Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

-."yyyyyyyyyyyyyyy....- I…

News
Cite
Share

y y y y y y y y y y y y y y y I LLYS MANDDYLEDION 1\ FFESTINIOG. UYdd Mercher o flaen ei Anrhydedd y Barnwr Gwilym Evans. r< GwySiau Carcharol. "'?c!awyd rnfer fawr o wysiau y gofynai am ? r Barnwr anfonnifer (j bersonau igarchar. 0 ?etb  Anrhydedd archeb yn y nifer lluos- Ocaf 0 honynt, ac yn y lleill gwrthododd %n ? ? ?y?y- Mewn un achos gwnaeth archeb a ???'sch cheiniog y mis, a gwrthododd anf On y dyledwr i garcbar, Arian lawn. Arian lawn. Jones Morris a ofynodd am i arian j?? ?s?dynt yn y Llys gael eu talu allan yn j 3 Y diweddar John Jones, Llys Meirion, ?ord Street, Blaenau Ffestiniog. Cafodd Jones la.d  chware! y Fotty a Bowydd, a iha!- "dd ?- Cwmni y swm cytunedig i'r Llys, sef 247 l?s Ie. Nid oedd ond y weddw a'r mab • loi"i ft Jones, yr hwn sydd bron ar gyraedd ei .Ram oed. Gofynai am i'r arian gael eu talu t??" sdw, and fod swm neilllduol yn cael ei o ,w mewn ymddiriedaeth i'r mab hyd nes y c 0 y? 21am oed.—Y Barnwr, a archodd i £220 94?'i ?" ?" i'r weddw, a 27 17s 6c yn cael eu cad J^ewn ymddiriedaeth i'r mab yr hwn | sYdd a'i wyneb ar y weinidogaetb. h Tal am Lechi. Cymric Slate Company, Blaenan Ffestiniog ??Uasant 17 Ss 9c gan T. H. Bumett. J,r'"c am Lechi wert\vyd iddo. Ym- ?ngc?dd Mr. R. 0. Davies dros y C"nnm. ?''eneb am y swm yn Hawn. I Tal am Nwyddau. Evan E. Owen, Draper, Church Street, a ofynodd John Jones, Ty Capel, Brynbowydd, o /I 12s Oc dyledus ar ei ddiweddar frawd, Robert Jones, 3, Brynafon, Tanygrisiau. Cofir i R. Jones gael ei ladd gyda throl yn Tany- grisiau dro yn ol.—Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros yr Hawlydd a Mr. J. J. Morris dros y Diffynydd.—Archwyd i'r cyfrifon fyned I o flaen Cofrestrydd y Llys. I Cyflog y Bachgen. I Robert Jones, Bontnewydd, Ffestiniog, a hawliodd swm o gyflog ei fachgen honid oedd yn ddyledus ar Robert Jones, Tyddyngarreg, Maentwrog Ucha.-Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros yr Hawlydd, a Mr. J. J. Morris dros y Diffynydd. Holwyd mam y bachgen a'i Feistr, a chafodd ei Anrhydedd fod mwy wedi eu talu nag oedd yn ddyledus yn ol telerau y cyflogiad, a bod y bachgen wedi gadael ei le heb rybudd o gwbl.—Archeb am y swm a dalwyd yn unig. Arian Gwaddol. I Mr. D. White Phillips a wnaeth gais at ei Anrhydedd, ac eglurodd fod hwn yn gais an- arferol. Yn mis Mehefin 1907, bu farw Mrs. Ellen Williams, Llys Gwaenydd, New Market Square, a phenododd ef a Mr. Richard Hughes yn Ysgutorion ac Ymddiriedolwyr. Yn yr ewyllus gadewid haner can' punt i'w nhai, Stanley Jones. Nid oedd Stanley Jones ond wyth oed, ac yr oedd ef a'i rieni yn awr yn byw yn America. Gofynai Mr. Phillips am gael talu yr arian i'r rhieni yn uniongyrchol yn hytrach na'u talu i'r Llys i beri cost diangen- rhaid. Cydsyniodd Mr. R. O. Davies, ar ran y rhieni i'r cwrs hwnw,—Caniaiaodd ei Anrhyd- edd y cais ar ol i'r papurau gael eu harwyddo. Hawl Ffordd. I Robert Williams a'i fab W. C. Williams, Cynfal Terrace, Ffestiniog, a hawlient ffordd at Cynfal Terrace ar draws darn o dir brynwyd gan Morris Evans, Masnachydd Olew, Ffestin- iog.-Cynrycbiolwyd Williams gan Mr. J. J. Morris; Evans gan Mr. R. A. Griffith (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. R. O. Davies), a'r cyn- berchenogion gan Mr. R. Walker Davies.—Yr ydym wedi cyhoeddi y manylion am yr achos hwn yn ein hadroddiadau o'r Llysoedd blaen- orol.—Y Barnwr a ddywedodd iddo fod yn ngolwg y lie mewn dadl er mwyn gallu gweled drosto ei hun yr hyn y dadleuid yn ei gylcb,- Tystiwyd gan Henry George Townsend, Goruchwyliwr Cwmni y Reilffordd, ei fod ef a Williams wedi bod yn siarad a'u gilydd pan roddwyd deall clir nad oedd dim ffordd ar y lie, a gosododd y Cwmni y darn i dalcen y tyiddo. —Henry Parry, Wenallt, 56 oed, EvanGriffith Evans, Clogwyn Brith, 75 oed, a dystiasantam y darn tir fel y cofient ef, ac nid oedd ffordd arno.—Lewis Jones, 17, Cynfal Terrace, a dystiodd i Williams ofyn iddo gytuno i agor y lie ar ol y Llys diweddaf am ei fod wedi ei gau gan Morris Evans.—Daniel Thomas, -Barracks, a dystiodd iddo geibio y lie i fyny i Morris Evans, ond ni welodd wely ffordd ar y tir.—Thomas Williams, Gorsaf-feistr Ffestin- iog er's 17 mlynedd, a William Pritchard, Co- operative Stores, a dystiasant na wyddent hwy am y ffordd na Ilwybr ar y lie mewn dadl.- Morris Evans a dystiodd na chlywodd air o son am ffordd na llwybr pan oedd Williams yn cymeryd y lie gan Mr. Townsend. Mr. J. Jones Morris a ddywedodd mai yr hawliad oedd, cael ffordd am eu bod wedi ei chael o 1872 am ugain mlynedd heb rwystr.— Atebodd Mr. R. A. Griffith fod yr hawl hwnw yn cael ei roddi i fyny yn 1898 pan gytunwyd i gymeryd y He i gyd o dan rent gan y cwmni. Y Barnwr a ddywedodd ei fod yn cael fod ffordd ar y I!e at gefnau y tai i fyny hyd 1898 a'r adeg hono rhoddwyd yr hawl i fyny wrth arwyddo y cytundeb. Ni hawliwyd ffordd ar y lie hyd nes y daeth person arall ar y tir. Nid oedd grant wedi ei roddi i gael drws ar wal y talcen. Am grib y to a daflai dros ben talcen y ty nid oedd yn gweled rheswm drosymyraeth a lie godwyd yn 1875. 0 dan yr amgylchiadau hyn yr oedd yn dyfarnu:-Dwy gini i Morris Evans am dressmas, y ddedfryd hon yn erbyn Robert Williams: ni roddai archeb ataliadol (injunction) ar hyn o bryd gan y credai na chlywid rhagor am y peth nid oedd to y ty i gael ymy-aeth ag ef. Am y costau, byddent ar rade.: & B. Tal am un plan, fee y Bargyf- reithiv r, a chostau Mr. Walker Davies, Yr oedd W. C. Williams yn cael ei rhyddhau o'r achos, a byddai yr boll gostau i'w talu gan Robert Williams, Nid oedd execution i fyned allan hyd ar ol y Llys nesaf. Rhedeg Cerbyd ar draws Plentyn. I Evan Stoddart, Hafod Ruffydd, Blaenau, a hawliodd iawn o £ 50 gan Gwmni y Co- operative Stores, Blaenau, am y niweidiau dderbyniodd ei fachgen trwy i John Morris, gwas y Cwmni redeg ar ei draws ar High Street.—Eisteddodd wyth o Reithwyr i wrandaw- yr Achos Mr. Owen Jones, Dolawel, yn Flaenor iddynt.—Mr, R. O. Davies, wrth osod yr achos i lawr dros yr Hawlydd a ddywedodd fod y bacbgen yn dod o'r Ysgol ganoldydd Mai 17, ac ar ganol High Street, wrth i'r bachgen groesi yr heol, aeth y cerbyd yrid gan John Morris ar ei draws. Yr oedd J. Morris yn eístedd rhwr canol a phen oly cerbyd, a David Owen, Porter, gydag ef. Gwelwyd y ddau yn siarad ychydig latheni cyn myned ar draws y pie: tyn. Eisteddai J. Morris ar yr ochr chwith, a D. Owen ar y dde. Gwelwyd y bachgen yn cael rhedeg ar ei draws, a chcdwyd ef i fyny yn anymwybodol, a bu o dan ofai Meddygol hyd yn bresenol. Ni ataliodd J. Morris y cerbyd nes y gwaeddwyd arno ei fod wedi myned ar draws y plentyn.— Cadarnhawyd yr hyn ddywedodd Mr. Davies gan Evan Stoddard; Dr. Richard Jones (bil yr hwn oedd yn £ 12 12S0C); Mr. J. Vaughan Williams, U.H., yr hwn welodd y ddamwain, ac a godcdd y bachgen i fyny Owen Parry, IT anyc10gwyn Terrace, yr hwn hefyd a welodd y ddamwain a David Jones, oedd yn gyru 'Buss v Queen's Hotel heibio ar y pryd. Y {nail! a'r Hall o honynt yn dal na fuasai y ddamwain wedi digwydd pe buasai J. Morris yn arfer gofal priodol wrth yru. Mr. William George, ar ran y Cwmni, a ddadleuai nad oedd esgeulusdra wedi ei brofi. Daeth y bachgen o du ol y Bus ar draws yr heol pan oedd y cerbyd yn dod i fyny, ac oedd yn anmhosibl osgoi y ddamwain.—Tys iwyd i brofi na bu esgeulusdra gan J. Morris a David Owen oeddynt yn y cerbyd; John Davies, 101, High Street, yr hwn a welodd y bachen yn cael ei daraw i lawr, a chan John Jones, Fronheulog.—Anerchodd y ddau gyf- reithwyr y Rheithwyr, a symiwyd yr achos i fyny gan y Barnwr.—Dyfarnwyd iawn o £ 40 a'r costau.

LLANRWST.

- - --- - - - - - - -- --…

i MR. OSMOND WILLIAMS, A.S..…

BLAENAU FFESTINIOG.