Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Cyrthadledd Ddirwestol Meirion.I

News
Cite
Share

Cyrthadledd Ddirwestol Meirion. Cynhaliwyd yr uchod yn Llanuwchlyn dydd Mawrth a Mercher. Yn absenoldeb Dr. H. Jones, Dolgellau, trwy afiechyd, cymerwyd y gadair gan y Parch. D. Hoskins, M.A., Blaenau Ffestiniog.—Anerchwyd cyfarfyd y Plant nos Fawrth gan Miss Williams, Llundain; Parch. Owen Davies, Ganllwyd; a Mr. Rowlands, Penrhyn.—Cafwyd adroddiad ffafriol iawn am waith y flwyddyn gan y Parch. O. LI. Owen, Bontddu. Llwyddwyd gyda chau tafarn yn y Dyffryn, Gwyddelwern, a Blaenau Ffestiniog. Gwnelai y boneddigesau waith rhagorol yn Dolgellau a Chorwen. Prif waith y flwyddyn ydoedd sefydlu tai dirwestol i wrthweithio dylanwad y tafarndai. Prynwyd ty yn Traws- fynydd, ac yr oedd eisoes 1950 o shares wedi eu cymeryd ynddo.—Cafwyd papurau ac anerch- iadau gan Dr. Jones, Harlech Mr. Ifor Jones, Corrrs; Miss Williams, Llundain; Parch John Owen, M.A., Blaenau Ffestiniog Mr. E. E. Rowlands, Aberdovy; Parch, R. E. Davies, Dinas a Miss Lewis, Aberdovey.—Cynhelir y gynhadledd nesaf yn y Dyffryn.

- - - - - - - - - - - - -…

Advertising

I PENMACHNO.

I----BETTWSYCOED.----j

I Yn Nhwmni'r Beirdd.I

Advertising

[No title]

Advertising

I BLAENAU -FFESTINIOG.