Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

RHOS A'R CYLCH.ynnnnI

News
Cite
Share

RHOS A'R CYLCH. y nnnn I Llongyfarchwn Mr. Robert William Hughes, Rhos ar ei benodiad gan Fwrdd y Gwarch- eidwaid yn Swyddog Elusenol i ddosbarth Ruabon, a Mr. H. H. Squire, Wrecsam yn Cofrestrydd i'r un dosbarth. Cynhaliodd y Gymdeithas Ryddfrydol eu cyfarfod cyhoeddus blynyddol. Y prif siaradwyr oeddynt y Parch. Charles Jones, (W.) a Mr. J. S. Jones, c.s. Adolygodd y cyntaf waith y Weinyddiaeth bresenol mewn dull galonogol a chyda llawn gydymdeimlad yn ngwyneb ei hanawsderau. Gwnaeth yr olaf anerchiad rymus ar gwestiwn Ty yr Arglwyddi! Digwyddodd damwain frawychus dydd Sad- wrn diweddaf, ar Iinell y cerbydau Trydani Collwyd rheolaeth ar gerbyd oedd yn dyfod lawr Allt y Gwter, rhwng Rhos a Johnstown, a rhedodd i'r giatiau y Crossing ar linell y Great Western. Tarawodd hefyd y motor train oedd yn ngorsaf y Poncie ar y pryd. Taflwyd Jesse Griffiths, yr hwn oedd wrth y Crossing ar y pryd, a phan godwyd ef i fyny, cafwyd ei fod yn hollol anymwybodol. Aed ag ef i Yspytty Gwrecsam. Cafodd archollion tost i'w ben a'i gorph. Mae Griffiths yn ddyn 50 oed, yn wr priod, a chanddo deulu mawr. TraddModd Llew Tegid ei Ddarlith ddydd- orol ar Draddodiadau ac Ofergoelion Cymru Fu," i gynulliad mawr yn Ysgoldy Bethlehem. Yr oedd y cyfarfod o dan nawdd y Gymdeithas Geltaidd, ac o dan lywyddiaeth Mr. W. M. Jones, Ysgolfeistr y Poncie. Dydd Iau. taflwyd pentref bach Aberoer, ger y Rhos, i dristwch gan y newydd galarus fod John Clayton, dyn o'r lie, wedi ymgrogi wrth goeden yn ymyl Plas Bwcle. Dywedir iddo fod allan o waith am amser maith, ac mai dyna arweiniodd i'w ddiwedd alaethus. Dydc1 Sadwrn, bu farw Mr. Daniel Jones, priod Airs. Margaret Jones, Clarke Street, Poncie, ar ol gwaeledd maith. Claddwyd ei weddillion marwol dydd Mercher, yn mynwent Mynydd Seion, a gwasanaethwyd gan y Parchn O. J. Owen, William Williams a James Jones. Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus iawn yn yr ardal hon, a daeth rhai canoedd i dalu y gymwynas olaf iddo ac i gydymdeimlo a'r teulu yn eu profedigaeth lem. Cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch nos Lun, yn Mount Pleasant (B), Traddododd y Parch. D. Rees, Croesoswallt, bregeth ar yr achlysur. Yr oedd yr adeilad wedi ei addurno a blodau a ffrwythau, a datganwyd anthemau priodol yn ystod y cyfarfod.

IY Methodistiaid: Fflgyrau…

'vv\W^WWWWSAA^^VVvVVWVV Prawf…

Denver, Colorado. I

[No title]

IMAENTWROG.

- -1 -- - --_- - I -.TREFRiW…

CAPEL GARMON.I

.-..-Yr Awyr-Long Gyntaf.--\

I ABERMAW.

|DYFFRYN.

TRAWSFYNYDD.j

LLANBEDR. I

I- I - I .Gochel Streic y…

Neidio o'r Tren.I

IO'R PEDWAR CWR.

Advertising