Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BOREU TEG PRIODAS. I

LLINELLAU I NELLIE, I

ADSAIN HIRAETH I

News
Cite
Share

ADSAIN HIRAETH I Ar 01 y diweddar John Rowe, Penlan Uchaf, bnrhyndeudraeth, yr hwn a hunodd yn yr Iesu, Awst 7fed., 1906, yn 58 mlwydd oed, ac a gladdwyd yn mynwent Nazareth, yr lleg., cyfisol. 0 'rwyf bron a thori'm calon Pan yn gwel'd nghyfeillion cun, Naill 'rol llall yn cefnu arnaf Gan fy ngadael i fy hun Rhai yn myn'd yn mlodcu'i; dyddiau Eraill tua chanol oed, Ac mae blodeu gwynion rhinwedd Nawr yn tyfu'n ol eu troed. Cenais lawer emyn melus Tra bum yn eu cwmni hwy, Cenais hefyd lawer anthem Heb i neb ro'i imi glwy' Ond yn awr rhaid imi ganu Galarebau trymion prudd, Rhaid im' droi i'r hen fynwentydd Gyda dagrau ar fy ngrudd. 'Roedd JOHN ROWE yn gyfaill imi Ac yn gyfaill ffyddlon iawn, Treuliais lawer orig felus Yn ei gwmni-cysur gawn Carai son am Ben Calfaria, Carai son am lawn y Groes, Ac i'w fedd yr aeth yn dawel Wedi'i garu trwy ei oes. Cafodd ami brofedigaeth Gwelodd ami gwmwl du, Ond yn n'ghanol yr ystormydd Pwyso wnaeth ar Iesu cu Rhoddi wnaeth yn gyfangwbl Bobpeth yn Ei ddwylaw Ef, <, ) d b n ;¡ G_ wyddai'n dda fod pob cyflawnder Yn Nhywysog dae'r a nef. Ar ami i ddiwrnod tyrnhestlog Bu ef yn siglo fy nghryd, 0yn imi ddoti i wybod dim t Am hen droion chwerw'r byd: ¡ Erbyn hyn y mae yn gorphwys Heb ddim yn ei flino ef, Mae e' nawr yn mhlith y dyrfa Sydd yn canu yn y nef. Arglwydd Iesu bydd yn dyner Wrth y rhai sydd eto'n ol, Gad i'r rhai sydd yn amddifad Orphwys yn dy gynes gol Taena'th aden dawel drostynt Gwared hvvy rhag derbyn cam, B'oed i'r plant fod yn garedig Wrth eu hen amddifad fam. Tonypandy. W. M. HUMPHREYS. vWWSAAAA^VWW

Rheolwyr Ysgol Ganolraddol…

TREFN OEDFAON Y SUL

[No title]

Advertising