share

TAITH I'R AIFFT. GAN MR. J. R. ARTHUR. GWLAD Y GWINLLANOEDD. YN ddilynol i Corunna, canfyddwyd arfordiroedd Portugal-Gwlad yr aer- on. grawnwin. ffigys, gerllyg a phob ffrwythau dymunol. Gelwir Portugal yn wlad y gwinllanoedd a gwlad y perllanau, ond llwm iawn ydyw'r olwg arni o'r mor yn y rhan Ogleddol ohoni-creigiau noethlwm, bryniau crasedig, a mynyddoedd cribog, heb flewyn i'w harddu-ond mae yr olwg arni yn gwella wrth forio yn mlaen. Yr oeddym erbyn hyn dan haul clir, ffnrfafen di- gwmwl, ac awelon pur ac adnewyddol adnodd- au yn ei hesgyll-pawb yn ramblo ar y decks, a'r "Tabor" ar for tawel, ac fel pe yn llithro ar balmant o saphir pur nes cyrhaeddwyd Oporto. DINAS AR FRYN. OPORTO din, r fryniau, dinas a'i hadeila l yn esgyn ris ar ol gris i fyi. llechwedd- au, yn hardd rucddol. Yno gwelir afradlonedd mewn Iliwiau-y pink a'r glas, y coch a'r gwyn, y gwyrdd a'r aurliw yn gwreichioni dan ddylanwad yr haul. Wrth y fynedfa, ceir fleet o tugs, teganaidd yr olwg, yn besychu ac yn corngarthu wrth lusgo a thynu Schooners i'r Harbwr. Yr oedd ein Llestr y pryd hyn, yn llithro heibio canoedd o gychod pysgota y Portugese yn eu Hawn hwyliau, a'r hil ddynol fel gwybed mawr yn gwau drwy eu gilydd ar hyd y glanau. Dyna fairyland-a dyna Oporto a'r gymydogaeth. MONTERRAT v. MAENTWROG. YN fuan ar ol gadael Oporto, daeth cymydogaeth Cintrai'r amlwg. A Cintra ydyw Pompeii Portugal. Gelwir Cintra gan Southey y Bardd, a the most blessed spot in the habitat., A dyna ddywedodd George Borrow-" fod harddwch a phrydferthwch Tivoli yn gwywo yn rhwydd o'i gof, tra nis geliir byth ddileu harddwch a phrydferthwch Cintra." Pe y byddai i ni ddarllen Wild Wales" gan Borrow, canfyddwch ei fod wedi cerdded yn droednoeth drwy ddyffryn Maentwrog, a sach- aid o Feiblau ar ei gefn. Ond dyna ddywed- odd Borrow am ddyffryn Maentwrog-" a love- ly valley." Yn ddiweddar darllenais weithiau lleol yn honi na ddeil unman i gystadlu a Maen- twrog mewn prydferthwch. Ond sut bynag, dyma ydym yn ei ddweyd, mae dyffryn Mont- serrat yn Cintra, yn rhinwedd ei safle, ei bwys- igrwydd, ei gyfoeth, a'i harddwch yn cael ei gydnabod gan brif deith .vyr y byd yn y gorph- enol a'r presenol,-yn ddihafal nid yn Ewrop yn unig ond yn yr holl fyd. Os nad ydym wedi cael cyfle i syrthio o dan swynion Cintra ymddengys desgrifiadau teithwyr o'r lie yn wastrafflyd. Wel, cawsom gipolwg hardd, drwy wydrau swyddogion y Tabor ar rai o fryniau tiriogaeth hyfryd Cintra-ac yr oeddym yn tybio y buasai crwydro yn mhlith y coed- wigoedd ar Ilwyni-y gelltydd ar celli-rhod- feydd a gerddi y bryniau-yn cael argraff annileadwy. Yno ceir yr Alhambra, Palas y Brenhinoedd Mooriaidd, palas sydd heddyw yn anmhrisiadwyar gyfrif ei gywreinrwydd. Yno y ceir Castelli henafol-yno y mae Palas Brenhin- ol yn bresenol. Yno ceir adeiladau gorwych oblegyd dyma wlad yr addewid," i deuluoedd urddasol Portugal. Ystyrir i ddyn gael cartre a thrigfan, yn Cintra a Montserrat, fel hall- mark cyfoeth a phendefigaeth,-yn debyg fel gwna yr American Millionairs eu cartrefi ar un o'r Thousand Islands. "TEGWCH BRO." Wedi cefnu ar Cintra, a morio hyd y glanau, yr olwg nesaf oedd cym- ydogaeth Lisbon. Mae Lisbon yn sefyll ar saith bryn, yn ngenau yr afon Tagus, ac yn cael ei chyfrif yn un o'r tair dinas harddaf yn Ewrrop-Naples yn Italy ydyw un, a Caer- -cystenyn yn Twrci ydyw'r llall. Mae pryd- ferthwch sefyllfa Lisbon yn gyfryw fel y.ceir di- harebyn mhlith teithwyrfel hyn:He who has not seen Lisbon does not know what beauty is." Mae ei phoblogaeth dros 300,000, a cheir cen- llif o dai ac adeiladau claerwynion yn coroni y bryniau—a'r oil yn disglaerio dan ddylanwad yr haul, rhwng planhigion bytholwyrdd a trop- ical foliage cyfoethog. Yno y ceir eucalyptus ar ffawydden-y balmwydden a'r dderwen yn cyd-dyfu—mewn geiriau eraill, y north tem- perate a'r sub tropical vegitation ochr yn ochr. 0 Lisbon, yn Portugal, yr hwyliodd Vasco da Gama, i ddarganfod India. Ac yn ddiweddarach o Lisbon yr hwyliodd y Spanish Armada, 300 mlynedd yn ol, gyda yr amcan o drawsfeddianu Ynys Prydain a throsglwyddo y goron Brydeinig i Phylip, Brenin Spaen. Bu gorchfygiad yr arf-lynges Yspeinig a'r canlyn- iadau yn ergyd dychrynllyd i Spaen. Suddodd Spaen fel gwladwriaeth, a gallu morwrol, i ddyfnderoedd o ba rai ni ymddyrchafodd byth mwy. TEULU'R DYFNDER. WEDI pasio Cape Roca a Lisbon ar yr afon Tagus, yr olwg gyntaf ar dir wedyn oedd creigiau serth, talsyth Cape St. Vincent. Yno, newidiwyd cwrs y Hong ychydig i'r dwyrain, a llawen a dedwydd yn mlaen y mordwyem drwy heigiau o bysgod breision-y Dolphins, y Porpoises, a rhywog- aethau ereill o deulu'r dyfnder, oedd yn chwareu yn hoenus a grymus, mewn dyfroedd tryloew, o gwmpas ein llestr yn barhaus. Dyna oedd y golygfeydd o gwmpas. Uwch- ben, wedi hyny, yr oedd miloedd o Forfrain, a Mulfrain cymydogaethau Cape St. Vincent yn hofran yn urddasol uwchben eu trysorgeH ddihysbydd. Wrth syllu arnynt, a sylwi ar eu symudiadau cyflym, tybiem eu bod yn hapus, an mai ychydig oedd eu gofal rhagor y gofal a'r pryder oedd yn etifeddiaeth i ni. Oddeutu Cape St, Vincent; y mae myrddiynau o adar y mor yn dcdwy j ac yn deori, yn eu hamser. Cant eu poeni a'u cythryblu yr adeg hono gan dyrfaodd o Spaniards yn dringo y creigiau i ysbeilio y pethau gwirion o'u trysorau cywrain. TRAFALGAR. WEDI cefnu ar Cape St. Vincent, cyrhaeddwyd man- gre a gofir byth gan Brydein- wyr, sef Trafalgar. Yno, fel y gwyr y rhai sydd yn hyddysg yn hanes eu gwlad, y difod- wyd llyngesoedd unedig Frainc a Spaen gan Nelson a'i wroniaid anfarwol. Byth ar ol y forfrwydr hono, Prydain yw brenhines y moroedd. Cyfrifir buddugoliaeth Trafalgar y fwyaf ogoneddus a'r fwyaf benderfynol a enillwyd erioed gan y Lynges Brydeinig; ac, oherwydd hyny, mae enw Trafalgar, hyd heddyw, yn cynhyrfu calon pob gwir Brydein- iwr. Ac mae gwrando ar Military Band yn chwareu nodau chwyddedig y cydgan "Rule Britania," yn ngoleuni rhyddid a bwrcaswyd drwy forfrwydr Trafalgar, yn ddigon, dybygwn i, i anadlu einioes i esgyrn sychion y dyn marweiddiaf ei ysbryd. A thra yn crybwyll fel hyn am forfrwydr fawr Trafalgar, purion peth fyddai i bob un o honom gofio, mabwys- iadu, a chario allan, ei dderbyn yn nod ein bywyd, yr arwydd pryderus hwnw chwif- iodd Nelson yn yr awel Disgwylia Pryd- ain i bob dyn heddyw wneyd ei ddyledswydd." Ac ond i ni wneyd ein dyledswydd, gallwn ddweyd, fel y dywedodd Nelson, pan yn tynu ei anadl olaf yn mreichiau buddugoliaeth morfrwydr Trafalgar :—" Diolch i Dduw" meddai, mi a wnaethum fy nyledswydd." Wel, am eu ffyddlondeb diledryw, a'u hymlyn- iad hyd dranc dros Brydain Fawr, cordedda pob gwir Brydeiniwr folawdau i wroniaid Trafalgar. YN Y CULFOR. AR 01 gadael Cape Trafalgar, canfyddem Cape Tarifa yn ymgodi yn raddol i'r golwg ar y gorwel de-ddwyrain i'r llong. Ac am 3 o'r gloch prydnawn y diwrnod hyfryd hwnw yr oeddym yn Nghulfor Gibraltar, ac yn morio vn hwylus rhwng dau gyfandir, dau fynydd, dwy deymas, dwy dref, dwy genedl a dwy gyfundrefn o grefydd. Ar un Ilaw yr oedd Cyfandir Europe, Teyrnas Spain, Mynydd Calpe, Tre Spam-Spaniaras a'u Crefydd yn Babyddiaeth. Ar y llaw arall yr oedd Cyfandir Affrica, Ymherodraeth Morocco, Mynydd Abyla, Tre Tangiers, Trigolion Morocco-y Moors, a'u crefydd yn Fahometaniaeth. Wrth syllu i'r ddau gyfeiriad, feI yr oedd y LIong yn myned rhagddi, can- fyddem, trwy gynorthwy Yspienddrychau swydclcgion y "Tabor," lu mawr o bentrefi 11 wydion fel cynifer o bebyll ar wastadeddau yr arfordiroedd, a thywod fanciau gororau y ddau gyfandir, dan ddylanwad yr haul, fel ffrydiau o aur toddedig. Dyna oedd y golygfeydd a gafwyd ar dde ac aswy yn ngenau culfor Gibraltar. Y MEDITER- RANEAN. YN lledu o'm blaen, wedi hyny, yr oedd Mor Canoldir, Ein Mor y Rhufeiniaid, Y mor i'r Groegiaid, a mor mawr yr Iuddewon gynt. Mor yr Apostol Paul, mor y taflwyd Jonah iddo a myrddiynau ar ei ol a mor, er hyny, sydd yn meddu ryw swyn a chyfaredd i'r efrydydd Beiblaidd. Mor a'i liw yn y rhanbarth hwnw, fel yr emerald pur; a'i wyneb, yr awr hono, fel dol o wydr gloeyw, yn un lien gyfan ac ambell i Agerlong a chwch pysgota fel brychau ar ei wyneb dysglaer. Wrth edrych yn ol i'r gorllewin pell, canfydd- em yno, wedi hyny, oJygfeydd anrhaethadwy- sef brenin y dydd, yr haul, fel modrwy anfeid- rol, yn tynu y dydd iderfyniad. Ymddangosai y cymylau mawrion a man oddeutu'r gorwel gorllewinol fel llynoedd dyfroedd, a drychiol- aethau awyrol ereill fel dinasoedd dysgleirwych a phalmwydd uchelwych. Golygfa debygi hon a barodd i'r Bardd Ceiriog ganu, fuaswn i yn tybio, y geiriau hyn:- Wrth wel'd yr Haul yn machlyd Mewn eurog, donog dan, A mil o liwia'u dawnsio'n deg, Ar fyrdd o donau man Rwy'n teimlo dwyfol wyddfod,— Shecina natur yw- Yn datgan Ei ogoniant Ef, Yr Hollalluog Dduw. I'w barhau.

.BWRDD Y GWARCHESDWAlD PENRHYNDEUDRAETH.

- - - - - - - - -... - - .............................-..........…

ITANYGRISIAU.-

I - 0 GADAIR YNYS, FADOG.

Advertising