Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

NODIADAU íVYTNNOSOL

Oynrychiolydd Llafur ali Gredo.

I" Ffrae Merchecf." !

Callineb Esgob Henffordd.

Adroddiad Dyddorol. --1

News
Cite
Share

Adroddiad Dyddorol. -1 Cofir am y ffrwydriad gymerodd le yn nhy-saethu Arglwydd Ashtown yn yr Iwer- ddon ychydig wythnosau yn ol. Yn fuan wed'yn aeth y si allan (fel y dywedasom ar y pryd) fod y weithred wedi ei chyflawni nid gan rai yn ceisio eimoes nac eiddo Arglwydd Ashtown i'w dyfetha, ond gan rai o'i wasan- aethyddion neu ei gefnogwyr, er mwyn i bobl ddiniwed gael eu beio a'u cosbi. Erbyn hyn mae'r heddgeidwaid wedi cwblhau eu hymchwiliad i'r achos, ac er nad yw eu hadroddiad wedi ei gyhoeddi eto, y mae'n wybyddus ei fod yn tystio nad gan denant- iaid dialgar na chan ddynameitwyr (yn ystyr gyffredin y gair) y gwnaed y gwaith, ond gan rai o edmygwyr Arglwydd Ashtown a'i debyg. Mae Arglwydd Ashtown wedi rhoddi rhybudd y bydd iddo yn y Frawdlys chwarterol a gynhelir yn Dungarvan yr wythnos ar ol y nesaf wneyd cais am iawn (o'r dreth gyhoeddus) am y golled a barodd y ffrwydriad iddo, oblegid y mae iawn felly i'w gael yn ol y gyfraith yn yr Iwerddon Mae'n bosibl y bydd iddo dynu ei gais yn 01 os gwneir y cais, gwrthwynebir ef gan yr heddgeidwaid. Gellir disgwyl dadleniadau dyddorol a rhyfedd hefyd.

Mordaith gyntaf y " Lusitania."…

—- - ..

ILlythyr o Colorado oddiwrth…

fVVVVVVVVVvVW WV V if •» -…

Advertising